Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Gethin E. Thomas
Mae'r dudalen hon yn y broses o gael ei hadeiladu. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.
1901 |

1901HUGH EMYR DAVIES (EMYR)
BRYN-LLAETH, ABERERCH TESTUN FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 22 EBRILL 1901 BEIRNIAD GRUFFYDD T. EVANS (BEREN) LLEOLIAD YR EISTEDDFOD LLEOLIAD YN 2018 YSGOL GYNRADD PENTREUCHAF Lluniau: Gethin E. Thomas |
YR EISTEDDFOD
Dyma adroddiad o un o bapurau'r cyfnod: Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Pentreuchaf dydd Llun, o dan lywyddiaeth Mr. Robert Parry, Abererch. Clorianwyd y beirdd gan Beren; a’r cerddorion gan Mr. Rice Price; a’r llenorion gan y Parchn. E. Myrddin Rees a John Evans, Llanerch. Enillwyd y gadair gan Mr. Emyr Davies, Abererch – pregethwr ieuanc gyda’r Methodistiaid. - Y Goleuad, 24.04.1901 |
Y GADAIR
Cyrhaeddodd y gadair Ysgol Pentreuchaf yn 2018 trwy law arwerthwr o Drefor, a'i cafodd mewn arwerthiant ar fferm Gellidara ym Mhenrhos yn y 1970au.
Gellidara oedd fferm deuluol mam Hugh Emyr Davies, gwraig Hugh Tudwal Davies (Tudwal, 1857-1915), a oedd yn fardd galluog ei hun. Bryn-llaeth, Abererch oedd fferm deuluol Emyr, ond symudodd y tad i ffermio Gellidara tua diwedd ei oes, ac yno y bu farw ym 1915. Gwyn Tudwal Davies, disgynnydd i Hugh Tudwal, a werthodd y gadair yn y 1970au.
Dyma englyn o waith Tudwal a rannwyd gan Pedrog ar achlysur ei farwolaeth, wrth dalu teyrnged iddo yn Y Brython, 28 Ebrill 1915:
Rhyw dro bach, o'r crud i'r bedd - ydyw f'oes
Nid yw fwy na dyrnfedd;
Rhyw gysgod, rhyw wag osgedd;
A dim i gyd, ydyw'm gwedd.

Y BARDD
Ganed y Prifardd Hugh Emyr Davies, bardd a gweinidog â'r Methodistiaid Calfinaidd ym Mrynllaeth Abererch ym 1878. Daeth i amlygrwydd fel bardd eisteddfodol yn gynnar iawn, gan ennill dros ugain o gadeiriau. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith; yng Nghaernarfon ym 1906 ('Branwen ferch Llŷr') a Llangollen ym 1908 ('Owain Glyndŵr). Bu farw ym 1950 yn Llandegfan, Môn. Cofnod Hugh Emyr Davies yn y Bywgraffiadur Cymraeg: http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-DAVI-EMY-1878.html |