Y SEREMONI
Beirniadaeth y Bryddest, 'Hirddydd Haf' - Hugh Lloyd (Dyfrdwy), Blaenau Ffestiniog. Cadeiriwyd ef gyda rhwysg ac urddas neillduol yn ol Braint a Defawd Beirdd Ynys Prydain, gan Llifon a llu o feirdd awengar, a chyhoeddwyd 'Dyfrdwy' yn fardd cadeiriol Eisteddfod Llungwyn, Trawsfynydd, 1897.
(Y Llan, 18.06.1897)
Y SEREMONI
Testyn y Gadair ydoedd "Ficer Pritchard," awdwr Canwyll y Cymry. Ymgeisiai pedwar, ond y gwr a orfu ydoedd Mr Evan Williams (Glyn Myfyr), Blaenau Ffestiniog. Anerchwyd ef ar ei lwyddiant gan Athron, Dyfnallt, Thos Lloyd Jones, Myfyr Alwen, W O Jones, a Bryfdir.
(Y Cymro, 29.09.1898)
Y BARDD
Ganed Evan Williams yn Llanfihangel Glyn Myfyr, Sir Ddinbych. Ymysg ei waith cyhoeddedig mae tri chasgliad o farddoniaeth, Briallu'r Glyn (1896), Meillion y Glyn, a Rhosynau'r Glyn (1909). Bu farw ym 1937.

Mae'n debygol iawn mai'r un saer fu'n gyfrifol am wneuthuriad cadair Eisteddfod Eglwysig Trawsfynydd 1899 â chadair Eisteddfod y Llungwyn 1897 (gweler uchod). Gellir cymryd hyn o'r ffont sgwarog a'r cerfiadau sy'n codi uwch cefnau'r ddwy gadair.
YR EISTEDDFOD
Yr oedd yr arweinydd yn cadw y dorf mewn tymherau rhagorol o'r dechreu i'r diwedd, er eu bod oherwydd cyfyngdra yr ystafell fel penwaig yn yr halen, ys dywedir.
(Y Cymro, 05.10.1899)
Yr oedd yr arweinydd yn cadw y dorf mewn tymherau rhagorol o'r dechreu i'r diwedd, er eu bod oherwydd cyfyngdra yr ystafell fel penwaig yn yr halen, ys dywedir.
(Y Cymro, 05.10.1899)