Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Gwilym Bowen Rhys, Rachub; Zonia Bowen, Caeathro; Alun Jones Williams, Y Ffôr; Alun Price, Abererch; Aneirin Karadog, Pontyberem; Osian Rhys Jones, Caerdydd; Staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth; Capel Moriah, Dolwyddelan; Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog; Sally Clifton, Uckfield; Huw Roberts; Carwyn Owen, Y Trallwng; Hywel ac Alaw Griffiths, Aberystwyth; Ysgol Gymraeg Aberystwyth; Iwan Teifion Davies, Llundain; Rhiannon Elis-Williams, Porthaethwy; Naomi Jones, Yr Ysgwrn, Trawsfynydd; Gareth Tilsley, Bangor; Antoni Vitti, Y Rhyl; Dafydd M. Job, Bangor; Tudur Dylan Jones
Mae'r dudalen hon yn y broses o gael ei hadeiladu. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.

1860 (Dinbych) John Jones (Ioan Emlyn)
1861 (Aberdar) Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)*
1861 (Conwy) W. J. Roberts (Gwilym Cowlyd)*
1862 Rowland Williams (Hwfa Mon)
1863 William Ambrose (Emrys)
1864 Richard Foulkes Edwards
1865 Neb yn deilwng
1866 Robert Thomas
1867 Richard Parry (Gwalchmai)
1868 Neb yn deilwng
1869

* Cynhaliwyd dwy eisteddfod dan faner 'Eisteddfod Genedlaethol' ym 1861 - un yng Nghonwy a'r llall yn Aberdar
1870 William Thomas (Islwyn)
1871 Richard Davies (Tafolog) 1872 Hugh Pugh 1873 Rowland Williams (Hwfa Mon) [2] 1874 1875 Thomas Jones (Tudno) 1876 1877 William Roberts (Gwilym Eryri) 1878 Rowland Williams (Hwfa Mon) [3] 1879 W. B. Joseph |
1880 W. B. Joseph [2]
1881 Evan Rees (Dyfed) 1882 Neb yn deilwng 1883 Neb yn deilwng 1884 Evan Rees (Dyfed) [2] 1885 Watkin H. Williams (Watcyn Wyn) 1886 Richard Davies (Tafolog) [2] 1887 Robert Arthur Williams (Berw) 1888 Thomas Jones (Tudno) [2] 1889 Evan Rees (Dyfed) [3] |
1890 Thomas Jones (Tudno) [3]
1891 John Owen Williams (Pedrog) 1892 Evan Jones (Gurnos) 1893 John Williams (Ceulanydd) 1894 Howell E. Lewis (Elfed) 1895 John Owen Williams (Pedrog) [2] 1896 Ben Davies 1897 John Thomas Job 1898 Robert Owen Hughes (Elfyn) 1899 Neb yn deilwng |
1900 John Owen Williams (Pedrog) [3]
1901 Evan Rees (Dyfed) [4] 1902 T. Gwynn Jones 1903 John Thomas Job [2] 1904 J. Machreth Rees 1905 Neb yn deilwng 1906 J. J. Williams 1907 Thomas Davies 1908 J. J. Williams [2] 1909 T. Gwynn Jones [2] |
1910 Robert Williams Parry
1911 William Roberts (Gwilym Ceiriog) 1912 T. H. Parry-Williams 1913 Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) 1914 Ni chynhaliwyd eisteddfod 1915 T. H. Parry-Williams [2] 1916 John Ellis Williams 1917 Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn) 1918 John Thomas Job [3] 1919 David Rees Davies (Cledlyn) |
1920 Neb yn deilwng
1921 Robert John Rowlands (Meuryn) 1922 John Lloyd-Jones 1923 David Rees Davies (Cledlyn) [2] 1924 Albert Evans-Jones (Cynan) 1925 Dewi Morgan 1926 David James Jones (Gwenallt) 1927 Neb yn deilwng 1928 Neb yn deilwng 1929 David Emrys James (Dewi Emrys) |
1930 David Emrys James (Dewi Emrys)[2]
1931 David James Jones (Gwenallt) [2] 1932 D. J. Davies 1933 Edgar Phillips 1934 William Morris 1935 Evan Gwyndaf Evans (Gwyndaf) 1936 Simon B. Jones 1937 T. Rowland Hughes 1938 Gwilym R. Jones 1939 Neb yn deilwng |
1950 Gwilym Tilsley
1951 Brinley Richards 1952 John Evans 1953 Ernest Llwyd Williams 1954 John Evans [2] 1955 Gwilym Ceri Jones 1956 Mathonwy Hughes 1957 Gwilym Tilsley [2] 1958 T. Llew Jones 1959 T. Llew Jones [2] |
1960 Neb yn deilwng
1961 Emrys Edwards 1962 Caradog Prichard 1963 Neb yn deilwng 1964 R. Bryn Williams 1965 William David Williams 1966 Dic Jones 1967 Emrys Roberts 1968 R. Bryn Williams [2] 1969 James Nicholas |
1970 Tomi Evans
1971 Emrys Roberts [2] 1972 Dafydd Owen 1973 Alan Llwyd 1974 Moses Glyn Jones 1975 Gerallt Lloyd Owen 1976 Alan Llwyd [2] 1977 Donald Evans 1978 Neb yn deilwng 1979 Neb yn deilwng |
1980 Donald Evans [2]
1981 John Gwilym Jones 1982 Gerallt Lloyd Owen [2] 1983 Einion Evans 1984 Aled Rhys Wiliam 1985 Robat Powel 1986 Gwynn ap Gwilym 1987 Ieuan Wyn 1988 Elwyn Edwards 1989 Idris Reynolds |
1990 Myrddin ap Dafydd
1991 Robin Llwyd ab Owain 1992 Idris Reynolds [2] 1993 Meirion Macintyre Huws 1994 Emyr Lewis 1995 Tudur Dylan Jones 1996 R. O. Williams 1997 Ceri Wyn Jones 1998 Neb yn deilwng 1999 Gwenallt Llwyd Ifan |
2000 Llion Jones
2001 Mererid Hopwood 2002 Myrddin ap Dafydd [2] 2003 Twm Morys 2004 Huw Meirion Edwards 2005 Tudur Dylan Jones [2] 2006 Gwynfor ab Ifor 2007 T. James Jones (Jim Parc Nest) 2008 Hilma Lloyd Edwards 2009 Neb yn deilwng |
2020 Ni chyflwynwyd cadair
2021 Gwenallt Llwyd Ifan [2] 2022 Llŷr Gwyn Lewis 2023 Alan Llwyd [3] 2024 Carwyn Eckley 2025 2026 2027 2028 2029 |
1873
|
Y BARDD Ganed y Prifardd Rowland Williams (Hwfa Môn) yn Nhrefdraeth ym Môn ym 1823. Bu'n brentis saer coed cyn astudio yng Ngholeg Diwinyddol y Bala a derbyn galwad i weinidogaethu. Yn ystod ei oes bu'n weinidog ledled Gogledd Cymru yn ogystal â chyfnod hir yn Llundain. Bu farw yn y Rhyl ym 1905. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith [1862, 1873, 1878] a'i choron unwaith [1867]. Roedd yn feirniad cyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol ond mae'n bosib mai am ei wasanaeth fel Archdderwydd rhwng 1895 a 1905 y'i cofir ef yn bennaf. Llun: casgliad John Thomas, LlGC Gallwch ddarllen cofnod Hwfa Môn yn y Bywgraffiadur Cymreig yma |
Y BARDD
Ganed y Prifardd Thomas Jones (Tudno) yn Llandudno yn 1844. Roedd yn fardd, yn offeiriad ac yn newyddiadurwr. Bu'n gweithio fel golygydd y Llandudno Directory, ac am gyfnod i'r Caernarvon and Denbigh Herald. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, record y mae'n ei rhannu â Dewi Emrys a Dyfed. Bu farw ym 1895, yn 51 oed. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth dan olygyddiaeth David Rowlands (Dewi Môn) wedi ei farwolaeth - Telyn Tudno (1897). Cofnod Tudno yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c3-JONE-TUD-1844.html |
Mae Thomas Parry, yn Hanes Llenyddiaeth Gymraeg, yn cyfeirio at fuddugoliaeth Gwilym Eryri ym 1877 fel arwydd o boblogrwydd yr eisteddfod, a'r modd y daeth barddoniaeth (y grefft a'r mwynhad ohoni) yn fwyfwy hygyrch i bobl gyffredin ar lawr gwlad:
Dyma'r pryd y meddiannodd y werin, yn ei ffordd ei hun, holl waddol llenyddiaeth, a chwarelwr fel Gwilym Eryri yn ennill y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1877, a ffarmwr fel Tafolog yn dod yn un o brif feirniaid y genedl.
Cystadlodd Gwilym Eryri drachefn am gadair y Genedlaethol o leiaf deirgwaith (1884, 1887, ac 1894), ond ni lwyddodd i'w hennill eto.

1878
|
Enillodd Hwfa Môn y Gadair Genedlaethol am y trydydd tro, a'r tro olaf hefyd. Ef oedd y cyntaf i ennill deirgwaith (1862, 1873). Byddai'n mynd yn ei flaen i fod yn un o brif feirniaid yr Eisteddfod Genedlaethol am ugain mlynedd olaf y ganrif, cyn ei urddo yn Archdderwydd Cymru ym 1894, a chyflawni'r swydd honno hyd ei farwolaeth.
Eisteddfod Penbedw 1878 oedd yr eildro yn unig i'r Eisteddfod Genedlaethol grwydro y tu hwnt i ffiniau Cymru; arfer a ddeuai'n fwyfwy arferol yn y degawdau oedd i ddod. Deuai hyn hefyd ar adeg o ansicrwydd yn hanes y Brifwyl, a diffyg trefn a arweiniai yn y pendraw at sefydlu Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol yn swyddogol ym 1880; bron i ugain mlynedd wedi i Syr Hugh Owen alw am wneud hynny, yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn Aberdar ym 1861.
Nid oedd y penderfyniad i gynnal yr Eisteddfod yn Lloegr at ddant pawb, a cheir awgrymiadau ym mhapurau newydd y cyfnod fod nifer yn gweld Eisteddfod Gadeiriol Môn Porthaethwy 1878 fel rhyw lun o wrth-eisteddfod genedlaethol, a hynny ar dir Cymru. Prysurai gohebydd Y Genedl Gymreig ar 1 Awst 1878 i roi taw ar yr ensyniad:
Nid oes wrthgystadleuaeth o gwbl. Y mae genym sicrwydd y bydd arweddwyr Eisteddfod Gadeiriol Mon yn mhlith cefnogwyr mwyaf eiddgar yr Eisteddfod Genedlaethol. Yr ydym yn ystyried ensyniad y Mercury [sef y Liverpool Mercury, papur a argraffodd yr awgrym o wrth-eisteddfod - gol. CC] yn anheg, anghywir, a niweidiol, sef fod pwyllgor Eisteddfod Porthaethwy wedi cymeryd mantais ar y ffaith fod rhai personau yn gwrth-dystio yn erbyn i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynal mewn tref Seisnig, fel ag i benderfynu cynhal gwrth-eisteddfod yn y Borth, gan gofio am lwyddiant mawr yr Eisteddfod a gynhaliwyd yno yn 1873 [Eisteddfod Gadeiriol Mon Porthaethwy 1873]. Bydd lluoedd o genedlgarwyr o Lerpwl a Birkenhead yn y Borth, a llawn cynifer o Fon Mam Gymru [sic] yn Mirkenhead.
Ymhlith enillwyr llenyddol eraill Penbedw roedd Iolo Caernarfon, oedd yn fuddugol ar destun y brif gystadleuaeth am farddoniaeth ddi-gynghanedd, sef arwrgerdd i 'Joshua' (Ni chyflwynwyd Coron tan 1880). Aeth sawl gwobr i Hugh Davies (Tudwal) o Frynllaeth, Pwllheli; ef oedd yn fuddugol ar y cywydd ('Gwroldeb'), yr englyn ('Y Mêl'), a'r beddargraff er cof am yr argraffydd a'r bardd Tegidon (gyda'r ffugenw 'Emyr', sef enw canol ac enw barddol ei fab, Hugh Emyr Davies, a enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith ar ddechrau'r ugeinfed ganrif).

Y GERDD
Yn ychwanegol at y 12 o awdlau a anfonwyd i'r gystadleuaeth, roedd dwy gerdd yn Saesneg ger bron y beirniaid. Dyma oedd ymateb Hiraethog iddynt yn y feirniadaeth:
... nid oes a wnelo y beirniaid â'r estroniaid hyn, amgen na dwedyd wrthynt, yn eu tafodiaith briodol hwy eu hunain, "No admittance except on business," and you, gentlemen, have no business here.
Un o feirniaid cystadleuaeth y gadair oedd Islwyn; un o'r gorchwylion diwethaf iddo ei chyflawni ym maes yr eisteddfodau, gan y bu farw fisoedd yn unig yn ddiweddarach.
Ymestyn 'Rhagluniaeth' Hwfa Môn i 1,550 o linellau. Gellir dod o hyd i'r awdl fuddugol yn gyflawn, ynghyd a detholiadau o feirniadaethau Islwyn, Elis Wyn o Wyrfai a Hiraethog, yng nghyfrol gyfansoddiadau'r eisteddfod, sydd wedi ei digideiddio a'i huwchlwytho i'r we o gasgliadau Prifysgol Harvard yma: https://babel.hathitrust.org/cgi/pt?id=hvd.hnzq6r&view=1up&seq=184&skin=2021

Y GADAIR
Ymddengys y gadair hon yng nghyfrol Richard Bebb a Sioned Williams, Y Gadair Farddol, lle dywedir y credir mai dylanwad cymdeithas o'r enw Urdd y Ford Gron, a ymddiddorai yn chwedlau'r Brenin Arthur, oedd yn gyfrifol am enwi'r gadair yn 'Gadair Arthur'. Mae'r gyfrol hefyd yn tynnu sylw at debygrwydd y gadair hon i gadeiriau eglwysig o'r cyfnod, ac yn cyfeirio at symbolaeth ddeuol 'llygad goleuni' fel un o fotiffau'r Orsedd a'r Seiri Rhyddion. Plac arian ar gefn y gadair (gweler y llun ar y dde) sy'n nodi'r cyd-destun, ac yn darllen fel a ganlyn: Cadair Eisteddfod / Genedlaethol Birkenhead / 1878 / yr hon a enillodd y / Parch. R. Williams (Hwfa Mon) / Llundain / am ei awdl fuddugol ar / Ragluniaeth / gyda gwobr o 26 gini. |
Gellir dod o hyd i gasgliad o luniau ansawdd uchel o'r gadair hon yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru trwy glicio yma. Fel y gwelwch o'r gwahaniaeth rhwng rhai o'r lluniau, gwnaethpwyd gwaith adfer sylweddol arni yn ddiweddar, er mwyn ei dychwelyd i'w gogoniant gwreiddiol.
Y BARDD
Ganed Rowland Williams (Hwfa Môn) yn Nhrefdraeth ym Môn ym 1823. Bu'n brentis saer coed cyn astudio yng Ngholeg Diwinyddol y Bala a derbyn galwad i weinidogaethu. Yn ystod ei oes bu'n weinidog ledled Gogledd Cymru yn ogystal â chyfnod hir yn Llundain. Bu farw yn y Rhyl ym 1905. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith [1862, 1873, 1878] a'i choron unwaith [1867]. Roedd yn feirniad cyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol ond mae'n bosib mai am ei wasanaeth fel Archdderwydd rhwng 1895 a 1905 y'i cofir ef yn bennaf. Cofnod Hwfa Môn yn y Bywgraffiadur Cymreig: bywgraffiadur.cymru/article/c-WILL-ROW-1823 |
Y BARDD
Un o Sir Benfro oedd Dyfed (1850-1923) yn wreiddiol, ond fe'i magwyd yn Aberdâr. Roedd yn un o feirdd eisteddfodol mwyaf llwyddiannus diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith (1881, 1884, 1889, 1901), record y mae'n ei rhannu â Dewi Emrys a Tudno. Ef hefyd oedd Prifardd y Gadair yn Eisteddfod Ffair y Byd, Chicago 1893. Wrth ei waith, roedd yn lowr am flynyddoedd lawer cyn mynd i'r weinidogaeth. O 1905 hyd ei farwolaeth ym 1923, ef oedd Archdderwydd Cymru. Cofnod Dyfed yn Y Bywgraffiadur Cymreig: bywgraffiadur.cymru/article/c-REES-EVA-1850 Llun: Gwaith Barddonol Dyfed, 1907 |
1884

1887
|
Dyma'r testun ar y plac ar gefn y gadair:
" the royal jubilee chair "
AWARDED, TOGETHER WITH A PRIZE OF £40 AND A GOLD MEDAL TO THE REV. R. A. WILLIAMS, (BERW) AT THE NATIONAL EISTEDDFOD OF WALES, HELD IN THE ALBERT HALL, LONDON, 1887, FOR THE BEST ODE ON "QUEEN VICTORIA"; AND OCCUPIED BY H.R.H. THE PRINCE OF WALES, AS PRESIDENT OF THE EISTEDDFOD.
Rhyfedd iawn yw ystyried testun yr awdl a enillodd y gadair hon yng ngolau eisteddfodau heddiw. Roedd gan yr eisteddfod yn y cyfnod Fictorianaidd wedd Brydeinig a brenhinol iawn iddi, ond rhag inni feddwl fod pawb yn cytuno â hynny, dyma ddyfynnu un a ysgrifennodd at bapur newydd Y Goleuad ym Medi 1886 o dan y ffugenw 'Cenedlgarwr', wedi rhyddhau testunau'r eisteddfod. Mae'n debyg fod yr unigolyn hwn yn aelod o Bwyllgor Cymdeithas yr Eisteddfod, a bod mwyafrif y pwyllgor hwnnw yn awyddus i ddewis 'Cenedlgarwch' fel testun i'r awdl:
Ai yr Eisteddfod Association sydd wedi ymgymeryd â gosod y testyn 'Victoria' yn hytrach na'r testyn yr ydoedd iddo nodweddion cenedlaethol? Tebyg mai ie, a byddai yn dda gwybod pwy o aelodau y Gymdeithas hon ydoedd yn bresenol, ac yn dyfod i hyn o benderfyniad. Gwyddom oddiar siarad a chyfeillion o Dde a Gogledd Cymru, ei fod yn gryn siom iddynt weled mai 'Victoria' a ddewiswyd, ac mi obeithiaf y rhydd y wlad ar ddeall trwy y wasg mai goreu pa gyntaf y newidir ef am y testyn "Cenedlgarwch."
Gwaseiddiwch, a rhywbeth yn ychwaneg na hyny, ydyw myned i drethu yr Eisteddfod Genedlaethol i wneyd ymddangosiad o 'loyalty' cenedl y Cymru. Yr ydys wedi cynffona llawer gormod i Dywysog Cymru mewn cysylltiad â'r Eisteddfod yn y gorphenol, nes yr ydym wedi myned yn destyn chwerthiniad pobl, ac y mae yn fwy na phryd ymatal gwneyd dim cyffelyb yn ychwaneg. Y mae y Cymry yn genedl, a'r adeg bresenol ar ei hanes yn gyfryw nas gellir goddef i'r Eisteddfod Association yn nwylaw aelodau cymdeithas - "Can di benill mwyn i'th nain," &c., hyny yw, "Cymdeithas y Cymmrodorion," i ddirmygu ei hysbryd cenedlaethol.

Y SEREMONI
Yn awr daeth beirniadaeth testyn y gadair, gwobr 40p a chadair dderw a thlws aur. Yma galwyd ar y beirdd a'r llenorion yn nghyd, y rhai a ymgasglasant ar yr esgynlawr. Wedi ymgasglu o honynt ar yr esgynlawr, galwyd allan, gan yr Archdderwydd, enwau y beirdd a'r llenorion a fuont feirw er yr Eistoddfed [sic] Genedlaethol ddiweddaf, wedi hyny canwyd yr hen benill 'Bydd Myrdd o Ryfeddodau' gan y cor a'r gynulleidfa, a phawb ar eu traed ar y pryd.
Daeth y beirniaid Elis Wyn o Wyrfai a Dyfed yn mlaen i ddarllen beirniadaeth awdl y gadair. Dywedent fod pymtheg o awdlau wedi eu derbyn, y rhai a ddosbarthwyd yn dri dosbarth, ond y goreu oedd eiddo Ap Tudur, yr hwn a drodd allan i fod y Parch R. A. Williams, Berw Uchaf, Abergynolwyn, swydd Meirionydd. Yna cadeiriwyd ef yn ol defod Beirdd Ynys Prydain, a dibynwyd y cadeirio gan luaws o englynion i'r achlysur.
(Tarian y Gweithiwr, 18 Awst 1887)
Y BARDD
Ganed y Prifardd Robert Arthur Williams ym 1854, ac fe'i magwyd gan ei fodryb ym Mhentre Berw, Môn. Roedd yn offeiriad ac yn fardd. Mae'n bosib mai fel beirniad y gwnaeth ei gyfraniad llenyddol mwyaf sylweddol, gan iddo feirniadu awdlau'r gadair droeon ochr yn ochr â John Morris-Jones ac eraill. Bu farw ym 1926.
Cofnod Berw yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c-WILL-ART-1854.html

Y BARDD Ganed y Prifardd Thomas Jones (Tudno) yn Llandudno yn 1844. Roedd yn fardd, yn offeiriad ac yn newyddiadurwr. Bu'n gweithio fel golygydd y Llandudno Directory, ac am gyfnod i'r Caernarvon and Denbigh Herald. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, record y mae'n ei rhannu â Dewi Emrys a Dyfed. Bu farw ym 1895, yn 51 oed. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth dan olygyddiaeth David Rowlands (Dewi Môn) wedi ei farwolaeth - Telyn Tudno (1897). Cofnod Tudno yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c3-JONE-TUD-1844.html |
1896
|
Prif hynodrwydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llandudno 1896 yw mai dyma'r unig gadair erioed yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol i gael ei hennill am gerdd ddi-gynghanedd. Mewn arbrawf anarferol, agorwyd drysau'r gystadleuaeth led y pen, gan groesawu'r awdlau a'r pryddestau at ei gilydd i un gorlan. Am na chawsai'r arbrawf ei hailadrodd, rhaid yw barnu iddi gael ei hystyried yn fethiant.
Y BARDD
Ganed Ben Davies yng Nghwmllynfell ym 1864. Dechreuodd farddoni yn ifanc iawn, a dechreuodd weithio fel glowr yn 13 oed, cyn mynd i astudio yn ysgol baratoi Llansawel ym 1885 ac yna Coleg y Bala. Bu'n weinidog gyda'r Annibynnwyr ym Mwlchgwyn, Llandegla a Phanteg. Enillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith (1892, 1893, 1894), a'i chadair unwaith (1896). Bu farw ym 1937. Llun: Ben Davies (chwith) gydag Elfed, enillwyr y goron a'r gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1894 (Papur Pawb) Cofnod Ben Davies ar Wicipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Ben_Davies |
1898
|
Ar ôl dod yn ail am gadair Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd y flwyddyn flaenorol, daeth tro Elfyn i eistedd yn hedd y Brifwyl yn ei fro ei hun ym 1898.
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH TAFOLOG [2]
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH TAFOLOG [2]
Y SEREMONI
Bu bron i Elfyn fethu ei gadeirio ei hun. Yn ôl gohebydd Y Genedl Gymreig ar 26 Gorffennaf 1898, symol ei iechyd oedd Elfyn a dyna'r rheswm dros iddo fethu ag ymbresennoli yn y pafiliwn. Disgrifiodd yr hyn a ddigwyddodd wedyn fel a ganlyn:
Digwyddodd anffawd ynglyn a’r Cadeirfardd …Rywsut yr oedd si wedi mynd allan mai Elfyn gawsai y gadair, ac yn ei dŷ, yn wael ei iechyd yr oedd y bardd. Gyrwyd pellebyr [telegram] i geisio ganddo ddod i’r Eisteddfod, eithr ni fedrai. Yna gyrwyd cerbyd i’w gyrchu, ac felly y cafwyd ef mewn pryd i’r babell.
Fodd bynnag, mae eraill yn adrodd stori wahanol. Mewn erthygl yn Steddfota (Cyf. 1, Rhif 2, Gŵyl Dewi 1983), mae O. Trevor Roberts (Llanowain), yn dweud fel hyn:
Gofynnwyd i Bryfdir, a oedd yn Ysgrifennydd y Pwyllgor, logi 'trap a merlyn' i fynd i gartref y bardd yn Llan Ffestiniog i geisio dyfod o hyd iddo. Fe'i darganfuwyd yn y man yn Llyfrgell y pentre. Wedi twtio dipyn arno, aed ag ef i mewn i'r babell pan oedd Dyfed a Berw ar fin traddodi'r feirniadaeth. Cyhoeddwyd mai Einion Urdd ... oedd y gorau o'r deuddeg ymgeisydd, a chadeiriwyd y bardd o'r Llan mewn pryd.
Llyfrgellydd oedd Elfyn wrth ei waith bryd hynny. Fodd bynnag, o ddarllen rhwng y llinellau, mae'n bosib hefyd mai am ei fod ychydig yn or-hoff o'i beint yr oedd y bardd yn hwyr i'w gadeirio. Yn ei erthygl ddifyr, mae Llanowain yn tynnu sylw'r darllenydd at un o'r englynion cyntaf a luniodd y bardd erioed, pan oedd oddeutu pymtheg oed - englyn i'r 'Meddwyn':
Heb beidio ar bob adeg, - yn llyncu
Y mae'r llencyn hirgeg,
Rhag llymeitian ychwaneg
Beth a gawn i bwytho'i geg?
'Trist yw gorfod nodi', medd Llanowain, 'y gallesid bod wedi cymhwyso'r ddwy linell olaf yna i Elfyn ei hun yn y man.'

Y GADAIR William Williams o Gyttir, Penrhoslligwy, ym Môn, oedd saer y gadair – ac mae ei enw wedi ei fewnosod dan wydr ar ei chefn (gw. llun ar y dde). Ceir ei enw wedi'i gerfio mewn llythrennau breision o dan sedd y gadair, hefyd. Byddai’n arfer yn y dyddiau hynny i osod y gwaith o saernio cadair yr eisteddfod fel cystadleuaeth y flwyddyn flaenorol. Mae’n ddigon posib mai dyma’r achos, a cheir cofnod fod yr un William Williams wedi ennill cystadleuaeth debyg yn Eisteddfod Gadeiriol Penbedw yn ystod yr un flwyddyn. Cadair arall nodweddiadol o'i hoes yw hon - ei cherfwaith yn gywrain a manwl, a phlu Tywysog Cymru a'r Ddraig Goch yn fotiffau amlwg. Ceir dau afr yng ngherfwaith cefn y gadair, yn ogystal â rhai o'r sloganau arferol: 'Y Ddraig Coch a ddyru Cychwyn' [sic] a 'Gwell Dysg na Golud'. |
Y BARDD
Ganed y Prifardd Robert Owen Hughes yn Llanrwst ym 1858. Yn dilyn gadael yr ysgol, bu'n brentis mewn banc cyn cychwyn paratoi i fynd i'r weinidogaeth gyda'r Methodistiaid. Yn lle hynny, treuliodd gyfnod yn gweithio i gyhoeddwr llyfrau yn Llundain. Yn ôl yng Nghymru, bu'n olygydd nifer o gylchgronnau - Gwalia, Y Rhedegydd, a'r Glorian yn eu plith. Bu am gyfnod hefyd yn llyfrgellydd yn Llan Ffestiniog. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Caniadau Elfyn. By farw ym 1919. Cofnod Elfyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUGH-OWE-1858 |
1910
|
Y SEREMONI
Yr oedd cadair derw hardd a £21 yn cael eu cynyg am yr awdl oreu ar "Yr Haf." Yn fuan gwelwyd yr Archdderwydd, wedi ei wisgo yng ngwisgoedd y swydd, yn ysgwyd y deyrnwialen a roddwyd yn anrheg dydd Mawrth, ac mewn atebiad i'w wahoddiad daeth yr Ofyddion, Beirdd a'r Derwyddon yn mlaen mewn gwisgoedd gwyrdd, glas a gwyn, gan ffurfio haner cylch ar yr esgynlawr, a'r gadair dderw yn wag yn y canol. Ar yr achlysur hwn yr oedd wedi dyfod i ran Dyfed i weithredu fel Archdderwydd a Beirniad, ac efe fu yn cyhoeddi y feirniadaeth. Seiniwyd yr udgorn deirgwaith ac yn y dystawrwydd a ganlynodd gallesig clywed llais yr Archdderwydd yn mhob congl o'r babell. Yna dywedodd fod y pedair-awdl-ar-ddeg a ddanfonwyd i fewn yn amrywio yn fawr mewn teilyngdod, a bod y pellder rhwng y goreu a'r gwaethaf yn anfesuradwy. Deliodd Dyfed yn llym iawn a un o'r cystadleuwyr, yr hwn, meddai ef, oedd wedi gweithredu fel lleidr penffordd trwy ddanfon awdl i fewn oedd yn ei chrynswth yn gynwysiedig o ddyfyniadau oddiwrth ysgrifau beirdd eraill. Yr oedd yr awdl oreu wedi ei harwyddo yn "Llion." Yr oedd ei dull yn ardderchog, ac yn hyfryd yn ei gweithiad. Yr oedd y bardd wedi ymgadw rhag canmol yr haf, ond yr oedd wedi gosod yr haf allan mor dda fel ag i adael yr haf i ganmol ei hun. Yr oedd yr awdwr hefyd yn gwneyd defnydd helaeth o ffurfiau hen a phur geiriau Cymraeg. Yr oedd, yn ddiamheu, yn feistr ar yr iaith, ac yn gyfarwydd o hen ysgrifau. Yn ol beirniadaeth unfrydol y beirniaid yr oedd "Llion" yn deilwng o eistedd yn nghadair Eisteddfod Genedlaethol 1910.
Mewn atebiad i alwad yr archdderwydd ar "Llion" i ddatguddio ei hun, cododd dyn ieuanc ym mhen pellaf yr adeilad, yn nghanol bonllefau y dyrfa, a'r seindorf yn chwareu "See, the conquering hero comes." Cyrchwyd ef i'r esgynlawr gan Alafon a Crwys Williams, yn mha le, yn fuan, y cyhoeddwyd mai Mr Robert Williams Parry, B.A., o Dalsarn, yn agos i Gaernarfon, ydoedd arwr y dydd. Mewn ymddangosiad gellid meddwl mai Mr Parry ydoedd y bardd ieuengaf a gadeiriwyd erioed yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a dywedodd yr Archdderwydd mai Mr Parry ydoedd awdwr y bryddest a gyhoeddwyd y flwyddyn ddiweddaf yn ail oreu am y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain. Cyn fod y bardd ieuanc yn cael ei osod i eistedd yn y gadair codwyd cleddyf yr Orsedd i fyny gan y beirdd cynulledig, ac eglurodd yr Archdderwydd y buasai y cledd yn cael ei ddadweinio, a'i osod rhwng y bardd a'r gadair os tybid fod rhyw anchwareuteg yn bod o du y cystadleuwr neu'r beirniaid, ac am hyny, mewn llef uchel ac eglur, gofynwyd "A oes Heddwch." Gofynwyd yr un gofyniad deirgwaith, a theirgwaith fel taran yr atebwyd "Heddwch" gan y miloedd oeddynt yn bresenol. Ar hyny tynwyd y cledd i lawr a gosodwyd y bardd i eistedd yn y gadair gan Countess Dundonald.
(Tarian y Gweithiwr, 22.09.1910)

Ganed y Prifardd R. Williams Parry ym 1884 yn Nhalysarn, Sir Gaernarfon. Roedd ei dad yn hanner brawd i Henry Parry-Williams, sef tad T. H. Parry Williams. Wedi treulio cyfnod fel athro yn ei ddauddegau cynnar, cwblhaodd ei radd ym Mangor yn 1907, ac MA yn yr un brifysgol ym 1912. Bu'n rhan o'r fyddin yn y Rhyfel Byd 1af rhwng 1916 a 1918. Ym 1922, daeth yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mangor lle y bu hyd nes iddo ymddeol ym 1944. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i gerddi, Yr Haf a cherddi eraill (1924) a Cerddi'r Gaeaf (1952). Bu farw ym 1956. Cofnod R. Williams Parry yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-PARR-WIL-1884.html |
1911
|
Cymreigiad o Edward VII yw 'Iorwerth y Seithfed', felly awdl o foliant i Frenin Lloegr a ddisgwylid ym 1911. Bu farw Edward VII ym Mai 1910, ac mae'r testun yn arwydd o Gymru frenhingar y cyfnod cyn y rhyfeloedd byd; yn yr un ysbryd ag awdl Berw - un o feirniaid 1911 - i'r Frenhines Victoria, mam Edward, yn Eisteddfod Llundain 1887. Diau y dewiswyd Berw ac Elfed o fwriad i feirniadu ar y testun hwn - hawdd yw credu y byddai wedi corddi ambell feirniad arall i'r byw.
Y BARDD
Brodor o Ddyffryn Ceiriog oedd Gwilym Ceiriog, ond treuliodd ei oes yn byw yn nhref Llangollen. Bu'n fardd llwyddiannus mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol ar hyd ei oes.

Roedd Sarnicol (1873-1945) yn fardd poblogaidd o fro Banc Siôn Cwilt. Fe'i magwyd yng Nghapel Cynon ac astudiodd radd yn Aberystwyth cyn mynd yn athro ysgol. Ymddeolodd yn gynnar ym 1931 o ganlyniad i afiechyd, a bu'n byw yn Aberystwyth hyd nes ei farwolaeth ym 1945. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni 1913.
Cofnod Sarnicol yn y Bywgraffiadur Cymreig:
bywgraffiadur.cymru/article/c2-THOM-JAC-1873

1914-15
|
O graffu ar flaen Cadair Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1915, fe welir mai 1914 yw'r flwyddyn arni. Cafodd Eisteddfod Bangor 1914 ei gohirio oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Cytunodd trefnwyr Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1915 ohirio eu heisteddfod hwythau o flwyddyn er mwyn gallu cynnal Eisteddfod Bangor. Roedd yn rhaid i'r cystadleuwyr llenyddol aros flwyddyn gyfan yn ychwanegol i dderbyn beirniadaeth, felly!
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH ELLIS HUMPHREY EVANS (HEDD WYN)
Y SEREMONI
John Morris Jones, T. Gwynn Jones, a J. J. Williams oedd beirniaid y gadair. Ychydig o waith gawsant; pedwar oedd wedi canu i "Eryri." Y blaenaf oedd yn siarad drostynt, ac nid oedd yn canmol hyd yn oed y gore - "Rhuddwyn Llwyd" [...] Caed mai Dr. T. H. Parry-Williams, sef enillydd y goron y dydd blaenorol oedd yr awdur, ac arweiniwyd ef i'r llwyfan gan Pedrog a Chrwys (bardd coronog Eisteddfod Ffair y Byd). Cadeiriwyd ef yn y dull arferol, ond fod y cledd o'r golwg. Enillodd y bardd dysgedig hwn y gadair a'r goron yng Ngwrecsam yn 1912.
(Y Clorianydd, 11.08.1915)
O'R BEIRNIADAETHAU
Ni welaf fi fod i'r awdl hon wir unoliaeth, namyn unoliaeth ffurfiol (bron na ddywedwn ffugiol) cynllun y tri lliw; ac nid yw mor deg ar y testyn ag y dymunwn i iddi fod. Ond y mae'r awdur yn feistr ar yr iaith Gymraeg, ac yn gynganeddwr medrus heb orlliw henaint ar ei linellau. Y mae ei awdl yn tra rhagori ar yr un o'r tair erill yn y gystadleuaeth hon, ac, o ran medr llenyddol beth bynnag, ar ddegau a gadeiriwyd. Gan hynny, cytunaf â'm cyd-feirniaid mai'r unig beth a allwn ei wneuthur ydyw dyfarnu'r gadair a'r wobr i Ruddwyn Llwyd.
(John Morris Jones)
RHAI ENILLWYR LLENYDDOL ERAILL
CYSTADLEUAETH Y GORON ('Y DDINAS') THOMAS HERBERT PARRY-WILLIAMS
Yr oedd naw ar hugain wedi cynnyg am y goron, sef pryddest heb fod dros 800 o linellau ar unrhyw destun, am y wobr o £20 a Choron Arian hardd. Y beirniaid oedd Alafon, Eifion Wyn a Gwili. Alafon yn unig oedd yn bresennol o'r tri beirniad, ond oherwydd gwendid bu raid i Pedrog ddarllen y feirniadaeth. Yn ôl Gwili lled siomedig oedd y gystadleuaeth ond y goreu o honynt yn ei dyb ef oedd eiddo "Alwyn Arab." Ar y llaw arall yr oedd Eifion Wyn yn annog atal y wobr ... Ymddengys nad oedd y bardd buddugol yn bresennol, a bu raid i Cadfan alw arno dair gwaith cyn i Mr. Parry Williams, ysgolfeistr Rhyd-ddu, sef tad y bardd buddugol, godi i fyny. Canwyd cân y coroni gan Miss Dilys Jones. Cyhoeddwyd Dr. T. H. Parry Williams, Rhyd-ddu, yn fardd coronog Eisteddfod Bangor, 1915.
(Y Cymro, 11.08.1915)
HIR A THODDAID ('PENCERDD GWALIA') EDGAR THOMAS, PONTARDULAIS
CHWECH O DELYNEGION MISS L. M. PRICE, RHUTHUN / PARCH. CRWYS WILLIAMS, BRYNMAWR
ENGLYN ('Y GRAGEN') DEWI MORGAN, PENYGARN

ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH HEDD WYN [2]
Prif hynodrwydd cystadleuaeth y gadair yn yr eisteddfod hon oedd mai Hedd Wyn oedd awdur yr awdl a ddyfarnwyd yn ail orau. Roedd J. J. Williams, fodd bynnag, yn daer o blaid cadeirio'r bardd o Drawsfynydd, ac roedd y farn boblogaidd yr un fath. Byddai ennill y gadair yn Aberystwyth wedi golygu y byddai Hedd Wyn wedi ei gadeirio tra'n fyw, a phwy a wyr a fyddai awdl 'Yr Arwr' ac amgylchiadau trasig Eisteddfod Penbedw 1917 wedi digwydd.
Y GADAIR
Cadair genedlaethol anarferol iawn yw cadair 1916, gan mai cadair arian finatur ydyw. Dim ond ar un achlysur arall, sef eisteddfod 1940 (prifwyl arall dan gysgod rhyfel byd) y gwyddys i'r eisteddfod genedlaethol beidio a chynnig cadair o faint llawn i'r enillydd. Mae'n debyg y byddai cyfnod o gyni ac ansicrwydd wedi effeithio ar y penderfyniad. Gwelir llun o'r gadair ar y dde gyda darn ceiniog wrth ei hymyl, er mwyn dangos y maint. Ymddangosodd y gadair ar rifyn o'r Antiques Roadshow yn 2015. Rhagor am hynny yma: https://www.dailypost.co.uk/whats-on/arts-culture-news/watch-antiques-roadshow-visits-angleseys-9390987 |
Y BARDD
Bardd o Forfa Nefyn yn wreiddiol oedd John Ellis Williams (1872-1930), a bu'n weinidog gyda'r Annibynnwyr ym Mangor. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1916 am ei awdl, 'Ystrad Fflur'. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Caniadau John Ellis Williams, Bangor, yn dilyn ei farwolaeth.

1917
|
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH SARNICOL [2], DEWI EMRYS (yn ôl Alan Llwyd yn Canrif o Brifwyl, y tro cyntaf i Dewi Emrys gystadlu am y Gadair Genedlaethol)
Hanes cadeirio Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917 yw'r mwyaf adnabyddus ohonynt i gyd. Enillodd Elis Humphrey Evans (Hedd Wyn), mab fferm Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, y Gadair am ei awdl 'Yr Arwr', a hynny chwe wythnos wedi ei farwolaeth ar faes y gad yng Ngwlad Belg.
Wedi seremoni drawiadol lle gorchuddiwyd y Gadair â lliain du, daeth y gadair wag a marwolaeth Hedd Wyn i gynrychioli gwastraff y Rhyfel Mawr a'r degau o filoedd o gadeiriau gwag eraill oedd mewn tai dros Gymru - a'r byd - yn gyfan. |
Y GADAIR
Eugeen Vanfleteren oedd dylunydd a gwneuthurwr Cadair 1917, un o'r Cadaeiriau Cenedlaethol cywreiniaf erioed o ran ei gwaith cerfio. Yn rhyfedd iawn, roedd Vanfleteren wedi ymgartrefu yn ardal Penbedw yn dilyn ffoi o Wlad Belg ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf; ac yng Ngwlad Belg y bu farw'r bardd a enillodd ei gadair ar faes y gad. Yn ystod digwyddiadau i nodi canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn yn 2017, comisiynwyd argraffiad 3D o'r Gadair Ddu. Gellir dysgu mwy yma. |
Y BARDD
Ganwyd y Prifardd Ellis Humphrey Evans ym 1887 yn fab hynaf i deulu fferm Yr Ysgwrn, Trawsfynydd. Cafodd ei enw barddol, Hedd Wyn gan Bryfdir mewn digwyddiad barddol ar lan Llyn y Morynion. Enillodd bump o gadeiriau lleol cyn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917, wythnosau yn unig wedi ei farwolaeth ar faes y gad yng Nghefn Pilkem, Gwlad Belg. Cyhoeddwyd cyfrol o'i waith, Cerddi'r Bugail, ym 1918. Cofnod Ellis Humphrey Evans yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c-EVAN-HUM-1887.html |
1918
|
Dyma'r drydedd gadair genedlaethol, a'r olaf, i John Thomas Job ei hennill; bu'n fuddugol dros dair degawd, gyda'i lwyddiannau blaenorol yn dod ym 1897 a 1903. Erbyn 1918, roedd yn un o'r hen do o feirdd eisteddfodol, ac mae'n deg dweud fod yr awdl a ddaeth i'r brig yn adlewyrchu hynny.
1922
|
Yn sefyll yn festri Eglwys Moriah, Dolwyddelan erbyn heddiw mae dwy gadair yn gwmni i’w gilydd. Bu un cadair yn unig tan yn ddiweddar, a chadair Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman 1922 oedd honno.
Y BARDD
Yr enillydd oedd Dr. John Lloyd Jones. Fe anwyd yr Athro yng Nghartrefle, Dolwyddelan ym Mis Hydref 1885, yn fab i John a Dorothy Lloyd Jones. Cafodd ei addysg yn Ysgol Dolwyddelan ac yn yr Ysgol Sir yn Llanrwst. Derbyniodd ysgoloriaeth gan Goleg y Brifysgol Bangor ac yn 1902 dechreuodd ar ei daith fel myfyriwr. Astudiodd o dan arweinyddiaeth Syr John Morris Jones ym Mangor, gan raddio gydag anrhydedd ym 1906 , ac M.A ym 1909. Ym 1907 ymaelododd John Lloyd Jones fel myfyriwr ymchwil yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, gan ennill gradd B.Litt yno ym 1908. Gadawodd Brydain am Fosiburg, Yr Almaen i astudio Gwyddeleg a Chelteg o dan Rudolf Thurneysen. Derbyniodd yr athro swydd fel darlithydd mewn Cymraeg a Chelteg yn Nulyn, a threuliodd dros 40 mlynedd yno. Yno enillodd barch cyffredinol, a chawsai ei adnabod fel llysgennad answyddogol oedd yn arwain Cymry enwog i ymweld ag Arlywydd Iwerddon. Roedd yr athro yn flaenor yng Nghapel Cymraeg Methodistaidd Dulyn ac roedd ef a’i wraig Freda yn gwneud llawer yn y capel. Merch o Fangor oedd Freda a bu i’r ddau briodi ym 1922. Derbyniodd ym 1948 radd ‘Doethor mewn Llenyddiaeth’ gan Brifysgol Cymru i ddangos eu gwerthfawrogiad o’i waith iddynt fel arholwr allanol am bron i 40 mlynedd. Ymddeolodd o’i swydd ym 1955, a symud yn ôl i’w fro enedigol, Dolwyddelan. Ni fu iechyd yn hael wrtho, a bu farw ym mis Chwefror 1956. Cafodd ei gladdu yn ôl ei ddymuniad ym mynwent Bryn-y-Bedd. Dyma’r englyn clo yn ei englynion i Fryn-y-Bedd. Ac yno yn randir Gwynedd- ar dro byr Daw’r bore i’m orwedd A daw im yn y diwedd Raean bwll ym Mryn-y-Bedd. |
YR AWDL
‘Y Gaeaf’ oedd testun y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman 1922. Tri John oedd yn beirniadu, sef John Morris-Jones, John. T. Job a John J. Williams. John daeth i’r brig yn y gystadleuaeth hefyd, sef John Lloyd Jones. Awdl sy’n sôn am y gaeafddyddiau o golli ei gariad yw hon, ac roedd yn eithaf hen ffasiwn ei naws yn y cyfnod; yn y dull rhamantaidd oedd yn prysur golli tir i ddyfodiad moderniaeth y beirdd newydd. Yn ôl Alan Llwyd mae hon yn ‘awdl grefftus iawn... ond rhamantus yw’r cywair’.
Fe welwn y grefft yn nechrau’r gerdd wrth i’r bardd agor â chyfres o englynion sydd wedi eu clymu yn gadwyn o un i’r llall. Mae cysylltiadau cofiadwy rhwng yr geiriau olaf un englyn, a geiriau cyntaf y nesaf, er enghraifft
‘A lle’r llu fydd llawr y llan’ a ‘Llawr y llan fydd lle’r llonnaf’
neu ‘A gwenau boreau braf’ a ‘Boreau braf yr haf a’u rhin’.
Mae’r awdl wedi ei rhannu yn dair rhan, sef I- Gaeaf yr oed, II- Gaeaf yr od a III- Gaeaf yr oes. Mae’r rhan gyntaf yn trafod perthynas y bardd â merch o’r enw Enid. Caiff yr amseroedd braf o garu, ble’r oedd Enid yn holliach eu cymharu i’r haf, ond wrth i iechyd Enid ddirywio mae’r haf yn troi’n aeaf ac fe gawn ddarlun diflas a gaeafol o gariad y ddau. Yn yr ail ran cawn awgrym mai’r gaeaf sydd yn gyfrifol am salwch Enid, ac felly’n gyfrifol am negyddiaeth y bardd tuag at y gaeaf. Yn ogystal â hynny fe welwn obaith yn y canu yma, wrth i’r bardd sôn am fynd i’r Swistir i chwilio am iachâd i’w gariad. Y trydydd rhan yw’r tristaf o’r rhannau i gyd. Yma cawn ddarlun o siom a marwolaeth a’r syniad cyffredin o aeaf tragwyddol ar ôl colled. Mae’r awdl yn cloi gyda’r un dechneg a ddefnyddiwyd i’w hagor, sef cadwyn o englynion. Dyma awdl sy’n gampwaith o bensarniaeth, ac yn brawf fod yr athro yn feistr ar y gynghanedd ac yn fardd rhagorol.
Y GADAIR
Heddiw mae’r gadair yn hawlio’i lle yn y festri yn Nolwyddelan, ac yn cael cwmni cadair Bryfdir o Eisteddfod Cymrodyr Dolwyddelan 1923. Roedd John Lloyd Jones yn un o hoelion wyth yr eisteddfod honno, ac fe gawn fwy o hanes yr Eisteddfod yn Nolwyddelan mewn blogiau i ddod.
Mae’n werth mynd am dro i’r festri i gael golwg ar y gadair. Aeth Iestyn a minnau yno yn ddiweddar i dynnu lluniau a rhyfeddu ar ei phrydferthwch. Naws hen ffasiwn sydd iddi, gyda dylanwad yr 1890au yn dod i’r amlwg yn y cerfweithiau manwl a chywrain o eifr ar y breichau, a llewod yn codi uwchben cefn y gadair. Ar y coesau mae patrwm celtaidd, ac mae’n syndod gweld ‘Ammanford’ yn fawr arni, yn hytrach na ‘Rhydaman’.
Er mai fel llysgennad a darlithydd y cofir am John Lloyd Jones yn bennaf, rhaid peidio anghofio am yr awdl wych, a’r gadair haeddiannol sy’n atgof o’i ddawn.
(ALUN WILLIAMS)
Rhai ffynonellau fu'n ddefnyddiol wrth ymchwilio i'r hanes yma:
Canrif o Brifwyl, Alan Llwyd - http://www.bbc.co.uk/cymru/canrif/
Dringwn fel ein tadau - hanes eglwys Moriah, Dolwyddelan 1880 - 1980, O. E. Williams
Y Bywgraffiadur Cymreig

Gwrthododd y beirniaid ddyfarnu unrhyw un o'r beirdd yn deilwng o gadair Eisteddfod Genedlaethol Treorci 1928, ar y testun 'Y Sant'. Byddai awdl gan Gwenallt wedi bod yn deilwng o'i chadeirio onibai iddi gythruddo'r beirniaid am ei bod yn trafod rhyw. Fel hyn y dywed Alan Llwyd yn Canrif o Brifwyl:
Awdl gan Gwenallt oedd yr awdl orau yn y gystadleuaeth hon, ond gwrthodwyd ei chadeirio. Fel yn 'Y Mynach', y gwrthdaro rhwng cnawd ac ysbryd yw thema'r awdl, ond, yn wahanol i awdl fuddugol 1926, y mae'r cnawd a'r enaid yn un erbyn y diwedd 'Y Sant', gan ddilyn athroniaeth Thomas Aquinas. Mae Gwenallt yn archwilio pynciau fel natur pechod yn yr awdl, ond cythruddwyd y beirniaid gan y disgrifiadau agos-at-yr-asgwrn o ryw a geid ynddi, yn enwedig mewn llinellau fel 'Ar hyd ei blows biws rhedai blys bysedd'. Galwyd yr awdl yn 'bentwr o aflendid' gan John Morris-Jones. 'Roedd y beirniaid wedi cael digon ar barodrwydd y beirdd newydd i drin pynciau fel y nwydau rhywiol, yn enwedig ar ôl helynt 'Atgof' Prosser Rhys, a dyna un rheswm pam y gwrthodwyd cadeirio Gwenallt. Hefyd yr oedd awdl Gwenallt yn Babyddol ei syniadaeth a'i delweddaeth, ac ofnai llawer ar y pryd, W. J. Gruffydd, er enghraifft, fod Catholigiaeth ar gynnydd yng Nghymru. Dylanwadwyd yn gryf ar yr awdl gan gyfrol Saunders Lewis, Williams Pantycelyn (1927). Collwyd cyfle ym 1928 i wobrwyo awdl anghyffredin.
Cyhoeddwyd awdl 'Y Sant' gan Gwenallt gyda'i awdl fuddugol o 1926, 'Y Mynach', mewn llyfryn bychan yn fuan wedi Eisteddfod Treorci. Byddai'n rhaid i Gwenallt aros rai blynyddoedd eto cyn cipio ei ail Gadair Genedlaethol ym Mangor ym 1931.

1929
|
Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl 1929 oedd y tro diwethaf i'r Brifwyl gael ei chynnal y tu allan i ffiniau Cymru. Enillodd Dewi Emrys ei gadair genedlaethol gyntaf o bedair - record sy'n sefyll hyd heddiw; fodd bynnag, roedd cerdd arall ganddo yn yr eisteddfod honno yn fwy arwyddocaol o lawer nac awdl y gadair, sef ei gerdd dafodieithol enwog, 'Pwllderi'.
Y GADAIR
Fel yn achos nifer o'i wobrau cenedlaethol, ni ddaliodd Dewi Emrys ei afael ar Gadair Lerpwl 1929. Mae'n debyg mai Thomas Scott-Ellis, 8fed Barwn Howard de Walden, yw'r ddolen gyswllt sy'n esbonio pam mai yng Nghastell y Waun y cafodd y gadair honno gartref. Roedd Thomas Scott-Ellis yn un o wŷr cyfoethocaf Ynysoedd Prydain ar un adeg, a bu'n byw yng Nghastell y Waun o adeg ei briodas ym 1912 hyd ei farwolaeth ym 1946. Er mai Sais ydoedd, roedd ganddo feddwl mawr o'r ffaith fod ganddo hynafiaid o Gymru, a daeth yn noddwr hael i lenyddiaeth a'r celfyddydau yng Nghymru. Dysgodd Gymraeg a chyfansoddodd lawer o'i waith ei hun, a cheisiodd sefydlu'r Theatr Genedlaethol gyntaf yng Nghymru. |
Roedd yn hael ei nawdd i Dewi Emrys, a fyddai'n aml yn ei gael ei hun mewn trafferthion ariannol. Mae'n amlwg fod parch y bardd tuag ato yn uchel, gan iddo gyflwyno ei gyfrol ar y grefft o farddoni, Odl a Chynghanedd, i'r Arglwydd Howard de Walden. Mae'n deg tybio mai offrwm diolchgar arall oedd cyflwyno'r Gadair Genedlaethol i gasgliadau Castell y Waun.
Y BARDD
Ganed y Prifardd David Emrys James yng Ngheredigion ym 1881. Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, a'i choron unwaith, gan olygu mai ef yw un o'r beirdd cystadleuol mwyaf llwyddiannus yn hanes y Brifwyl. Roedd yn adnabyddus am ei bregethu tanbaid, ei fywyd personol tymhestlog, ac am fod yn un o'r collwyr salaf yn hanes yr Eisteddfod. Cyhoeddodd lawer o gyfrolau a bu'n gyfrifol am golofn farddol Y Cymro am flynyddoedd lawer. Treuliodd ddiwedd ei oes yn byw yn Y Bwthyn yn Nhalgarreg gyda'i ferch, Dwynwen. Bu farw ym 1952. Cofnod Dewi Emrys yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-JAME-EMR-1881 |
1930
|
Enillodd Dewi Emrys y gadair am yr eildro yn olynol yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1930.
Y BARDD
Ganed y Prifardd David Emrys James yng Ngheredigion ym 1881. Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, a'i choron unwaith, gan olygu mai ef yw un o'r beirdd cystadleuol mwyaf llwyddiannus yn hanes y Brifwyl. Roedd yn adnabyddus am ei bregethu tanbaid, ei fywyd personol tymhestlog, ac am fod yn un o'r collwyr salaf yn hanes yr Eisteddfod. Cyhoeddodd lawer o gyfrolau a bu'n gyfrifol am golofn farddol Y Cymro am flynyddoedd lawer. Treuliodd ddiwedd ei oes yn byw yn Y Bwthyn yn Nhalgarreg gyda'i ferch, Dwynwen. Bu farw ym 1952. Cofnod Dewi Emrys yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-JAME-EMR-1881 |
1931
|
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH D. J. DAVIES [2], DEWI EMRYS, EDGAR PHILLIPS (TREFIN)
Y BARDD Ganed y Prifardd David James Jones ym Mhontardawe ym 1899. Yn dilyn ei addysg ysgol bu'n ddisgybl-athro cyn treulio cyfnod yn y carchar fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Graddiodd o Goleg Prifysgol Aberystwyth yn fuan wedi'r rhyfel, ac yn y pen draw daeth yn ddarlithydd yn yr adran Gymraeg yno ei hun. Ef oedd golygydd cyntaf cylchgrawn Taliesin, ac enillodd ddwy Gadair Genedlaethol. Bu farw yn Aberystwyth ar noswyl Nadolig 1968. Cofnod Gwenallt yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-JONE-JAM-1899 |
1933
|
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH DEWI EMRYS, ROLANT O FÔN
Hon oedd yr ail Gadair Genedlaethol i gael ei saernio yn Amddifaty Catholig T'ou-se-we, Shanghai. Fe'i comisiynwyd, fel Cadair Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926, a enillwyd gan Gwenallt gan Dr. John Robert Jones (1887-1976), un o Lanuwchllyn yn wreiddiol oedd yn byw yn Shanghai ac yn gweithio fel bargyfreithiwr. Fel aelod o'r Royal Asiatic Society yn Shanghai, roedd gan Jones ddiddordeb mawr yn niwylliant a chelfyddyd Tsieina
Mae'r gadair hon yn hynod nid yn unig am ei dyluniad unigryw gan grefftwyr Maori o Seland Newydd, ond am mai hi oedd y gadair gyntaf i gael ei hennill gyda cherdd vers-libre cynganeddol yn hytrach nac awdl yn y mesurau caeth traddodiadol. Gwyndaf Evans, ei henillydd, yw'r bardd ieuengaf erioed i enill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH TOM PARRY-JONES, SIMON B. JONES, ROLANT O FÔN

1946
|
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH TOM PARRY-JONES, ROLANT O FÔN, DEWI EMRYS
Y BARDD
Ganed Y Prifardd Geraint Bowen yn Nhreorci ym 1915. Roedd yn fab i Thomas Orchwy Bowen, yn nai i Ben a David Bowen (Myfyr Hefin), ac yn frawd i'r Prifardd Euros Bowen. Ystyrir yr awdl a enillodd iddo Gadair y Brifwyl yn Aberpennar ym 1946 yn un o'r awdlau cywreiniaf i gipio'r wobr honno. Bu'n archdderwydd rhwng 1979 ac 1981. Roedd hefyd yn ysgolhaig, yn genedlaetholwr ac yn olygydd. Bu farw yn 2011. Cofnod Geraint Bowen ar Wicipedia: cy.wikipedia.org/wiki/Geraint_Bowen |
1948
|
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH W. D. WILLIAMS [2], MATHONWY HUGHES, E. LLWYD WILLIAMS
Pedwaredd cadair, a chadair olaf Dewi Emrys yn y Genedlaethol, gan ei osod yn hafal â Dyfed a Thudno yn unig fel y Prifeirdd Cadeiriol mwyaf llwyddiannus yn hanes y Brifwyl. Yn o fuan wedi'r gamp hon gan Dewi Emrys, cyflwynodd yr Eisteddfod reol i nodi nad oedd hawl gan unrhyw fardd i ennill un o'r prif wobrau fwy na dwywaith. Fodd bynnag, llaciwyd ar y rheol hon mewn blynyddoedd diweddar.
Y BARDD
Ganed y Prifardd David Emrys James yng Ngheredigion ym 1881. Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, a'i choron unwaith, gan olygu mai ef yw un o'r beirdd cystadleuol mwyaf llwyddiannus yn hanes y Brifwyl. Roedd yn adnabyddus am ei bregethu tanbaid, ei fywyd personol tymhestlog, ac am fod yn un o'r collwyr salaf yn hanes yr Eisteddfod. Cyhoeddodd lawer o gyfrolau a bu'n gyfrifol am golofn farddol Y Cymro am flynyddoedd lawer. Treuliodd ddiwedd ei oes yn byw yn Y Bwthyn yn Nhalgarreg gyda'i ferch, Dwynwen. Bu farw ym 1952. Cofnod Dewi Emrys yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-JAME-EMR-1881 |
1950
|
Y GADAIR
Gareth Tilsley, mab y bardd buddugol, sy'n rhoi rhywfaint o hanes cadair 1950:
Fe gomisiynwyd y gadair gan Gymry oedd yn gweithio yn y maes olew yn Abadan yn Persia, Iran heddiw. Fe’i lluniwyd gan grefftwr lleol. Coed Cnau Ffrengig Persiaidd yw pren y gadair a chroen antelope gwyn oedd yn gorchuddio’r cefn a’r sêt. Roedd yr enillydd, Gwilym R Tilsley, yn weinidog yn Aberdâr ar y pryd ac fe osodwyd y gadair yn y capel a chroesawu pobl i ddod yno. Gan mai Awdl Foliant i’r Glöwr oedd y gerdd fuddugol fe ddaeth nifer fawr o löwyr i’w gweld, ac eistedd ynddi - a chyn pen dim roedd llwch du y glo oedd ar hyd yn oed eu dillad parch wedi troi’r croen gwyn yn llwyd!
Credir bod y gadair yn unigryw ac mai hon yw’r unig gadair Eisteddfod Genedlaethol nad yw’r Nôd Cyfrin yn ymddangos arni.

Ganed Gwilym Tilsley ym 1911 yn Llanidloes; derbyniodd ei addysg gynnar yn lleol cyn mynd ymlaen i astudio yn Aberystwyth a Chaergrawnt. Bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid yng Nghomins Coch, Pontrhydygroes, Aberdar, Bae Colwyn, Llanrwst, Caernarfon, Y Rhyl a Wrecsam. Treuliodd ei ymddeoliad ym Mhrestatyn, a bu farw ym 1997. Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, a gwasanaethodd fel archdderwydd rhwng 1969 a 1972.
Cofnod Wicipedia Gwilym Tilsley: https://cy.wikipedia.org/wiki/Gwilym_Tilsley

ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH GWILYM CERI JONES [2], EUROS BOWEN, E. LLWYD WILLIAMS
1956
|
Prin iawn yn hanes y gystadleuaeth hon y bu i'r Gadair gael ei rhoi am awdl y gellid ei hystyried yn gerdd 'ysgafn'. Mae 'Gwraig' Mathonwy Hughes yn eithriad prin i'r rheol honno, gyda theitlau'r ddau ganiad, 'Ddoe'n Rose', a 'Heddiw'n Wrach', yn dweud y cyfan. Erbyn heddiw, fodd bynnag, hen-ffasiwn a threuliedig yw'r hiwmor ynddi. Mae'r gadair bellach wedi cael cartref yn Seland Newydd, ac ym meddiant Ruth, gor-wyres i gyfneither Mathonwy Hughes, Rhiannon Jankowska.
Gallwch bori trwy luniau Geoff Charles o seremoni gadeirio 1956 yma.

Fel y crybwyllwyd eisoes, dewisodd Mathonwy Hughes rannu ei awdl, 'Gwraig', yn ddau ganiad: I. Ddoe'n Rose, a II. Heddiw'n Wrach. Mae'r caniad cyntaf yn darlunio carwriaeth gyflym a nwydus, gan ddechrau gyda golygfa yn sinema'r Odeon, a bortreadir mewn cyfres o hir-a-thoddeidiau:
Llewych yr Odeon, mor llachar ydoedd!
Ei chantau oddaith, pyrth ei chynteddoedd,
Ei nudd aur melyn wahoddai'r miloedd
O'r nos annifyr i naws ei nefoedd,
Ac yno'r awchus gannoedd - ymwthiai,
Y mass orysai am ias yr oesoedd.
Eir trwy elfennau'r garwriaeth - mynd i'r ddawns, cyfarfod â'i rhieni (Y gŵr, a hithau'i wraig ef, / Gwyddwn fod rhaid eu goddef.'), a charu Dafydd-ap-Gwilym-aidd o dan y coed ('Cydiwyd o dan y coedydd / Y llanc a'i wench mewn llwyn cudd.'). Daw'r caniad cyntaf i ben gyda'r cwpled hwn:
Wedi'r hwyl, ar fyr o dro, - Ŵyl y Banc,
Dau rhy ieuanc a aeth i'w modrwyo.
Y bywyd ôl-briodasol yw testun yr ail ganiad, sydd mewn cyferbyniad llwyr â gorfoledd y caniad cyntaf. Mae'n anodd dychmygu llinellau fel yma yn cael derbyniad gwresog yn yr oes fwy goleuedig hon:
Rose wên rouge a droes yn wrach,
Yn wraig ofer ac afiach.
Gwael ei medr o gael modrwy,
Merch ei mham a rhyw hwch mwy
Darlunir y teulu bach yn magu llond lle o blant mewn tŷ Cyngor llwm ('Gwen, Margaret Ann, a Janet, / Meirion ac Arfon a Kate, / William John a Goronwy, / Susan a Megan a mwy ...'), a cheir disgrifiadau cyffredinol o'r cartref di-lun a diffyg trefn y fam a'r tad.
Mae'r awdl yn cloi gyda thro, sy'n awgrymu er gwaethaf yr uchod oll, fod y cariad tanbaid yn parhau i fodoli rhwng y pâr priod, a'r bardd yn gosod ei gwynion o'r neilltu:
Tewi wnaf, ein 'Tŷ Ni' yw,
Ein dedwydd aelwyd ydyw.
Gallwch ddarllen 'Gwraig' a barn y beirniaid arni yn Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1956 (gol. E D Jones, Gwasg y Brython 1956)

Cadair seml yr olwg yw cadair 1956, ac fe ddaw o gyfnod yn hanes y Brifwyl a ffafriai ddyluniadau glân, diffwdan dros y cerfwaith eithriadol gywrain a fu mewn bri ar un adeg. Yn y lluniau gwreiddiol ohoni (uchod), gwelir nad yw hyd yn oed y nod cyfrin i weld ar gefn y gadair; fodd bynnag, mae'n amlwg ei fod wedi cael ei ychwanegu ar rhyw adeg gan eu bod yn ymddangos mewn lluniau diweddar ohoni (gw. llun ar y dde). Nid yw enw a dyddiad yr Eisteddfod mewn man amlwg arni chwaith - yn hytrach, maent wedi eu cerfio ar gefn y gadair (gw. llun 1 isod). Fe welir hefyd fod enw a dyddiad yr eisteddfod wedi eu hychwanegu ar blâc pres i fan arall ar y gadair - yn ddiweddarach, o bosib ar yr un adeg â'r nod cyfrin? (gw. llun 2 isod). Lluniau: Sally Clifton |
Y BARDD
Ganed y Prifardd Mathonwy Hughes ym 1901 yn Llanllyfni, yn fab i deulu chwarelyddol. Roedd yn nai i'r Prifardd R. Silyn Roberts. Wrth ei waith, roedd yn olygydd cynorthwyol ar gyfnodolyn Baner ac Amserau Cymru. Roedd yn fardd aml ei gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol, ond pinacl ei yrfa gystadleuol oedd enill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1956. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau o farddoniaeth. Bu farw ym 1999.
Cofnod Mathonwy Hughes ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/Mathonwy_Hughes

2001
|
Gwnaed hanes yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a'r Cyffiniau 2001 pan safodd Mererid Hopwood ar ei thraed yn y pafiliwn ar y pnawn Gwener - y ferch gyntaf erioed i gyflawni'r gamp. Gellir gweld clip fideo o'r foment hanesyddol hon yma.
Y GERDD
Gofynnwyd am awdl ar y mesurau caeth traddodiadol heb fod yn hwy na 200 llinell. Roedd y tri beirniad, y Prifeirdd Emyr Lewis, Dic Jones ac Elwyn Edwards, yn annibynnol ar ei gilydd, yn gwbl gytûn ar ragoriaeth awdl 'Llygad y Dydd' yn y gystadleuaeth.
Awdl o safbwynt Mam yw 'Dadeni' Mererid Hopwood. Mae'n dilyn hanes merch wrth iddi ddisgyn mewn cariad, beichiogi, a rhoi genedigaeth i blentyn sydd maes o law yn marw. Ochr yn ochr â hyn ceir hanes y prif gymeriad yn colli ac yn ailgydio yn ei ffydd. Gellir darllen y gerdd yn Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 2001: Sir Ddinbych a'r Cyffiniau (tud. 16-20) neu yn Nes Draw (Gomer 2015, tud. 111-118).

Y BARDD Ganed y Prifardd Mererid Hopwood ym 1964. Cafodd ei geni a'i magu yng Nghaerdydd a mynychodd ysgolion Glantaf a Llanhari. Graddiodd mewn Almaeneg a Sbaeneg a bu'n ddarlithydd yn ogystal a chyfnodau'n gweithio'n llawrydd ac i Gyngor y Celfyddydau. Mae'n un o grŵp bychan o lenorion sydd wedi llwyddo i ennill Cadair, Coron [Meifod, 2003] a Medal Ryddiaith [Caerdydd, 2008] yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddodd ei hunig gyfrol o farddoniaeth, Nes Draw, yn 2015. Enillodd y gyfrol gategori barddoniaeth Gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2016. Cofnod Mererid Hopwood ar Wicipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Mererid_Hopwood |
2009
|
Ataliwyd Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf ers 1998 yn Y Bala yn 2009, gyda'r tri beirniad, Branwen Jarvis, Ceri Wyn Jones a Gwenallt Llwyd Ifan yn cytuno'n unfryd na fyddai modd gwobrwyo.
Un o feirniaid y Gadair, Ceri Wyn Jones, oedd enillydd y Goron yn gynharach yr un wythnos, a hynny gyda chasgliad o gerddi a achosodd gryn ddadlau am eu bod yn gyfangwbl ar gynghanedd - tiriogaeth arferol cystadleuaeth y Gadair.
Isod: y cleddyf wedi'i osod ar draws y Gadair wag (llun BBC)

Hon oedd y gadair Genedlaethol gyntaf o dair mewn cyfnod byr (2009, 2011, 2013) i Dilwyn Jones, Celfi Derw, eu dylunio a'u creu. Fe'i noddwyd gan Heddlu Gogled Cymru, a chafodd ei chyflwyno i Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Meirion gan y Prif Gwnstabl Richard Brunstrom mewn digwyddiad ym mis Mai 2009.
Mae nodweddion unigryw ei dyluniad yn cynnwys tri chreadur; y gwyniad, pysgodyn prin sy'n byw yn nyfroedd Llyn Tegid, malwen ddŵr a phry copyn - i adlewyrchu enw cellweirus y prif gwnstabl yng Ngorsedd y Beirdd; y prif gopyn! Defnyddiwyd coedyn o Ystad Rhiwlas ger Y Bala, a rhoddwyd lle amlwg yn y dyluniad i liwiau Cymru - coch, gwyn a gwyrdd - yn ogystal a glas i gynrychioli Llyn Tegid. Dywedodd y saer fod adwaith y lliwiau i'w gilydd yn bwysig ac yn cyfleu 'Cyffro' testun y gystadleuaeth - "creu cyffro rhwng y lliwiau, sef coch i gynrychioli tân a glas i gynrychioli dŵr."
Yn dilyn y dyfarniad o ddiffyg teilyngdod, cyhoeddwyd y gobeithid rhoi cartref parhaol i'r gadair yn yr ysgol uwchradd leol (Ysgol y Berwyn bryd hynny; Ysgol Godre'r Berwyn erbyn hyn), a'i harddangos hefyd dros dro mewn llyfrgelloedd yn yr ardal.

2010
|
2011
|
2012
|
Trwy ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012, daeth Dylan Iorwerth yn aelod o glwb dethol o sgwennwyr all hawlio eu bod wedi ennill y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith. Un arall o'r rheiny yw Mererid Hopwood, a draddododd y feirniadaeth lwyfan ar gystadleuaeth oedd yn 'anwastad' at ei gilydd. Dilynai Dylan Iorwerth hefyd yn olion traed ei nai, Rhys Iorwerth, a enillodd y gadair y flwyddyn flaenorol yn Wrecsam.
Ymhlith yr enillwyr llenyddol eraill roedd Gwyneth Lewis (Y Goron - 'Ynys') a Robat Gruffudd (Gwobr Goffa Daniel Owen). Ataliwyd y Fedal Ryddiaith oherwydd diffyg teilyngdod.

Lluniwyd Cadair 2012 gyda thestun y gystadleuaeth, 'Llanw', ar feddwl y saer. Fe'i crefftwyd o bren onnen gwyn dros gyfnod o dri mis. Trwy ddefnyddio technegau stemio a lamineiddio, llwyddodd Andrew Lane i greu teimlad o lif llanw ym mhren y gadair, gan ddechrau o'r llawr a gwaelod y coesau, trwy'r breichiau ac i fyny'r cefn. Yng ngeiriau Lane:
It is important in chair design to have a component that is linking and doing more than one job. A leg that can turn into an arm that can turn into a back is one component that is visually running through the piece and becoming a connecting element of the whole design.
Roedd y Gadair a'r wobr ariannol o £750 yn rhodd gan Gareth a Ruth Williams, Treoes. Gellir darllen rhagor am y broses o'i chreu, a gweld mwy o luniau, ar wefan y saer.

2013
|
Er i ddeuddeg ymgeisio am Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2012, roedd y tri beirniad - Myrddin ap Dafydd, Peredur Lynch a Gerallt Lloyd Owen - yn unfryd gytun yn eu dyfarniad o ddiffyg teilyngdod. Gwelai'r tri gryn addewid mewn sawl un o'r cerddi, ac mae'n amlwg o'r beirniadaethau mai awdl deyrnged i Emyr Llewelyn, dan y ffugenw Emrallt, oedd orau ganddynt. Serch hynny, credent ei bod yn anwastad ac yn colli ei ffordd ar adegau. Hon oedd beirniadaeth olaf erioed Gerallt Lloyd Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac fel hyn y clodd ei sylwadau:
Mae modd gor-wneud rhethreg nes dad-wneud ei heffaith. Er y gellid dadlau bod awdlau salach wedi ennill yn y gorffennol, nid y rheiny rhagor goreuon y gorffennol a ddylai bennu'r safon. Fel arall, byddai perygl i ddisgwyliadau beirniaid a darllenwyr ostwng yn gyfatebol. Felly, mae arnaf ofn na fedraf argymell gwobrwyo awdl y mae amheuaeth am ei theilyngdod yn ei chyfanrwydd.

Cwmni CelfiDerw, Maerdy, Corwen oedd yn gyfrifol am saernio'r gadair, a hynny am y trydydd tro (2011, 2009). Dilwyn Jones oedd yn gyfrifol am y gwaith, ac roedd y dyluniad yn tynnu ysbrydoliaeth o dirwedd Sir Ddinbych - o'r mynydd i'r mor. Rhoddwyd y gadair yn dilyn yr eisteddfod i Lyfrgelloedd Sir Ddinbych, i'w harddangos yn llyfrgelloedd y sir.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014 ym Mharc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli. Enillodd Ceri Wyn Jones ei ail Gadair Genedlaethol (1997).
O'r tri beirniad, roedd Llion Jones ac Idris Reynolds o blaid cadeirio, ond anghytunai Alan Llwyd yn chwyrn, gan geryddu'r awdl fuddugol am sawl rheswm, ond yn benodol am ei gor-ddefnydd o eiriau Saesneg. Nid oedd yr un o'r cystadleuwyr eraill yn deilwng, ac ym mharagraff agoriadol beirniadaeth Alan Llwyd, dywed mai dyma'r unfed tro ar ddeg iddo feirniadu'r gystadleuaeth, 'a gallaf ddweud yn ddibetrus mai dyma'r gystadleuaeth wannaf o'r cyfan'. Mae'n bur amlwg o'r beirniadaethau fod y ddau feirniad arall, er na chytunent a sylwadau Alan Llwyd ar waith Cadwgan, yn cytuno ei bod yn gystadleuaeth wan iawn ar wahan i'r gwaith a ddaeth i'r brig.
Gellir darllen sylwadau'r tri beirniad yn llawn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014: Cyfansoddiadau a Beirniadaethau (gol. J. Elwyn Hughes).
Enillydd y Goron am ddilyniant o 10 cerdd ddigynghanedd ar y testun 'Tyfu' oedd Guto Dafydd; dilyniant o gerddi a ddaeth yn sail - ac a ddarparodd deitl - i'w gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Ni Bia'r Awyr, yn hwyrach yr un flwyddyn. Ym man-gystadlaethau'r adran farddoniaeth, roedd y buddugwyr yn cynnwys Phillippa Gibson (Englyn: 'Wyneb'), John Gruffydd Jones (Telyneg: 'Cylch'); tair gwobr i Annes Glynn (Englynion milwr: 'Taith'; Cywydd: 'Neuadd'; Soned: 'Storiwr'); a Vernon Jones (Cerdd gaeth: 'Rhwyg'). Gellir darllen rhestr lawn o'r enillwyr, yr holl feirniadaethau a'r cynnyrch buddugol yng nghyfrol y Cyfansoddiadau.

Ganed Ceri Wyn Jones (1967) yn Swydd Herford, ac fe'i magwyd yno ac yn Sir Aberteifi. Graddiodd yn y Saesneg gan weithio fel athro uwchradd, ac yna dilyn gyrfa fel golygydd llyfrau i Wasg Gomer. Mae'n un o ddisgyblion barddol T. Llew Jones. Mae wedi ennill Cadair (1997, 2014) a Choron (2009) yr Eisteddfod Genedlaethol. Ef yw Meuryn cyfredol rhaglen farddoniaeth Y Talwrn ar BBC Radio Cymru. Cofnod Ceri Wyn Jones ar Wicipedia: cy.wikipedia.org/wiki/Ceri_Wyn_Jones |
2015
|
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH RHYS IORWERTH [2], ANEIRIN KARADOG [3]
GRIFFITHS, HYWEL
Mae'r Prifardd Hywel Griffiths (1983) yn lenor, yn ddarlithydd ac yn ymgyrchydd gwleidyddol. Mae'n frodor o Sir Gâr a graddiodd o Brifysgol Aberystwyth, lle mae bellach yn gweithio yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith am gyfnod. Mae wedi ennill Coron (2008) a Chadair (2015) yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth, Banerog (2009) a Llif Coch Awst (2017). Enillodd ei ail gyfrol gategori barddoniaeth gwobrau Llyfr y Flwyddyn. Gwefan Hywel Griffiths Llun: Wikimedia Commons |
2016
|
Rhoddwyd cadair 2016 gan deulu'r Prifardd Dic Jones (Dic yr Hendre) i nodi hanner canmlwyddiant ers buddugoliaeth awdl enwog y 'Cynhaeaf' yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1966. Roedd dyluniad y gadair newydd yn adlewyrchu elfennau o gadair Dic Jones, ac yn addas ddigon, roedd y gerdd fuddugol hefyd yn cynnwys cyfeiriadau at awdl y 'Cynhaeaf'.
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH EURIG SALISBURY [2]
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH EURIG SALISBURY [2]
Y BARDD
Ganed y Prifardd Aneirin Karadog ym 1982 yn Llanelwy. Cafodd ei fagu yn Llanrwst, ym Mhontardawe a Phontypridd. Graddiodd o'r Coleg Newydd, Rhydychen, mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Daw o gefndir Llydewig-Gymreig ac mae'n medru pum iaith yn rhugl. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2005, a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth (hyd at 2018) - O Annwn i Geltia (2012) a Bylchau (2016). Enillodd y ddwy gyfrol y categori barddoniaeth yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn. Llun: Cymdeithas Ceredigion Cofnod Aneirin Karadog ar Wicipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Aneirin_Karadog |
2017
|
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH LLÝR GWYN LEWIS [2], MEIRION MACINTYRE HUWS [3], ANNES GLYN, ARWYN GROE
Y BARDD
Magwyd Osian Rhys Jones yn Y Ffôr ger Pwllheli, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd, lle mae'n gweithio fel golygydd a chynhyrchydd cynnwys digidol. Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017. Mae'n un o sylfaenwyr nosweithiau barddoniaeth poblogaidd Bragdy'r Beirdd yng Nghaerdydd. Cofnod Osian Rhys Jones ar Wicipedia: cy.wikipedia.org/wiki/Osian_Rhys_Jones |
2018
|
Ym Mae Caerdydd y cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol 2018, a hynny mewn arbrawf a welodd yr eisteddfod yn mynd yn 'ddi-ffiniau' am y tro cyntaf; yn hytrach na maes traddodiadol cafwyd maes agored gyda mynediad am ddim i'r cyhoedd, a'r brifwyl yn meddiannu prif adeiladau'r bae. Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a wasanaethai fel pafiliwn, ac yno y cynhaliwyd y cadeirio ar y dydd Gwener.
Beirniadwyd yr Archdderwydd, Geraint Llifon - a oedd ym mlwyddyn olaf ei gyfnod yn y swydd - am wneud sylw negyddol am fenywod yn ystod y seremoni ar ddechrau'r wythnos i goroni Catrin Dafydd. Yn ogystal a Catrin Dafydd (enillydd y Goron), aeth y prif wobrau llenyddol eraill i Mari Williams (Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Ysbryd yr Oes) a Manon Steffan Ros (Y Fedal Ryddiaith am Llyfr Glas Nebo). Ym man-gystadlaethau'r adran farddoniaeth, roedd y buddugwyr yn cynnwys R. John Roberts (Englyn: 'Llwybr Arfordir Cymru'), Dai Rees Davies (Englyn ysgafn: 'Llanast'), Dafydd M. Job (Cywydd: 'Bae') ac Elin Meek (Soned: 'Esgidiau'). Gellir darllen rhestr lawn o'r enillwyr, yr holl feirniadaethau a'r cynnyrch buddugol yng nghyfrol y Cyfansoddiadau.
Cystadlodd 11 o feirdd am y gadair, mewn gornest a ddisgrifiwyd fel 'cystadleuaeth wirioneddol ddifyr' gan Ceri Wyn Jones yn ei feirniadaeth, ac ystyrid tri ohonynt, sef Marconi (Llyr Gwyn Lewis), gwr dienw (Eurig Salisbury), a Hal Robson-Kanu (Gruffudd Eifion Owen), yn deilwng o'r brif wobr. Roedd y penderfyniad terfynol rhwng y ddau olaf.
Gellir gwylio seremoni'r cadeirio yn ei chyfanrwydd yn y fideo isod.

Canmolid 'Porth', Gruffudd Eifion Owen, yn eang yn dilyn yr eisteddfod fel awdl a fyddai'n denu darllenwyr newydd at farddoniaeth Gymraeg, oherwydd ei iaith lafar a chyfoesedd ei themau a'i chynganeddu. Awdl o safbwynt dyn ifanc yn y brifddinas yw hon, sy'n gyfaddefiad i ddiflastod ei fywyd bob dydd. Y 'porth' yn yr awdl wedyn yw sgrin ei ffôn, sy'n cynnig dihangfa ar ffurf 'llif diwaelod' y ffrwd Twitter, binjo cyfresi ar Netflix, ac ailwylio llwyddiant tîm pêl-droed Cymru ym mhencampwriaethau Ewro 2016 (roedd Hal Robson-Kanu, a roddodd i Gruffudd Owen ei ffugenw, yn un o chwaraewyr allweddol yr ymgyrch honno). Ond mae corneli tywyllach i'r rhyddid ar-lein hefyd, wrth i'r bardd ddod ar draws cyn-gariad ar Facebook:
Tapio'r sgrin, 'gweld hi'n mwynhau
hen-dos a phartis ffrindiau
a ballu, ac ma'i bellach
'di pr'odi a babi bach
ar ei ffordd. Tŷ cyfforddus.
Sweipio'i rhawd rhwng bawd a bys.
Awdl wedi'i gosod mewn byd o brynwriaeth untro, cyflym, sydd yma; yn epigraff i'r gerddi, dewisodd y bardd gwpled o ddwy gân gyfoes gan Yr Ods ('Llenwa fi â sothach lliwgar o America, cyfog melys at fy mhoena',') a Cowbois Rhos Botwnnog ('Mae'r byd lawr y lôn, ond mae'r teledu yn y gwely'). Gwelwn sut yr arweinia'r amodau hyn y bardd i bwll o hunangasineb, anobaith a hunanddinistr. Yng nghaniad olaf, annisgwyl yr awdl, gwelwn bosibiliadau agor 'porth' arall; wrth fynd at y ffenest i geisio tynnu llun o eira Mawrth sy'n gorchuddio'i fyd, mae'r bardd yn gollwng y ffôn wrth ei bocedu, ac 'mae'n chwalu / yn filiynau darnau du.' Mewn gweithred awgrymog i gloi'r gerdd, aiff y bardd i roi bwyd i'r adar bach sydd allan yn yr oerfel:
Dôr yn agor i'r egwan.
Byd oer, ac er bod eira'n
dallu, dwi'n cerdded allan.
Gellir darllen 'Porth' yn ei chyfanrwydd, yn ogystal â beirniadaethau llawn y tri beirniad, Ceri Wyn Jones, Emyr Davies a Rhys Iorwerth, yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a gyhoeddwyd gan lys yr Eisteddfod (W. Gwyn Lewis [gol.], 2018). Cynhyrchwyd y ffilm isod o ddetholiad o'r gwaith gan Griff Lynch fel rhan o gyfres Beirdd/Beats sianel Hansh.
Y GADAIR
Chris Williams oedd gwneuthurwr cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, a oedd yn rhoddedig gan Amgueddfa Cymru ar achlysur pen-blwydd Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, yn 70 oed. Mae'r gadair yn dwyn ysbrydoliaeth o rai o greiriau Sain Ffagan; yn fwyaf amlwg y cadeiriau ffyn Cymreig sy'n rhoi iddi ei siap, a'r carthenni traddodiadol - yn benodol, carthen a wehyddwyd ym Melin Wlân Esgair Moel, un o’r adeiladau cyntaf a symudwyd i Sain Ffagan ym 1952. Gallwch wylio fideo sy'n manylu ar y broses o saernio'r gadair yma.
Y BARDD
Magwyd Gruffudd Owen (1986) ym Mhwllheli, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Ef yw'r Bardd Plant Cymru cyfredol (2019-2021). Mae'n adnabyddus fel enillydd stompiau a gornestau talwrn am gerddi ffraeth ac ysgafn, ond hefyd fel bardd mwy difrifol; cyhoeddodd gyfrol, Hel llus yn y glaw, ac enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol (2018). Cofnod Gruffudd Owen ar Wicipedia: cy.wikipedia.org/wiki/Gruffudd_Eifion_Owen |
2019
|
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH HUW DYLAN OWEN (BELI MAWR)
Y BARDD Mae'r Prifardd T. James Jones (1934) yn un o deulu barddol Parc Nest, fferm ger Castell Newydd Emlyn. Mae wedi ennill Coron (1986, 1988) a Chadair (2007, 2019) yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, a bu'n Archdderwydd Cymru rhwng 2009 a 2013. Mae'n adnabyddus am ei gyfieithiad Cymraeg o Under Milk Wood (Dylan Thomas), 'Dan y Wenallt', ac am ei gerddi tafodieithol cyfoethog a'i berfformiadau byw. Cofnod Jim Parc Nest ar Wicipedia: cy.wikipedia.org/wiki/Jim_Parc_Nest Llun: Gorsedd Cymru |
Yn Nhregaron, Ceredigion, yr oedd yr Eisteddfod Genedlaethol i gael ei chynnal yn 2020. Fodd bynnag, yn sgil lledaeniad y pandemig COVID-19, cyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2020 y byddid yn gohirio'r Eisteddfod am flwyddyn, a hynny am y tro cyntaf ers Eisteddfod Bangor 1914-15. Gellir gweld erthygl BBC CymruFyw ar y cyhoeddiad yma.
Roedd cyfansoddiadau Eisteddfod Tregaron, gan gynnwys awdlau'r gadair, i gael eu cadw dan glo am flwyddyn cyn eu beirniadu, yr un fath yn union â 1914-15.
Yn lle'r brifwyl arferol, cynhaliwyd eisteddfod AmGen, sef eisteddfod ddigidol ar-lein. Fel prif wobr farddoniaeth, cynigiwyd stol am gerdd rhwng 24 a 30 o linellau ar y testun 'Ymlaen'. Yr enillydd oedd Terwyn Tomos, am gywydd dan y ffugenw 'Pererin'; roedd Morgan Owen yn ail, a daeth Grug Muse a Llyr Gwyn Lewis yn gydradd drydydd.
Cynhaliwyd Eisteddfod AmGen eto yn 2021, ond gyda'r prif wobrau llenyddol yn dychwelyd y tro hwn.

2021
|
Cyhoeddwyd yn gynnar yn 2021 y cynhelid yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhithiol am yr ail flwyddyn yn olynol, a hynny gyda'r newyddion fod yr eisteddfod mewn trafferthion dybryd, ac yn y broses o ymgynghori ar haneru maint ei staff. Byddai'r eisteddfod rithiol y tro hwn yn adeiladu ar lwyddiannau a gwendidau Eisteddfod AmGen 2020 ond gyda mwy o ddychwelyd at yr elfen gystadleuol a fu'n nodwedd mor gryf yn eisteddfodau'r gorffennol. Yn gynwysedig yn hynny roedd y prif gystadlaethau llenyddol - gwaith a gyflwynwyd yn niwedd 2019 ar gyfer Medal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Ceredigion (2020/2022), a thestunau newydd ar gyfer y Goron a'r Gadair.
Rhyddhawyd y rhestr testunau yn hwyr iawn, ar 29 Mawrth 2021, gan roi i ddarpar gystadleuwyr gwta ddeufis i baratoi eu gwaith, a ffenestr gyfyng iawn o amser i'r beirniaid dafoli. Does dim amheuaeth i hyn effeithio ar niferoedd y cystadleuwyr - 19 yng nghystadleuaeth y Goron, a enillwyd gan Dyfan Lewis o Graig-Cefn-Parc a Chaerdydd, a thri ymgeisydd yn unig am y gadair.
O'r tri a gystadlodd, dau yn unig yr oedd modd i'r beirniaid, Jim Parc Nest, Guto Dafydd a Caryl Bryn, eu hystyried - a hynny am mai pennill pedair llinell di-gynghanedd oedd cynnig Teleri Edlund, mewn cystadleuaeth a ofynnai am awdl o hyd at 200 llinell. Er i Pathew yntau ysgrifennu awdl ar gynghanedd, a hynny yn adrodd hanes y creadur a roddodd iddo ei ffugenw, a thrwy hynny, y bygythiadau o du newid hinsawdd i'w gynefin a'i fywyd, dim ond un ymgeisydd yr ystyriai'r beirniaid ei fod yn deilwng o'r Gadair.
Enillodd y cyn-brifathro Gwenallt Llwyd Ifan ei ail gadair Genedlaethol, a hynny ychydig dros ugain mlynedd wedi ei gyntaf - Cadair Eisteddfod Genedlaethol Mon 1999.

Daw Gwenallt Llwyd Ifan yn wreiddiol o Dregaron, a threuliodd ei yrfa fel athro bioleg mewn ysgolion amrywiol ac yna fel Prifathro Ysgol Gyfun Penweddig yn Aberystwyth. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1999 a 2021. Mae'n byw yn Nhal-y-bont, Ceredigion, ac yn aelod o dim y pentref ar raglen Talwrn y Beirdd. Cyhoeddwyd cyfrol o'i waith, DNA, yn 2021.
2022
|
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH RHYS IORWERTH [2], ANEIRIN KARADOG, ARON PRITCHARD, EURIG SALISBURY*
*Roedd Aneirin Karadog, Aron Pritchard ac Eurig Salisbury yn y dosbarth cyntaf ac yn cyrraedd safon teilyngdod yng ngolwg unfryd y tri beirniaid.

Yn y sefyllfa ddigynsail o orfod gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020, oedd i'w chynnal yn Nhregaron, am ddwy flynedd oherwydd y pandemig COVID-19, cadwyd y cyfansoddiadau gwreiddiol a gyflwynwyd dan glo a'u beirniadu erbyn yr eisteddfod a gynhaliwyd yn y pen draw yn Awst 2022. Roedd dwy flynedd o Eisteddfodau AmGen wedi mynd heibio yn y cyfamser; ni chafwyd cystadleuaeth y Gadair yn 2020, ond cadeiriwyd Gwenallt Llwyd Ifan yn 2021.
Llwyddwyd i ddenu'r nifer fwyaf o ymgeiswyr ers Eisteddfod Dyffryn Conwy 1989. O'r 14, barnai'r beirniaid fod pump yn deilwng o'r gadair, a ffafriai Twm Morys awdl Max (Rhys Iorwerth) dros waith yr enillydd.
Ymhlith yr enillwyr llenyddol eraill roedd Esyllt Maelor (Y Goron), Meinir Pierce Jones (Gwobr Goffa Daniel Owen), a Sioned Erin Hughes (Y Fedal Ryddiaith), y dair o ardal Nefyn yn Llŷn. Yn yr adran farddoniaeth, roedd yr enillwyr yn cynnwys Arwel Emlyn Jones (Englyn: 'Cantre'r Gwaelod'); Iwan Teifion Davies (Telyneg: 'Gwlân'); Geraint Roberts (Cywydd: 'Miliwn') a Huw Evans (Soned: 'Aur'). Gellir darllen rhestr o'r holl enillwyr, ynghyd â'r gweithiau buddugol a beirniadaethau cyflawn yng nghyfrol y Cyfansoddiadau.

Y CERDDI
Casgliad o gerddi wedi'u lleoli ar un traeth dros gyfnod o un diwrnod yw 'Traeth', Llŷr Gwyn Lewis. Mae'n draeth penodol ar ddyddiad penodol, sef traeth Llangrannog ar Wyl Banc Awst 2019. Rhwng y gerdd gyntaf, 'Cyrraedd', a'r gerdd olaf, 'Gadael', gwelwn y bardd, ei gymar a'i fab bychan yn treulio'r dydd ar y tywod ac yn y tonnau. Mae'n lleisio ei brofiadau ei hun fel tad, profiadau'r uned deuluol, a phrofiadau'r ddynoliaeth hefyd wrth ymgodymu â threigl amser, yr argyfwng hinsawdd, twristiaeth anghynaladwy ac erydiad yr Iaith, a cheisio canfod rhyw wrthsafiad i'r pethau hynny yn y gweithredoedd a'r eiliadau bychain bach, gan ddwyn i gof chwedl y Cnwt gwreiddiol a geisiodd atal tonnau'r mor rhag dychwelyd i orchuddio'r traeth, a gweld alegori i fywyd ei hun yn hynny hefyd:
Ofnwn oll yr hen drefn hon: aros maith
cyn brys mawr. Rhy greulon
yw dygymod â'i gwymon.
Heglwn. Ond pawb sy'n waglaw - yn wyneb
y llanw. Heb ganllaw,
heb ddim yn wyneb be ddaw.
Gellir darllen 'Traeth' a'r beirniadaethau llawn yn Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022, gol. W. Gwyn Lewis. Ceir dehongliad fideo o ddetholiad o'r cerddi yn y fideo isod, a ryddhawyd gan yr Eisteddfod.

Noddwyd y Gadair gan Gylch Cinio Dynion Aberystwyth, ac roedd y wobr ariannol yn rhoddedig er cof am Eluned ac W. Ambrose Bebb gan eu plant a'u hwyrion. Dylunydd a gwneuthurwr y Gadair oedd Rees Thomas, Bow Street, cyn athro gwaith coed yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth. Cymerodd ysbrydoliaeth o batrymau Afon Teifi rhwng bryniau'r Elenydd ac Aberteifi, ac fe luniodd y gadair o goed derw hynafol o Gors Fochno ger y Borth.
Mae'n gadair gweddol syml ei golwg, ac yn cynnwys enw Ceredigion yn llythrennau Coelbren y Beirdd, un o greadigaethau Iolo Morgannwg. Ar gefn y gadair, mae'r barcut coch yn amlwg, gan gyfeirio at y gwaith cadwraethol yn ardal Tregaron i adfer a diogelu'r rhywogaeth, yn ogystal ag ymgyrchoedd i achub yr Iaith Gymraeg.

Bardd ac awdur o Gaernarfon yn wreiddiol yw Llŷr Gwyn Lewis (g. 1987). Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth, Storm ar Wyneb yr Haul (2014) a rhwng dwy lein dren (2020).
Cofnod Llŷr Gwyn Lewis ar wefan Cyfnewidfa Len Cymru:
waleslitexchange.org/cy/authors/llyr-gwyn-lewis

2023
|
Ar gyfer cystadleuaeth 2023, gofynwyd am awdl neu gasgliad o gerddi hyd at 250 llinell ar fwy nac un o'r mesurau caeth traddodiadol. Y testun oedd 'Llif'. Enillodd Alan Llwyd ei drydedd gadair genedlaethol (1973, 1976); ef oedd y cyntaf i gipio'r wobr drachefn yn dilyn llacio'r rheol a nodai na chaniateid ennill fwy na dwywaith.
Chwech yn unig a gystadlodd, ac ymgais Llanw a Thrai yn unig y byddai'r beirniaid, Karen Owen, Rhys Iorwerth a Cathryn Charnell-White wedi bod yn fodlon ei chadeirio. Roedd casgliad o gerddi dan y ffugenw Ar y cei yn codi'n uwch na'r pedwar ymgeisydd arall, ond heb gyrraedd safon teilyngdod.
Ymhlith yr enillwyr llenyddol eraill roedd Rhys Iorwerth (Y Goron: 'Rhyddid'), Alun Ffred (Gwobr Goffa Daniel Owen), a Meleri Wyn James (Y Fedal Ryddiaith). Yn yr adran farddoniaeth, roedd yr enillwyr yn cynnwys, eto, Alan Llwyd (Englyn: 'Ynys'; Soned: 'Ffenestr'); Osian Wyn Owen (Tair cerdd heb eu cyhoeddi); Alan Iwi (Cerdd gaeth: 'Mur') a Meinir Ebbsworth (Telyneg: 'Neb'). Gellir darllen rhestr o'r holl enillwyr, ynghyd â'r gweithiau buddugol a beirniadaethau cyflawn yng nghyfrol y Cyfansoddiadau.

Awdl glasurol yw 'Llif'; fel y nodwyd yn beirniadaethau, nid oes newydd-deb yn y trosiad estynedig sy'n darlunio gwr mewn oed yn dychwelyd i'w 'fro foreol'. Defnyddia lif yr afon i'r mor, mynd a dod y llanw a'r trai, a thir amaethyddol yr arfordir, i fyfyrio ar dreigl y cenedlaethau a thro'r rhod. Cyfeiria at ei orffennol, at ei nain a'i daid fu'n 'hel gwair yn rhywle gynt', ac at y profiad o ddychwelyd, yn daid ei hun, flynyddoedd lawer yn ddiweddarach. Nodweddir y gerdd gan ganu epigramatig; gwirebau wedi'u crynhoi i gwpledi unigol, fel a geir yn y llinellau hyn o gywydd sy'n cloi'r gwaith:
Fy ŵyr yw'r echdoe a fu;
fy wyres yw yfory,
ninnau'n feirwon anfarwol
yn y rhai a adáwn ar ôl.
Gellir darllen yr awdl yng nghyd-destun bywyd y bardd ei hun; brodor o Lŷn sydd wedi treulio mwyafrif ei oes yn Ne Cymru. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976 gydag awdl er cof am ei daid ei hun ('Gwanwyn'), ac mae'r taid hwnnw yn ymddangos yn 'Llif' hefyd - 'yn wr crwm yn ei gwman', sy'n pwyso ar ei ffon uwchlaw'r dibyn, a'r mor yn rhuo oddi tano.
Dywedodd Rhys Iorwerth wrth gloi ei feirniadaeth nad 'awdl ei chyfnod ydy hon; does dim byd yn arbennig o gyfoes amdani. Dydy hi ddim yn fentrus o ran ffurf; ar wahan i dri phennill o hir-a-thoddaid, mae'n glynu'n llwyr wrth fesurau cyfarwydd yr englyn a'r cywydd [...] Yn ei dweud oesol y mae'i chyfoeth, ac yn ei chrefft y mae'i champ.'
Gellir darllen 'Llif' a'r beirniadaethau llawn yn Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022, gol. W. Gwyn Lewis. Ceir dehongliad fideo o ddetholiad o'r awdl yn y fideo isod, a ryddhawyd gan S4C.

Noddwyd y gadair gan deulu'r diweddar Dafydd Orwig, addysgwr, arloeswr a chyn-gadeirydd Cyngor Sir Gwynedd. Cafodd ei dylunio a'i chreu gan y crefftwr Stephen Faherty, ac mae'n gadair anarferol iawn yn y ffaith iddi gael ei naddu'n gyfan o un darn o bren derw. Daw'r derw ei hun yn dod o goeden a ddisgynnodd ar y Lôn Goed yn Eifionydd yn ystod Storm Darwin yn Chwefror 2014; y Lôn Goed a anfarwolwyd am ei 'llonyddwch gorffenedig' mewn cerdd gan R. Williams Parry. Mae'r y gadair hefyd yn cynnwys darn sylweddol o lechen, un o adnoddau naturiol amlycaf rhai o ardaloedd bro'r eisteddfod.
Arddangoswyd y gadair yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, rhwng y dadorchuddio ym mis Mehefin a'r eisteddfod yn Awst. Gellir darllen rhagor am y broses o greu'r gadair, yn ogystal a chyfarchion iddi gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac enillydd cadair Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022, Llyr Gwyn Lewis, ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol yma.
Yn y clip isod o raglen Heno ar S4C, 13 Mehefin 2023, gellir gwylio'r gadair yn cael ei dadorchuddio gan Myrddin ap Dafydd a Michael Strain, a chyfweliad gyda'r saer yn ei weithdy wrth iddo weithio arni.

Ganed Alan Llwyd yn Nolgellau ym 1948. Ef yw un o awduron a beirdd mwyaf cynhyrchiol Cymru dros yr hanner canrif diwethaf. Mae'n un o sylfaenwyr cylchgrawn a chyhoeddiadau Barddas, ac enillodd goron a chadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr un eisteddfod ddwywaith (y dwbl-dwbl) ym 1973 a 1976, cyn ennill y gadair drachefn yn 2023. Roedd yn gyfrifol am sgriptio'r ffilm Hedd Wyn, a enwebwyd i dderbyn Oscar.
Cofnod Alan Llwyd ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/Alan_Llwyd

Roedd disgyblion o ysgol leol Llanhari ym Mhont-y-clun yn rhan greiddiol o ddylunio'r gadair gyda'r artist lleol Berian Daniel. Defnyddwyd coed derw hynafol a dyfai gerllawn cartref Iolo Morgannwg yn y Bontfaen ar gyfer prif gorff y gadair, gydag 'afon' o dalpiau glo mewn resin yn llifo trwy ddyluniad y cefn yn adlewyrchu'r diwydiant lleol fel y darnau haearn sydd i'w gweld mewn mannau eraill arni. Ceir tair gwythien yng nghefn y gadair hefyd sy'n cynrychioli prif afonydd bro'r Eisteddfod - Rhondda, Cynon a Thaf.

CYFEIRIADAU
1875
- Williams, H.D. (gol.); Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Freiniol Genedlaethol Pwllheli, 1875
1877
- Cyfansoddiadau Barddonol Eisteddfod Caernarfon, 1877
- Roberts, William (Gwilym Eryri) yn Y Bywgraffiadur Cymreig, cyrchwyd 27.01.2022 https://biography.wales/article/s-ROBE-WIL-1844
- Parry, Thomas, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900, t. 265
1878
- Williams, W. E. (Gwilym Alltwen, gol.); Y Ceinion Buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol 1878, a gynhaliwyd yn Birkenhead (Birkenhead, 1879 - https://babel.hathitrust.org/cgi/pt?id=hvd.hnzq6r&view=1up&seq=5)
- Richard Bebb & Sioned Williams (gol.), The Bardic Chair: Y Gadair Farddol (Cydweli 2009), t.62-63
- colofn 'Yr Wythnos' yn Y Genedl Gymreig, 01.08.1878
2009
- 'Anifeiliaid ar Gadair Eisteddfod' ar wefan Newyddion BBC, 24.05.2009, cyrchwyd 28.11.2023 news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8060000/newsid_8065700/8065761.stm
- 'Cadair wag yn Eisteddfod Meirion' ar wefan Newyddion BBC, 07.08.2009, cyrchwyd 28.11.2023 news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8190000/newsid_8190200/8190204.stm
- 'Cadair wag Meirion i ysgol leol' ar wefan Newyddion BBC, 10.10.2009, cyrchwyd 28.11.2023 news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8300000/newsid_8300100/8300186.stm
2012
- 'Dylan yn ennill Cadair Bro Morgannwg' ar wefan BBC Cymru Fyw, 10.08.2012, cyrchwyd 27.11.2023 www.bbc.co.uk/cymrufyw/19206230
- nodiadau'r saer, Andrew Lane, ar gomisiwn Cadair Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012, cyrchwyd 27.11.2023 www.andrewlanefurniture.co.uk/project/the-eisteddfod-chair-2012/
2013
- Hughes, J. Elwyn (gol.), Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013: Cyfansoddiadau a Beirniadaethau (2013)
- Gwefan CelfiDerw OakenCraft, cyrchwyd 20.09.2022 celfiderw.co.uk/
- 'National Eisteddfod: Chair prize witheld from poets' ar wefan BBC News, cyrchwyd 20.09.2022 www.bbc.co.uk/news/uk-wales-23638996
- 'Library tour for unwon chair from Eisteddfod' ar wefan y Daily Post, cyrchwyd 20.09.2022 www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/library-tour-unwon-chair-eisteddfod-6125946
2014
- Hughes, J. Elwyn (gol.), Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gar 2014: Cyfansoddiadau a Beirniadaethau (2014)
2018
- Lewis, W. Gwyn (gol.), Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018: Cyfansoddiadau a Beirniadaethau (2018)
- 'Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018' ar Wicipedia, cyrchwyd 19.09.2022 cy.wikipedia.org/wiki/Eisteddfod_Genedlaethol_Cymru_Caerdydd_2018
- 'Creu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018' ar wefan Amgueddfa Cymru, cyrchwyd 19.09.2022 amgueddfa.cymru/sainffagan/eisteddfod/cadair-a-choron/
2021
- Lewis, W. Gwyn (gol.) Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod AmGen 2021 (2021)
- 'National Eisteddfod cancelled for the second year in a row' ar wefan Wales Online, 26.01.2021, cyrchwyd 17.11.2022 www.walesonline.co.uk/whats-on/whats-on-news/national-eisteddfod-ceredigion-cancelled-coronavirus-19699823
2022
- Lewis, W. Gwyn (gol.), Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022 (2022)
- 'Crown and Chair for 2022 National Eisteddfod in Ceredigion revealed' ar wefan nation.cymru, 23.06.2022, cyrchwyd 14.09.2022 nation.cymru/culture/crown-chair-coron-cadair-eisteddfod-genedlaethol-tregaron-ceredigion-national/
2023
- Testunau Llyn ac Eifionydd 2023 (2022), tud. 37
- 'Cyflwyno Cadair a Choron Eisteddfod Llyn ac Eifionydd' ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol, 13.06.2023, cyrchwyd 14.06.2023 eisteddfod.cymru/cyflwyno-cadair-choron-eisteddfod-ll%C5%B7n-ac-eifionydd?fbclid=IwAR0kUmjSAlOxva9rRMEss_j7qWHtoAzda4smGuPf5oGrkh70dYCfM44_498
- 'Alan Llwyd yn ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol' ar wefan BBC Cymru Fyw, 11.08.23, cyrchwyd 29.08.23 www.bbc.co.uk/cymrufyw/66477252
- Lewis, W. Gwyn (gol.), Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2023 Llyn ac Eifionydd (2023)
2024
- Testunau Rhondda Cynon Taf 2024 (2023), tud. 33
- 'Dadorchuddio Cadair a Choron Eisteddfod 2024' ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol, 13.06.2024, cyrchwyd 24.07.2024 eisteddfod.cymru/node/1745
- Lewis, W. Gwyn (gol.), Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf (2024)
2025
- Testunau Wrecsam 2025 (2024), tud. 35