Ers sefydlu gwefan Casglu’r Cadeiriau mae sawl un wedi cysylltu gyda gwybodaeth am gadeiriau sydd yn eu meddiant neu rai y maent yn gwybod amdanynt. Ond weithiau, daw cadair i’r fei nad oes neb yn hollol siwr beth yw ei hanes. Dyma oedd yr achos gyda chadair Eisteddfod Yr Eifl 1897, a ddaeth i’r fei mewn sied yn Rhos Isaf ger Caernarfon yn ddiweddar. Cysylltodd y sawl oedd wedi etifeddu’r sied gyda lluniau o’r gadair a chais am fwy o wybodaeth amdani.