Mae'n debygol iawn nad cadair a wnaed fel cadair eisteddfodol yn wreiddiol ydyw hon, ond cadair a addaswyd at ei phwrpas trwy osod plâc arni gydag enw'r eisteddfod a'r flwyddyn. Nid oes llawer i awgrymu bod eisteddfodau cadeiriol wedi eu cynnal yn rheolaidd yn Abersoch, felly fe allai fod mai digwyddiad arbennig, untro, oedd yr eisteddfod hon.