Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Gwilym Bowen Rhys, Rachub; Zonia Bowen, Caeathro; Rhys Morgan Llwyd, Tregarth; Staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Mae'r dudalen hon yn y broses o gael ei hadeiladu. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.
1931 | 1932 | 1938 | 2001 | 2015 | 2016 | 2017 | 2018 | 2019 | 2020
Gwilym Bowen Rhys, Rachub; Zonia Bowen, Caeathro; Rhys Morgan Llwyd, Tregarth; Staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Mae'r dudalen hon yn y broses o gael ei hadeiladu. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.
1931 | 1932 | 1938 | 2001 | 2015 | 2016 | 2017 | 2018 | 2019 | 2020
Y BARDD
Ganed O M Lloyd ym 1910 ym Mlaenau Ffestiniog. Graddiodd ym 1934 o Goleg Bala-Bangor ac fe'i ordeiniwyd yn weinidog Annibynnol yn Nefyn ym 1937. Roedd yn gyfrannwr cyson i'r Ymryson, ac fe fu'n golofnydd ar dudalen flaen Y Dydd am dros 20 mlynedd, gan fwrw'i farn ar grefydd, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i farddoniaeth a chyfrol o'i ysgrifau. Bu farw ym 1980. Cofnod Wicipedia O M Lloyd: https://cy.wikipedia.org/wiki/O._M._Lloyd |
'Cadair' ryfedd yw hon. Yr hyn a welir yn y llun uchod yw cefn addurnedig y gadair yn unig, ac arni'r geiriau EISTEDDFOD MYFYRWYR CYMRU. BANGOR. 1938., gyda dail derw a mês cerfiedig. Roedd hon, ar un adeg, yn gadair gyfan. Cefais wybod gan Zonia Bowen, gwraig y diweddar Brifardd Geraint Bowen - sefydlydd Merched y Wawr ac awdurdod ar yr iaith Lydaweg - mai gorfod torri breichiau a choesau derw mawreddog y gadair fu'n rhaid un gaeaf llwm er mwyn eu defnyddio fel coed tân. Ond penderfynwyd cadw'r cefn gyda'r dyddiad a'r lleoliad, a'i fowntio ar draed bychain i'w arddangos!
Y BARDD
Ganed Y Prifardd Geraint Bowen yn Nhreorci ym 1915. Roedd yn fab i Thomas Orchwy Bowen, yn nai i Ben a David Bowen (Myfyr Hefin), ac yn frawd i'r Prifardd Euros Bowen. Ystyrir yr awdl a enillodd iddo Gadair y Brifwyl yn Aberpennar ym 1946 yn un o'r awdlau cywreiniaf i gipio'r wobr honno. Bu'n archdderwydd rhwng 1979 ac 1981. Roedd hefyd yn ysgolhaig, yn genedlaetholwr ac yn olygydd. Bu farw yn 2011. Cofnod Geraint Bowen ar Wikipedia: cy.wikipedia.org/wiki/Geraint_Bowen |
Y BARDD
Ganed y Prifardd Aneirin Karadog ym 1982 yn Llanelwy. Cafodd ei fagu yn Llanrwst, ym Mhontardawe a Phontypridd. Graddiodd o'r Coleg Newydd, Rhydychen, mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Daw o gefndir Llydaweg-Gymreig ac mae'n medru pum iaith yn rhugl. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2005, a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth (hyd at 2018) - O Annwn i Geltia (2012) a Bylchau (2016). Enillodd y ddwy gyfrol y categori barddoniaeth yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn. Cofnod Aneirin Karadog ar Wicipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Aneirin_Karadog |
2015
|
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH ENDAF GRIFFITHS [=2], GETHIN WYNN DAVIES [=2], LLIO MAI HUGHES [3]
Cerdd serch gynnil wedi ei gosod yn nhref Aberystwyth dros gyfnod o benwythnos a enillodd gadair Eisteddfod Ryng-Golegol Aberystwyth 2015 i Marged Tudur. Gellir darllen y gerdd yn Yr Awen, cyfansoddiadau buddugol yr Eisteddfod Ryng-golegol; ynghyd â chynnyrch yr holl gystadlaethau eraill: issuu.com/miriamwiliiams/docs/yr_awen
Enillodd Gethin Wynn Davies gadair Eisteddfod Ryng-Golegol Caerdydd 2016 gydag awdl ar y testun 'Cam', sydd yn darlunio gŵr digartref yn bysgio ar un o balmentydd Caerdydd ar ddydd Gwener Du. Mae'n cyfosod gwagedd ac oferedd gwario mawr Queen's Street yn y brifddinas: 'Yn eu brys, heb sylwi bron, / Mae dyn, (mae o hyd yno'n / Ei gornel, oerfel neu law / Yn eistedd yno'n ddistaw).' Yn ôl y beirniad, Llŷr Gwyn Lewis, dyma gerdd gan 'sylwedydd gwrthrychol, oddi allan ... heb gondemnio - mae'n ein gadael ni i wneud hynny drosto.'
Gellir darllen 'Cam' yn ei chyfanrwydd yn Yr Awen, cyfansoddiadau buddugol yr Eisteddfod Ryng-golegol; ynghyd â beirniadaeth y gystadlaeuaeth yn ei chyfanrwydd:
issuu.com/cardiffstudents/docs/yr_awen_eisteddfod_2016/54
Gellir darllen 'Cam' yn ei chyfanrwydd yn Yr Awen, cyfansoddiadau buddugol yr Eisteddfod Ryng-golegol; ynghyd â beirniadaeth y gystadlaeuaeth yn ei chyfanrwydd:
issuu.com/cardiffstudents/docs/yr_awen_eisteddfod_2016/54
GETHIN
Weithiau daw'r Awen, Gethin, - i ddewis
un neu ddau i'w meithrin;
heno daeth i'th gipio di'n
ei rhwydi anghyffredin.
- GRUFFUDD ANTUR
Weithiau daw'r Awen, Gethin, - i ddewis
un neu ddau i'w meithrin;
heno daeth i'th gipio di'n
ei rhwydi anghyffredin.
- GRUFFUDD ANTUR
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH OSIAN OWEN [2], IESTYN TYNE [3]
Y BARDD
Daw Carwyn Eckley o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol, ac mae'n newyddiadurwr yng Nghaerdydd. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Dros yr Aber, a thîm ymryson y Penceirddiaid. |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH IESTYN TYNE [2]
Trwy iddo ennill Cadair a Choron Eisteddfod Ryng-Golegol Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan 2018, Osian Owen yw'r cyntaf [a'r unig un hyd yma] i fod wedi ennill dwy brif wobr lenyddol yr Eisteddfod Ryng-Golegol yn yr un flwyddyn.
Y BARDD
Daw Osian Owen (1997) o'r Felinheli. Graddiodd o Adran Gymraeg Prifysgol Bangor yn 2018 ac mae bellach yn byw yng Nghaernarfon. Ef yw'r cyntaf erioed i ennill y Gadair a'r Goron yn yr un Eisteddfod Ryng-Golegol (2018), ac mae hefyd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd (2018). Bu'n rhan o Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru yn 2018. Mae'n aelod o dîm Y Chwe Mil ar Dalwrn y Beirdd. Cofnod Osian Owen ar Wicipedia: cy.wikipedia.org/wiki/Osian_Owen |
2019
|
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH TWM EBBSWORTH [2], JACOB MORRIS [3]
Prifysgol Bangor oedd enillwyr Eisteddfod Ryng-golegol Abertawe 2019, a Gruffydd Rhys Davies o Brifysgol Aberystwyth oedd enillydd y goron.
Prifysgol Bangor oedd enillwyr Eisteddfod Ryng-golegol Abertawe 2019, a Gruffydd Rhys Davies o Brifysgol Aberystwyth oedd enillydd y goron.
Y BARDD Mae Grug Muse (1993) yn fardd, yn olygydd, yn berfformiwr ac ymchwilydd o Ddyffryn Nantlle. Astudiodd Wleidyddiaeth yn Nottingham a'r Weriniaeth Tsiec, a dilyn cwrs ôl-radd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n un o sylfaenwyr cylchgrawn creadigol Y Stamp. Cyhoeddodd gyfrol o gerddi, Ar Ddisberod (2017), a phamffled, Llanw + Gorwel (2019). Gwefan Grug Muse |
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2020 oedd un o'r digwyddiadau diwylliannol mawr olaf yng Nghymru cyn gosod cyfyngiadau mwy llym oherwydd lledaeniad COVID-19. Derbyniodd trefnwyr yr eisteddfod beth beirniadaeth am fwrw ymlaen â'r trefniannau er gwaethaf y bygythiad.
Prifysgol Bangor oedd enillwyr yr eisteddfod, a Twm Ebbsworth o Brifysgol Aberystwyth oedd enillydd y goron.
Y GERDD
Enillodd Llio Heledd Owen o Brifysgol Aberystwyth y gadair am gadwyn o englynion gydag ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn gefnlen iddynt. Gresynu at y newidiadau yn ei chymuned y mae'r bardd, wrth weld tref groesawgar yn troi yn 'ddinas wag heb ddrws ar agor'.
'Cyfres o englynion ydyn nhw yn sôn am gymdeithas gyfoes sy’n rhy barod i godi muriau a ffiniau', meddai mewn cyfweliad â Golwg360.
Cyhoeddwyd y gerdd fuddugol ar wefan cylchgrawn Y Stamp. Gellir ei darllen yma.