Ar y dudalen hon, gallwch ddod o hyd i fywgraffiadau byr i lawer o'r cymeriadau sy'n rhan o hanesion y cadeiriau eisteddfodol sydd wedi eu cynnwys ar y wefan; yn feirdd, yn feirniaid, yn noddwyr ac eisteddfodwyr. Gallwch ddefnyddio'r rhestr isod i gyrraedd y cofnodion unigol, neu defnyddiwch CTRL + F i chwilio'r dudalen am enwau penodol.
Mae llawer o'r bywgraffiadau yn cynnwys dolenni i gofnodion mwy manwl yn y Bywgraffiadur Cymreig neu ar Wicipedia.
Noder: Mae tanlinellu dwbl yn dynodi unigolion sydd wedi ennill y Goron neu'r Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

ADAMS, DAVID
(HAWEN)
Ganed David Adams yn Nhal-y-bont, Ceredigion ym 1845. Roedd yn weinidog ac yn ddiwinydd amlwg a chwyldroadol. Treuliodd gyfnodau o'i oes ym Methesda a Lerpwl. Bu farw ym 1922.
Cofnod Hawen yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-ADAM-DAV-1845

BEYNON, ROBERT
Ganed y Prifardd Robert Beynon ym Mhontyberem ym 1881, ac roedd yn un o ddisgyblion barddol Watcyn Wyn. Roedd yn weinidog gyda'r MC yn eglwys Carmel, Aber-craf, trwy gydol ei yrfa, ac yn bregethwr poblogaidd ledled Cymru. Enillodd nifer o wobrau eisteddfodol, a phinacl ei yrfa fel bardd oedd enill Coron Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman 1922 am ei bryddest, 'Y Tannau Coll'. Roedd hefyd yn ysgrifwr medrus. Bu farw ym 1953.
Cofnod Robert Beynon yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-BEYN-ROB-1881

Cadeiriau:
Eisteddfod Clydach-ar-Dawe 1912;
Eisteddfod Clydach-ar-Dawe 1912;
BOWEN, BEN
Ganed Ben Bowen (1878-1903) yn Nhreorci i deulu o lowyr. Roedd yn frawd i'r beirdd David Bowen (Myfyr Hefin) a Thomas Orchwy Bowen (sef tad y Prifeirdd Geraint ac Euros Bowen). Ystyrid ef yn un o feirdd ifanc mwyaf addawol Cymru ar droad yr Ugeinfed Ganrif, a daeth yn ail (i J. T. Job) yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl 1900. Bu ei iechyd yn wael am nifer o flynyddoedd tua diwedd ei oes, gan achosi iddo fethu â chwblhau ei astudiaethau i ymuno â'r weinidogaeth. Er treulio cyfnod yn adfer yn Ne Affrica ym 1901-1902, bu farw yn Awst 1903. Myfyr Hefin a fu'n bennaf cyfrifol am olygu cofiant a chasgliadau o'i waith maes o law.
Cofnod Ben Bowen ar Wicipedia:
cy.wikipedia.org/wiki/Ben_Bowen

BOWEN, DAVID
(MYFYR HEFIN)
Ganed David Bowen yn Nhreorci ym 1874. Roedd yn frawd hŷn i'r beirdd Ben Bowen a Thomas Orchwy Bowen (sef tad y Prifeirdd Geraint ac Euros Bowen). Bu farw Ben Bowen ym 1903, a Myfyr Hefin a fu'n bennaf cyfrifol am olygu cofiant a chasgliad o'i waith, ac o hynny datblygodd ddiddordeb mewn barddoni ei hun. Roedd yn weinidog â'r Bedyddwyr. Bu farw ym 1955.
Cofnod Myfyr Hefin yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/en/s2-BOWE-DAV-1874.html

BOWEN, GERAINT
(GERAINT)
Ganed Y Prifardd Geraint Bowen yn Nhreorci ym 1915. Roedd yn fab i Thomas Orchwy Bowen, yn nai i Ben a David Bowen (Myfyr Hefin), ac yn frawd i'r Prifardd Euros Bowen. Ystyrir yr awdl a enillodd iddo Gadair y Brifwyl yn Aberpennar ym 1946 yn un o'r awdlau cywreiniaf i gipio'r wobr honno. Bu'n archdderwydd rhwng 1979 ac 1981. Roedd hefyd yn ysgolhaig, yn genedlaetholwr ac yn olygydd. Bu farw yn 2011.
Cofnod Geraint Bowen ar Wicipedia:
cy.wikipedia.org/wiki/Geraint_Bowen

DAFYDD, ELIS
Daw Elis Dafydd (1992) o Drefor yn Arfon. Cafodd ei addysg uwchradd ym Mhwllheli cyn dilyn gradd a chyrsiau ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n frawd i'r bardd Guto Dafydd. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch 2015. Cyhoeddodd gyfrol o gerddi, Chwilio am Dân, yn 2016.

DAFYDD, MYRDDIN AP
Mae Myrddin ap Dafydd (1956) yn awdur, yn gyhoeddwr ac yn Archdderwydd Cymru ers 2019. Sefydlodd Wasg Carreg Gwalch ym 1980. Ef oedd y cyntaf i ymgymryd â rôl Bardd Plant Cymru yn 2000, ac enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith (1990, 2002). Daw o Lanrwst yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Llwyndyrus, Llŷn.
Cofnod Myrddin ap Dafydd ar Wicipedia:
cy.wikipedia.org/wiki/Myrddin_ap_Dafydd

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Cwm Rhymni 1990; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Tyddewi 2002
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Y Rhyl 1974

DAVIES, BEN
Ganed Ben Davies yng Nghwmllynfell ym 1864. Dechreuodd farddoni yn ifanc iawn, a dechreuodd weithio fel glowr yn 13 oed, cyn mynd i astudio yn ysgol baratoi Llansawel ym 1885 ac yna Coleg y Bala. Bu'n weinidog gyda'r Annibynnwyr ym Mwlchgwyn, Llandegla a Phanteg. Enillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith (1892, 1893, 1894), a'i chadair unwaith (1896). Bu farw ym 1937.
Cofnod Ben Davies ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/Ben_Davies
Cadeiriau:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llandudno 1896
Eisteddfod Gadeiriol Meirion 1890

DAVIES, DAI REES
Ganed Dai Rees Davies ym 1942. Wrth ei waith, roedd yn yrrwr tanceri olew, ac roedd yn fardd a thalyrnwr poblogaidd a llwyddiannus, yn adnabyddus yn enwedig am ei gerddi ysgafn a ffraeth. Roedd yn byw yn Rhydlewis ac yn aelod o dîm Talwrn Ffostrasol. Bu farw yn 2019.

DAVIES, GRIFFITH
(GWYNDAF)
Ganed Griffith Davies ar dyddyn Llwynpiod, Llanuwchllyn, ym 1868; ac yn ffermio yn y cyffiniau y treuliodd fwyafrif ei oes hir. Roedd yn eisteddfodwr brwd a dderbyniwyd i'r Orsedd ym 1911. Cyhoeddwyd cyfrol o'i waith, Awen Gwyndaf Llanuwchllyn, ym 1966; bedair blynedd wedi ei farwolaeth ym 1962.
Cofnod Gwyndaf Llanuwchllyn yn Y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-DAVI-GRI-1868
Cadeiriau
Eisteddfod y Llungwyn, Trawsfynydd 1898;

DAVIES, HUGH EMYR
(EMYR)
Ganed y Prifardd Hugh Emyr Davies, bardd a gweinidog â'r Methodistiaid Calfinaidd ym Mrynllaeth, Abererch ym 1878. Roedd yn fab i'r bardd Hugh Tudwal Davies (Tudwal). Daeth i amlygrwydd fel bardd eisteddfodol yn gynnar iawn, gan ennill dros ugain o gadeiriau. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith; yng Nghaernarfon ym 1906 ('Branwen ferch Llŷr') a Llangollen ym 1908 ('Owain Glyndŵr). Bu farw ym 1950 yn Llandegfan, Môn.
Cofnod Hugh Emyr Davies yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-DAVI-EMY-1878.html

Eisteddfod Gadeiriol Pentreuchaf 1901; Eisteddfod Y.M.A. Pwllheli 1904; Eisteddfod Gadeiriol Corwen 1909;

DAVIES, HUGH TUDWAL
(TUDWAL)
Ganed Hugh Tudwal Davies yng Nghlynnog yn Arfon; bu'n byw ar fferm yr Orsedd Fawr, Llangybi, tra'n ŵr ifanc; cyn ymgartrefu ar fferm Bryn-Llaeth, Abererch. Yno y bu cyn rhedeg fferm deuluol ei wraig, Gellidara ym Mhenrhos, tua diwedd ei oes. Roedd yn dad i'r Prifardd Hugh Emyr Davies (Emyr), ac yn fardd galluog ei hun.
Llun: Papur Pawb, 18.05.1895
Cofnod Hugh Tudwal Davies yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-TUD-1847

DAVIES, JOHN
(TALIESIN HIRAETHOG)
Ganed Taliesin Hiraethog ym 1841, yn fab fferm Creigiau'r Bleddau, Hafod Elwy. Bu'n amaethu ar sawl fferm yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn ystod ei oes, a threuliodd gyfnod yn gweithio fel beili yng Ngherrig-y-drudion. Priododd ddwywaith. Bu farw ei wraig gyntaf a'i fab o'r briodas honno, a bu farw ei ferch o'r ail briodas yn ifanc hefyd. Bu hyn yn ergyd drom i ŵr oedd eisoes yn fregus ei iechyd. Bu farw ym 1894.
Llun: Casgliad John Davies, LlGC
Cofnod Taliesin Hiraethog yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-JOH-1841

(CADVAN)
Ganed John Cadvan Davies yn Llangadfan, Sir Drefaldwyn, ym 1846. Roedd yn weinidog gyda'r Wesleyaid ac yn fardd ac eisteddfodwr amlwg a llwyddiannus am flynyddoedd lawer. Tynnodd sawl helynt i'w ben pan na fu'n llwyddiannus mewn eisteddfodau - yn fwyaf enwog ynghylch pryddest Cadair Eisteddfod Meirion 1894. Cyhoeddodd bedair cyfrol o farddoniaeth yn ystod ei oes, ac fe'i urddwyd yn Archdderwydd Cymru ym 1923. Dim ond am un eisteddfod y bu yn y swydd honno, gan y bu farw yn Hydref 1923.
Cofnod Cadvan yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-CAD-1846

DAVIES, RICHARD
(TAFOLOG)
Ganed Tafolog ym 1830 yn ardal Mallwyd, ond symudodd ei deulu yn fuan wedi ei enedigaeth i Gwm Tafolog, Cemais, y man a roddodd iddo ei enw barddol. Er na chafodd lawer o addysg gynnar, ysgrifennodd doreth o farddoniaeth yn ystod ei oes, a bu'n bur lwyddiannus mewn eisteddfodau. Bu farw ym 1904.
Cofnod Tafolog yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-RIC-1830

Eisteddfod y Gordofigion, Lerpwl 1867
Fel Beirniad:
Eisteddfod Gadeiriol Meirion 1883, 1884, 1886;

DAVIES, THOMAS
(CENNECH)
Bardd-bregethwr poblogaidd oedd Thomas Cennech Davies (1875-1944), a hannai o Langennech yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yn frawd hŷn i'r Aelod Seneddol Rhys John Davies (1877-1954). Cyhoeddwyd cyfrol am ei fywyd a'i waith gan David Thomas, Llangennech, ym 1939.

(MAFONWY)
Ganed Mafonwy yng Nghwmllynfell ym 1862. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddau achlysur (1897, 1905). Bu farw ym 1931.

ECKLEY, CARWYN
Daw Carwyn Eckley o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol, ac mae'n newyddiadurwr yng Nghaerdydd. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Dros yr Aber, a thîm ymryson y Penceirddiaid.

Eisteddfod Ryng-golegol Bangor 2017; Eisteddfod Gadeiriol Y Ffôr 2019
Gweler hefyd:
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd a'r Fro 2019;

EDWARDS, EDWARD
(MORWYLLT)
Bardd gwlad a aned yn Llangefni ym 1839 oedd Morwyllt. Roedd yn fwyaf adnabyddus am y gân boblogaidd o'i eiddo, 'Yr Ornest', a anfarwolwyd wedi i rai fel Eos Morlais ei harddel a'i pherfformio. Bu farw ym 1921.

Eisteddfod Gadeiriol Môn, Llanfechell 1877;

EDWARDS, HILMA LLOYD
Ganed y Prifardd Hilma Lloyd Edwards ym 1959, ac fe ddaw o Fontnewydd. Cyhoeddodd amryw byd o lyfrau Cymraeg i blant a chyfrol o'i barddoniaeth, Tir Newydd a Cherddi Eraill trwy Wasg y Bwthyn yn 2008. Yn 2008 hefyd, enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch am ei hawdl, 'Tir Newydd'. Hi yw'r ail ferch yn unig i gyflawni'r gamp hon.
Cofnod Hilma Lloyd Edwards ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/Hilma_Lloyd_Edwards

EDWARDS, JOHN
(MEIRIADOG)
Ganed Meiriadog yn Llanrwst ym 1813. Cafodd ei addysg yno cyn dysgu ei grefft fel argraffydd. Yn Llanfaircaereinion y bu'n byw am fwyafrif helaeth ei oes, er iddo dreulio cyfnodau yng Nghefn Mawr, Caerdydd a Merthyr Tudful. Roedd yn awdurdod ar y Gymraeg a'i barddoniaeth yn ystod ei oes, ac yn fardd lluosog ei lawryfon. Bu farw ym 1906, yn 93 oed.
Cofnod Meiriadog yn Y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-EDWA-JOH-1813

EDWARDS, WILLIAM THOMAS
(GWILYM DEUDRAETH)
Ganed Gwilym Deudraeth yng Nghaernarfon ym 1863, a chafodd ei fagu ym Mhenrhyndeudraeth. Deuai o deulu o longwyr ond nid oedd y môr at ei ddant; aeth i weithio fel chwarelwr yn Ffestiniog cyn dod yn weithiwr rheilffordd ac yn y pendraw yn orsaf-feistr Tanybwlch a'r Dduallt. Treuliodd lawer o'i oes yn Lerpwl, a chyhoeddwyd dwy gyfrol o'i waith, Chydig ar Gof a Chadw (1926) a Yr Awen Barod (gol. J. W. Jones, 1943). Bu farw yn Lerpwl ym 1940.
Llun: Chydig ar gof a Chadw (1926)
Cofnod Gwilym Deudraeth yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-EDWA-THO-1863

EVANS, ELLIS HUMPHREY
(HEDD WYN)
Ganed y Prifardd Ellis Humphrey Evans ym 1887 yn fab hynaf i deulu fferm Yr Ysgwrn, Trawsfynydd. Cafodd ei enw barddol, Hedd Wyn gan Bryfdir mewn digwyddiad barddol ar lan Llyn y Morynion. Enillodd bump o gadeiriau lleol cyn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917, wythnosau yn unig wedi ei farwolaeth ar faes y gad yng Nghefn Pilkem, Gwlad Belg. Cyhoeddwyd cyfrol o'i waith, Cerddi'r Bugail, ym 1918.
Cofnod Hedd Wyn yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c-EVAN-HUM-1887.html

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Penbedw 1917
Eisteddfod Gadeiriol Y Bala 1907; Eisteddfod Y.M.A. Pwllheli 1913
Gweler hefyd:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor 1914-15;
GRUFFYDD T. EVANS
(BEREN)
Ganed Beren yn Neuadd Bodgadle, Rhydyclafdy ym 1853. Bu'n byw mewn sawl cartref yn ardal Rhydyclafdy yn ystod ei fagwraeth, a threulio gweddill ei oes yn y cyffiniau hefyd. Roedd yn gyfaill i gymeriadau megis Myrddin Fardd, yn aelod gweithgar ar bwyllgorau lleol, ac yn flaenor gyda'r Methodistiaid. Dywed Myrddin fardd am ei waith barddonol yn Hanes Enwogion Sir Gaernarfon, ei fod 'yn fwy o brydydd nag o fardd – yn rhagori mwy mewn mydrau rhydd nag yn llyffethair y gynghanedd'. Bu farw ym 1914 a'i gladdu ym mynwent Llanfihangel Bachellaeth.
Am ragor o hanes Beren, gweler wefan Cyngor Tref Pwllheli.

Eisteddfod Gadeiriol Pentreuchaf 1901;
Eisteddfod Gadeiriol Pentreuchaf 1901;
EVANS, ROBERT
(CYBI)
Ganed Robert Evans yn Llangybi ym 1871, ac yno y bu'n byw gydol ei oes. Roedd yn fardd, yn sgrifennwr ac yn llyfrwerthwr. Roedd yn dra cynhyrchiol. Meddai Colin Gresham amdano yn y Bywgraffiadur Cymreig - 'nid oes mynwent yn Eifionydd nad oes yno englyn neu doddaid o'i waith'. Cyhoeddodd bron i ddeg ar hugain o gyfrolau o bob math. Bu farw ym 1956, yn 84 oed.
Cofnod Cybi yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-EVAN-ROB-1871.html

Eisteddfod y Rhos, Rhoshirwaun 1909; Eisteddfod Y.M.A. Pwllheli 1909; Eisteddfod Gwŷr Ieuainc Nefyn 1909;

GIBSON, PHILIPPA
Mae Philippa Gibson yn byw ym Mhontgarreg. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Tan-y-groes ac yn enillydd cadair Eisteddfod Llanbedr Pont-Steffan yn 2018.

GRIFFITH, ROBERT ARTHUR
(ELPHIN)
Ganed Robert Arthur Griffith yng Nghaernarfon ym 1860. Roedd yn fab i'r bardd John Owen Griffith (Ioan Arfon). Bu'n gweithio fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr yng Ngogledd Cymru, ac yna fel ynad cyflog ym Merthyr Tudful ac Aberdâr. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth a chomedi. Bu farw yng Nghaerdydd ym 1936.
Cofnod Elphin yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GRIF-ART-1860

GRIFFITH, SELWYN
(SELWYN IOLEN)
Ganed y Prifardd Selwyn Iolen ym 1928 ym Methel, Arfon; a bu'n byw yn agos at fan ei eni ar hyd ei oes. Roedd yn eisteddfodwr brwd - fel beirniad a chystadleuwr - ac enillodd doreth o wobrau llenyddol mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol cyn ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy ym 1989 am ddilyniant o gerddi ar y testun 'Arwyr'. Daeth yn archdderwydd yn 2005 a dal y swydd honno tan 2008, er iddo arwain seremoniau 2009 hefyd, oherwydd gwaeledd ei olynydd - Dic Jones. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau o ddarnau adrodd i blant yn ogystal â cherddi i oedolion. Bu farw yn 2011.
Gallwch ddarllen cofnod Selwyn Griffith ar Wicipedia yma.

Eisteddfod Gadeiriol Glannau Merswy 1986
Fel Beirniad:
Eisteddfod Gadeiriol Gwaun Gynfi, Deiniolen 1996, Eisteddfod Gadeiriol Llanrug 1985, 1990, 1992;

GRIFFITHS, ENDAF
Bardd o Sir Aberteifi yw Endaf Griffiths. Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, a chwblhaodd radd MPhil am astudiaeth o waith T. Llew Jones. Mae'n gweithio bellach fel newyddiadurwr. Enillodd gadeiriau Eisteddfodau Llambed ac Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yn 2015.
Cadeiriau:
Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2015; Eisteddfod Gadeiriol Maenclochog 2016;

GRIFFITHS, HYWEL
Mae'r Prifardd Hywel Griffiths (1983) yn lenor, yn ddarlithydd ac yn ymgyrchydd gwleidyddol. Mae'n frodor o Sir Gâr a graddiodd o Brifysgol Aberystwyth, lle mae bellach yn gweithio yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith am gyfnod. Mae wedi ennill Coron (2008) a Chadair (2015) yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth, Banerog (2009) a Llif Coch Awst (2017). Enillodd ei ail gyfrol gategori barddoniaeth gwobrau Llyfr y Flwyddyn.
Gwefan Hywel Griffiths
Llun: Wikimedia Commons

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Maldwyn a'r Gororau 2015;
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2004; Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2007

GRIFFITHS, DAVID REES
(AMANWY)
Ganed Amanwy ym 1882 yn Rhydaman, ac yno y bu'n byw drwy gydol ei oes. Cychwynodd weithio fel glowr yn 12 oed, ac wedi damwain yn y lofa a laddodd frawd iddo, dechreuodd gymryd diddordeb mewn llenydda. Enillodd amryw byd o gadeiriau, ac fe ddaeth yn ail am y Goron Genedlaethol ym 1932. Bu farw yn Llundain ym 1953. Cyhoeddwyd cyfrol o'i gerddi, Caneuon Amanwy, ym 1956.
Cofnod Amanwy yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-GRIF-REE-1882

Eisteddfod Hendy 1922;
Eisteddfod Hendy 1922;
HOPWOOD, MERERID
Ganed y Prifardd Mererid Hopwood ym 1964. Cafodd ei geni a'i magu yng Nghaerdydd a mynychodd ysgolion Glantaf a Llanhari. Graddiodd mewn Almaeneg a Sbaeneg a bu'n ddarlithydd yn ogystal a chyfnodau'n gweithio'n llawrydd ac i Gyngor y Celfyddydau. Mae'n un o grŵp bychan o lenorion sydd wedi llwyddo i ennill Cadair, Coron [Meifod, 2003] a Medal Ryddiaith [Caerdydd, 2008] yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddodd ei hunig gyfrol o farddoniaeth, Nes Draw, yn 2015. Enillodd y gyfrol gategori barddoniaeth Gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2016.
Cofnod Mererid Hopwood ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/Mererid_Hopwood

HUGHES, MATHONWY
Ganed y Prifardd Mathonwy Hughes ym 1901 yn Llanllyfni, yn fab i deulu chwarelyddol. Roedd yn nai i'r Prifardd R. Silyn Roberts. Wrth ei waith, roedd yn olygydd cynorthwyol ar gyfnodolyn Baner ac Amserau Cymru. Roedd yn fardd aml ei gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol, ond pinacl ei yrfa gystadleuol oedd enill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1956. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau o farddoniaeth. Bu farw ym 1999.
Cofnod Mathonwy Hughes ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/Mathonwy_Hughes

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberdâr 1956;

HUGHES, ROBERT OWEN
(ELFYN)
Ganed y Prifardd Robert Owen Hughes yn Llanrwst ym 1858. Yn dilyn gadael yr ysgol, bu'n brentis mewn banc cyn cychwyn paratoi i fynd i'r weinidogaeth gyda'r Methodistiaid. Yn lle hynny, treuliodd gyfnod yn gweithio i gyhoeddwr llyfrau yn Llundain. Yn ôl yng Nghymru, bu'n olygydd nifer o gylchgronnau - Gwalia, Y Rhedegydd, a'r Glorian yn eu plith. Bu am gyfnod hefyd yn llyfrgellydd yn Llan Ffestiniog. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Caniadau Elfyn. By farw ym 1919.
Cofnod Elfyn yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUGH-OWE-1858

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Blaenau Ffestiniog 1898;
Eisteddfod Gadeiriol Meirion 1886; Eisteddfod Gadeiriol Llangefni 1888; Eisteddfod Gadeiriol Corwen 1896;

HUWS, RHYS JONES
Ganed Rhys J. Huws ym 1862 ym Mhenegoes ger Machynlleth. Bu'n weinidog yn Abermaw, Bethel (Arfon), Bethesda (Arfon) ac yng Nglanaman. Roedd yn weithgar fel bardd yn y 1890au, a daeth i amlygrwydd trwy ffrwgwd a fu yn y wasg yn sgil ennill Cadair Eisteddfod Meirion, Dolgellau 1894; gelwid ef yn un o arweinwyr y 'Beirdd Newydd' ar ddiwedd yr 19G. Trodd at ysgrifennu rhyddiaith yn hwyrach yn ei oes; ac roedd yn boblogaidd fel arweinydd eisteddfodau. Bu farw yng Nglanaman ym 1917.
Cofnod Rhys J. Huws yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUWS-JON-1862

HUWS, WILLIAM PARI
Ganed William Pari Huws ym Mhenrhyndeudraeth ym 1853, a chafodd ei fagu ym mhentref Dolwyddelan. Bu'n chwarelwr am gyfnod cyn mynd yn ôl at ei addysg yn Llanrwst, yna yng Ngholeg y Bala ac ym Mhrifysgol Yale, Gogledd America. Roedd yn un o arweinwyr amlwg y mudiad dirwestol pan ddaeth yn ôl i Gymru fel gweinidog ym Mlaenau Ffestiniog ac yna Dolgellau. Roedd yn eisteddfodwr llwyddiannus oedd yn fwyaf adnabyddus am ei emynau. Bu farw yn Hen Golwyn ym 1936.
Cofnod William Pari Huws yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUWS-PAR-1853

JAMES, BETI WYN
Ganed Beti Wyn James yng Nghlydach, Abertawe, a chafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Ystylafera a Choleg Diwinyddol Aberystwyth. Mae'n weinidog yng Nghapel y Priordy, Caerfyrddin; Eglwys Annibynnol Cana, ac Eglwys Bresbyteraidd Bancyfelin.
Cofnod Beti Wyn James ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/Beti-Wyn_James

JAMES, DAVID EMRYS
(DEWI EMRYS)
Ganed y Prifardd David Emrys James yng Ngheredigion ym 1881. Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, a'i choron unwaith, gan olygu mai ef yw un o'r beirdd cystadleuol mwyaf llwyddiannus yn hanes y Brifwyl. Roedd yn adnabyddus am ei bregethu tanbaid, ei fywyd personol tymhestlog, ac am fod yn un o'r collwyr salaf yn hanes yr Eisteddfod. Cyhoeddodd lawer o gyfrolau a bu'n gyfrifol am golofn farddol Y Cymro am flynyddoedd lawer. Treuliodd ddiwedd ei oes yn byw yn Y Bwthyn yn Nhalgarreg gyda'i ferch, Dwynwen. Bu farw ym 1952.
Cofnod Dewi Emrys yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-JAME-EMR-1881

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Lerpwl 1929; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanelli 1930
Eisteddfod Gadeiriol Môn, Llangefni 1914, 1922;
Gweler hefyd:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Penbedw 1917; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor 1931; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberpennar 1946;

JEFFREYS, THOMAS
(TWYNOG)
Ganed Twynog yn Sir Gaerfyrddin ym 1844, ac o 1864 bu'n gweithio yn Aberdâr. Ym 1875, symudodd gyda'i deulu i Rymni, lle y bu'n berchenog siop esgidiau. Aeth yn wael ei iechyd ar ddechrau'r 1890au ac ni adferodd yn iawn wedyn; bu'n gaeth i'w dŷ am dros bymtheng mlynedd cyn ei farwolaeth ym 1911. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Tannau Twynog.
Cofnod Twynog yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JEFF-TWY-1844

Eisteddfod Gadeiriol Corwen 1900;
Eisteddfod Gadeiriol Corwen 1900;
JENKINS, JOHN
(GWILI)
Ganed y Prifardd John Gwili Jenkins ym Mhontarddulais ym 1872. Roedd yn un o ddisgyblion barddol Watcyn Wyn yn yr ardal honno. Roedd yn fardd cynhyrchiol a llwyddiannus mewn eisteddfodau, gan ennill y gadair mewn sawl eisteddfod dalaethol, a Choron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Merthyr Tudful 1901. Graddiodd o Rydychen, a bu'n ddirprwy Athro'r Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd; cyn cael ei benodi'n athro'r Testament Newydd yng Ngholegau'r Bedyddwyr a Phrifysgol Cymru Bangor ym 1923. Daeth yn Archdderwydd Cymru ym 1931. Bu farw ym 1936.
Cofnod Gwili yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JENK-GWI-1872

JONES, CERI WYN
Ganed Ceri Wyn Jones (1967) yn Swydd Herford, ac fe'i magwyd yno ac yn Sir Aberteifi. Graddiodd yn y Saesneg gan weithio fel athro uwchradd, ac yna dilyn gyrfa fel golygydd llyfrau i Wasg Gomer. Mae'n un o ddisgyblion barddol T. Llew Jones. Mae wedi ennill Cadair (1997, 2014) a Choron (2009) yr Eisteddfod Genedlaethol. Ef yw Meuryn cyfredol rhaglen farddoniaeth Y Talwrn ar BBC Radio Cymru.
Cofnod Ceri Wyn Jones ar Wicipedia:
cy.wikipedia.org/wiki/Ceri_Wyn_Jones

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meirion a'r Cyffiniau 1997; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir Gâr 2014
Fel Beirniad:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd 2018; Eisteddfod Gŵyl Dewi Cymdeithas Ceredigion 2017;

JONES, DAVID JAMES
(GWENALLT)
Ganed y Prifardd David James Jones ym Mhontardawe ym 1899. Yn dilyn ei addysg ysgol bu'n ddisgybl-athro cyn treulio cyfnod yn y carchar fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Graddiodd o Goleg Prifysgol Aberystwyth yn fuan wedi'r rhyfel, ac yn y pen draw daeth yn ddarlithydd yn yr adran Gymraeg yno ei hun. Ef oedd golygydd cyntaf cylchgrawn Taliesin, ac enillodd ddwy Gadair Genedlaethol. Bu farw yn Aberystwyth ar noswyl Nadolig 1968.
Cofnod Gwenallt yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-JONE-JAM-1899

JONES, HUMPHREY
(BRYFDIR)
Ganed Humphrey Jones yng Nghwm Croesor ym 1867. Roedd yn fardd cystadleuol ac yn eisteddfodwr poblogaidd a lwyddodd i ennill ymhell dros hanner cant o gadeiriau. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth - Telynau'r Wawr a Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill. Bu farw ym 1947.
Cofnod Bryfir yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-JONE-HUM-1867.html

Eisteddfod Caer-gerrig, Llangwm 1896; Eisteddfod Eglwyswyr Trawsfynydd 1896; Eisteddfod Gadeiriol Y Bala 1901; Eisteddfod Y.M.A. Pwllheli 1902; Eisteddfod Gadeiriol Gwynedd, Llandudno 1908;
Fel Beirniad:
Eisteddfod Gwŷr Ieuanc Nefyn 1909; Eisteddfod Ferndale 1925;
Gweler hefyd:
Eisteddfod Y.M.A. Pwllheli 1903

JONES, HUW CEIRIOG
Huw Ceiriog Jones yw Derwydd Gweinyddol Gorsedd Eisteddfod Talaith a Chadair Powys. Mae'n byw yn Rhydypennau a threuliodd ei yrfa gyfan yn gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ymchwiliodd a chyhoeddodd gyfrol ar fardd yn dwyn yr un enw ag o (Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor, GPC 1990). Cafodd ei urddo i wisg las Gorsedd Cymru yn 2017.

JONES, IDWAL
Bardd o Benygroes a enillodd ei gadair gyntaf yn Eisteddfod Temlwyr Da Penygroes ar y testun 'David Lloyd George'.

Eisteddfod Gwŷr Ieuanc Nefyn 1910
Eisteddfod Gwŷr Ieuanc Nefyn 1910
JONES, JOHN
(EOS BRADWEN)
Ganed John Jones ym 1831 yn Nhal-y-llyn, Meirionnydd. Bu ei deulu yn byw hefyd yn Nhregorwyr, Aberystwyth, a Dolgellau, lle cyhoeddodd y bardd a'r cerddor ifanc gasgliad o emyn-donau. Ym 1863, aeth yn arweinydd corawl eglwys gadeiriol Llanelwy. Roedd nifer o'i weithiau yn boblogaidd yn ystod ei oes, ac enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau. Treuliodd ddiwedd ei oes yng Nghaernarfon, lle bu farw ym 1899.
Llun: Llyfr Ffoto T Llechid Jones, LlGC
Cofnod Eos Bradwen yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://biography.wales/article/s-JONE-JOH-1831

Eisteddfod Gadeiriol Corwen 1886;
Eisteddfod Gadeiriol Corwen 1886;
JONES, LEWIS DAVIES
(LLEW TEGID)
Ganed Llew Tegid yn Ffriddgymen yn ardal y Bala ym 1851. Astudiodd i fod yn athro yn y Coleg Normal ym Mangor, ac fe'i penodwyd yn athro Ysgol y Garth, Bangor ym 1875. Wedi dros chwarter canrif yn y gwaith hwn, bu'n ymwneud â gwaith i godi arian tuag at godi adeiladau newydd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu'n cydweithio â John Lloyd Williams ym maes alawon gwerin, ac roedd yn llenor cynhyrchiol ei hun. Fodd bynnag, caiff ei gofio yn bennaf fel arweinydd eisteddfodau - gan arwain o lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn rhwng 1902 a 1925. Bu farw ym 1928.
Cofnod Llew Tegid yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JONE-DAV-1851

JONES, OSIAN RHYS
Magwyd Osian Rhys Jones yn Y Ffôr ger Pwllheli, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd, lle mae'n gweithio fel golygydd a chynhyrchydd cynnwys digidol. Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017. Mae'n un o sylfaenwyr nosweithiau barddoniaeth poblogaidd Bragdy'r Beirdd yng Nghaerdydd.
Cofnod Osian Rhys Jones ar Wicipedia:
cy.wikipedia.org/wiki/Osian_Rhys_Jones

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Ynys Môn 2017
Fel Beirniad:
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd a'r Fro 2019;
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Ynys Môn 2017
Fel Beirniad:
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd a'r Fro 2019;
JONES, THOMAS GRIFFITH
(LLANORFAB)
Ganed Thomas Jones yn 1868 ym mhlwyf Llannor, ger Pwllheli. Symudodd i Ystradfellte ym 1891, a phriodi yno. Enillodd ei gadair gyntaf yn Eisteddfod Pontsenni ym 1903, ac enillodd Gadair Eisteddfod Lerpwl ym 1909. Fel bardd, y mesurau caeth oedd yn mynd â'i fryd fwyaf. Bu'n gweithio ar ffermydd ac i gwmni dŵr, yn ogystal a gweithio ar ei dyddyn ei hun - Castell Mellte.

Eisteddfod Y.M.A Pwllheli 1907
Eisteddfod Y.M.A Pwllheli 1907
JONES, THOMAS JAMES
(JIM PARC NEST)
Mae'r Prifardd T. James Jones (1934) yn un o deulu barddol Parc Nest, fferm ger Castell Newydd Emlyn. Mae wedi ennill Coron (1986, 1988) a Chadair (2007, 2019) yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, a bu'n Archdderwydd Cymru rhwng 2009 a 2013. Mae'n adnabyddus am ei gyfieithiad Cymraeg o Under Milk Wood (Dylan Thomas), 'Dan y Wenallt', ac am ei gerddi tafodieithol cyfoethog a'i berfformiadau byw.
Cofnod Jim Parc Nest ar Wicipedia:
cy.wikipedia.org/wiki/Jim_Parc_Nest
Cadeiriau:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007; Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019

JONES, THOMAS
Ganed Thomas Jones yn Nhynygors, Nantglyn ym 1860. Cafodd ei fagu gan ei nain a'i daid, ac ni chafodd fawr o addysg yn ei flynyddoedd cynnar. Roedd yn fardd lluosog ei wobrwyon, ac yn feirniad eisteddfodol hefyd. Cyhoeddodd sawl cyfrol o faledi a cherddi. Bu farw yn ysbyty Dinbych ym 1932.
Cofnod Thomas Jones yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JONE-THO-1860

Eisteddfod Gadeiriol Cerrigydrudion 1900;
Eisteddfod Gadeiriol Cerrigydrudion 1900;
JONES, THOMAS
(ESYLLWG)
Glowr a bardd o Aberpennar oedd Esyllwg. Enillodd ei unig gadair farddol yn eisteddfod Capel Gosen, Blaenclydach, ym 1903, lai na mis cyn ei farwolaeth mewn damwain yng Nglofa Dyffryn. Yn ogystal a bod yn lowr roedd yn adnabyddus fel athro dosbarthiadau trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Barhad Aberpennar. Ceir carreg goffa iddo ar wal hen Gapel Soar ar stryd fawr Aberpennar.

(TUDNO)
Ganed y Prifardd Thomas Jones (Tudno) yn Llandudno yn 1844. Roedd yn fardd, yn offeiriad ac yn newyddiadurwr. Bu'n gweithio fel golygydd y Llandudno Directory, ac am gyfnod i'r Caernarvon and Denbigh Herald. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, record y mae'n ei rhannu â Dewi Emrys a Dyfed. Bu farw ym 1895, yn 51 oed. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth dan olygyddiaeth David Rowlands (Dewi Môn) wedi ei farwolaeth - Telyn Tudno (1897).
Cofnod Tudno yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c3-JONE-TUD-1844.html

JONES, TOM PARRI
Ganed y Prifardd Tom Parri Jones ym Môn ym 1905. Bu'n wael trwy gydol ei oes, ac yn orweiddiog am gyfnodau hir o ganlyniad i'r polio. Mae'n un o'r ychydig bobl sydd wedi llwyddo i ennill Cadair (1945), Medal Ryddiaith (1957) a Choron (1963) yr Eisteddfod Genedlaethol. Er ei ddawn fel bardd, fe'i cofir yn bennaf fel awdur straeon byrion. Bu farw ym 1980.
Llun: Y Coroni yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno 1963, Casgliad Geoff Charles (LlGC)
Cofnod Tom Parri Jones ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/Tom_Parri_Jones

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Rhosllannerchrugog 1945
Eisteddfod Gadeiriol Môn, Y Fali 1936

JONES, WILLIAM EVANS
(PENLLYN)
Ganed Penllyn yn Ffridd Gymen ger Y Bala ym 1854. Roedd yn fardd eisteddfodol amlwg ac yn weinidog gyda'r Annibynnwyr. Treuliodd fwyafrif ei yrfa yn gweinidogaethu yn eglwys Ebeneser yn Hen Golwyn, a bu'n olygydd ar Y Caniedydd Cynlleidfaol Newydd a gyhoeddwyd ym 1921. Bu farw ym 1938.

KARADOG, ANEIRIN
Ganed y Prifardd Aneirin Karadog ym 1982 yn Llanelwy. Cafodd ei fagu yn Llanrwst, ym Mhontardawe a Phontypridd. Graddiodd o'r Coleg Newydd, Rhydychen, mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Daw o gefndir Llydaweg-Gymreig ac mae'n medru pum iaith yn rhugl. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2005, a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth (hyd at 2018) - O Annwn i Geltia (2012) a Bylchau (2016). Enillodd y ddwy gyfrol y categori barddoniaeth yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn.
Cofnod Aneirin Karadog ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/Aneirin_Karadog

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2005; Eisteddfod Ryng-Golegol Aberystwyth 2001

LEWIS, HENRY
(ISGAER)
Bardd, cerddor a libretydd oedd Henry Isgaer Lewis (1852-1922). Roedd yn berchennog siop esgidiau yng Nghaernarfon. Magodd gryn enwogrwydd fel bardd yn ystod ei oes, ac enillodd wobr o $100 am fugeilgerdd yn Eisteddfod Ryngwladol San Francisco 1915.

LLOYD, OWEN MORGAN
(O.M.)
Ganed O M Lloyd ym 1910 ym Mlaenau Ffestiniog. Graddiodd ym 1934 o Goleg Bala-Bangor ac fe'i ordeiniwyr yn weinidog Annibynnol yn Nefyn ym 1937. Roedd yn gyfrannwr cyson i'r Ymryson, ac fe fu'n golofnydd ar dudalen flaen Y Dydd am dros 20 mlynedd, gan fwrw'i farn ar grefydd, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i farddoniaeth a chyfrol o'i ysgrifau. Bu farw ym 1980.
Cofnod Wicipedia O M Lloyd:
https://cy.wikipedia.org/wiki/O._M._Lloyd

Eisteddfod Myfyrwyr Cymru, Caerdydd 1932; Eisteddfod Gadeiriol Môn, Gwalchmai 1953; Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, Dolgellau 1958

LLWYD, ALAN
Ganed Alan Llwyd yn Nolgellau ym 1948. Ef yw un o awduron a beirdd mwyaf cynhyrchiol Cymru dros yr hanner canrif diwethaf. Mae'n un o sylfaenwyr cylchgrawn a chyhoeddiadau Barddas, ac enillodd goron a chadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr un eisteddfod ddwywaith (y dwbl-dwbl) ym 1973 a 1976. Roedd yn gyfrifol am sgriptio'r ffil Hedd Wyn, a enwebwyd i dderbyn Oscar.
Cofnod Alan Llwyd ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/Alan_Llwyd

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Rhuthun 1973; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberteifi 1976
Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid 1968, 1971;

MEINIR, SIÂN
Ganed Siân Meinir yn Swydd Caer a chafodd ei magu yn Nolgellau. Mae'n gantores opera llwyddiannus a fu'n aelod o gorws y Royal Opera House ac Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'n diwtor llais ac yn feirniad eisteddfodau, ac yn fardd sydd wedi profi llwyddiant mewn nifer o eisteddfodau.
Cofnod Siân Meinir ar wefan Opera Cenedlaethol Cymru:
https://wno.org.uk/cy/profile/sian-meinir

MORRIS, RICHARD ROBERTS
Ganed Richard Roberts Morris ym Meddgelert ym 1852, a chafodd ei fagu ar aelwyd ei daid nes ei fod yn 13 oed. Daeth yn flaenor yn Rhyd-ddu yn ŵr ifanc, a chafodd ei baratoi at fynd i'r weinidogaeth yng Nghlynnog, Holt, a Choleg y Bala. Bu'n weinidog ym Mlaenau Ffestiniog a Chaernarfon. Roedd yn fardd eisteddfodol llwyddiannus, a daeth yn ail am Goron Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1895. Mae'n fwyaf adnabyddus efallai am yr emynau a gyfansoddodd. Bu farw ym 1935.
Cofnod Richard Roberts Morris yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-MORR-ROB-1852

Eisteddfod Gadeiriol Corwen 1889;
Eisteddfod Gadeiriol Corwen 1889;
MUSE, ELAN GRUG
Mae Grug Muse (1993) yn fardd, yn olygydd, yn berfformiwr ac ymchwilydd o Ddyffryn Nantlle. Astudiodd Wleidyddiaeth yn Nottingham a'r Weriniaeth Tsiec, a dilyn cwrs ôl-radd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n un o sylfaenwyr cylchgrawn creadigol Y Stamp. Cyhoeddodd gyfrol o gerddi, Ar Ddisberod (2017), a phamffled, Llanw + Gorwel (2019).
Gwefan Grug Muse

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Benfro 2013; Eisteddfod Ryng-golegol Abertawe 2019

NICHOLAS, THOMAS EVAN
(NICLAS Y GLAIS)
Ganed y bardd, y deintydd a'r Comiwnydd T. E. Nicholas yn Llanfyrnach ym 1879. Roedd yn fardd poblogaidd, yn ddarlithydd tanbaid ac yn ddiwyro yn ei ddaliadau gwleidyddol. Cyhoeddodd doreth o gyfrolau barddoniaeth, a bu'r rhain yn llwyddiannus dros ben - rhai ohonynt ymysg y cyfrolau o farddoniaeth a werthodd fwyaf yn yr Ugeinfed Ganrif. Un o'i gyfrolau mwyaf adnabyddus yw Sonedau'r Carchar, casgliad o sonedau a ysgrifennodd tra yng Ngharchar Brixton yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu farw yn Aberystwyth ym 1971.
Cofnod Niclas y Glais yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c8-NICH-EVA-1879

Eisteddfod Gadeiriol Gosen, Blaenclydach 1909; Eisteddfod Gadeiriol y Llungwyn, Llanuwchllyn 1911;

OWEN, GRUFFUDD EIFION
Magwyd Gruffudd Owen (1986) ym Mhwllheli, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Ef yw'r Bardd Plant Cymru cyfredol (2019-2021). Mae'n adnabyddus fel enillydd stompiau a gornestau talwrn am gerddi ffraeth ac ysgafn, ond hefyd fel bardd mwy difrifol; cyhoeddodd gyfrol, Hel llus yn y glaw, ac enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol (2018).
Cofnod Gruffudd Owen ar Wicipedia:
cy.wikipedia.org/wiki/Gruffudd_Eifion_Owen

OWEN, KAREN
Bardd, darlledwr, newyddiadurwr a beirniad llenyddol yw Karen Owen (ganed 1974), sydd yn byw ac a fagwyd ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle. Cyhoeddodd ei gwaith ar ffurf cyfrolau traddodiadol ond hefyd ar ffurf CDs; y diweddaraf o'r rhain oedd 7 Llais (2018), a oedd yn gerdd hir glywedol yn cyfuno lleisiau rhai o enwogion Cymru a cherddoriaeth rhai o'i chyfansoddwyr mwyaf blaenllaw. Enillodd nifer fawr o gadeiriau lleol a rhanbarthol, a daeth yn agos at gipio prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol.

Eisteddfod Gadeiriol Y Ffôr 1995;
Eisteddfod Gadeiriol Y Ffôr 1995;
OWEN, MORGAN
Daw Morgan Owen (g. 1994) o Ferthyr Tudful yn wreiddiol. Mae'n fardd, yn awdur ac yn ddramodydd. Cyhoeddodd ddwy gasgliad o farddoniaeth hyd yma, sef moroedd/dŵr (2019) a Bedwen ar y lloer (2019). Mae ei waith yn aml yn archwilio lleoliadau daearyddol fel cyfrwng i fynegi profiadau dynol, yn enwedig yng nghyd-destun ei fro enedigol yng Nghymoedd y De.
Cofnod Morgan Owen ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/Morgan_Owen_(bardd_a_llenor)

Eisteddfod Gadeiriol Cwmystwyth 2019; Eisteddfod Gadeiriol Bancffosfelen a Chrwbin 2019; Eisteddfod Gŵyl Dewi Cymdeithas Ceredigion 2020

OWEN, OSIAN WYN
Daw Osian Owen (1997) o'r Felinheli. Graddiodd o Adran Gymraeg Prifysgol Bangor yn 2018 ac mae bellach yn byw yng Nghaernarfon. Ef yw'r cyntaf erioed i ennill y Gadair a'r Goron yn yr un Eisteddfod Ryng-Golegol (2018), ac mae hefyd yn Brifardd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd (2018, 2020). Bu'n rhan o Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru yn 2018. Mae'n aelod o dîm Y Chwe Mil ar Dalwrn y Beirdd.
Cofnod Osian Owen ar Wicipedia:
cy.wikipedia.org/wiki/Osian_Owen

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Brycheiniog a Maesyfed 2018, Eisteddfod T 2020; Eisteddfod Ryng-Golegol Llanbedr Pont Steffan 2018; Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn 2017
Gweler hefyd:
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd a'r Fro 2019;
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Brycheiniog a Maesyfed 2018, Eisteddfod T 2020; Eisteddfod Ryng-Golegol Llanbedr Pont Steffan 2018; Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn 2017
Gweler hefyd:
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd a'r Fro 2019;
OWEN, OWEN GRIFFITH
(ALAFON)
Ganed Alafon yn Eifionydd ym 1847, yn fab i dafarnwr. Roedd yn frawd i Llifon, yr arweinydd eisteddfodau poblogaidd. Bu'n byw gyda'i fodryb yn Arfon o pan oedd yn ddeuddeg oed a bu'n gweithio wedyn fel chwarelwr yn Nhalsarn. Rhoddodd ei fryd ar fynd yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a threulio amser yn Ysgol Clynnog, Coleg y Bala a Phrifysgol Caeredin, er iddo fethu a graddio. Cafodd ei ordeinio yn weinidog Ysgoldy, Llanddeiniolen, Arfon ym 1885, ac yno y bu hyd ei farwolaeth ym 1916. Roedd yn olygydd Y Drysorfa ac yn fardd llwyddiannus a phoblogaidd. Cyhoeddodd gyfrol o'i gerddi, Cathlau Bore a Nawn (1912).
Llun: Wikimedia Commons
Cofnod Alafon yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-OWEN-GRI-1847

PARRY, HUGH
(CEFNI)
Ganed Cefni ym 1826 ym mhlwyf Cerrig Ceinwen, Môn. Roedd yn fardd, yn llenor ac yn ddiwinydd, a bu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr mewn amryw i ardal ar hyd a lled Cymru. Ymfudodd i Ogledd America ym 1870 a threuliodd fwyafrif gweddill ei oes yno. Dychwelodd i Gymru am y tro olaf ym 1895, pryd y bu farw yn Llangefni.
Cofnod Cefni yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PARR-HUG-1826

PARRY, ROBERT WILLIAMS
Ganed y Prifardd R. Williams Parry ym 1884 yn Nhalysarn, Sir Gaernarfon. Roedd ei dad yn hanner brawd i Henry Parry-Williams, sef tad T. H. Parry Williams. Wedi treulio cyfnod fel athro yn ei ddauddegau cynnar, cwblhaodd ei radd ym Mangor yn 1907, ac MA yn yr un brifysgol ym 1912. Bu'n rhan o'r fyddin yn y Rhyfel Byd 1af rhwng 1916 a 1918. Ym 1922, daeth yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mangor lle y bu hyd nes iddo ymddeol ym 1944. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i gerddi, Yr Haf a cherddi eraill (1924) a Cerddi'r Gaeaf (1952). Bu farw ym 1956.
Cofnod R. Williams Parry yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-PARR-WIL-1884.html

PINNOCK, HUGH BERTRAND
(GLAN TAFWYS)
Ganed Hugh Bertrand Pinnock yn Fawley, Hampshire ym 1876, ac enillodd gadair Eisteddfod Myfyrwyr Bangor 1899, tra'r oedd yn fyfyriwr yno ac yn dysgu Cymraeg. Bu'n gweithio fel ysgolfeistr a bu farw yn Surrey ym 1938.
Cadeiriau:
Eisteddfod Myfyrwyr Bangor 1899

PRITCHARD, JOHN
(GAERWENYDD)
Brodor o Fôn oedd Gaerwenydd (1837-1898 [61]), ond fe dreuliodd fwyafrif ei oes ym Methesda yn Arfon, lle y bu'n gweithio fel teiliwr. Roedd yn fardd cynhyrchiol a llwyddiannus ac yn arweinydd eisteddfodau poblogaidd.
Gallwch ddarllen cofnod Gaerwenydd ar Wicipedia yma.

REES, EVAN
(DYFED)
Un o Sir Benfro oedd Dyfed (1850-1923) yn wreiddiol, ond fe'i magwyd yn Aberdâr. Roedd yn un o feirdd eisteddfodol mwyaf llwyddiannus diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith (1881, 1884, 1889, 1901), record y mae'n ei rhannu â Dewi Emrys a Tudno. Ef hefyd oedd Prifardd y Gadair yn Eisteddfod Ffair y Byd, Chicago 1893. Wrth ei waith, roedd yn lowr am flynyddoedd lawer cyn mynd i'r weinidogaeth. O 1905 hyd ei farwolaeth ym 1923, ef oedd Archdderwydd Cymru.
Cofnod Dyfed yn Y Bywgraffiadur Cymreig:
bywgraffiadur.cymru/article/c-REES-EVA-1850
Llun: Gwaith Barddonol Dyfed, 1907

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Merthyr Tudful 1881; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Lerpwl 1884; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberhonddu 1889; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Merthyr Tudful 1901
Eisteddfod Ryngwladol Ffair y Byd, Chicago 1893
Fel Beirniad:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llundain 1887; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llandudno 1896; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Blaenau Ffestiniog 1898; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Y Fenni 1913; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Penbedw 1917; Eisteddfod Gadeiriol Môn 1922;
Gweler hefyd:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bae Colwyn 1910; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerfyrddin 1911; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 1916; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Rhydaman 1922

REES, REES
(TEIFI)
Roedd yn byw yn Stryd y Cymmer, Grangetown, ac yn gweithio i gwmni trwsio llongau ym Mhenarth.
Gw. hefyd: Foster Evans, Dylan 2015. Rees Rees 'Teifi': Un o Feirdd y Rhyfel Mawr. Y Garthen Mai 20 , pp. 14-15.
Cadeiriau:
Eisteddfod Cwm-mawr 1914
Eisteddfod Cwm-mawr 1914
RICHARDS, JOHN DYER
Ganed John Dyer Richards yn Sir Gaerfyrddin ym 1876. Yn dilyn graddio o Goleg Aberhonddu ym 1903, daeth yn weinidog Capel Ebeneser, Trawsfynydd. Bu yn Nhrawsfynydd am 14 mlynedd, gan ddod yn ffrind ac yn fentor i Hedd Wyn, bardd y Gadair Ddu - caiff J. D. Richards ei bortreadu gan Derec Brown yn y ffilm Hedd Wyn. O Trawsfynydd aeth yn weinidog i Fedlinog ac yna i Nanternis, ger Ceinewydd, lle y bu farw ym 1927.
Cofnod J. D. Richards ar WikiTree:
https://www.wikitree.com/wiki/Richards-10936

RICHARDS, WILLIAM
(ALFA)
Ganed William 'Alfa' Richards ym 1875. Roedd yn eisteddfodwr pybyr ac yn enillydd nifer helaeth o gadeiriau ar hyd a lled y wlad. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i gerddi, Blodau'r Groes (1907) a Clychau'r Wawr (1910). Ei waith mwyaf poblogaidd a chofiadwy yw'r emyn i blant, 'Rwy'n canu fel cana'r aderyn'. Bu farw ym 1931.

ROBERTS, EMRYS
(EMRYS DEUDRAETH)
Ganed y Prifardd Emrys Roberts yn Lerpwl ym 1929, a chafodd ei fagu ym Mhenrhyndeudraeth. Treuliodd ei yrfa fel athro ysgol yn Sir Drefaldwyn, ac enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1967 a 1971. Bu'n Archdderwydd Cymru rhwng 1987 a 1990. Yn ogystal â barddoni i oedolion, roedd hefyd yn awdur poblogaidd ar lyfrau i blant. Bu farw yn 2012.
Cofnod Emrys Deudraeth ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/Emrys_Roberts_(bardd)

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Y Bala 1967; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor a'r Cylch 1971;
Eisteddfod Gadeiriol Môn, Rhosneigr 1958

ROBERTS, DAVID JOHN
(DEWI MAI O FEIRION)
Ganed David John Roberts ym 1883 yn Nhalweunydd, Blaenau Ffestiniog. Roedd yn delynor, yn newyddiadurwr, yn gerdd-dantiwr a chasglwr caneuon gwerin. Roedd yn rhan allweddol o sefydlu Cymdeithas Cerdd Dant Cymru. Bu farw ym 1956.
Cofnod Dewi Mai yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/en/s2-ROBE-JOH-1883.html

ROBERTS, JOHN
Pregethwr, emynydd a bardd, yn wreiddiol o Lanfachreth ym Môn, oedd John Roberts (1910-1984). Bu'n weinidog ym Mhorthmadog, y Bala, a Chaernarfon, gan dreulio blynyddoedd olaf ei oes yn y dref honno. Roedd yn bregethwr adnabyddus a phoblogaidd, a daeth yn adnabyddus hefyd fel bardd, gan gyhoeddi cyfrol o'i gerddi, Cloch y Bwi (1958).
Cofnod John Roberts yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c6-ROBE-JOH-1910

ROBERTS, ROBERT
(SILYN)
Ganed Silyn yn Llanllyfni ym 1871, ac ar ôl bod yn chwarelwr treuliodd gyfnodau o addysg yng Nghlynnog, Bangor a'r Bala. Bu'n weinidog yn Lewisham a Thanygrisiau, Ffestiniog. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1902 am ei bryddest, 'Trystan ac Esyllt'. Roedd yn sosialydd a fu'n aelod Llafur ar y Gyngor Meirionydd, a chyhoeddodd waith yn ymwneud â'r Blaid Lafur a'i hanes. Bu'n ddarlithydd allanol i Goleg Bangor o 1922 ymlaen. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth yn ystod ei oes, Telynegion ar y cyd â W. J. Gruffydd (1902) a Trystan ac Esyllt a Chaniadau eraill (1904). Fe'i cysylltir â'r cyfnod newydd o farddoniaeth delynegol, ramantaidd yn y Gymraeg ar droad y ganrif. Bu farw ym 1930.
Cofnod Silyn yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-ROBE-ROB-1871
Cadeiriau:
Eisteddfod Myfyrwyr Bangor 1897, 1898;

ROBERTS, WILLIAM
(GWILYM CEIRIOG)
Brodor o Ddyffryn Ceiriog oedd Gwilym Ceiriog, ond treuliodd ei oes yn byw yn nhref Llangollen. Bu'n fardd llwyddiannus mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol ar hyd ei oes. Pinacl ei yrfa fel bardd oedd ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1911 am awdl i 'Iorwerth y Seithfed'.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerfyrddin 1911
Eisteddfod Gadeiriol Corwen 1902, 1904; Eisteddfod Gadeiriol Môn, Caergybi 1907
Gweler hefyd:
Eisteddfod Gadeiriol Corwen 1896, 1899;

SALISBURY, EURIG
Ganed Eurig Salisbury ym 1983. Mae'n Brif Lenor yr Eisteddfod Genedlaethol (2016) a daeth yn agos at gipio ei Chadair sawl tro. Mae'n ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth. Bu'n Fardd Plant Cymru rhwng 2011 a 2013. Cofnod Eurig Salisbury ar Wicipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Eurig_Salisbury |
Cadeiriau:
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2006
Fel Beirniad:
Eisteddfod Gŵyl Dewi Cymdeithas Ceredigion 2019; Eisteddfod Gadeiriol Bancffosfelen a Chrwbin 2019;

THOMAS, R. R.
Ganed R. R. Thomas yn Amlwch oddeutu'r flwyddyn 1886. Erbyn ennill cadair Pwllheli ym 1908 roedd yn 22 oed ac yn cludo llythyrau fel gwaith. Roedd eisoes wedi enill cadair Cefnywaen, Arfon, yn Nhachwedd 1907, a llu o wobrau llai am delynegion ac ati.
'Yr elfen delynegol sydd gryfaf a mwyaf nodweddiadol o'i Awen; a phrofodd droion ei fedr yn yr arddull swynol hon.' - Caerwyn

Eisteddfod Y.M.A. Pwllheli 1908
Eisteddfod Y.M.A. Pwllheli 1908
THOMAS, THOMAS D.
(GLAN PADARN)
Ganed Glan Padarn ym 1848. Roedd yn fardd gwlad ac yn fedrus wrth gyfansoddi caneuon a'u gosod ar gerddoriaeth. Ysgrifenodd lawer o farwnadau, a chyhoeddwyd cyfrol o'i waith, Odlau Padarn, ym 1878. Bu farw ym 1888.
Cadeiriau:
Eisteddfod Gadeiriol Trawsfynydd 1882;

THOMAS, THOMAS JACOB
(SARNICOL)
Roedd Sarnicol (1873-1945) yn fardd poblogaidd o fro Banc Siôn Cwilt. Fe'i magwyd yng Nghapel Cynon ac astudiodd radd yn Aberystwyth cyn mynd yn athro ysgol. Ymddeolodd yn gynnar ym 1931 o ganlyniad i afiechyd, a bu'n byw yn Aberystwyth hyd nes ei farwolaeth ym 1945. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni 1913.
Cofnod Sarnicol yn y Bywgraffiadur Cymreig:
bywgraffiadur.cymru/article/c2-THOM-JAC-1873

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Y Fenni 1913
Fel Beirniad:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanelli 1930
Gweler Hefyd:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Penbedw 1917
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Y Fenni 1913
Fel Beirniad:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanelli 1930
Gweler Hefyd:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Penbedw 1917
THOMAS, WILLIAM
(ISLWYN) Mae Islwyn yn fwyaf enwog am ei ddwy gerdd faith, y ddwy dan deitl 'Y Storm', a gyfansoddodd yn ei alar wedi marwolaeth ei ddyweddi, Ann Bowen o Abertawe. Cafodd ei eni ym 1832, a chafodd addysg i'w baratoi at y weinidogaeth yn Nhredegar, Casnewydd, y Bont-faen ac Abertawe. Roedd yn gystadleuydd mynych gyda'i farddoniaeth, ond heb lawer o lwyddiant ar y llwyfan mwyaf, er iddo ymgeisio droeon am Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu diddordeb ysgolheigaidd sylweddol yn ei waith yn ystod yr ugeinfed ganrif, gyda rhai fel W. J. Gruffydd, T. H. Parry-Williams a Gwenallt yn astudio'i farddoniaeth. Bu farw ym 1878, yn 46 oed. Cofnod Islwyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-THOM-WIL-1832 |
TYNE, IESTYN
Ganed Iestyn Tyne ym 1997. Mae'n gyd-sefydlydd a chyd-olygydd cylchgrawn a chyhoeddiadau'r Stamp; mae hefyd yn llenor ac yn gerddor. Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd yn 2016, a'i chadair yn 2019 - sy'n golygu mai ef yw'r cyntaf i fod wedi ennill dwy brif wobr lenyddol yr Urdd. Ef yw curadur y wefan hon, sy'n ymchwilio i hanesion cadeiriau eisteddfodol coll. Yn 2019, fe'i penodwyd yn fardd preswyl cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol.

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2019; Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2016; Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Eryri 2014, 2015, 2016; Eisteddfod Gadeiriol Y Ffôr 2015, 2016; Eisteddfod Gadeiriol Llanwrtyd 2015; Eisteddfod Gadeiriol Chwilog 2016; Eisteddfod Bro Hydref, Trevelin 2016;

WILLIAM THOMAS
(GWILYM GLANFFRWD)
Ganed Gwilym Glanffrwd yn Ynysybwl ym 1843. Dechreuodd ei yrfa fel glowr, ond yn fuan iawn agorodd ysgol yn Ynysybwl, cyn derbyn swydd athro yn Llwynpia. Aeth i bregethu wedyn gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a chael ei ordeinio yn weinidog yn dilyn cyfnodau yng ngholegau Penbedw a Rhydychen. Roedd yn eisteddfodwr brwd a llwyddiannus. Bu farw yn dilyn trawiad ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Aberhonddu 1890.
Cofnod Gwilym Glanffrwd ar wefan Cynon Culture:
http://cynonculture.co.uk/wordpress/llanwynno/gwilym-thomas-glanffrwd-1843-1890/

Eisteddfod y Gordofigion, Lerpwl 1874;
Eisteddfod y Gordofigion, Lerpwl 1874;
TURNER, JUDITH MUSKER
Mae Judith Musker Turner yn fardd ac arlunydd tecstiliau o Ffair Rhos, Ceredigion, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2019. Mae hi’n perfformio gyda’r grŵp barddol Cywion Cranogwen ac yn nosweithiau Bragdy’r Beirdd. Mae hi wedi cyhoeddi cerddi yn Y Stamp ac yn aelod o dîm Talwrn Y Gwenoliaid. Yn ddiweddar, arddangosodd ei gwaith celf yn rhyngwladol am y tro cyntaf yn Suns Europe, gŵyl ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd yn Udine yn yr Eidal.
Cadeiriau:
Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch 2018;
Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch 2018;
TUDOR, OWEN
Ganed Owen Tudor ym Mhwllheli ym 1832, ac ymgartrefodd fel saer yn ardal Dolgellau. Roedd yn adnabyddus yn genedlaethol a rhyngwladol am ei grefft, a bu'n gyfrifol am adeiladu dros 80 o gadeiriau eisteddfodol; llawer ohonynt ar gyfer eisteddfodau yn sir Feirionydd. Bu farw ym 1909.

WILLIAMS, ELISEUS
(EIFION WYN)
Ganed Eifion Wyn ym Mhorthmadog ym 1867, ac yn ardal y dref honno y bu'n byw a gweithio ar hyd ei oes. Bu'n fardd cystadleuol llwyddiannus (ef sy'n dal y record am ennill cystadleuaeth yr englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol y mwyaf o weithiau, a bu ond y dim iddo gipio'r Gadair ym 1901, pryd y credai llawer iddo gael cam). Daeth yn enwog am ei delynegion, a'i gyfrol hynod boblogaidd, Telynegion Maes a Môr. Derbyniodd radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ym 1919. Bu farw ym 1926, a'i gladdu ym mynwent Chwilog.
Cofnod Eifion Wyn yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-WILL-ELI-1867

Eisteddfod Gadeiriol Llangefni 1890; Eisteddfod Y.M.A. Pwllheli 1905;
Fel Beirniad:
Eisteddfod Cricieth 1910;

WILLIAMS, EVAN
(GLYN MYFYR)
Ganed Evan Williams yn Llanfihangel Glyn Myfyr, Sir Ddinbych ym 1866. Ymysg ei waith cyhoeddedig mae tri chasgliad o farddoniaeth, Briallu'r Glyn (1896), Meillion y Glyn, a Rhosynau'r Glyn (1909). Bu farw ym 1937.
Cadeiriau:
Eisteddfod Egwyswyr Trawsfynydd 1898

WILLIAMS, GRIFFITH JOHN
Ganed Griffith John Williams yng Nghellan ger Llanbedr Pont Steffan ym 1892. Roedd yn un o brif ysgolheigion hanner cyntaf yr Ugeinfed Ganrif, ac ef oedd cofiannydd Iolo Morgannwg. Roedd yn un o sylfaenwyr y cyfnodolyn Llên Cymru. Pan enillodd gadair Pwllheli, yr oedd newydd raddio o Goleg y Brifysgol, Aberystwyth. Byddai'n parhau i farddoni yn ystod y ddegawd - yn wir, roedd yn prysur wneud enw iddo'i hun erbyn 1920 - ond yn rhoi i fyny arni i bob pwrpas yn dilyn ei benodiad fel darlithydd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd ym 1921. Bu farw ym 1963.
Cofnod G. J. Williams yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/en/s2-WILL-JOH-1892.html

Eisteddfod Y.M.A. Pwllheli 1914;
Eisteddfod Y.M.A. Pwllheli 1914;
WILLIAMS, JOHN ELLIS
Bardd o Forfa Nefyn yn wreiddiol oedd John Ellis Williams (1872-1930), a bu'n weinidog gyda'r Annibynnwyr ym Mangor. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1916 am ei awdl, 'Ystrad Fflur'. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Caniadau John Ellis Williams, Bangor, yn dilyn ei farwolaeth.
Cadeiriau:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 1916
Eisteddfod y Myfyrwyr, Bangor 1909

WILLIAMS, JOHN OWEN
(PEDROG)
Ganed y Prifardd Pedrog yn Llŷn ym 1853. Cafodd ei fagu gan ei fodryb yn Llanbedrog yn dilyn colli ei rieni yn ifanc iawn. Bu'n gweithio fel masnachwr yn Lerpwl am wyth mlynedd cyn dechrau pregethu yn 25 oed. Cafodd ei ordeinio yn weinidog yr Annibynnwyr yn eglwys Kensington, Lerpwl, ac yno y bu ar hyd ei oes nes gorfod ymddeol ar gownt ei iechyd ym 1930. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith (1891, 1895, 1900) a bu'n archdderwydd o 1928 hyd 1932. Bu farw yng Ngorffennaf 1932 ac fe'i claddwyd yn Lerpwl.
Cofnod Pedrog yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-WILL-OWE-1853
Cadeiriau:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe 1891; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanelli 1895; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Lerpwl 1900
Fel beirniad:
Eisteddfod Gadeiriol Môn, Caergybi 1907
Gweler hefyd:
Eisteddfod Gadeiriol Pentreuchaf 1901;
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe 1891; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanelli 1895; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Lerpwl 1900
Fel beirniad:
Eisteddfod Gadeiriol Môn, Caergybi 1907
Gweler hefyd:
Eisteddfod Gadeiriol Pentreuchaf 1901;
WILLIAMS, ROBERT ARTHUR
(BERW) Ganed y Prifardd Robert Arthur Williams ym 1854, ac fe'i magwyd gan ei fodryb ym Mhentre Berw, Môn. Roedd yn offeiriad ac yn fardd. Mae'n bosib mai fel beirniad y gwnaeth ei gyfraniad llenyddol mwyaf sylweddol, gan iddo feirniadu awdlau'r gadair droeon ochr yn ochr â John Morris-Jones ac eraill. Bu farw ym 1926. Llun: Papur Pawb, 8 Medi 1894 Cofnod Berw yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c-WILL-ART-1854.html |
Cadeiriau:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llundain 1887
Eisteddfod Gadeiriol Corwen 1878; Eisteddfod Gadeiriol Meirion 1883;
Fel Beirniad:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llandudno 1896; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Blaenau Ffestiniog 1898; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerfyrddin 1911; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 1916;
Eisteddfod Gadeiriol Corwen 1900; Eisteddfod Gadeiriol Môn, Caergybi 1907; Eisteddfod Y.M.A. Pwllheli 1909;

WILLIAMS, ROWLAND
(HWFA MÔN)
Ganed y Prifardd Rowland Williams (Hwfa Môn) yn Nhrefdraeth ym Môn ym 1823. Bu'n brentis saer coed cyn astudio yng Ngholeg Diwinyddol y Bala a derbyn galwad i weinidogaethu. Yn ystod ei oes bu'n weinidog ledled Gogledd Cymru yn ogystal â chyfnod hir yn Llundain. Bu farw yn y Rhyl ym 1905. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith [1862, 1873, 1878] a'i choron unwaith [1867]. Roedd yn feirniad cyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol ond mae'n bosib mai am ei wasanaeth fel Archdderwydd rhwng 1895 a 1905 y'i cofir ef yn bennaf.
Gallwch ddarllen cofnod Hwfa Môn yn y Bywgraffiadur Cymreig yma
Cadeiriau:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Yr Wyddgrug 1873
Fel beirniad:
Eisteddfod Cymreigydion Bethesda 1865; Eisteddfod Gadeiriol Meirion 1886; Eisteddfod Gadeiriol Llangefni 1891, 1896; Eisteddfod Gadeiriol Gwynedd 1900; Eisteddfod Gadeiriol Corwen 1896, 1900;
Fel Archdderwydd:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llandudno 1896;

WILLIAMS, JOHN RICHARD
(TRYFANWY)
Ganed John Richard Williams yn Rhostryfan ym 1867. Bu farw ei rieni ag yntau'n ifanc, ac fe'i magwyd gan ei fodryb ym Mhorthmadog. Roedd yn ddall ac yn fyddar ers yn blentyn, ond llwyddodd i gael gafael ar hanfodion y grefft o farddoni yr un fath, a bu'n bur lwyddiannus mewn eisteddfodau. Bu'n ddibynnol am gyfnodau maith ar ofal ei gyfaill, y bardd Eifion Wyn. Bu farw ym 1924. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i farddoniaeth - Lloffion yr Amddifad (1892) ac Ar Fin y Traeth (1910).
Cofnod Tryfanwy yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/en/s-WILL-RIC-1867.html

Eisteddfod Y.M.A. Pwllheli 1910;
Eisteddfod Y.M.A. Pwllheli 1910;
WILLIAMS, THOMAS GRAHAM
(CEFNFAB)
Ganed Thomas Graham Williams ym 1936 yng Nghefn Bryn Brain. Cafodd ei enw barddol o enw'r pentref. Gweithiodd fel glowr cyn cael addysg bellach yn hwyrach yn ei oes, a graddio o'r Brifysgol agored. Roedd yn gystadleuydd llwyddiannus mewn eisteddfodau lleol ar hyd a lled y wlad; ac yn adnabyddus am ei berfformiadau adrodd yn ogystal â'i gamp o ennill dros 80 o gadeiriau barddol. Roedd yn perfformio sioe un-dyn ar hanes Dylan Thomas ac yn dysgu Cymraeg i oedolion. Bu farw yn Ionawr 2020, yn 86 oed.
Bywgraffiad Cefnfab ar ei wefan bersonol:
http://www.cefnfab.co.uk/biog.htm

WILLIAMS, WILLIAM MORGAN
(FFERYLLFARDD)
Ganed William Morgan Williams ym Mhwllheli ym 1832. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Botwnnog ac aeth yn brentis fferyllydd yng Nghaernarfon. Hyfforddodd fel meddyg yng Nglasgow, a bu'n feddyg yn Llansantffraid Glan Conwy am weddill ei oes. Roedd yn aelod o orsedd 'amgen' Arwest Glan Geirionnydd (a sefydlwyd gan Gwilym Cowlyd). Nid oedd yn gystadleuydd mynych ac hwyrach mai dyna un o'r rhesymau y bwriwyd amheuaeth ar ddilysrwydd ei gyfansoddiad yn Eisteddfod Môn 1873. Bu farw ym 1877, yn 44 oed.
Cofnod Fferyllfardd ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/William_Morgan_Williams

Eisteddfod Môn, Porthaethwy 1873;
Eisteddfod Môn, Porthaethwy 1873;
WILLIAMS, WILLIAM
(CRWYS) Ganed y Prifardd William 'Crwys' Williams ym 1875 yng Nghraig-cefn-parc. Roedd yn bregethwr ac yn fardd eisteddfodol amlwg. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith; ym 1910 ('Ednyfed Fychan'), ym 1911 ('Gwerin Cymru') ac ym 1919 ('Morgan Llwyd o Wynedd'). Fodd bynnag, fe'i cofir am ei delynegion adnabyddus yn fwy na'i bryddestau eisteddfodol - cerddi fel 'Dysgub y Dail' a'r 'Border Bach'. Bu farw ym 1968. Cofnod Crwys yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-WILL-WIL-1875 |