Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

1990
1991 1992 1993 1994 1995 Hilma Lloyd Edwards 1996 J. Norman Davies 1997 1998 1999 |
2000
2001 2002 2003 2004 T. Graham Williams (Cefnfab) 2005 Llinos Dafydd 2006 2007 2008 Dafydd Guto Ifan 2009 |
2010
2011 Eirlys Wynn Tomos 2012 Richard Morris Jones 2013 2014 2015 Carys Briddon 2016 Richard Llwyd Jones 2017 Gwenda Richards 2018 Sian Teifi 2019 |
2020 Richard Llwyd Jones [2]
2021 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 2022 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 2023 Hilma Lloyd Edwards 2024 Jo Heyde |
Am awdl ar y testun 'Afon' yr enillodd Richard Llwyd Jones gadair Llanllyfni 2020, yn un o'r ychydig eisteddfodau a gynhaliwyd yn 2020 cyn i gyfyngiadau'r pandemig COVID-19 ddod i rym. Cyflwynwyd y gadair am y cynnyrch gorau, ym marn y beirniad, yng nghystadlaethau'r Stori Fer a'r Gerdd Gaeth neu Rydd. Sian Teifi, Llanfaglan, enillydd cadair Llanllyfni yn 2018, ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth y stori fer.
Cyflwynwyd Cadair yr Ifanc am y gwaith gorau yn yr adran lenyddiaeth ieuenctid i Siwan Owen, Bryncir, am y darn a enillodd y gystadleuaeth ryddiaith i rai dan 25 oed. Yn nghystadlaethau eraill yr adran farddoniaeth, bu llwyddiant i John Ffrancon Griffith, Abergele (Englyn); a Hilma Lloyd Edwards, Bontnewydd (Englyn Crafog).

Y BARDD
Bardd o Fethel yn Arfon yw Richard Llwyd Jones. Mae'n enillydd cyson mewn eisteddfodau lleol ledled y wlad, ac yn aelod o dim Llanrug ar gyfres Talwrn y Beirdd.

2021-22
Ni chynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Llanllyfni yn 2021 a 2022 oherwydd cyfyngiadau'r pandemig COVID-19.
Ar ol cyfnod hir o absenoldeb o faes yr eisteddfodau lleol, enillodd Hilma Lloyd Edwards, bardd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008, gadair Eisteddfod Llanllyfni 2023. Cyflwynwyd y gadair am y cynnyrch gorau, ym marn y beirniad, yng nghystadlaethau'r Stori Fer ('Ar lan y mor') a'r Gerdd ('Lleisiau', caeth neu rydd) yn yr adran agored. Y farddoniaeth a orfu y tro hwn.
Enillydd y gadair i rai dan 25 oed, a gyflwynir am y cynnig gorau yn yr adran lenyddiaeth ar gyfer oed uwchradd a than 25 oed, oedd Efa Hodge, myfyriwr yng Ngholeg Meirion Dwyfor Pwllheli a enillodd y gystadleuaeth ryddiaith dan 25.
Roedd Hilma Lloyd Edwards hefyd yn fuddugol ar yr englyn crafog, a daeth llwyddiant i John Ffrancon Griffith, Abergele (Englyn); Megan Richards, Aberaeron (Telyneg); a Gaenor Mai Jones, Pentre'r Eglwys (Stori Fer).

Ganed Hilma Lloyd Edwards ym 1959, ac fe ddaw o Fontnewydd. Cyhoeddodd amryw byd o lyfrau Cymraeg i blant a chyfrol o'i barddoniaeth, Tir Newydd a Cherddi Eraill trwy Wasg y Bwthyn yn 2008. Enillodd oddeutu hanner cant o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol rhwng canol y 1980au a chanol y 2000au, cyn cipio Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008 am ei hawdl, 'Tir Newydd'. Mae'n un o ddwy fenyw yn unig i gyflawni'r gamp hon.
Cofnod Hilma Lloyd Edwards ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/Hilma_Lloyd_Edwards

CYFEIRIADAU
2020
- Eisteddfod Llanllyfni 2020 ar wefan DyffrynNantlle360, cyrchwyd 23.02.2023 dyffrynnantlle.360.cymru/2020/eisteddfod-llanllyfni-2020/
2023
- Canlyniadau Eisteddfod Llanllyfni 2023 ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, cyrchwyd 22.02.2023 steddfota.cymru/wp/wp-content/uploads/2023/02/Canlyniadau-Eisteddfod-Llanllyfni-2023.pdf