Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Rhys Morgan Llwyd; Elin Jones, Blaenau Ffestiniog; John Richard Williams, Llangefni; Rhiannon Elis-Williams, Porthaethwy;
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.

1860
1861 1862 1863 1864 1865 1866 1867 1868 1869 John Jones |
1870
1871 John E. Jones (Ioan Emlyn) 1872 William Thomas (Islwyn) 1873 William M. Williams (Fferyllfardd) 1874 Ni chynhaliwyd eisteddfod [?] 1875 Ni fu cystadlu 1876 William Lewis 1877 Edward Edwards (Morwyllt) 1878 William Milton Aubrey (Anarawd) 1879 William E. Williams (Gwilym Alltwen) |
1880
1881 1882 1883 John Pritchard (Gaerwenydd) 1884 1885 1886 1887 1888 1889 |
1890
1891 Owen Williams (Machraeth Môn) 1892 1893 1894 1895 1896 1897 1898 1899 |
1900
1901 1902 1903 1904 1905 1906 1907 William Roberts (Gwilym Ceiriog) 1908 Neb yn deilwng 1909 O. Caerwyn Roberts |
1910
1911 1912 1913 1914 David James (Dewi Emrys) 1915 Ni chynhaliwyd eisteddfod 1916 Ni chynhaliwyd eisteddfod 1917 Ni chynhaliwyd eisteddfod 1918 Ni chynhaliwyd eisteddfod 1919 Ni chynhaliwyd eisteddfod |
1920 Thomas Owen
1921 John Richard Williams (Tryfanwy) 1922 David James (Dewi Emrys) [2] 1923 William Evans Jones (Penllyn) 1924 William Morris 1925 David Rees Griffiths (Amanwy) 1926 Edgar Phillips (Trefin) 1927 Ni chynhaliwyd eisteddfod 1928 R. R. Thomas 1929 John Owen |
1930 Edgar Phillips (Trefin) [2]
1931 Rolant Jones (Rolant o Fôn) 1932 1933 1934 1935 1936 Tom Parry Jones 1937 1938 1939 John Evans |
1940
1941 1942 Dafydd Owen 1943 Dafydd Jones 1944 1945 Richard Hughes 1946 Neb yn deilwng 1947 Llywelyn Jones 1948 John Roberts 1949 J. Llewelyn Hughes |
1950 W. E. Edwards
1951 James Jones 1952 R. Gwilym Hughes 1953 O. M. Lloyd 1954 O. M. Lloyd 1955 James Arnold Jones 1956 G. Prys Jones 1957 Gwilym R. Tilsley 1958 Emrys Roberts 1959 David Jones |
1960 John H. Roberts
1961 James Nicholas 1962 Emrys Roberts 1963 Ellis Aethwy Jones 1964 E. Einion Evans 1965 T. R. Jones 1966 Ni chynhaliwyd eisteddfod 1967 John H. Roberts 1968 Edward Jones (Telynfab) 1969 James Arnold Jones [2] |
1970 W. C. Owen (Llew Llwydiarth)
1971 Edward Jones (Telynfab) [2] 1972 James Arnold Jones [3] 1973 J. Penry Jones 1974 Huw Ceiriog 1975 Geraint Jones-Evans 1976 Ni chynhaliwyd eisteddfod 1977 J. R. Jones 1978 Ieuan Wyn 1979 James Arnold Jones [4] |
1980 Peredur Lynch
1981 Roger Jones 1982 Richard Jones 1983 Einion Evans [2] 1984 Gwion Lynch 1985 John Pinion Jones 1986 Vernon Jones 1987 Medwyn Jones 1988 Ithel Rowlands 1989 Ifor Davies |
1990 Glyndwr Thomas
1991 Hilma Lloyd Edwards 1992 Gwyn Evans 1993 Huw Dylan 1994 John Talfryn Jones 1995 Hilma Lloyd Edwards [2] 1996 John Talfryn Jones [2] 1997 Huw Dylan [2] 1998 R. H. Jones 1999 Ni chynhaliwyd eisteddfod |
2000 Sian Owen
2001 Ni chynhaliwyd eisteddfod 2002 Geraint Jones 2003 Llion Pryderi Roberts 2004 Ni chynhaliwyd eisteddfod 2005 Arthur Thomas 2006 Esyllt Maelor 2007 Hilma Lloyd Edwards [3] 2008 Gareth Williams (Gareth Neigwl) 2009 Gareth Williams [2] |
2010 Annes Glynn
2011 John Emyr 2012 D. Islwyn Evans 2013 Arwel Emlyn Jones 2014 R. J. H. Griffiths (Machraeth) 2015 Rhian Owen 2016 Llion Pryderi Roberts [2] 2017 Ni chynhaliwyd eisteddfod 2018 Neb yn deilwng 2019 Harri Jones |
Eisteddfod fro yw Eisteddfod Môn, sy'n teithio yn flynyddol i blwyfi ac ardaloedd gwahanol ledled yr ynys. Mae'n un o'r eisteddfodau gweithredol hynaf yng Nghymru, gyda'i hanes yn ymestyn ymhell yn ôl i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Sefydlwyd yr eisteddfod ar ei ffurf bresennol ym 1907, yn dilyn ffurfio Cymdeithas Eisteddfod Môn y flwyddyn flaenorol.
GORSEDD BEIRDD MÔN
Mae Eisteddfod Môn yn un o ddwy eisteddfodau is-genedlaethol a weinyddir lawlaw â'i Gorsedd ei hun - y llall yw Eisteddfod Talaith a Chadair Powys. Cynhelir Gŵyl Gyhoeddi flynyddol ar batrwm yr ŵyl genedlaethol, mae'r Orsedd yn bresenoldeb amlwg ym mhrif seremoniau'r eisteddfod, a chaiff unigolion eu derbyn i urddau'r wisg wen, y wisg las a'r wisg werdd. Y Derwydd Gweinyddol yw swyddogaeth flaenaf yr Orsedd, rôl sy'n cyfateb i'r Archdderwydd yng Ngorsedd Cymru.
Yn 2011, etholwyd Siân Owen (Siân Penllyn) yn Dderwydd Gweinyddol Gorsedd Beirdd Ynys Môn, y fenyw gyntaf i gymryd yr awenau yn y swydd honno. Fe'i holynwyd gan Annes Glynn (Annes Bryn).

DERWYDDON GWEINYDDOL
1869, 1871 Hugh Owen (Meilir)
1876, 1877 Clwydfardd
1948-1969 W. C. Owen (Llew Llwydiarth)
2003-2008 Huw Goronwy
2008-2011 Eurfon
2011-2014 Siân Owen (Siân Penllyn)
2014-2017 Annes Glynn (Annes Bryn)
2017-2022 J. R. Williams (Rhisiart o'r Rhos)
2022- Carwyn Siddall

Un o deulu enwog Ty'n y Braich, Dinas Mawddwy, oedd enillydd cadair 1869. Yn ôl adroddiad Seren Cymru (03.09.1869), nid oedd y bardd yn bresennol i gael ei gadeirio, a chadeiriwyd Mynyddog, y bardd o Lanbrynmair - ac athro barddol y buddugwr - yn ei le.
Yng nghystadlaethau llenyddol eraill yr eisteddfod, gwelir mai Morwyllt, bardd y gadair yn Eisteddfod Môn 1877, oedd yn fuddugol ar destun y cywydd ('Y Gwlaw'); Islwyn, bardd y gadair yn Eisteddfod Môn 1872, enillodd gystadleuaeth yr englyn ('Yr Ysbiadur'); a Richard Jones (Glan Alaw) oedd awdur y bryddest orau ('Cain ac Abel').
Ceir canlyniadau'r adran lenyddol, ynghyd ag adroddiad yr eisteddfod a'i chyfansoddiadau buddugol, yng nghyfrol y Cyfansoddiadau buddugol (Llanerchymedd 1870). Mae'r gyfrol honno ar gael i'w darllen ar lein yma.

ENGLYNION CYFARCH - CLWYDFARDD
Cewri enwog cywreinwaith - hen gedyrn
Godwyd drwy uchelwaith; Wych deulu plethwch dalaith Am ei ael am ei wir waith. |
O hen wig ein henwogion - y caed
Coed cadair ein gwron; Coed o wraidd coed Derwyddon, Coed derw mawr Cadair Môn. |
Y GERDD
'Y Trydan' oedd testun y gadair, a gofynnwyd am awdl. Llwyddwyd i ddenu pedwar ymgais. Roedd hwn yn destun amserol iawn, mewn gwirionedd, gyda'r byd ar drothwy datblygiadau mawr ym myd trydan, a nifer o ddyfeiswyr a gwyddonwyr yn y broses o ddatblygu posibiliadau trydan o fod yn ryfedd-beth goruwchnaturiol i fod yn rhan annatod o fywyd beunyddiol. Mae'r detholiad o'r awdl fuddugol sydd wedi ei gynnwys isod yn mynegi'r newid hwn yn y canfyddiad o drydan - y canrifoedd a dreuliwyd yn astudio trydan cyn i'r 'oes hon drwy ei synwyr' fwrw golau eglurach ar y rhyfeddod hwn.

Y TRYDAN (DETHOLIAD) - JOHN JONES
Oesau y tadau a'i dwys astudient,
I gael ei meddwl i'r golau meiddient Agor a chwalu ei geiriau, chwilient Ystorfa'i henwau a'u hystyr fynent; I eigionau ei hawyr esgynent Ac i iselion ei chreigiau sylwent, Ei nwyon rywfodd a ddadansoddent, Y tidau gallofyddol ddattodent, A'r fferyllol unol a wahanent - Trwy galon ei chudd fatterau gwelent, A'i thywyll giliau yn olau wnelent; Eto i gyd er cymaint a godent I hoewaf einioes, megys o fynwent Hell tywyllwch - er pelled deallent - Diau, rhyw fyrdd adawent - mewn gwyll blwng O wersi teilwng i aros talent. |
Pennod galed nodedig - hir adeg
Fu y trydan ffyrnig; Bu oesau gwir bwysig - yn dra diwyd I gael hyd i'w meddwl dirgeledig. Ond yr oes hon drwy ei synwyr A'i dysgedigaeth helaeth a ŵyr Y ffordd i agor dorau - tywyllwch A dwyn argelwch trydan i'r golau. |
Y BARDD
Ffermwr a bardd o deulu enwog Ty'n y Braich, Dinas Mawddwy oedd John Jones. Roedd yn eisteddfodwr brwd ac yn ymchwilydd brwd i ddechreuadau mudiad yr Anibynnwyr yn Ninas Mawddwy. Bu'n byw yng Nghaer am gyfnod yn ystod y 1860au, ac fe'i etholwyd yn Gynghorydd cyntaf Mawddwy ym 1889.

1871
|
Ioan Emlyn oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Môn 1871. O Gastellnewydd Emlyn yn wreiddiol, roedd ar y pryd yn weinidog yn Llandudno. Cyhoeddwyd nifer o'r englynion cyfarch a dradoddwyd yn ystod seremoni'r cadeirio yn Seren Cymru ar 18 Awst 1871:
Ein Emlyn a ymlynodd - yn ei ddysg,
Yn ei ddawn ennillodd; Mae hwn yn fardd mewn iawn fodd, I'r gadair dderw gododd. |
Megys cawr hwylfawr elfen, - ddeallodd
Ewyllys ei awen; Cawr y byd cywir ei ben, Ac erioed uwch Ceridwen. (Bodran) |
Gan Emlyn ni gawn amledd - dorus
O Gadeiriau Gwynedd;
Yn awr ca'dd wel'd ei fawredd
Yn nrych mawr Llanerchymedd. (Trebor Mai)

Ni cheir gwrid ar Geridwen, - ochenaid
Ni chynnych yr awen; Ceir tegwch yn harddwch nen, Drwy alwad y farn drylen. |
Tra yn Môn y ceir bonedd, - tra doniau
Trydanawl plant Gwynedd, Am iawnder dioferedd Ucha'i mawl Llanerchymedd. (Alfardd) |
Sonir yn yr un adroddiad fel y bu i Ioan Emlyn hefyd dderbyn anerchiadau gan Gwalchmai, Iolo Morganwg, Nicander, Tudno, Peris, Gwilym Alltwen, Hwfa Môn ac Eidiol Môn.
Y BARDD
Ganed Ioan Emlyn yng Nghastellnewydd Emlyn ym 1818. Bu'n brentis oriadurwr cyn symud i Gaerdydd i weithio yn swyddfa'r Principality. Bu'n weinidog wedyn am gyfnodau ym Mhontypridd, Pen-y-cae, Caerdydd, Merthyr Tudful a Llandudno. Roedd yn olygydd, yn awdur ac yn fardd toreithiog a enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1860. Bu farw ym 1873. Portread: Anhysbys, Casgliadau ar-lein Amgueddfa Cymru Cofnod Ioan Emlyn yn Y Bywgraffiadur Cymreig: bywgraffiadur.cymru/article/c1-JONE-EML-1818 |
Nid oedd Islwyn yn bresennol ar gyfer y seremoni gadeirio, a chadeiriwyd cynrychiolydd (yn dwyn y ffugenw 'Clettwr') yn ei le, yn ôl adroddiad Baner ac Amserau Cymru (03.08.1872). Y beirdd oedd yn rhan o'r seremoni oedd Cynddelw, Nicander, Tanymarian ac O. Williams, Waunfawr; ac Edith Wynne fu'n gyfrifol am yr arwisgo a chân y cadeirio.
Y BARDD
Mae Islwyn yn fwyaf enwog am ei ddwy gerdd faith, y ddwy dan deitl 'Y Storm', a gyfansoddodd yn ei alar wedi marwolaeth ei ddyweddi, Ann Bowen o Abertawe. Cafodd ei eni ym 1832, a chafodd addysg i'w baratoi at y weinidogaeth yn Nhredegar, Casnewydd, y Bont-faen ac Abertawe. Roedd yn gystadleuydd mynych gyda'i farddoniaeth, ond heb lawer o lwyddiant ar y llwyfan mwyaf, er iddo ymgeisio droeon am Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu diddordeb ysgolheigaidd sylweddol yn ei waith yn ystod yr ugeinfed ganrif, gyda rhai fel W. J. Gruffydd, T. H. Parry-Williams a Gwenallt yn astudio'i farddoniaeth. Bu farw ym 1878, yn 46 oed. Cofnod Islwyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-THOM-WIL-1832 |
1873
|
YR EISTEDDFOD
Achosodd Eisteddfod Môn Porthaethwy 1873 gryn gynnwrf yn y byd eisteddfodol, a hynny oherwydd yr hyn a ddigwyddodd yn ystod seremoni'r cadeirio. Wedi i Ioan Arfon draddodi'r feirniadaeth ar yr awdlau i '[D]distawrwydd', safodd y sawl a ddygai'r ffugenw Salis ar ei draed, sef Dr William Morgan Williams, meddyg deugain oed a oedd wedi ymgartrefu yn Llansantffraid Glan Conwy. Yn hytrach na'i gymeradwyo, torrodd nifer o'r beirdd eraill, gan gynnwys y beirniaid, a oedd yn bresennol allan i fonllefau, a chyhuddwyd Williams o ennill y gadair trwy dwyll:
Daeth Alvardd ymlaen, a thystiodd yn y modd mwyaf pendant, mai nid y Dr. oedd awdwr yr awdl; a daeth Ioan Arfon drachefn i geisio cadarnhau yr hyn a ddywedai Alardd [sic]. Ar ei ol ef daeth Tudno Jones ymlaen i amddiffyn galluoedd Dr. Williams fel bardd. Daeth Gwilym Cowlyd ymlaen drachefn; yr oedd ei fys yntau yn y brywes, Dewi Mawrth, a Gethin Jones; a llusgwyd Ioan Glan Menai i ganol y pentwr nes yr oedd yr Eisteddfod oll trwyddi draw yn un gymysgfa Fabelaidd ferwedig fel crochan potes. (Y Goleuad)
Sail gwrthwynebiad y beirniaid oedd mai Gwilym Cowlyd (William John Roberts) oedd awdur yr awdl fuddugol a'i fod wedi ei gwerthu i Fferyllfardd er mwyn iddo ei chyflwyno i'r gystadleuaeth. Taerent hwythau mai gwaith Fferyllfardd oedd yr awdl, ond ei fod wedi ei rhoi i Gwilym Cowlyd i fwrw golwg drosti:
... cyfaddefodd fod Gwilym Cowlyd wedi gwneyd ychydig gyfnewidiad yma ac acw ynddi, megis newid ambell i air a diwygio ambell i linell, a hyny heb newid un iod ar y meddwl. Ond cyn ei hanfon i'r gystadleuaeth drachefn gwnaeth Dr. Williams ddiwygiadau ar ddiwygiadau Cowlyd eilwaith, fel na ŵyr Cowlyd na neb byw bedyddiol ar y greadigaeth ond efe yn unig a'r beirniaid sut yr oedd yn sefyll yn y gystadleuaeth. (ibid.)
Sefydlwyd pwyllgor yn ystod y prynhawn i drafod y benbleth hon, a daethpwyd i'r casgliad - er mai prin iawn oedd y dystiolaeth y naill ffordd na'r llall - y byddai Fferyllfardd yn derbyn ei gadair. Fodd bynnag, roedd amod i hynny - a hynny ar sail credoau'r Orsedd ...
Teg ydyw hysbysu na chadeiriwyd y bardd o gwbl, oblegid fod hyny, meddant hwy, yn amhosibl. Yr oedd yn rhaid cadeirio ar hanes dydd, sef ar "awr anterth," ac felly gorfu i'r bardd fyned adref heb ei gadeirio, ond yr ydym yn gobeithio y cadeirir ef yn ogoneddus yn Llansantffraid ... (ibid.)
Ni chafodd Fferyllfardd ei gadeirio yn ôl braint a defod felly, ac mae'n debyg i hynny bwyso'n drwm ar ei feddwl - yn wir, credai rhai mai'r poen meddwl a achoswyd iddo a'i enw fel bardd oedd y tu ôl i'w farwolaeth yn ŵr ifanc 44 oed, rhai blynyddoedd yn ddiweddarach.

Er i Ioan Arfon ac Alfardd wrthdystio i hawl awdl Fferyllfardd i gael ei chadeirio, amddiffynid ef gan Tudno, y trydydd beirniad, a chafodd y bardd ei annog trwy'r gefnogaeth hon i gyhoeddi ei awdl ar ffurf pamffled, a argraffwyd gan W. Jones, Conwy, yn Hydref 1873. Yn ei gyflwyniad i'r pamffled, mae Fferyllfardd ei hun yn cael cyfle i ddweud ei ddweud am y sefyllfa. Mae'r chwerwedd a'r siom yn amlwg yn ei eiriau, wrth iddo bwysleisio ei fod yn cyflwyno ei awdl i sylw'r cyhoedd ar fyrder er mwyn tawelu'r dyfroedd.
Wrth gyflwyno fy awdl i'ch sylw, ofnwyf ddarfod i'r ffrwgwd anweddaidd a diachos o berthynas iddi greu dysgwyliadau eithafol am ei theilyngdod; ac os bydd iddi syrthio yn fyr o gyrhaedd safon y feirniadaeth, bydded y beirniaid, ac nid yr awdwr, gyfrifol i'r darllenydd.
Cyflwynodd yr awdl ar ddechrau'r pamffled i'w hen gyfaill, Gwilym Cowlyd, yr hwn yr oedd wedi ei gyhuddo o lên-ladrata o'i waith.
O'R FEIRNIADAETH
Argraffwyd y feirniadaeth eithriadol ganmoliaethus ar gychwyn pamffled Fferyllfardd. Dyma ddyfynu ohoni:
Llwyddodd y bardd hwn i gyfansoddi un o'r awdlau godidocaf a ddaeth i unrhyw gystadleuaeth er's talm; ac yn sicr cyfrifwn ei bod yn addurn i lenyddiaeth y genedl [...]
Gellir darllen y cyflwyniad a'r feirniadaeth yn gyflawn yn Dystawrwydd: sef yr Awdl fuddugol ar Destyn y Gadair yn Eisteddfod Gadeiriol Môn, 1873. Ceir atgynhyrchiad digidol o'r pamffled hwn am ddim ar Google Books yma.
Y BARDD Ganed William Morgan Williams ym Mhwllheli ym 1832. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Botwnnog ac aeth yn brentis fferyllydd yng Nghaernarfon. Hyfforddodd fel meddyg yng Nglasgow, a bu'n feddyg yn Llansantffraid Glan Conwy am weddill ei oes. Roedd yn aelod o orsedd 'amgen' Arwest Glan Geirionnydd (a sefydlwyd gan Gwilym Cowlyd). Nid oedd yn gystadleuydd mynych ac hwyrach mai dyna un o'r rhesymau y bwriwyd amheuaeth ar ddilysrwydd ei gyfansoddiad yn Eisteddfod Môn 1873. Bu farw ym 1877, yn 44 oed. |
1874
Mae'n anodd cael hyd i gadarnhad a gynhaliwyd Eisteddfod Môn ym 1874 ai peidio. Cyhoeddwyd yr hysbyseb isod yn Baner ac Amserau Cymru ar 7 Ionawr 1874, felly mae'n eglur bod bwriad bryd hynny i gynnal yr eisteddfod yn Amlwch. Gwelir fod y prif destunau wedi'u gosod gydag addewid am 'r[h]estr gyflawn o'r Testynau a'r Beirniaid yn fuan'. A gyhoeddwyd y fath restr? Ynteu a benderfynwyd am ba bynnag reswm i beidio bwrw ymlaen gyda'r trefniadau. Gwyddys mai ym Mangor y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn hynny, a gallai fod hynny wedi effeithio ar y cynlluniau mewn rhyw fodd.
Siom fawr i'r gynulleidfa helaeth yn Eisteddfod Môn 1875, a gynhelid yn Llannerch-y-medd, oedd cael ar ddeall na dderbyniwyd yr un ymgais ar destun y gadair. Mewn sefyllfa anarferol iawn, penderfynwyd bwrw ati gyda seremoni'r cadeirio er gwaetha'r diffyg cystadleuwyr - ac felly'r diffyg teilyngdod - gyda Morwyllt, a ddeuai'n fardd cadeiriol Eisteddfod Môn yn ei hawl ei hun ym 1877, yn llenwi esgidiau'r buddugwr. Daw'r canlynol o adroddiad Baner ac Amserau Cymru ar 11 Awst:
Gan na ddaeth yr un cyfansoddiad ar destyn y gadair, barnodd y pwyllgor yn ddoeth fyned trwy y seremoni o gadeirio y buddugol ar y testyn hwn, yn gymmaint a bod llawer fe ddichon, wedi dyfod i'r eisteddfod i weled y seremoni o gadeirio. Daeth Morwyllt, Llangefni, yn mlaen i fyned o dan y seremoni. Dealler nad ystyrir Morwyllt yn gadeirfardd ar gyfrif y seremoni hon. Gwisgwyd ef gan Mair Alaw, sef gweddw gwrthddrych y testyn, a Mam Tegerin a Carwad. Aed trwy y gorchwyl o gadeirio gan Clwydfardd, Gwalchmai, Meilir, Tudno, Tanymarian, Iolo Trefaldwyn, &c.
Cyhoeddwyd yn ystod seremoniau gorseddol yr eisteddfod hon y byddid yn cynnal Eisteddfod Gadeiriol y flwyddyn ddilynol yn Amlwch (er mai yn Llangefni y cynhaliwyd Eisteddfod 1876 yn y pen draw), ac y byddai 'Eisteddfod Freiniol a Chenedlaethol' yn Mhorthaethwy ym 1877 (eto, yng Nghaernarfon y cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol 1877, er fod yr Eisteddfod Gadeiriol a gynhaliwyd wedyn ym Mhorthaethwy 1878 yn llygaid rhai yn Brifwyl Genedlaethol).

Ar y pryd, llythyr-gludydd rhwng Berw a Niwbwrch oedd Gwilym Berw, enillydd ugain oed y gadair yn Eisteddfod Môn 1876, y bumed yn y gyfres hon o eisteddfodau. Arweiniwyd y seremoni gan Clwydfardd, yr Archdderwydd, gyda chymorth Mynyddog, Alawydd Menai, Meilir Môn ac eraill.
Roedd y feirniadaeth ar y gystadleuaeth yn un rhyfedd o gryno, ag ystyried hyd rhai. Neilltuwyd mwy o amser i fyfyrio ar hanes y testun mewn cyd-destun eisteddfodol nag i roi sylw i'r ymgeiswyr unigol (gellir darllen yn llawn yn Llais y Wlad, 4 Awst 1876):
Bu awdl-farwnad i Goronwy Owen yn destyn gwobrwyol Cymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain, yn 1803, pan ddaeth y triwyr enwog, Thomas, o'r Nant; Gutyn Peris, a Dewi Wyn i ymgystadlu arno. I Gutyn Peris y dyfarnwyd y wobr hon [...] Dodwyd y testyn allan drachefn, am yr awdl oreu arno i Eisteddfod Dinbych, yn 1828. Derbyniwyd rhyw nifer o awdlau arno, ond attaliodd y beirniaid y wobr, am nad oedd yr un o'r cyfansoddiadau yn deilwng o honi, meddynt hwy [...] Wele, etto, y drydedd waith, dyma y testyn allan, ac wele ddeg o ymdrechwyr glewion ar faes y gystadleuaeth am y wobr [...]
Ysgrifennodd un o siomedigion cystadleuaeth Llangefni at bapur Llais y Wlad bythefnos yn ddiweddarach, gan gwyno na roddwyd prin unrhyw sylw i'r naw ymgeisydd aflwyddiannus yn y feirniadaeth. Yn ei lith mae'n ymboeni'n fawr i bwysleisio nad dadlau yn erbyn cadeirio Gwilym Berw y mae (er ei fod yn cael hynny'n anodd weithiau!):
Deallwch, Mri Gol., nad wyf fi yn haeru nac yn meddwl y fath beth, y gwnaed cam a'r naw ymgeisydd arall trwy ddyfarnu "Edmygydd" yn oreu; ond haeru yr wyf y dylasent oll fod wedi derbyn beirniadaeth deg a chyflawn ar eu cyfansoddiadau, ac nid eu taflu o'r ffordd fel baw i domen heb wneuthur un sylw gwerth ei ail-adrodd arnynt. Y mae yn syndod i'r byd Cymreig ganfod dynion o safle Hiraethog a Hwfa Môn yn gwneud y fath feirniadaeth dila a phlentynaidd ag ydyw hon.
Y prif gyhuddiad yw nad yw'r beirniaid wedi rhoi rheswm teg pam fod gwaith Gwilym Berw yn rhagori ar y lleill, ac mae'n dwyn sylw at feirniadaeth arall o'r un flwyddyn, yn Eisteddfod Llanrwst, lle bu anfodlonrwydd eto ynghylch beirniadaeth y gadair. Mae'n bwrw ei sen yn drwm ar Fôn gyfan!:
[...] os tylawd yn Llanrwst, tylotach o'r haner yn Llangefni. Ond -
"Golchwch mor wyn a'r galchen,
Moch ydyw moch hyd Amen."
Aiff yn ei flaen i nodi fod beirdd profiadol ac egin-feirdd fel ei gilydd wedi eu siomi gyda'r feirniadaeth. Mae cynffon y frawddeg 'Yr ydwyf bellach yn llwyr argyhoeddedig mai motto Eisteddfod Gadeiriol Mon, 1876, ydoedd [...]' wedi ei thynnu allan gan y golygyddion, fel na all dyn ond defnyddio'i ddychymyg i ddyfalu maint dicter awdur y golofn! Gellir darllen y gŵyn yn ei chyfanrwydd yn rhifyn 18 Awst 1876 Llais y Wlad.
Cyfeiria hefyd at 'un o'r camweddau mwyaf melldigedig a wnaed erioed mewn eisteddfod' yn ei dyb ef, sef aflwyddiant ei gyfaill, Henry Gwynedd Hughes, yng nghystadleuaeth yr englynion beddargraff er cof am y Parch. H. W. Thomas, Llangefni. Caed awgrym fod yr englynion gorau, eiddo 'Galarwr gwyl ei eiriau' (sef Gwynedd Hughes), yn llenladrad, a rhoddwyd y tlws aur i Morwyllt. Yng ngholofn Gymraeg yr Aberystwyth Observer ar 19 Awst ochrwyd â Gwynedd Hughes:
Gallesid meddwl wrth yr holl hysbysiadau am eisteddfod Llangefni yn Mon, y buasai hono yn ardderchog, ond diflanodd hithau fel cloch y dwfr. Nid oedd hon yn rhydd oddiwrth ladrad, canys yspeiliwyd Henry Gwynedd Hughes, un o'r cystadleuwyr, o fathodyn aur, am iddo feiddio anfon ei waith ei hunan i'r gystadleuaeth! [...] Rhaid i bwyllgor hunan-etholedig eisteddfod Llangefni gael yr anrhydedd, neu beth bynnag yr ewyllysir ei alw, o ddarganfod ffordd effeithiol i gosbi cystadleuwyr am fod yn onest. Dylai yr ychydig lenorion gonest sydd yn Nghymru, ac ychydig ydynt, godi llais condemniol yn erbyn hyn. Pob parch dyledus i gyfeillion, ond na fydded i ni yspeilio gelyn i addurno mynwes y cyfaill gorau â medal nad yw yn haeddu.

Ganed William Lewis ym Mhentre Berw, Môn, ym 1846. Daeth i amlygrwydd fel bardd yn ifanc iawn a phrofi cryn lwyddiant mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol cyn rhoi ei fryd ar yr Eglwys a chael ei ordeinio yn ddiacon ym 1882. Bu'n rheithor Llanfihangel-y-Pennant ym Meirionydd am 26 mlynedd, ac yno y bu farw ym 1917.
Ysgrif Goffa Gwilym Berw yn Y Cloriannydd, 21 Chwefror 1917: papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3784106/3784108/26/?fbclid=IwAR3tPB0tsb7SGBGBKKFFUmJu2qLK4RlgyJX3Gpp9RyF3AJk_xKh_oSbUpKo

Cafwyd teyrngedau i Mynyddog yn ystod seremoniau gorseddol yr eisteddfod hon. Roedd Mynyddog o Lanbrynmair yn gymeriad amlwg yng ngweithrediadau eisteddfod Môn, a thraddodwyd cerdd goffa gan Y Thesbiad (John Roose Elias, 1819-1881), sy'n cynnwys y llinellau hyn:
Yn naear ddu hen Gapel Llanbrynmair
Mae'r tafod hyf fu'n traethu'r ffraeth-bert air!
Mae'r llygaid byw fu'n lluchio trydan trwy
Y gynnulleidfa fawr, ynngheuad mwy!
Ceir y gerdd yn ei chyfanrwydd ynghyd ag adroddiad manwl o ddigwyddiadau'r eisteddfod yn Llais y Wlad, 10 Awst 1877.
Clwydfardd oedd derwydd gweinyddol yr eisteddfod, ac yntau'n Archdderwydd Cymru ers y flwyddyn flaenorol, a chynhaliwyd digwyddiadau'r orsedd ar y sgwâr y tu allan i Westy'r Crown yn y pentref.

Y Crown, Llanfechell, tua chanol yr 19G - Llun Cymdeithas Hanes Mechell
Ymhlith y cyfarchion i'r bardd buddugol gan y sawl oedd yn bresennol yn y seremoni, roedd yr englyn hwn gan Tegerin:
Er mawredd prif-feirdd Meirion - a doniau
Denawl hen feirdd Eifion;
'E orfu i feirdd Arfon
Roddi mawl i brif-fardd Môn.

Awdl yn null arferol yr oes yw hon - sef awdl sy'n cymryd ei thestun ac yn canu arni o bob cyfeiriad, yn hytrach na manylu ar un. Aiff y bardd o ddarlunio dymuniad pawb am enwogrwydd i fynegi mai ychydig sy'n ei dderbyn, a bod hyn yn sbarduno'r ymdrech i'w gyrraedd. Ceir sôn am raddau enwogrwydd pobloedd mewn hanes, megis y Rhufeiniaid a'r Groegiaid, cyn iddo droi at rai o enwogion ei wlad ei hun, fel yn y darn cywydd hwn:
Hyd heddyw dal yn Ngwalia
'N anwyl ddyn mae'n Hywel Dda;
A'r hen Gatwg amlwg yw,
Odiaeth drwy'r oesau ydyw;
Ac Emrys restra'r Cymro
Yn barhaus mewn bri'n ein bro;
Erys bri Sal'sbri llawn sêl,
Oesoedd dros Walia isel;
A'r Dr. Morgan, cariad
At Gymru fu'n ei fron fâd.
Mae'r awdl yn gorffen gyda'r neges ddiwinyddol mai duwioldeb yw gradd uchaf enwogrwydd, a bod Duw wedi rhoi gwir enwogrwydd o fewn gallu a chyrraedd pob un. Cyhoeddwyd yr awdl a beirniadaeth Tudno a Chlwydfardd arni yng nghyfrol y Cyfansoddiadau, a gyhoeddwyd gan bwyllgor yr eisteddfod ac a argraffwyd yn Amlwch gan D. Jones, Llyfrwerthydd.
O'R FEIRNIADAETH
Derbyniwyd pedair awdl i'r gystadleuaeth. Barnai'r beirniaid mai ymgeisydd ifanc ac amhrofiadol oedd 'Eryron':
Ni charem yngan sill i ddigaloni ymdrechwr ieuanc, ond anogem yn garedig i'r awdwr hwn ddechreu esgyn ysgol enwogrwydd barddol ar ffon îs na'r Gadair.
Ni allent wneud pen na chynffon, wedyn, o awdl 'Llywarch Hen', a ganodd yn anhestunol, ond ar oddeutu pedwar testun arall. Clytwaith o gerdd oedd hon. Rhwng 'Idwal' [y buddugol] ac 'Emrys Ben Aur' yr oedd yr ornest mewn gwirionedd. Roedd 'Emrys Ben Aur', er crwydro rhag ei destun ar brydiau, yn fardd awenyddol, meddent, ac yn gynganeddwr cadarn:
Ystyriwn yr awdl hon yn anrhydedd i allu ei hawdwr, ac i'r gystadleuaeth a fu yn offerynol i'w chynyrchu; a'n hunig ofid yw, na lynasai "Emrys" yn ffyddlonach wrth ei destyn.
Ei gwastadedd a'i chysondeb a enillodd y gadair i Morwyllt, mae'n debyg:
Nid ydym yn cyfarfod â bryniau a phantiau, gwanegau a thonau anwastadrwydd yn y cyfansoddiad hwn; nid yw yr awdwr yn esgyn ond yn anfynych i gymydogaeth yr aruchel, nac ychwaith yn disgyn i gyffredin; eithr yn hytrach y mae cyfartaledd teilyngdod yr awdl drwyddi yn gyfryw fel y gallasem ddyfynu unrhyw ran neillduol er dangos ei rhagoriaeth [...] Wedi rhoddi ystyriaeth ddifrifol a phwyllog, ar wahan oddiwrth ein gilydd, i'r ddwy awdl ydynt yn ffurfio y dosbarth cyntaf yn y gystadleuaeth hon, yr ydym yn cael y fantol yn troi o blaid Idwal, ar gyfrif cynghanedd, cynllun, a gweithiad allan; ac, ar air a chydwybod, iddo ef y dyfarnwn y wobr a'r anrhydedd [...]

Bardd gwlad a aned yn Llangefni ym 1839 oedd Morwyllt. Roedd yn fwyaf adnabyddus am y gân boblogaidd o'i eiddo, 'Yr Ornest', a anfarwolwyd wedi i rai fel Eos Morlais ei harddel a'i pherfformio. Bu farw ym 1921.

Ym 1878 gwelwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn mentro dros y ffin i Loegr am y tro cyntaf. Roedd Eisteddfod Genedlaethol Penbedw o fewn tafliad carreg i Gymru ond roedd y penderfyniad ar y pryd yn un dadleuol a chynhennus. Gwelai nifer fod Eisteddfod Gadeiriol Môn ym Mhorthaethwy - fel un o'r eisteddfodau is-genedlaethol mwyaf - yn codi fel rhyw fath o wrth-eisteddfod i'r genedlaethol.
Fel pe bai'n adlewyrchiad o hynny, gwelir fod y wobr ariannol yng nghystadleuaeth y gadair yn uwch o lawer na'r blynyddoedd blaenorol, a bod y panel o dri beirniad hefyd yn adlewyrchu arfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yn eisteddfod eang a llwyddiannus, gyda thyrfaoedd yn eu miloedd a'r gweithrediadau'n parhau o ddydd Mawrth hyd nos Wener (6-9 Awst).
Enillydd cystadleuaeth y gadair am awdl ar y testun 'Ager' oedd William Milton Aubrey, a oedd yn 17 oed ar y pryd, un o'r ieuengaf os nad yr ieuengaf erioed i ennill y gystadleuaeth hon. Roedd yn hanu o deulu barddol, ac yn fardd ifanc disglair ac addawol. Bu farw'n ifanc ym 1889, dan amgylchiadau trasig.

Canodd Machraeth Môn yr englynion hyn wedi iddo weld cadeiriau eisteddfodol tair cenhedlaeth – Anarawd, Meilir Môn (ei dad), a Gwalchmai (ei daid) – gyda’i gilydd yn yr un tŷ. Y gadair olaf y cyfeirir ati yn y gyfres yw Cadair Porthaethwy 1878:
Tair cenhedlaeth! trwy’u cain odlau – nodir
Goludoedd eu doniau: Awen sydd yn rhydd fawrhau Awduron trwy’u cadeiriau. Mad arwr – Gwalchmai dirion – awenai Dlws-addurnol geinion; Un o’i meib a enwa Môn Yn awdlwr coeth hyfrydlon. |
Cadair Meilir! fardd mirain – deil arawd
Pert delorydd cywrain; Diwyro’i hewyd arain, Awdur cu trwy cadair ‘Cain.’ Rhin eirias ‘Ager’ Anarawd – ddenai Ein barddonol gysawd; Purwych awenydd parawd, Taniog wefr ein Milton gawd. |
Y BARDD
Ganed William Milton Aubrey yn Llannerch-y-medd ym 1861. Roedd yn hanu o deulu o feirdd; ei dad oedd David Aubrey (Meilir Môn), a'i daid ar ochr ei fam oedd Gwalchmai. Roedd yn ddawnus fel bardd o oed ifanc iawn ac enillodd lawer o wobrau gan gynnwys gwobr am yr awdl-bryddest orau yn Eisteddfod Chicago 1880, pan nad oedd eto'n ugain oed. Bu farw'n drasig o ifanc pan foddodd yn Llyn Tegid ym 1889, yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr yng Ngoleg y Bala.
Cofnod Anarawd ar Wicipedia:
cy.wikipedia.org/wiki/William_Milton_Aubrey_(Anarawd)

ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH WILLIAM MILTON AUBREY (ANARAWD) [2]
Roedd Anarawd, a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, yn ddeunaw oed adeg yr eisteddfod ac eisoes yn gyn-enillydd y gystadleuaeth (1878). Roedd yn fardd ifanc addawol a brofodd gryn lwyddiant mewn eisteddfodau yn ei oes fer. Bu farw tra'n fyfyriwr yng Ngholeg y Bala, trwy iddo foddi yn Llyn Tegid. Roedd yn fab i'r bardd Meilir Môn. Gallwch weld mwy o'i hanes ar Wicipedia yma.
Roedd Anarawd yn un o'r beirdd a gyfarchodd Gwilym Alltwen ar achlysur ei gadeirio, ynghyd ag Edward Lloyd (Tegfelyn), Gwilym Mathafarn, Tanymarian, Iolo Trefaldwyn, Morwyllt, Tudur a Lleurwg. Arweiniwyd y seremoni gan Iolo Trefaldwyn (Y Dydd, 01.08.1879).

Gellir dychmygu y bu hon yn fuddugoliaeth felys i Gaerwenydd, oedd wedi hen ymgartrefu ym Methesda, wrth iddo ennill Cadair Môn â'r eisteddfod ym mro ei febyd.
Roedd hon yn eisteddfod o siom, gan y bu i storm enbyd chwalu'r babell fawr a godwyd gan y pwyllgor yng Ngaerwen. Roedd y strwythur wedi ei fwriadu i ddal cynulleidfa o hyd at 2,500. Llwyddwyd i adfer rhywfaint ohoni, gan sicrhau bod to uwchben y llwyfan, ond nid dros y gynulleidfa. (Adroddiad manylach yn Y Drych, 30.08.1883).

Brodor o Fôn oedd Gaerwenydd (1837-1898 [61]), ond fe dreuliodd fwyafrif ei oes ym Methesda yn Arfon, lle y bu'n gweithio fel teiliwr. Roedd yn fardd cynhyrchiol a llwyddiannus ac yn arweinydd eisteddfodau poblogaidd.
Gallwch ddarllen cofnod Gaerwenydd ar Wicipedia yma.

Cafwyd tipyn o stŵr ynglŷn â'r seremoni gadeirio yn yr eisteddfod hon, gan i Hwfa Môn (a fyddai'n Archdderwydd Cymru ymhen ychydig flynyddoedd) wrthod cadeirio'r bardd buddugol yn ôl trefn Gorsedd y Beirdd.
Disgrifiai gohebydd Baner ac Amserau Cymru (08.04.1891) y sefyllfa â chymysgedd o ddigrifwch a siom - gan ddweud ei bod yn rhyfeddod i lawer fod Hwfa Môn 'yn gwrthod cadeirio y bardd buddugol yn ôl urdd, braint, a defawd Beirdd Ynys Prydain, ac yntau wedi ei gyflogi i feirniadu a chario allan y gweithrediadau yn unol â chais ei gyflogwyr'.
Cymerodd Hywel Cefni, a oedd wedi ei siomi'n arw gan y penderfyniad, y cyfle i daro'n ôl ar benderfyniad y beirniad: 'Os gwrthodai Hwfa Môn fyned trwy y seremoni yn yr eisteddfodau cadeiriol talaethol neu leol, ond yn unig yn yr Eisteddfod Genedlaethol, na ddylid ar un cyfrif ganiatau i'r bardd ennill cadair ond unwaith, gan mai, fel rheol, yr un rhai byth a hefyd a ennilla y llawryfon, ac a gadeirir [...]'

Roedd 1907 yn cynrhychioli gwawr newydd yn hanes eisteddfodau cadeiriol Môn. Sefydlwyd Cymdeithas Eisteddfod Gadeiriol Môn yn dilyn llwyddiant eisteddfod a gynhaliwyd yn Llanrhuddlad ym 1906, er mwyn dwyn cymunedau'r ynys ynghyd yn y gwaith o gynnal eisteddfod deithiol flynyddol.
Yn ôl adroddiad Y Brython Cymreig ar 23 Mai 1907, cafodd y bardd buddugol ei arwisgo gan yr Arglwyddes Stanley o Alderley, gyda Kate Rowlands yn datgan cân y cadeirio. Ymysg buddugwyr llenyddol eraill yr eisteddfod roedd Neifion, Bwlchgwyn (hir-a-thoddaid); a'r Parch. J. E. Jones, Llanfwrog (englyn).
CYFARCHION
Cyhoeddwyd detholiad o'r englynion cyfarch a gyfansoddwyd i Gwilym Ceiriog yn Y Clorianydd ar 23 Mai 1907:
Hwn a'i gan llawn o geinion - i'r Gwlaw
Gaiff hir glod gan feirddion:
Cadair addas coed Derwyddon -
A'i hurdda mwy yn ben bardd Mon.
(Dyfrydog)
Gwiw arwr na fun ei guraw, - gwelwch
Gwilym Ceiriog flaenllaw,
Doeth, addien; a daeth iddaw
Loewaf glod ar lif y gwlaw.
(Dolfor)
Cadeiriwn ein cyd-wron - yng ngwydd haul,
teilwng ddull y beirddion:
Un o'n dewraf awduron - yn ddiau
Codwyd i raddau gwych gadeiryddion.
(T. Morris Owen)
Ceridwen ieuanc rodiodd, - a braich
Ein brawd a gymerodd;
Tua'i golau 'e 'i hudodd - ei awen
A'i hasbri dilen a ysbrydolodd.
Gyfaill hoff, gafael llaw - y mae y beirdd
Bob un am dy urddaw;
Pwy sydd na chydnabyddaw,
Y dewr, glew - awdwr y Gwlaw.
(Teganwy)
Hwn oedd y "glaswelltyn" ir - ac wele
Gwilym o'r dyffryndir:
Mwy, ei haul ni chymylir, -
wedi'r "gwlaw" caed awyr glir.
(E. O. Jones)
Nodai'r adroddiad mai'r beirdd eraill fu'n cyfarch oedd Meilir Môn, Meurig Cybi, Odwyn, Cybi Felyn, Llyfnwy, Llew Llwyd, a Pedrog - 'y diweddaf yn ffraeth neillduol, gan ddweyd fod Gwilym "A'i ben gwlyb yn y gwlaw!".

Brodor o Ddyffryn Ceiriog oedd Gwilym Ceiriog, ond treuliodd ei oes yn byw yn nhref Llangollen. Bu'n fardd llwyddiannus mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol ar hyd ei oes. Pinacl ei yrfa fel bardd oedd ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1911 (sydd i'w weld yn y llun) am awdl i 'Iorwerth y Seithfed'.

1908
|
1911
|
Nid oedd Dewi Emrys yn bresennol i gael ei gadeirio yn yr eisteddfod, a chafwyd nodyn siomedig gan Dewi Meirion yn ei adroddiad yn y Brython ar 4 Mehefin 1914, a ddywedodd mai 'siomedigaeth fawr i'r gynulleidfa oedd hyn, ac yn enwedig i'r beirdd, oedd yn gylch parod i'w longyfarch â'u hanerchiadau.' Cadeiriwyd Arglwydd Boston (un o'r llywyddion anrhydeddus) yn ei le, gan roi'r anerchiadau heibio. 'Yn sicr', meddai'r gohebydd, 'dylid gosod amod alluogai ysgrifennydd yr Eisteddfod i allu cyhoeddi enw'r buddugol, pa un a fyddai yn bresennol ai peidio.'
Y BARDD
Ganed y Prifardd David Emrys James yng Ngheredigion ym 1881. Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, a'i choron unwaith, gan olygu mai ef yw un o'r beirdd cystadleuol mwyaf llwyddiannus yn hanes y Brifwyl. Roedd yn adnabyddus am ei bregethu tanbaid, ei fywyd personol tymhestlog, ac am fod yn un o'r collwyr salaf yn hanes yr Eisteddfod. Cyhoeddodd lawer o gyfrolau a bu'n gyfrifol am golofn farddol Y Cymro am flynyddoedd lawer. Treuliodd ddiwedd ei oes yn byw yn Y Bwthyn yn Nhalgarreg gyda'i ferch, Dwynwen. Bu farw ym 1952. Cofnod Dewi Emrys yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-JAME-EMR-1881 |
Gohiriwyd Eisteddfod Gadeiriol Môn Rhosneigr 1915 am flwyddyn oherwydd effeithiau'r Rhyfel Mawr. Ymddangosodd y nodyn arwyddocaol a ganlyn yn Y Goleuad ar 22 Ionawr 1915:
Oherwydd y rhyfel, penderfynwyd peidio cynal Eisteddfod Gadeiriol Môn eleni. Gohirir hi hyd y Llungwyn a Mawrthgwyn, 1916. Y mae'n debyg fod y Mônwyson yn credu y bydd y rhyfel heibio erbyn hynny. Gobeithio eu bod yn iawn.
Nid gohirio am flwyddyn fu'r hanes yn y pen draw, ac nid yw hynny'n syndod. Rhygnodd y rhyfel a'r gohirio ymlaen am flynyddoedd lawer eto. Ymddangosodd y nodyn a ganlyn yn Y Clorianydd ar 14 Ionawr 1917, dan bennawd yr Eisteddfod a'i Chymdeithas:
Bydd yn dda gan garedigion y gymdeithas a'r eisteddfod uchod ddeall fod y trysorydd twymgalon, Mr R. J. Thomas, Garreg Lwyd, Caergybi, yn parhau i danysgrifio 20p y flwyddyn i'w thrysorfa, a'i fod hefyd wedi buddsoddi cyllid y gymdeithas i'r fantais oreu ym menthycion y rhyfel. Gynted y ceir heddwch ail-enynnir y sel eisteddfodol yn yr ynys.
Erbyn 1919, â'r rhyfel bellach ar ben, roedd paratoadau ar droed i ailgodi'r eisteddfod. Yng ngholofn Trebor Llechid, 'Nodion o Fôn' yn Y Drych (papur newydd Cymry Gogledd America), ar 24 Gorffennaf 1919, nodir sut y bu i gymdeithas yr eisteddfod gyfarfod yn Llangefni dan lywyddiaeth W. Hughes (Gwilym Einion). Erbyn hynny, roedd Rhosneigr (lleoliad bwriadedig yr eisteddfod yn ôl ym 1915) wedi tynnu eu cais i'w chynnal yn ôl, ac ar gynnig y Parch. J. Williams, gyda Thomas Roberts, Porthaethwy, yn eilio, penderfynwyd cynnal Eisteddfod Gadeiriol Môn 1920 yn Llanerchymedd.

1921
|
Tryfanwy, y bardd dall a byddar o Borthmadog, oedd enillydd cadair Môn, Porthaethwy 1921.
Y BARDD
Ganed John Richard Williams yn Rhostryfan ym 1867. Bu farw ei rieni ag yntau'n ifanc, ac fe'i magwyd gan ei fodryb ym Mhorthmadog. Roedd yn ddall ac yn fyddar ers yn blentyn, ond llwyddodd i gael gafael ar hanfodion y grefft o farddoni yr un fath, a bu'n bur lwyddiannus mewn eisteddfodau. Bu'n ddibynnol am gyfnodau maith ar ofal ei gyfaill, y bardd Eifion Wyn. Bu farw ym 1924. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i farddoniaeth - Lloffion yr Amddifad (1892) ac Ar Fin y Traeth (1910). Llun: Ar Fin y Traeth (1910) trwy Wikimedia Commons Cofnod Tryfanwy yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/en/s-WILL-RIC-1867.html |
1922DAVID EMRYS JAMES
(DEWI EMRYS) TESTUN Y GWRON DIENW FFUGENW HEN FILWR NIFER YN CYSTADLU 14 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO BEIRNIAID DYFED LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Y GERDD
Cyflwynodd Dewi Emrys bryddest cadair Môn fel pamffled dan yr enw Emrys James yn fuan wedi ei fuddugoliaeth. Fe'i argraffwyd gan yr Educational Publishing Co., Caerdydd a Llundain, a'i gyhoeddi gan y Camarthen Journal. Ei bris oedd swllt. Ar wyneb-ddalen y pamffled, cyflwynir y gwaith i Syr Robert a Lady Thomas; cafodd y bardd aros yn eu cartref dros benwythnos yr eisteddfod, wrth fod Syr Robert yn drysorydd anrhydeddus Cymdeithas yr Eisteddfod. Mae'r cyflwyniad yn un sebonllyd iawn, fel y noda Eluned Phillips yn ei chofiant i Dewi Emrys (Llandysul, 1971), gyda chyfeiriad at fywyd personol helbulus y bardd:
Rhaid nodi fod ganddo ddawn i seboni os oedd hynny'n fanteisiol iddo [...] yr oedd wrth ei fodd o dan gronglwyd urddasolion. Uchelwr ydoedd yn y bôn, ond heb yr adnoddau ariannol i'w gynnal felly.
Pryddest ar fydr ac odl, a Rhyfel Mawr 1914-1918 yn gysgod tywyll drosti, yw'r gerdd, sydd wedi ei rhannu yn dri chaniad - i. Maes y Croesau, ii. Yn y Ddinas, a iii. Yn yr Abaty.
Seiliodd y bardd ei gerdd ar hanesyn penodol a thrawiadol.

Ar 11 Tachwedd 1920, gosodwyd milwr dienw â statws anhysbys a laddwyd ar faes y gad yn Ffrainc i orffwys mewn bedd yn Abaty Westminster. Y Parch. David Railton, a wasanaethodd fel caplan i'r fyddin yn ystod y Rhyfel, oedd yn gyfrifol am y syniad o gladdu milwr dienw er cof am holl leiddiaid y Rhyfel Byd.
Cludwyd corff o Bolougne yn Ffrainc i Dover, ac yna i Lundain, lle ymgasglodd tyrfa o filoedd ar filoedd ar hyd y strydoedd i wylio'r arch yn mynd heibio. Disgrifia Dewi Emrys y dorf ddisgwylgar, fud, fel hyn: Pa wron ddisgwylir gan drem y miloedd? Pwy sydd i ymdaith drwy'r rhengoedd maith? Paham y mudandod a'r ocheneidio A'r dwyster sy'n gorffwys ar ruddiau llaith? Llun: Arch y gwron dienw yn Abaty Westminster (Wikimedia Commons) |
Ar ôl cysegru'r caniad cyntaf i'r weithred o gludo'r milwr dienw o faes y gad, a'r ail i bortreadu'r orymdaith a'r awyrgylch yn Llundain - lle roedd Dewi Emrys yn byw yn ysbeidiol - mae'r bardd yn ymweld â'r bedd yn yr Abaty.
Fel un a fu'n aelod o'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mae Dewi Emrys yn dod at lan y bedd gyda chof am ei gyfeillion yntau fu farw ar faes y gad; yn benodol am gyfaill o fugail. Tybed ai Hedd Wyn a grybwyllir yma? Mae'n anodd gwybod, ond mae'r bennill hon yn ein hatgoffa ohono, heb os:
Bu im' hen gyfaill, a bugail ydoedd,
A'i gân yn hyfrydwch i fryn a dôl.
Gadawodd ei braidd ar y foel un diwrnod,
A gŵyr y mynyddoedd na ddaeth yn ôl.
Mae'r bardd yn gweld menyw welw yn dod at lan y bedd wrth sefyll yno, menyw y tybir ei bod wedi colli ei chymar yn y Rhyfel, ac wrth ei gwylio'n cilio o'r Abaty i sŵn a symudiad y ddinas, mae'n wylo mewn anobaith o weld y Rhyfel yn creithio'r tŷ sanctaidd y mae ynddo. Ei sylweddoliad yw fod Crist yntau yn ddienw yn Nhŷ ei Dad wedi aberth drud ar y groes, ac mae'n holi am ba hyd y bydd y sarhad hwn yn parhau.
Mae'r bryddest yn gorffen yn obeithiol wrth i'r bardd glywed côr yn yr Abaty yn canu salmau, a theimlo cyfaredd ei grefydd yn torri trwy'r tywyllwch.
Ceir y bryddest yn ei chyfanrwydd yn Y Gwron Dienw: Pryddest Gadeiriol Môn, 1922 (Caerfyrddin 1922).
O'R FEIRNIADAETH
Y beirniad oedd Dyfed, Archdderwydd Cymru ar y pryd. Rhoddodd feirniadaeth hael a chanmoliaethus, y dyfynwyd ohoni ar ddechrau'r pamffled:
Pryddest odidog yw hon, yn llawn o gyfoeth y testun a'r Gwron Dienw ymhob llinell ohoni ... Mae yma gyfuniad o swyn a thynerwch, o syndod tawel a theimladau cyffrous ... Mae'r gelfyddyd wedi eu [sic] gweu'n fras fel gwisg Ioan Fedyddiwr; ond y mae yma ysbryd sy'n ddigon cryf i wneud i'r anialwch grynu ...
Fel un a fu'n aelod o'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mae Dewi Emrys yn dod at lan y bedd gyda chof am ei gyfeillion yntau fu farw ar faes y gad; yn benodol am gyfaill o fugail. Tybed ai Hedd Wyn a grybwyllir yma? Mae'n anodd gwybod, ond mae'r bennill hon yn ein hatgoffa ohono, heb os:
Bu im' hen gyfaill, a bugail ydoedd,
A'i gân yn hyfrydwch i fryn a dôl.
Gadawodd ei braidd ar y foel un diwrnod,
A gŵyr y mynyddoedd na ddaeth yn ôl.
Mae'r bardd yn gweld menyw welw yn dod at lan y bedd wrth sefyll yno, menyw y tybir ei bod wedi colli ei chymar yn y Rhyfel, ac wrth ei gwylio'n cilio o'r Abaty i sŵn a symudiad y ddinas, mae'n wylo mewn anobaith o weld y Rhyfel yn creithio'r tŷ sanctaidd y mae ynddo. Ei sylweddoliad yw fod Crist yntau yn ddienw yn Nhŷ ei Dad wedi aberth drud ar y groes, ac mae'n holi am ba hyd y bydd y sarhad hwn yn parhau.
Mae'r bryddest yn gorffen yn obeithiol wrth i'r bardd glywed côr yn yr Abaty yn canu salmau, a theimlo cyfaredd ei grefydd yn torri trwy'r tywyllwch.
Ceir y bryddest yn ei chyfanrwydd yn Y Gwron Dienw: Pryddest Gadeiriol Môn, 1922 (Caerfyrddin 1922).
O'R FEIRNIADAETH
Y beirniad oedd Dyfed, Archdderwydd Cymru ar y pryd. Rhoddodd feirniadaeth hael a chanmoliaethus, y dyfynwyd ohoni ar ddechrau'r pamffled:
Pryddest odidog yw hon, yn llawn o gyfoeth y testun a'r Gwron Dienw ymhob llinell ohoni ... Mae yma gyfuniad o swyn a thynerwch, o syndod tawel a theimladau cyffrous ... Mae'r gelfyddyd wedi eu [sic] gweu'n fras fel gwisg Ioan Fedyddiwr; ond y mae yma ysbryd sy'n ddigon cryf i wneud i'r anialwch grynu ...
Y BARDD
Ganed y Prifardd David Emrys James yng Ngheredigion ym 1881. Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, a'i choron unwaith, gan olygu mai ef yw un o'r beirdd cystadleuol mwyaf llwyddiannus yn hanes y Brifwyl. Roedd yn adnabyddus am ei bregethu tanbaid, ei fywyd personol tymhestlog, ac am fod yn un o'r collwyr salaf yn hanes yr Eisteddfod. Cyhoeddodd lawer o gyfrolau a bu'n gyfrifol am golofn farddol Y Cymro am flynyddoedd lawer. Treuliodd ddiwedd ei oes yn byw yn Y Bwthyn yn Nhalgarreg gyda'i ferch, Dwynwen. Bu farw ym 1952. Cofnod Dewi Emrys yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-JAME-EMR-1881 |
Cafodd y gadair ei saernio gan Emile De Vynck, ffoadur o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; hanes sy'n adleisio un Eugeen Vanfleteren, sef y crefftwr a fu'n gyfrifol am greu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917 - y Gadair Ddu.
Un motiff anarferol ond hyfryd iawn ar y gadair yw'r tair menyw mewn gwisg Gymreig a welir ar banel cefn y gadair.

Roedd y Rhyfel Mawr yn ddylanwad ar bob agwedd o'r gystadleuaeth hon ym 1923. Nid yn unig yr oedd gwneuthurwr y gadair yn ffoadur, ond cynigiwyd y wobr am gerdd i John Williams, Brynsiencyn, a fu farw ym 1921. Roedd Williams yn un o'r pregethwyr tanbeitiaf o blaid gyrru bechgyn o Gymru i ymrestru â'r fyddin adeg y Rhyfel Mawr; a defnyddiai ei allu a'i huodledd fel peiriant propaganda, mewn gwirionedd. Er ei fod yn ffigwr dadleuol, parhaodd yn boblogaidd hyd ei farwolaeth - a thu hwnt, fel mae testun y gystadleuaeth hon yn ei awgrymu. |
Y BARDD
Ganed Penllyn yn Ffridd Gymen ger Y Bala ym 1854. Roedd yn fardd eisteddfodol amlwg ac yn weinidog gyda'r Annibynnwyr. Treuliodd fwyafrif ei yrfa yn gweinidogaethu yn eglwys Ebeneser yn Hen Golwyn, a bu'n olygydd ar Y Caniedydd Cynlleidfaol Newydd a gyhoeddwyd ym 1921. Bu farw ym 1938.

Enillodd Trefin ei gyntaf o ddwy gadair yn yr eisteddfod hon ym 1926. Yng nghofiant Brinley Richards iddo, ceir y cyfeiriad hwn at gadair Llanfairpwll:
'Canodd awdl foliant i Syr John Morris-Jones, ac yntau'n fyw ar y pryd [bu farw ym 1929 - CC]. Yr oedd y testun yn agored a chafodd Trefin gryn ganmoliaeth gan y beirniad, R. Williams-Parry, am "awdl gref a chartrefol." Fe longyfarchwyd y bardd gan Syr John ei hun am ei foli cyn gadael y fuchedd hon. Awgrymodd y dylai'r bardd buddugol gystadlu'n yr Eisteddfod Genedlaethol.'
Fe wyddys i Drefin wneud hynny ym 1929 a 1931 o leiaf, cyn mynd ymlaen i ennill y Gadair Genedlaethol yn Wrecsam ym 1933, ar y testun 'Harlech'. Roedd hefyd yn fuddugol ar y cywydd yn Eisteddfod Môn 1926, o dan yr un beirniad ac ar y testun 'Dwynwen Santes'. Wrth gywydda yr oedd Trefin y bardd ar ei orau, ac ar y mesur hwnnw y mae mwyafrif helaeth cerddi ei unig gyfrol o farddoniaeth i oedolion, Caniadau Trefin (1950). A phan osodwyd cywydd coffa i Syr John Morris-Jones yn destun yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1938, Trefin oedd yn fuddugol unwaith yn rhagor.

Awdl mewn pum caniad yw'r gerdd fuddugol, a gwelir hoffter y bardd o ganu mawl Oes yr Uchelwyr yn treiddio trwyddi. Mae'r caniad cyntaf yn agor trwy gyfarch Môn fel magwrfa a thrigfa pobl o bwys, yn enwedig ei beirdd:
Nawdd a maeth neuaddau Môn, - fu unoes
I fwynaf gantorion,
A bu'r tant a'i barod dôn,
Yn rhoi miri i'w mawrion.
Mae'r bardd yn wfftio'r rhai sydd yn pregethu ac yn cwyno am ddirywiad diwylliant a chyfoeth yr ynys - mae'r addewid yno, meddai, ar ynys Goronwy Owen ac eraill; yn wir, meddai, ganwyd mab i'r bardd enwog hwnnw:
Gilwgus ysgolheigion, - a chwi'r beirdd!
Clywch air balch fy nghalon,
Da gwn, o weld ei geinion,
Eni mab i Ronwy Môn.
Aiff yr awdl rhagddi wedyn yn fywgraffyddol ddigon, gan gyffwrdd ar sawl agwedd o fywyd a gyrfa'r gwrthrych. Mae'n cloi trwy ddeisyfu hir oes ac iechyd iddo:
Eiddunaf fwynaidd hinion i'w oriau
A hiroes i'w Fanon -
Hawddamor! deyrn llenorion,
Hirhoedlog fo Marchog Môn!
Blas yn unig a geir i'r darllenydd o gywair ac ansawdd y gwaith yn yr englynion a ddyfynnir uchod. Gellir darllen yr awdl yn ei chrynswth yn Caniadau Trefin (Aberystwyth 1950) tud. 24-38.

Y GADAIR
Cadair syml, bwrpasol yw cadair 1926; ei chefn yn annodweddiadol o blaen ac yn cynnwys dim mwy nac arfbais, rhai cerfiadau cynnil, ac enw, lleoliad a blwyddyn yr eisteddfod mewn rhifolion Rhufeinig.
Noda Richard Bebb a Sioned Williams yn Y Gadair Farddol mai Syr John Morris-Jones, y bardd a'r ysgolhaig (a hanai o bentref Llanfairpwll) oedd yn gyfrifol am ddyluniad y gadair - ac efallai fod hynny'n ychwanegu cyd-destun i'r cynllun moel a di-lol. Mae Bebb a Williams hefyd yn awgrymu'r posibilrwydd fod arddull Elisabethaidd y gadair a'r rhifolion Rhufeinig yn ymgais i gysylltu gyda phwysigrwydd cyfnod y Tuduriaid yn hanes yr eisteddfod - trwy eisteddfodau enwog Caerwys yn benodol. Roedd hon hefyd yn gyfnod lle roedd cadeiriau'r Eisteddfod Genedlaethol yn tueddu i fod yn anferth, gyda cherfiadau eithafol fanwl a thros-ben-llestri, a nodant fod dyluniad y gadair hon yn dangos ymgais i gefnu ar beth o hynny.
Addas iawn felly oedd mai dylunydd y gadair oedd gwrthrych awdl foliant fuddugol Trefin mewn ymateb i'r testun agored - er na cheir mawl i sgiliau dylunio Syr John yn y gerdd!

Ganed Edgar Phillips yn Nhrefin, Sir Benfro ym 1889. Collodd ei fam yn ifanc ac fe'i magwyd gan chwaer ei dad. Aeth yn brentis teiliwr yn 14 oed, gan fynd ymlaen i weithio yng Nghaerdydd a Llundain cyn agor ei fusnes teilwra ei hun yng Nghaerdydd. Bu yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a mynd yn athro wedyn. Ysgrifennodd lawer i blant, enillodd amryw byd o gadeiriau eisteddfodol gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933, a bu'n Archdderwydd Cymru rhwng 1960 a'i farwolaeth ym 1962.
Cofnod Trefin yn Y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-PHIL-EDG-1889

1927
Oherwydd ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Chaergybi y flwyddyn honno, ni chynhaliwyd Eisteddfod Môn ym 1927. Doedd neb yn deilwng o'r gadair ym Mhrifwyl Caergybi ar destun 'Y Derwydd', ond enillodd Caradog Prichard ei goron gyntaf o dair yn olynol - camp hanesyddol nas efelychwyd ers hynny - ar destun 'Y Briodas'.
Yng nghofiant Brinley Richards i Drefin, nodir mai ym 1927 yr enillodd gadair Môn yn amlwch am ei awdl i'r 'Afon', ond camgymeriad yw hynny gan na chynhaliwyd Eisteddfod Môn y flwyddyn honno. Fel sy'n arferol, ni chaiff ei chynnal mewn blwyddyn sy'n cyd-daro ag ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r ynys.
Y BARDD
Ganed Edgar Phillips yn Nhrefin, Sir Benfro ym 1889. Collodd ei fam yn ifanc ac fe'i magwyd gan chwaer ei dad. Aeth yn brentis teiliwr yn 14 oed, gan fynd ymlaen i weithio yng Nghaerdydd a Llundain cyn agor ei fusnes teilwra ei hun yng Nghaerdydd. Bu yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a mynd yn athro wedyn. Ysgrifennodd lawer i blant, enillodd amryw byd o gadeiriau eisteddfodol gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933, a bu'n Archdderwydd Cymru rhwng 1960 a'i farwolaeth ym 1962.
Cofnod Trefin yn Y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-PHIL-EDG-1889
Ganed Edgar Phillips yn Nhrefin, Sir Benfro ym 1889. Collodd ei fam yn ifanc ac fe'i magwyd gan chwaer ei dad. Aeth yn brentis teiliwr yn 14 oed, gan fynd ymlaen i weithio yng Nghaerdydd a Llundain cyn agor ei fusnes teilwra ei hun yng Nghaerdydd. Bu yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a mynd yn athro wedyn. Ysgrifennodd lawer i blant, enillodd amryw byd o gadeiriau eisteddfodol gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933, a bu'n Archdderwydd Cymru rhwng 1960 a'i farwolaeth ym 1962.
Cofnod Trefin yn Y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-PHIL-EDG-1889
Y GERDD
Cyfeiriadaeth feiblaidd yw 'Porthladdoedd Prydferth' y testun a osodwyd; cyfieithiad o Kali Limenes, enw Groegaidd harbwr ar arfordir deheuol Creta. Pasiodd yr Apostol Pawl yr harbwr wrth deithio i Rufain.
Ysgrifennodd Paul epistol at Titus Sant, un o'i ddisgyblion a gysegrwyd yn Esgob ar Ynys Creta, yn disgrifio dyletswyddau henaduriaid ac esgobion. Ymgais yw awdl Tom Parri Jones i ddychmygu ymateb Titus - epistol Titus at Pawl. Mae'n agor ei gerdd â'r hir-a-thoddaid hwn:
O goetre Zenas wrth deg Lasëa,
a'r haf yn ddi-hud ar fynydd Ida,
gras! Am gysuron o'th Facedonia
yn eco antur d'epistol cynta',
ac am na wêl trig yma dy wyneb
â'i dân, cei'r ateb o Eden Creta.
Gellir darllen yr awdl, sydd wedi ei chyfansoddi'n bennaf o hir-a-thoddeidiau yng nghyfrol Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Gadeiriol Môn 1936.

Ganed y Prifardd Tom Parri Jones ym Môn ym 1905. Bu'n wael trwy gydol ei oes, ac yn orweiddiog am gyfnodau hir o ganlyniad i'r polio. Mae'n un o'r ychydig bobl sydd wedi llwyddo i ennill Cadair (1945), Medal Ryddiaith (1957) a Choron (1963) yr Eisteddfod Genedlaethol. Er ei ddawn fel bardd, fe'i cofir yn bennaf fel awdur straeon byrion. Bu farw ym 1980. Llun: Y Coroni yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno 1963, Casgliad Geoff Charles (LlGC) Cofnod Tom Parri Jones ar Wicipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Tom_Parri_Jones |
1949
|
Cyn dod i'r fei mewn arwerthiant gan Rogers Jones ym Mae Colwyn ddiwedd 2018, bu'r un gadair mewn arwerthiant gan Morgan Evans, Gaerwen, yng Ngorffennaf 2013. Ceir manylion ar wefan The Saleroom yma.
Enillodd O. M. Lloyd ei gadair gyntaf o ddwy yn olynol yn Eisteddfod Môn Gwalchmai 1953. Y Parch. John Llywelyn Hughes (1894-1956), Porthaethwy oedd bardd y goron yn yr un eisteddfod. Cafodd O. M. gryn lwyddiant yng nghystadlaethau llenyddol eraill yr eisteddfod hefyd, gan rannu'r wobr am yr englyn ('Clorian') ag R. Rowlands (Myfyr Môn) o Langefni; a'r wobr am y soned â Robert J. Rowlands o'r Bala. Dyma'r ddwy englyn buddugol:
Cyfrwng y teilwng fantoli - agwedd
Ddi-ogwydd sydd iddi; Yn ei brawd y mae ei bri - Onid ynad yw inni? - Myfyr Môn |
Rhaid i werthwr da wrthi - fe'i noddir
Ef a'i nwyddau ganddi; Ni chaiff prynwr gamwri Am y cred mai cywir hi. - O. M. Lloyd |
Ceir rhestr gyflawn o ganlyniadau'r adran lenyddol, ynghyd â'r holl feirniadaethau a mwyafrif y cyfansoddiadau buddugol, yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau (gol. J. H. Roberts, Caernarfon 1953).
Y GERDD
Cynigiwyd y gadair am awdl heb fod dros 200 llinell ar ddewis o ddau destun - 'Aberffraw' neu 'Y Tir Diffaith'. I'r 'Tir Diffaith' y dewisiodd O. M. Lloyd saernio ei gân, a dewisodd un o froydd chwareli llechi Gogledd Orllewin Cymru yn destun. Rhoddodd yn is-deitl i'w awdl, mewn cromfachau, 'Golwg a gefais ar fy hen fro, er bod, fe ddichon, wedd arall iddi'). Un o Flaenau Ffestiniog oedd y bardd yn wreiddiol, fe gofiwn. Portread tywyll ac anobeithiol a gyfleir gan y bardd, lle mae diwydiant a fu unwaith yn gadarn yn edwino, a'i gweithwyr gyda hi, o ganlyniad i'r afiechyd silicosis. Mae'r tomenydd sy'n arwydd o'r gweithgarwch a fu hefyd yn fygythiad i fywyd fel y bu adeg plentyndod yr awdur. Ceir detholiad o linellau agoriadol y gerdd isod.

Y TIR DIFFAITH (DETHOLIAD) - O. M. LLOYD
Oeda'r niwl yn y dre'n hir, - gwelw yw maes
A glaw mân uwch corsdir; Llwydaidd tai, tlodaidd y tir, A gwên heulog ni welir. Fy mor lom, a fu mor lwys, Pêr ydoedd fel paradwys, Coedydd ger afonydd fu  hael irddail i'w harddu; A gwridai grug a rhedyn A'r haul llosg yn tanio'r llyn. Llwydaidd erbyn hyn yw hi Sawr mynwent sy i'r meini. Trwm arogl tir y meirwon A'i bridd hysb a bruddhâ hon. Gwŷr lledfyw gerllaw adfail, Crynhoi i ddim, y crin ddail. |
Y tai llwyd, tywyll ydynt
A syn eu gwedd yn sŵn gwynt. A gwga siopau gweigion Hyd dd-hwyl ystrydoedd hon. Lle bu bywyd diwyd da Erys gwŷr i segura. Gwelwch draw o gylch y dref Fynyddoedd, a fu'n addef I niwl, ac ni bu'n olau Stafelloedd eu cymoedd cau. Croga niwl uwch creigiau noeth, Ni bu un hir yn bennoeth. |
O'R FEIRNIADAETH
'Siomedig' oedd ymateb i beirdd i gystadleuaeth y gadair yn ôl y beirniaid, Alun Llywelyn Williams a Gwilym R. Jones. Pump o ymgeiswyr a fentrodd, gyda dau yn dewis 'Aberffraw' yn destun, a thri yn canu ar 'Y Tir Diffaith'. Noda'r beirniaid i'r beirdd gwael gwell hwyl ar yr ail destun, 'ac y mae hynny'n beth syn, mae'n siwr, yn Eisteddfod Môn.'! Dyma flas ar yr hyn oedd ganddynt i'w ddweud am y gerdd fuddugol:
Tipyn o ollyngdod yw troi at fardd sydd yn syml ac uniongyrchol ei fynegiant, ac yn grefftwr glân ar yr un pryd. Dyry Hwfa inni'r olwg a gafodd ar ei hen fro (ardal chwarelyddol) mewn dull cwbl draddodiadol, ond y mae'n gryn feistr ar y gynghanedd, a gall ganu'n swynol ei fiwsig arbennig ei hun ar yr hen dannau [...] (A.Ll.W)
Y mae unoliaeth yn yr awdl, ac y mae ei hawdur yn ddisgrifiwr medrus. [...] Teimlwn fod yr awdl yn gerdd deilwng iawn o Dlws Cadair Eisteddfod Môn a'r wobr a gynigir. (G.R.J)

Tlws a roddwyd i brifardd Eisteddfod Môn ym 1953, yn hytrach na chadair o faint llawn. Mae'n dal i fod ym meddiant teulu'r bardd.

Ganed O M Lloyd ym 1910 ym Mlaenau Ffestiniog. Graddiodd ym 1934 o Goleg Bala-Bangor ac fe'i ordeiniwyd yn weinidog Annibynnol yn Nefyn ym 1937. Roedd yn gyfrannwr cyson i'r Ymryson, ac fe fu'n golofnydd ar dudalen flaen Y Dydd am dros 20 mlynedd, gan fwrw'i farn ar grefydd, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i farddoniaeth a chyfrol o'i ysgrifau. Bu farw ym 1980. Cofnod Wicipedia O M Lloyd: https://cy.wikipedia.org/wiki/O._M._Lloyd |
Emrys Roberts o Benrhyndeudraeth oedd bardd y Gadair yn Eisteddfod Môn Rhosneigr 1958. Enillwyd y Goron yn yr un eisteddfod gan ddarpar Brifardd cenedlaethol arall, sef R. Bryn Williams, am bryddest ar y testun 'Yr Ymchwil', cân gyda Christopher Columbus yn wrthrych iddi. Enillydd cystadleuaeth y cywydd, ar y testun 'Aberffraw', oedd J H Roberts (Monallt) o Benrhyndeudraeth, tad Emrys Roberts, bardd y gadair.
Ceir rhestr gyflawn o ganlyniadau'r adran lenyddol, ynghyd â'r holl feirniadaethau a mwyafrif y cyfansoddiadau buddugol, yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau (gol. Percy Hughes, Caernarfon 1958).

'Awdl Foliant i'r Morwr' oedd testun y gadair, gan ddilyn patrwm sawl cystadleuaeth genedlaethol a fu yn y ddegawd flaenorol - yn fwyaf enwog yn achos awdl foliant Geraint Bowen i'r Amaethwr (Aberpennar 1946) ac awdl Gwilym Tilsley i'r Glöwr (Caerffili 1950). Roedd hefyd, o bosib, yn arwydd o'r hyn oedd i ddod yng nghyrfa farddol Emrys Roberts, gan mai am awdl i'r Chwarelwr yr enillodd yntau Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor a'r Cylch 1971.
Er bod ei chynganeddu yn ymddangos yn ddigon blaengar i'r oes ar adegau, fel wrth ddisgrifio'r ymosodiad ar y llong ryfel yn y pedwerydd caniad ('Mordwyet erom a'r plênau'n bomio, / Hithau'r iwbot [U-boat] yn llechu i'th reibio'], mae rhannau eraill o'r gerdd nad ydynt yn dal eu tir yn dda dan chwyddwydr amser, yn enwedig wrth ddarlunio arferion brodorol yn rhai o'r gwledydd yr aiff y gwrthrych iddynt ar ei fordeithiau. Mae'r pumed caniad, a'r olaf, yn darlunio claddedigaeth y morwr ar y cefnfor, a dyfynir y caniad hwnnw, sydd ar ffurf cadwyn o englynion, yn ei grynswth isod.

AWDL FOLIANT I'R MORWR (DETHOLIAD) - emrys roberts
Clodforaf â dwys dafod - eon ŵr.
Dan yr arwaf ddyrnod, Gyda'r trai fe wyddai fod Ei yrfa ar fin darfod. Darfu anadl un rhadlon, - ar wendon Ni wrendy yr awron; Ni chlyw gyfrin ffliwt hirion Na rhamant descant y don. I don y gollyngwyd ef - o'i hen long, Ni wel lan na chartref; O'i wely oer ni rydd lef, Nid yw heddiw'n dioddef. |
Wedi dioddef rhoed iddo - fyr barch
A dwfr bae yn amdo, O dan hwn nid edwyn o Naid yr ystwyth bysg drosto. Tros ei wên daw três hynod - o wymon, Dyma wallt y tywod; Ni wêl luniaidd wylanod Ac ni chlyw gytgan na chlod. |
O'R FEIRNIADAETH
Roedd y beirniaid yn canmol y testun a osodwyd yn fawr, gan nodi ei fod yn un 'godidog' a gynigai gyfle arbennig i 'ganu cerdd fawr'. Roedd yn siom iddynt felly mai pedwar yn unig a ddaeth i'r maes, ac mae'n amlwg fod y gerdd fuddugol gryn dipyn ar y blaen i'r dair arall:
Y mae gan Harri ganfas lletach na'r tri arall ac y mae mwy o arbenigrwydd yn ei ganiadau [...] Awdl ragorol ar lawer ystyr yw hon. Y mae ynddi rai mân wendidau cynghanedd, ond yr ydym ein dau yn gwbl unfarn mai hi yw'r orau a'i bod yn llawn deilwng o gadair ac anrhydedd Eisteddfod Môn, 1958. Cadeirier Harri.

Tlws a roddwyd i brifardd Eisteddfod Môn ym 1958, yn hytrach na chadair o faint llawn.

Ganed y Prifardd Emrys Roberts yn Lerpwl ym 1929, a chafodd ei fagu ym Mhenrhyndeudraeth. Roedd yn fab i'r bardd gwlad Monallt. Treuliodd ei yrfa fel athro ysgol yn Sir Drefaldwyn, ac enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1967 a 1971. Bu'n Archdderwydd Cymru rhwng 1987 a 1990. Yn ogystal â barddoni i oedolion, roedd hefyd yn awdur poblogaidd ar lyfrau i blant. Bu farw yn 2012. Llun: Yr Archdderwydd Emrys Deudraeth (Aneurin Jones 1992, LlGC) |
Roedd cadair Eisteddfod Môn 1974 yn rhodd i'r eisteddfod gan ei gwneuthurwr, Mr D. W. Pritchard o Ffordd Llaneilian, Amlwch.
Y GERDD
Ymson Eleasar, un o'r sawl sydd yn aros y frwydr ym Masada, yw 'Y Disgwyl,' ac nid yw'n llawer mwy na chrynhoad o deimladau milwr cyn y gad. Mae'r gerdd vers libre cynganeddol yn agor fel hyn:
Llonydd yw'r gwyll heno,
wedi stŵr a dwndwr y dydd
yn y gwres islaw'r graig.
Disgrifia'r milwyr fel 'haid o locustaid cyn cad', ac mae'r holl bwyslais ar yr aros hir, ond:
Wedi'r nos ni fydd aros i ddod,
nid oedwn mwy ym Masada.
Aberthu eu hunain a wna'r criw bychan o Iddewon sydd yn eu caer, a holl rym byddin y Rhufeiniaid yn eu herbyn, ac mae Eleasar yn croesawu ei ddiwedd wedi'r frwydr hir. Er mai:
Bedd fydd Masada i'm byddin,
mynwent ei meini.
Masada, 'stormus ydwyt,
Masada'r ymosodiad,
Mae'r gerdd yn cloi gyda:
Nid arhoswn i rysedd
marwol yfory.
Heno fe laddwn ein hunain,
a chwifiwn faner goruchafiaeth
yn nhŵr yr eryr.
Mae Eleasar yn gwybod ei fod yn disgwyl awr ei farwolaeth, ac mae'n gwybod na wnaiff eto leisio '[rh]yfyg yn erbyn Rhufain / yn ffŵl yng nghanol y ffau.' Mae'n gwybod fod rhywle gwell yn ei aros wedi i'r Rhufeiniaid ei ddifa. Defnyddia hen enw'r Jiwdeaid a'r Samariaid am Dduw - Yahwe, wrth son am y nefoedd:
Yahwe, aros i dywallt
ein gwaed a wnawn yn y gwyll.
Ond onid anwar ein haros?
Gwn, mi wn mai heno
y deuwn, rhedwn yn rhydd
o'n carchar i'r hygar hedd.
Gellir darllen y gerdd yng nghyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Môn Amlwch a'r Cylch 1974 (gol. Dewi Jones).
O'R FEIRNIADAETH
Yr Athro Thomas Parry oedd beirniad y gystadleuaeth, a daeth pedair ymgais i law. Teg yw dweud nad oedd y beirniad wedi ei gyffroi rhyw lawer gan yr un o'r cerddi oedd ger bron, a dyma ddyfynnu o'i sylwadau ar y buddugol:
Ni ellir dweud fod gwaith Moab yn farddoniaeth fawr ac eneiniedig. Nid oes dim cywreinrwydd eithriadol yn y grefft; yn wir, y mae rhai o'r ymgeiswyr eraill yn gryfach cynganeddwyr na Moab. Nid oes dim yn y gwaith sy'n rhoi ysgytiad ffyrnig inni. Ond y mae rhywbeth gonest a dirodres yn y gerdd, rhyw dawelwch hunanfeddiannol, a'r bardd yn cadw ei deimladau o dan reolaeth [...]

CYFANSODDIADAU ERAILL
Gofynion cystadleuaeth y goron yn Amlwch 1974 oedd casgliad o gerddi ar y testun 'Wynebau.' Yn wahanol i feirniad y gadair, cafodd beirniad y goron, Bryan Martin Davies, ei blesio yn arw gan y safon - "[t]eg yw dweud ar y dechrau fod safon y gystadleuaeth yn fy marn i yn hynod o uchel." John Hywyn oedd bardd y goron, am gyfres o gerddi o safbwynt athro, yn mynegi pytiau bach o'i fywyd bob dydd ac yn rhyfeddu at y plant sydd yn ei ofal.
O. Trefor Jones (Llanowain) o Litherland a ddaeth i'r brig gyda'r englyn, ond dyfarnodd Thomas Parry £3 yn unig o'r wobr o £5 iddo, am nad oedd yn credu fod yr englyn yn teilyngu'r wobr yn llawn. Dyma'r englyn ar y testun 'Llygad':
Aelod, is ael, i wylio - ydyw hon,
Gyda'i hud wrth wincio;
Ond er hyn, ar ryw drist ro
Hi a welir yn wylo.
Enillydd y Fedal Ryddiaith am dair stori fer oedd Marged Pritchard o Benrhyndeudraeth, o dan y ffugenw 'Sara'. Y beirniad oedd yr Athro Bedwyr Lewis Jones.
Gellir darllen yr uchod a'r holl gyfansoddiadau buddugol eraill yng nghyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Môn Amlwch a'r Cylch 1974 (gol. Dewi Jones).
Y BARDD
Huw Ceiriog Jones yw Derwydd Gweinyddol Gorsedd Eisteddfod Talaith a Chadair Powys. Mae'n byw yn Rhydypennau a threuliodd ei yrfa gyfan yn gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ymchwiliodd a chyhoeddodd gyfrol ar fardd yn dwyn yr un enw ag o (Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor, GPC 1990). Cafodd ei urddo i wisg las Gorsedd Cymru yn 2017.

Ganed Peredur Lynch ym 1963, a daw o Garrog ger Corwen yn Sir Feirionydd. Ef yw'r ieuengaf erioed i ennill cadair Eisteddfod yr Urdd, a gwnaeth hynny ym Maesteg ym 1979. Bu'n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe ac mae bellach yn Athro yn Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor. Enillodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Caeth a Rhydd (2017), gategori Barn y Bobl yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2018.
Cofnod Peredur Lynch ar Wicipedia:
cy.wikipedia.org/wiki/Peredur_Lynch

Roger Jones oedd enillydd y gadair yn Eisteddfod Môn Brynsiencyn a'r Cylch 1981; a pha ryfedd fod testun a ofynnai yn benodol am englynion wedi denu un o englynwyr mwyaf adnabyddus ei gyfnod i gystadlu.
Er mai pedwar yn unig a fentrodd gyflwyno i'r gystadleuaeth, a alwai am gyfansoddi pedwar ar hugain o englynion i'r 'Tymhorau', nodai Gwyn Thomas yn ei feirniadaeth fod hon yn gystadleuaeth ddiddorol iawn, 'yn wir yn fwy diddorol nag amryw gystadleuaethau yr wyf wedi eu beirniadu lle'r oedd llawer mwy o gynigion.'
Dyma flas ar ei sylwadau ar waith Nant yr Antur:
Er mai tymor y gaeaf yw'r tymor olaf y sonia amdano y mae'r bardd, mewn gwirionedd, yn troi cylch crwn ac yn gorffen trwy sôn ar y diwedd un am ail-ddyfodiad y gwanwyn. Y mae'r cylch hwn yn rhan o gynllun y bardd; mae am bwysleisio mai cylchdro yw'r tymhorau nid dechreuad mewn ieuenctid sy'n arwain at ddiwedd a marwolaeth ... mae Nant yr Antur yn fedrus wrth roi ystyr trwy ei gynghanedd. Anaml y mae'n peri inni feddwl ei fod wedi gorfod crafu am air.
Gellir darllen sylwadau Gwyn Thomas ar y gystadleuaeth yn y feirniadaeth lawn, sydd i'w chanfod yng nghyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Brynsiencyn a'r Cylch 1981 (gol. Dewi Jones), tud. 9-11.
Ymhlith enillwyr eraill yr adran farddoniaeth roedd nifer o gyn a darpar enillwyr y gadair yn yr un eisteddfod: Einion Evans, bardd y gadair ym 1964 a 1983 (Cywydd gofyn: 'Nawdd i'r Eisteddfod'); John H. Roberts, bardd y gadair ym 1960 a 1967 (Englyn: 'Y Pentref'); ac Edward Jones, bardd y gadair ym 1968 a 1971 (Englyn crafog, Cerdd Gocosaidd: 'Y Bont ar Bont Britannia').

YR ENGLYNION
Rhennir y gerdd yn wyth englyn i bob tymor, gan gychwyn gyda'r gwanwyn. Delweddau o fyd natur a byd amaeth a geir ar y cyfan, gyda'r trawiadau o bryd i'w gilydd yn atgoffa rhywun o awdl 'Y Cynhaeaf', Dic Jones. Fel y sonia Gwyn Thomas yn ei feirniadaeth, mae'r gerdd hon yn edrych ar y tymhorau fel cylchred sy'n parhau a pharhau i droi, gan gloi gyda'r englyn hwn yn adran y gaeaf:
Oer amwisg yn ei rhwymo, - nes bo haul
Y mis bach yn wincio;
Daw Ebrill toc i gnocio
A'i wresog law y drws clo.
Gellir darllen englynion Roger Jones yn eu crynswth yng nghyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Brynsiencyn a'r Cylch 1981 (gol. Dewi Jones), tud. 11-13.

Gwneuthurwr y gadair oedd Richard Williams, Rose and Thistle, Llanedwen, i gynllun Dr. J. Glyn Jones, Brynsiencyn. Rhoddwyd coed y gadair gan yr Anglesey Timber Co., a gweithwyd y lledr ar gyfer y sedd a'r cefn gan Mr. E. Owen. Brynsiencyn.

Ganed Roger Jones ym 1903. Roedd yn frodor o Roshirwaun a threuliodd fwyafrif ei oes yn weinidog yn Nyfed a Cheredigion, cyn ymddeol i fro ei febyd. Fe'i ystyrid yn feistr ar fesurau'r cywydd a'r englyn a chyhoeddodd dair cyfrol: Awelon Llŷn (1970); Haenau Cynghanedd (1975), ac Ysgubau Medi (1979). Bu farw ym 1982.

2017
Fel ar adegau eraill yn ei hanes, ni chynhaliwyd Eisteddfod Môn yn 2017 oherwydd ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r ynys.
2019
|
Yn hytrach na chael ei gwesteio gan gymuned leol, fel sy'n arferol gydag Eisteddfod Môn, Clybiau Ffermwyr Ifanc yr ynys oedd yn gyfrifol am drefnu a chynnal eisteddfod 2019.
2020-21
Gohiriwyd Eisteddfod Môn Bro Esceifiog am ddwy flynedd o ganlyniad i'r argyfwng COVID-19.
Cafwyd sefyllfa anarferol yn y gystadleuaeth hon, gan fod i'r ddau feirniad, Gruffudd Antur a Siôn Aled, deimlo ar adegau y gellid bod wedi cadeirio un o'r tri ymgeisydd; ond fod hwnnw'n ymgeisydd gwahanol gan y ddau feirniad. Dywedodd Gruffudd Antur wrth gloi ei feirniadaeth ef:
Yn bersonol, rwyf o'r farn fod Lleifior yn deilwng o'r Gadair. Yn anffodus, mae fy nghyd-feirniad o'r farn bod yr awdl yn gogr-droi'n ormodol braidd, ac yn tueddu i ramantu'n ddilyffethair. Byddai ef yn fodlon cadeirio Branwen, ond mae arnaf ofn fod yr awdl a ganwyd ganddi y tro hwn, er ei bod yn uchelgeisiol, braidd yn rhy feius i'w gwobrwyo. Yn anffodus, y canlyniad anesgor yw ei bod yn rhaid, gyda chalon drom, atal y wobr eleni.
Fodd bynnag, ymddengys i Siôn Aled yntau newid fymryn ar y farn honno erbyn cyfansoddi ei feirniadaeth:
Fy ffefryn innau o'r cerddi ar y darlleniad cyntaf oedd gwaith Branwen, ond wedi darllen drwy ei henglynion hithau ac awdl Lleifior yr ail a'r drydedd waith, rwyf wedi dod i bleidio gwaith Lleifior yn fwy, a dyna farn fy nghyd-feirniad hefyd [...] Lleifior sy'n dod i'r brig, felly, ond wedi trafod a phendroni, fodd bynnag, mae'n ofid gen i gyhoeddi ein bod ein dau fel beirniaid yn gytûn yn ein barn nad yw ei awdl, o ryw gymaint, wedi cyrraedd y safon sy'n teilyngu dyfarnu iddo Gadair Eisteddfod Môn [...]
Gellir darllen y ddwy feirniadaeth yng nghyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Môn 2020 Bro Esceifiog, gol. Annes Glynn & Gareth Evans-Jones. Enillwyr eraill yr adran farddoniaeth agored oedd Tudur Davies, Alberta, Canada (Englyn); Arwel Emlyn Jones, Rhuthun (Cywydd, Telyneg); John Meurig Edwards, Aberhonddu (Soned, Limrig). Enillydd y Fedal Ryddiaith am gasgliad o waith creadigol oedd Caron Wyn Edwards, Rhostryfan.

Saer y Gadair oedd Elfyn Wyn Jones, Llantrisant, ac fe'i noddwyd gan deulu Trigfa, Llangaffo, a Geraint a Menna Jones, Coedana.

CYFEIRIADAU
CYFFREDINOL
- Tudalen Wicipedia Eisteddfod Môn, cyrchwyd 14.07.2020
https://cy.wikipedia.org/wiki/Eisteddfod_M%C3%B4n
- Rhaglen Eisteddfod Môn Bro Cefni 2013, cyrchwyd 14.07.2020
http://1039683794.n146795.test.prositehosting.co.uk/wp-content/uploads/2012/06/Testunau-Eisteddfod-Mo%CC%82n-2013-Bro-Cefni-03-13.pdf
- Eryl Crump, 'Siân becomes first female Archdruid of the Anglesey Gorsedd of Bards', gwefan y Daily Post, 11.05.2011, cyrchwyd 14.07.20
(https://www.dailypost.co.uk/news/local-news/sian-becomes-first-female-archdruid-2697734)
- Hanes Eisteddfod Môn - gwefan BBC Lleol Gogledd Orllewin Cymru, cyrchwyd 24.04.2020 (http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/bywyd_bro/eisteddfodau/pages/mon_hanes.shtml)
1869
- Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Gadeiriol Môn, Llanerchymedd 1869 (Llanerchymedd 1870)
1871
- 'Grand Eisteddfod at Llanerchymedd' yn The North Wales Chronicle, 12.08.1871
- 'Eisteddfod Gadeiriol Mon' yn Seren Cymru, 18.08.1871
1873
- W. Morgan Williams, Dystawrwydd: sef yr Awdl fuddugol ar Destyn y Gadair yn Eisteddfod Gadeiriol Môn (Conwy 1873)
1874
- Adran hysbysebion Baner ac Amserau Cymru, 07.01.1874
1875
- 'Eisteddfod Gadeiriol Mon, a Gorsedd Gwynedd' yn Baner ac Amserau Cymru, 11.08.1875
1876
- 'Eisteddfod Gadeiriol Llangefni' yn Llais y Wlad, 04.08.1876
- 'Beirniadaeth Cadair Llangefni' yn Llais y Wlad, 18.08.1876
- 'Ein Llythyr Cymreig' yn The Aberystwyth Observer, 19.08.1876
1877
- Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Gadeiriol Mon; a gynnaliwyd yn Llanfechell (Amlwch 1877)
1878
- 'Menai Bridge Eisteddfod' yn The North Wales Express, 09.08.1878
- 'Eisteddfod Porthaethwy' yn Y Goleuad, 10.08.1878
1922
- Emrys James, Y Gwron Dienw: Pryddest Gadeiriol Môn, 1922 (Caerfyrddin 1922)
- Eluned Phillips, Dewi Emrys (Llandysul 1971)
- Tudalen Wikipedia 'The Unknown Warrior', cyrchwyd 27.04.2020
https://en.wikipedia.org/wiki/The_Unknown_Warrior
1926
- Brinley Richards, Cofiant Trefin (Abertawe, ?)
- Edgar Phillips (Trefin), Caniadau Trefin (Aberystwyth 1950)
- Richard Bebb a Sioned Williams, Y Gadair Farddol (Cydweli 2009)
1936
- Gwefan Bible Places, cyrchwyd 27.04.2020 https://www.bibleplaces.com/fair-havens/
- Eisteddfod Gadeiriol Môn, Valley 1936, Cyfansoddiadau Buddugol: Yr Awdl, Y Bryddest, Y Darnau Barddonol a'r Ddrama Fer (Porthaethwy 1936)
- Tudalen Wikipedia Titus Sant, cyrchwyd 27.04.2020 https://en.wikipedia.org/wiki/Saint_Titus
1953
- J. H. Roberts (gol.), Eisteddfod Gadeiriol Môn Gwalchmai 1953: Cyfansoddiadau a Beirniadaethau (Caernarfon 1953)
1958
- Percy Hughes (gol.), Eisteddfod Gadeiriol Môn Rhosneigr 1958: Cyfansoddiadau a Beirniadaethau (Caernarfon 1958)
1974
- Dewi Jones (gol.), Eisteddfod Môn Amlwch a'r Cylch, 1974: Cyfansoddiadau a Beirniadaethau
1980
- Dewi Jones (gol.), Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Gadeiriol Môn 1980, Llanerchymedd a'r Cylch
1981
- Dewi Jones (gol.), Eisteddfod Môn Brynsiencyn a'r Cylch 1981: Cyfansoddiadau a Beirniadaethau
2022
- Annes Glynn a Gareth Evans-Jones (gol.), Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Môn 2020, Bro Esceifiog.