Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Adran Hanes Ysgol Gymraeg Ystalyfera; Eryl Roberts; Shan Morris, Llanelwy; Alwyn ap Huw; Alun Cob, Caernarfon;
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

1880
1881 1882 1883 Robert Arthur Williams (Berw) 1884 John Cadvan Davies (Cadvan) 1885 NEB YN DEILWNG 1886 Robert Owen Hughes (Elfyn) 1887 J. Vincent Stevens 1888 William Thomas (Gwilym Glanffrwd) 1889 John Davies (Taliesin Hiraethog) |
Sefydlwyd Eisteddfod Meirion ym 1875, ac fe'i cynhelid yn flynyddol ar y cyntaf o Ionawr, gyda chyngerdd ar noson olaf yr hen flwyddyn, yn nhref Dolgellau, Sir Feirionydd. Roedd yn eisteddfod sylweddol, amlwg a phoblogaidd yn ei dydd. Daeth yn eisteddfod gadeiriol ym 1883, pryd enillodd Berw y gadair am awdl i 'Jeremiah'.
Roedd yn gystadleuaeth boblogaidd a ffyrnig, gyda nifer o'r un enwau yn ailymddangos dros y blynyddoedd; a phenderfyniadau dadleuol weithiau yn hollti bardd, beirniad a chynulleidfa. Cyflawnwyd y gamp o ennill y gystadleuaeth hon deirgwaith yn olynol gan o leiaf dau fardd: y Parch. Ben Davies, rhwng 1890 a 1892; a'r Parch. Rhys Jones Huws. rhwng 1894 a 1896. Roedd hi hefyd yn faes ymarfer i sawl un a fyddai'n dod yn brifardd yr Eisteddfod Genedlaethol maes o law; Berw, Elfyn, Ben Davies, Gwylfa, Dyfnallt, Crwys, Gwili a Gwilym Myrddin.

1883ROBERT ARTHUR WILLIAMS
(BERW) LLANFIHANGEL-Y-PENNANT TESTUN JEREMIAH (AWDL) FFUGENW AWENYDD NIFER YN CYSTADLU 6 GWOBR ARIANNOL £10 DYDDIAD CADEIRIO 1 IONAWR 1883 BEIRNIAD TAFOLOG HIRAETHOG CYNFAEN Llun: Iestyn Tyne / Casglu'r Cadeiriau GWNEUTHURWR OWEN TUDOR LLEOLIAD YN 2024 YR INSTITIWT, CAERNARFON |
Berw oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Meirion 1883 - ei drydedd gadair eisteddfodol. Fel hyn y cyfarchai Ieuan Ionawr y bardd buddugol ar ei gadeiriad:
Barddoniaeth bur a ddena – y llawnaf
Ddarlleniad y'Ngwalia Yw'r awdl wir hyawdl barha Am awen Jeremiah. |
Mae arwr Eisteddfod Meirion – yn ben
Bardd y Gwyneddigion; Rho'wn iddo'r wobr a'r goron, Gyda'r hawl i'r gadair hon. |
Cyfansoddodd Gwilym Dyfi yntau bâr o englynion dan y teitl 'Sibrwd yr Awen':
Ha! Berw'n wir fel mab eirian – heddyw
ar gyhoedd ga'dd weithian Ei godi [i]'r lwys Gadair lan Yn swynol yn llys anian. |
Ei glod a daenir trwy'r gwledydd – yn gynt
Na'r gwawl rhed y newydd, Ei fod e'n ben Awenydd, Gwr o ddawn yn gawr ei ddydd. |
Hefyd yn rhan o'r seremoni i urddo Berw roedd Cadvan, Moelwyn, Ieuan Meurig, a'r Parch. C. T. Edwards.
Y GERDD
Lluniodd Berw awdl i'r proffwyd Jeremiah (c. 670-550 CC); un o brif broffwydi'r Iddewon sydd hefyd yn broffwyd Cristnogol a Mwslemaidd. Gellir darllen yr awdl yn gyflawn yn rhifyn Gorffennaf 1884 o'r Geninen, (tud. 209-213 [49-53]) yma. Ceir detholiad o adran agoriadol yr awdl isod.

JEREMIAH (detholiad) - BERW
Fel prophwyd, rhoddwyd i'r hen
Ieremiah rym awen; Ac O! na chawn genych chwi, Dduwiau'r gân ddi-ddrygioni, O'r nef uchod, ran fechan O'i awen gu luniai gân: Odli wnawn, er dilyn ol Ei brudd enaid barddonol! Ei Dduw welai addolwr – ynddo ef Pan oedd wan ei gyflwr: O Anathoth, yn weithiwr – dros Dduw da, Caed Ieremiah 'n ieuanc dramwywr. |
Yn y groth, ac yn ei gryd, – pan ydoedd,
Penodwyd efo hefyd I Dduw'n fab, yn ddawn i fyd, – Duw ydoedd yn dywedyd. Fel hyn ei ddwyfol enwi - yn gyfiawn Gafodd mewn musgrellni Ar y fron; ac, er ei fri, Bu'n uniawn hyd benwyni. |
Y GADAIR
Saerniwyd cadair go arbennig ar gyfer Eisteddfod Meirion 1883. Owen Tudor, saer adnabyddus o Ddolgellau, oedd yn gyfrifol am y gwaith; adroddir yn y Llangollen Advertiser ar 8 Rhagfyr 1882 fod y gadair hon yn cynnwys darnau o bren o Geubren yr Ellyll, Nannau - sef y goeden felltigedig y bu i Owain Glyndŵr guddio corff ei gefnder, Hywel Selau, ynddi, yn ôl y chwedl -, o senedd-dŷ Owain Glyndŵr ei hun ym Machynlleth, ac o hen eglwys Sant Cadfan. Mae'r gadair bellach yn yr Institiwt yng Nghaernarfon, adeilad a godwyd ym 1884, flwyddyn wedi buddugoliaeth Berw yn Nolgellau, ac sydd bellach yn gartref i Gyngor Tref Caernarfon. Arferai'r adeilad gynnwys Llyfrgell y Sir (mae llyfrgell Caernarfon bellach mewn adeilad mwy newydd, nid nepell o'r Institiwt), ac mae'n debyg mai i'r llyfrgell honno y cyflwynwyd y gadair hon gan ferch Berw ('Mrs. Childs' yn ôl y plac arni), ynghyd â'r gadair yr enillodd y bardd yn Eisteddfod Gadeiriol Nefyn 1885. |
O ran ei fframwaith eithaf 'sgwar' a'i phatrymau cywrain, mae hon yn gadair nodweddiadol o grefftwaith Owen Tudor, er ei bod yn wahanol i'w gadeiriau diweddarach yn y ffaith mai plac metel sy'n dynodi manylion yr eisteddfod (cymharer hi, er enghraifft, gyda'r gadair a wnaeth yr un crefftwr at yr un eisteddfod ym 1908, chwarter canrif yn ddiweddarach). Mae'r panel cefn gyda'r afr yn sefyll ar ei choesau ôl gyda thirlun mynyddig yn y cefndir yn ddramatig ac anarferol; ac anarferol hefyd yw'r arwyddair: Gwlad Rydd a Mynydd i Mi.
Oherwydd y preniau nodedig y defnyddiodd Owen Tudor wrth ei waith, gosodwyd cyfarchiad i'r gadair arbennig hon ar ffurf chwe englyn yn destun yn yr eisteddfod. Un o'r beirdd a fwriadai gystadlu ac a gyfansoddodd gadwyn o englynion oedd Ellis Lloyd. Am ba bynnag reswm nid oedd ei gerdd ef yn y gystadleuaeth ond fe'i cyhoeddodd yn Y Dydd yn fuan wedi'r eisteddfod. |
CADAIR EISTEDDFOD MEIRION - ELLIS LLOYD
Coed derwen at wneud cadeiriau – ni bu
Ei bath trwy yr oesau, Pur o hyd mae yn parhau Y gallu yn Nolgellau. Wele gain gywrain ragoriaeth – Cadair Sy'n codi saernïaeth, Ys o enwog wasanaeth, Owen deg i ni y daeth. Gloew iawn ddurol glan dderw – gasglodd, Nid cysglyd goed marw, Rhai hynod HYNOD y'n nhw, A hynod yn eu henw. |
Tirion bren teyrn y bryniau – a derw
A dorwyd yn Nannau, A Sant Cadfan, burlan bau A unwyd yn eu henwau. Llunio o bren llun bryniau – hardd osgo 'N gwar ddisgyn mewn graddau, A'n haddurn hen fynyddau Ar hon o hyd yn parhau. Ac aeth Tudor y gweithiwr – yn hon, Yn enwog fel cerfiwr, Mawr enaid ein Meirionwr Hwn a gawn yn bena' gwr. |
Bu cryn ddadlau ynghylch yr englynion hynny a lwyddodd i gyrraedd llaw'r beirniad mewn pryd. Mwy yma'n fuan.
Y BARDD
Ganed y Prifardd Robert Arthur Williams ym 1854, ac fe'i magwyd gan ei fodryb ym Mhentre Berw, Môn. Roedd yn offeiriad ac yn fardd. Mae'n bosib mai fel beirniad y gwnaeth ei gyfraniad llenyddol mwyaf sylweddol, gan iddo feirniadu awdlau'r gadair droeon ochr yn ochr â John Morris-Jones ac eraill. Bu farw ym 1926. Llun: Papur Pawb, 8 Medi 1894 Cofnod Berw yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c-WILL-ART-1854.html |
Cafwyd anerchiadau o'r llwyfan gan Ieuan Ionawr, Gwilym Dyfi, Twm Gwynedd, y Parch. John Meredyth, Llewelyn, Ellis Lloyd a'r Parch. D. Evans ymhlith eraill. Nodir yn adroddiad Y Dydd ar 4 Ionawr 1884 fel y bu i'r bardd gael ei gario i'w gartref yn ei gadair gan y dorf frwdfrydig.
Cyhoeddwyd nifer o'r cyfarchion barddol i Cadvan yn Y Dydd ar 11 Ionawr 1884. Y mwyaf trawiadol, o bosib, yw englyn gan fardd cadeiriol y flwyddyn flaenorol, Berw, yn 'pasio'r baton', fel petae. 'Jeremiah' oedd testun 1883:
Mae awen "Jeremiah" - genyf fi,
Ond gwn fod a'i cura;
Efe yn wir a fwynha
Hoenus awen "Esaiah".
Dyfynir rhai o'r cyfarchion eraill i'r bardd buddugol isod.

ENGLYNION - GWILYM DYFI
Heddyw yn hynod addien - o guro
'R fath gewri disgywen; Diguraw emau'r awen, Yn wir barch rhown ar ei ben. Mewn rhwysgedd fe gadd heddyw - ei godi i'r Gadair ddigyfryw; Urddedig wych brif fardd ydyw A mirain haul Gwyl Meirion yw. |
Cadvan sy'n fri i'r cydfyd - yn enaid
Barddoniaeth o'i febyd; Yn safon y tlws hefyd, A bardd yn ben beirddion byd. |
CADEIRIAD Y PARCH. J. CADVAN DAVIES - IEUAN IONAWR
Y gadair deg i awdwr da - roddir,
A heddwch a'i gwylia; Heddyw'n hon haeddu wna - eistedd yn ben, Ei hoenus awen eneiniai Eseia. Bwriodd enaint a hufen barddoniaeth O chwilio i degwch y weledigaeth, A ffawd i weled llwybr proffwydoliaeth I oruwchdiroedd yr Iachawdwriaeth, - Odlau nef â'i bwyntel wnaeth - yn fywiog, Asbri dihalog ddrych ysbrydoliaeth. |
Hen Nadolig dry'n delyn - i siarad
Newydd siriol flwyddyn, O law Gwr - y blaguryn Godai Duw i gadw dyn. Yn wyneb haul gwyn anian - a'i allu Yr ynillodd Cadvan; Ac wele ar ddydd Calan Efe yw cawr uchaf cân. |
Cyhoeddwyd cyfarchiad arall i Cadvan ar ffurf englyn gan Llewelyn o'r Brithdir yn Y Genedl Gymreig ar 27 Chwefror:
I gadair 'Steddfod Meirion - gwiw awdwr
Godwyd llawn rhagorion:
Yr holl feirdd heirdd, y waith hon,
Ysgydwodd i'r cysgodion.
I gadair 'Steddfod Meirion - gwiw awdwr
Godwyd llawn rhagorion:
Yr holl feirdd heirdd, y waith hon,
Ysgydwodd i'r cysgodion.
Y GADAIR
Fel yn y flwyddyn flaenorol, Owen Tudor, y saer cadeiriau adnabyddus o dref Dolgellau, oedd yn gyfrifol am greu'r brif wobr farddoniaeth. Canodd Cadvan englynion i ddiolch iddo a mynegi ei falchder am y gadair:

I'm hwyrion heb amhariad - y Gadair
A geidw fy Nghaniad; Deil oesau, a'i del asiad Mor bur a Thudur, ei thad. |
Cedwir awen ysblenydd - ein tadau,
Yn ein Tudur gelfydd; Efe, am gerfiaw, a fydd Mireiniaf law Meirionydd. |
Y BARDD
Ganed John Cadvan Davies yn Llangadfan, Sir Drefaldwyn, ym 1846. Roedd yn weinidog gyda'r Wesleyaid ac yn fardd ac eisteddfodwr amlwg a llwyddiannus am flynyddoedd lawer. Tynnodd sawl helynt i'w ben pan na fu'n llwyddiannus mewn eisteddfodau - yn fwyaf enwog ynghylch pryddest Cadair Eisteddfod Meirion 1894. Cyhoeddodd bedair cyfrol o farddoniaeth yn ystod ei oes, ac fe'i urddwyd yn Archdderwydd Cymru ym 1923. Dim ond am un eisteddfod y bu yn y swydd honno, gan y bu farw yn Hydref 1923. Llun: Cadvan gyda rhai o'i wobrau eisteddfodol (Casgliad John Thomas, LlGC) Cofnod Cadvan yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-CAD-1846 |
1885Neb yn deilwng
TESTUN OWAIN GLYNDWR (AWDL-BRYDDEST) NIFER YN CYSTADLU 2 GWOBR ARIANNOL £10 DYDDIAD CADEIRIO 1 IONAWR 1885 BEIRNIAD DEWI WYN O ESSYLLT DYFED LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH PARCH. THOMAS NICHOLSON, DINBYCH
Dau fardd yn unig a fentrodd gystadlu am gadair Eisteddfod Meirion ym 1885, ac ni chawsai'r beirniaid, Dewi Wyn o Essyllt a Dyfed, eu plesio rhyw lawer gan yr un o'r ddau. Fodd bynnag, daethant i'r penderfyniad i ddyfarnu hanner y wobr ariannol i'r gorau o'r ddau, un yn dwyn y ffugenw 'Madawg ap Bleddyn', gan atal y gadair a'r wobr lawn. Y Parch. Thomas Nicholson o Ddinbych oedd 'Madawg ap Bleddyn'.
Fel hyn y canodd y bardd Artro o Ddolgellau i'r gadair wag, mewn englyn buddugol a gyhoeddwyd yn Y Dydd ar 20 Mawrth:
Ow! cadair wag! coder hon - i'r golwg
Er mawr g'wilydd beirddion;
Hi floedda'n gryf flwyddyn gron,
Am arwr i wyl Meirion!

Fel yn y flwyddyn flaenorol, Owen Tudor, y saer cadeiriau adnabyddus o dref Dolgellau, oedd yn gyfrifol am greu'r brif wobr farddoniaeth. Fel ei rhagflaenydd, roedd cadair 1885 hefyd yn destun englynion o fawl, a ymddangosodd yn Y Dydd ar 5 Rhagfyr 1884, dan y ffugenw 'Edmygydd y Cywrain'. Cyflwynwyd yr englynion i 'Mr O. G. Tudor, ar ol bod yn gweled y gadair gelfydd sydd ganddo yn awr wedi ei chwblhau gogyfer ag Eisteddfod Meirion, 1885.'

I'n Tudur - wr breintiedig - yr Awen
Wna rywiog galenig, O gariad, heb deimlad dig, mewn iaith bur, Ie, gwn, i Dudur rhydd gân nodedig. |
Gywiraf, odiaeth gerfiedydd! - heddyw
Haeddodd ganiad newydd, O'i law ddel i oleu ddydd - dug yma Fad em ariana 'Steddfod Meirionydd. |
Un arall a fu'n gweld cadair Meirion 1885 yng ngweithdy'r saer oedd Sion Puw, y gohebydd ffraeth o Lerpwl, a ganodd ei chlodydd yn ei golofn yn Y Dydd ar 23 Ionawr. Ymddengys fod Owen Tudur yn parhau i ddefnyddio'r coed o hen eglwys Sant Cadfan a ddefnyddiwyd ar gyfer cadair 1883.
Mewn gwirionedd, cadair ardderchog ydyw, yn anrhydedd i ben a chalon ei hawdwr, o ruddyn derwen Gymreig. Os ydym yn cofio yn iawn, cafwyd ei defnydd o hen Eglwys Sant Cadfan, Towyn, Meirionydd. Mae ei choed, er eu hynafiaeth, mor bur a di ol henaint ag oeddynt ganoedd o flynyddoedd yn ol. Mae ol llaw meistr yn y gelfyddyd ar holl waith y gadair. Ar wyneb ei chefn, ceir darlun o'r llew, yn gosod allan gymeriad arwrol 'Owen Glyndwr.' Mae'r cerfwaith yn gampus. Hefyd ar y rhan isaf o honi. ceir y Ddraig Goch wedi ei cherfio yn feistrolgar, yn nghyd a'r geiriau, "Cadair Eisteddfod Meirion 1885."
Aeth Sion Puw yn ei flaen wedyn i geryddu'r beirdd am fethu â'i hennill!
0 drueni! 0 dylodi, ie, O ddiogi yr awen Gymreig, yn methu cynyrchu cyfansoddiad teilwng i roddi hawl i'w pherchenog i eistedd yn y Gadair odidog hon. Tybiwn fod digon o farddoniaeth yu y gadair, heb son am y swyn oedd yn nhestun yr Awdl i greu bardd bron o gareg filldir. Gan fod hanes Eisteddfod Meirion wedi cael goleuni DYDD ni bydd i mi helaethu ar ddim, heblaw dweyd i ni gael ein boddhau yn fawr yn yr Eisteddfod, ac yn nhref y DYDD, gyda'r eithriad o wrando ar 'Dyfed' yn gorfod, a hyny er ei ofid, gyhoeddi Cadair Meirion am 1885 yn 'Gadair wag.' Ni pherthyn i ni wneud unrhyw sylw argynyrchion y gadair, oblegid mae y feirniadeth o flaen y cyhoedd.

Nid oedd bardd cadeiriol Eisteddfod Meirion 1886, Elfyn, yn bresennol ar gyfer y seremoni, a chafodd ei gynrychioli yno gan un Mr. Robertson. Yn rhan o'r seremoni ac yn cyfarch y bardd roedd Twm Gwynedd, Ieuan Ionawr, Ioan Glan Menai a Graienyn.
Roedd pump wedi gyrru awdlau i'r gystadleuaeth, a'r rheiny'n dwyn y ffugenwau 'Cader Idris', 'Gwely Cystudd', 'Emerson', 'Pindar' a 'Tydain Wyn'. Ar ôl cynghori 'Idris' i 'beidio ysgrifenu y fath ffolineb byth mwy', a gosod 'Gwely Cystudd' ac 'Emerson' tua chanol y gystadleuaeth, roedd y gystadleuaeth rhwng 'Pindar' a 'Tydain Wyn', gyda 'Tydain Wyn' yn rhagori o gryn dipyn. Dyma oedd sylwadau Hwfa Môn ar yr awdl fuddugol:
Y mae yr Awdl hon yn llawn o brydferthion natur. Y mae y cynllun yn naturiol, yr iaith yn goeth a swynol, y gynghanedd yn newydd a phersain, a'r holl ddychmygiad yn dilyn y testyn yn ffyddlawn.
Cymera yr Awdl hon ei lle yn anrhydeddus ymysg gemau yr awen Gymreig; ac yr ydym yn barnu y teilynga yr awdwr athrylithgar y gadair a'i hanrhydedd.

Ganed Robert Owen Hughes yn Llanrwst ym 1858. Yn dilyn gadael yr ysgol, bu'n brentis mewn banc cyn cychwyn paratoi i fynd i'r weinidogaeth gyda'r Methodistiaid. Yn lle hynny, treuliodd gyfnod yn gweithio i gyhoeddwr llyfrau yn Llundain. Yn ôl yng Nghymru, ymgartrefodd ym Mlaenau Ffestiniog, a bu'n olygydd nifer o gylchgronnau - Gwalia, Y Rhedegydd, a'r Glorian yn eu plith. Bu am gyfnod hefyd yn llyfrgellydd yn Llan Ffestiniog. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Caniadau Elfyn. By farw ym 1919. Cofnod Elfyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUGH-OWE-1858 |
1887J. VINCENT STEVENS
Y CENDL TESTUN DYDD Y CROESHOELIAD (PRYDDEST) FFUGENW SIMON O CYRENE NIFER YN CYSTADLU 23 GWOBR ARIANNOL £10 DYDDIAD CADEIRIO 1 IONAWR 1887 BEIRNIAD WATCYN WYN DYFED LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH EDWARD DAVIES (IOLO TREFALDWYN)
Mae'n bosib mai'r ffaith mai cystadleuaeth am bryddest yn hytrach nac awdl sydd i gyfrif am y cynnydd sylweddol yn nifer yr ymgeiswyr ym 1887, o ystyried y niferoedd isel a ddenwyd i gystadlu mewn blynyddoedd blaenorol.
Nid oedd J. Vincent Stevens yn bresennol yn yr eisteddfod, ac felly cadeiriwyd llywydd y cyfarfod, R. E. Ll. Richards, Caerynwch, yn ei le. Cafwyd anerchiadau barddol gan y beirniaid, Watcyn Wyn a Dyfed, yn ogystal â Ieuan Ionawr, Ioan Glan Menai, Ioan Moelwyn, Graienyn, y Parch. J. Howells, Arthog a Twm Gwynedd.
Un o'r beirdd eraill yn y gystadleuaeth oedd Edward Davies (Iolo Trefaldwyn) o Wrecsam. Ei bryddest ar gyfer y gystadleuaeth oedd un o'i weithiau barddonol olaf, os nad ei olaf un. Bu farw ar 4 Ionawr 1887, dridiau wedi'r eisteddfod.

CADEIRIAD PRIF-FARDD EISTEDDFOD MEIRION, 1887 - IEUAN IONAWR
Ei wlad a'i genedl deg una - er rhoi
Iddo'r hyn deilynga, Y gadair dderw gyda Bri y gamp a'r wobr a ga. |
Yn ei bryddest orchestawl - godidog
'Hediadau barddonawl Geir yn myg eirianu mawl I groes Iesu grasusawl. Urddas têr ei bryddest ä O Feirion i Galfaria. |
1888PARCH. WILLIAM THOMAS
(GLANFFRWD) LLANELWY TESTUN Y PASC OLAF YN YR AIPHT (PRYDDEST) FFUGENW AWEN TIR MIDIAN NIFER YN CYSTADLU 12 GWOBR ARIANNOL £7 DYDDIAD CADEIRIO 1 IONAWR 1888 BEIRNIAD WATCYN WYN TUDNO LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
1889JOHN DAVIES
(TALIESIN HIRAETHOG) DINBYCH TESTUN RHYFELOEDD Y GROES (AWDL) FFUGENW CYFEILIOG NIFER YN CYSTADLU 1 GWOBR ARIANNOL £7 DYDDIAD CADEIRIO 1 IONAWR 1889 BEIRNIAD BERW GWALCHMAI LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
Taliesin Hiraethog, yr unig gystadleuydd, oedd enillydd y gadair yn Eisteddfod Meirion 1889. Gan nad oedd yn bresennol yn yr eisteddfod, cymerwyd ei le yn y seremoni gan gadeirydd y cyfarfod, sef yr aelod seneddol Tom Ellis. Cafwyd cyfarchion barddol gan Berw, y beirniad; Amaethon, ar ran Gwalchmai, ei gyd-feirniad; Barlwydon, Rheidol a Pedr Brothen.
Roedd gohebydd Y Dydd ar 4 Ionawr yn dra beirniadol o seremoni'r cadeirio, gan nodi yn ei adroddiad mai hon oedd 'y cadeirio mwyaf difywyd y buom yn dyst o hono erioed. Pa le yr oedd y corn gwlad?'.

Ganed Taliesin Hiraethog ym 1841, yn fab fferm Creigiau'r Bleddau, Hafod Elwy. Bu'n amaethu ar sawl fferm yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn ystod ei oes, a threuliodd gyfnod yn gweithio fel beili yng Ngherrig-y-drudion. Priododd ddwywaith. Bu farw ei wraig gyntaf a'i fab o'r briodas honno, a bu farw ei ferch o'r ail briodas yn ifanc hefyd. Bu hyn yn ergyd drom i ŵr oedd eisoes yn fregus ei iechyd. Bu farw ym 1894. Cofnod Taliesin Hiraethog yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-JOH-1841 |
Ben Davies, a fyddai ymhen ychydig flynyddoedd yn dod yn un o Brifeirdd mwyaf llwyddiannus yr Eisteddfod Genedlaethol, oedd enillydd cadair 1890. Roedd ar y pryd yn weinidog gyda'r Annibynnwyr ym Mwlchgwyn, ger Wrecsam; ond o Gwmllynfell y deuai'n wreiddiol. Nid oedd yn bresennol i'w gadeirio, a chadeiriwyd un Mr. Hughes o swyddfa papur Y Dydd fel ei gynrychiolydd.
Iolo Caernarfon a Cadvan oedd y beirniaid swyddogol, ond ni fedrodd Cadvan a chyflawni ei swydd, a chamodd Gwilym Eryri i'r adwy.
Roedd Iolo Caernarfon yn un o'r sawl fu'n cyfarch y bardd buddugol:
Andreas sydd fedrus iawn; - i'n harwr
Rhoed blaenoriaeth gyfiawn;
Y gwr i'w sedd a groesawn -
Mawreddus fardd amryddawn.

A chanodd Glan Wnion, Dolgellau, fel hyn:
Wel yn siwr, enwog wron - yw y bardd
Sydd yn ben y beirddion; Anwyl yw, a'i awen lon A rodd fawredd i Feirion. |
Hwn yw y gwr hygar enwogodd
Ei awen geinwych, yn firain ganodd; Yma i'w gadair yn deg ymgododd Yn ei rwysg hynod, i fri esgynodd, Enwog wron a gurodd - feirdd trylen, Ei ddwyfol awen yn ddifai loewodd. |
O'R FEIRNIADAETH
Dyma oedd gan y beirniaid i'w ddweud am waith yr enillydd. Gellir darllen y feirniadaeth yn llawn yn Y Dydd, 10 Ionawr 1890, y gellir cael mynediad ato'n ddigidol yma.
Teimlwn yn nechreu y cyfansoddiad hwn ein bod yn nghymdeithas bardd o'r radd flaenaf, ac nid ydym yn cael ein siomi wrth fyned yn mlaen. Y mae drwyddo yn drylawn o farddoniaeth bur ac urddasol. Y mae yn fwy awenyddol, yn fwy byw a thyner ac yn fwy felly o lawer, nag unrhyw un arall yn y gystadleuaeth. Rhagora yr awdwr hwn hefyd yn ddirfawr ar ei gydymgeiswyr yn nhrefniad ei faterion, ac mewn ffyddlondeb i destun y pwyllgor. Dengys egwyddorion ysbrydol y Gyflafan, a dwg allan drwy hyn wir athrawiaeth y pwnc; a gwna hyny mewn barddoniaeth, ac mewn barddoniaeth na wvddom pa bryd y darllenasom ei rhagorach. Ceir ganddo yntau amgylchiadau ond gwna ef i bob un o honynt ddangos a gwasanaethu y testun. Gallasai ei iaith fod rywfaint yn loewach, ond prin y gallasai fod yn fwy cynil o honi, gwasga yn aml swm dirfawr o feddwl i ychydig iawn o Ie. Gallasai ei fydryddiaeth fod lawer yn fwy cywir ac ystwyth, a gresyn na buasai. Dylesid darparu cerbydau o aur i angylion o feddyliau fel y rhai hyn i dramwyo ynddynt drwy ein byd. Ond y mae rhagoriaethau y Bryddest mor fawrion a luosog fel nad ydyw y meflau hyn yn teilyngu ychwaneg o sylw. Gwesgir ni i fynegu ei bod yn benigamp. Afreidiol gan hyny, ydyw hysbvsu ei bod yn oreu — yn oreu o lawer. Teilynga ei hawdwr y wobr, y gadair, a phob croesaw allwn ddangos iddo.

John Williams, gwneuthurwr dodrefn o Ddolgellau oedd yn gyfrifol am saernio cadair dderw Eisteddfod Meirion 1890.

Ganed Ben Davies yng Nghwmllynfell ym 1864. Dechreuodd farddoni yn ifanc iawn, a dechreuodd weithio fel glowr yn 13 oed, cyn mynd i astudio yn ysgol baratoi Llansawel ym 1885 ac yna Coleg y Bala. Bu'n weinidog gyda'r Annibynnwyr ym Mwlchgwyn, Llandegla a Phanteg. Enillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith (1892, 1893, 1894), a'i chadair unwaith (1896). Bu farw ym 1937. Llun: Ben Davies (chwith) gydag Elfed, enillwyr y goron a'r gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1894 (Papur Pawb) Cofnod Ben Davies ar Wicipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Ben_Davies |
1891BEN DAVIES
YSTALYFERA TESTUN Y DECHREUAD (PRYDDEST) FFUGENW NARCISSUS NIFER YN CYSTADLU 15 GWOBR ARIANNOL £7 DYDDIAD CADEIRIO 1 IONAWR 1891 BEIRNIAD TAFOLOG LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH RICHARD ROBERTS MORRIS [2]
Ben Davies oedd enillydd cadair Eisteddfod Meirion am yr eildro yn olynol ym 1891, ac fel ym 1890, nid oedd yn bresennol i'w gadeirio. Roedd bellach wedi gadael ei weinidogaeth ym Mwlchgwyn a Llandegla, ac wedi symud yn ôl i Dde Cymru fel gweinidog yr Annibynnwyr ym Mhanteg, Ystalyfera. Cadeiriwyd un Mr. Marshall o'r Ysgol Ramadeg yn ei le.
Ymysg y beirdd a ymddangosodd ar y llwyfan yn ystod y seremoni roedd Glanfryn, Glanwrin, Brothenog, Geufronydd, Llew Meirion, Wnion ac Amaethon.
Ben Davies oedd enillydd cadair Eisteddfod Meirion am yr eildro yn olynol ym 1891, ac fel ym 1890, nid oedd yn bresennol i'w gadeirio. Roedd bellach wedi gadael ei weinidogaeth ym Mwlchgwyn a Llandegla, ac wedi symud yn ôl i Dde Cymru fel gweinidog yr Annibynnwyr ym Mhanteg, Ystalyfera. Cadeiriwyd un Mr. Marshall o'r Ysgol Ramadeg yn ei le.
Ymysg y beirdd a ymddangosodd ar y llwyfan yn ystod y seremoni roedd Glanfryn, Glanwrin, Brothenog, Geufronydd, Llew Meirion, Wnion ac Amaethon.
Y BARDD
Ganed Ben Davies yng Nghwmllynfell ym 1864. Dechreuodd farddoni yn ifanc iawn, a dechreuodd weithio fel glowr yn 13 oed, cyn mynd i astudio yn ysgol baratoi Llansawel ym 1885 ac yna Coleg y Bala. Bu'n weinidog gyda'r Annibynnwyr ym Mwlchgwyn, Llandegla a Phanteg. Enillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith (1892, 1893, 1894), a'i chadair unwaith (1896). Bu farw ym 1937. Llun: Ben Davies (chwith) gydag Elfed, enillwyr y goron a'r gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1894 (Papur Pawb) Cofnod Ben Davies ar Wicipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Ben_Davies |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH RICHARD ROBERTS MORRIS [2]
Am y trydydd tro yn olynol (1890, 1891), Ben Davies oedd prifardd Eisteddfod Meirion ym 1892. Hon oedd y flwyddyn y byddai'n ennill ei Goron Genedlaethol gyntaf (hefyd o dair yn olynol) yn Y Rhyl. Unwaith eto, nid oedd y bardd yn bresennol yn yr eisteddfod, a chadeiriwyd Mr. W. Hughes, Mervinian House, Dolgellau, yn ei le.

Lleoliad y gadair tan yn ddiweddar oedd Capel Pantteg, Ystalyfera, lle ordeiniwyd Ben Davies yn weinidog fis Chwefror 1891, pan oedd yn 26 oed, yn dilyn pregethu yno droeon ar wahoddiad. Er iddo fwriadu aros ym Mhantteg am ychydig flynyddoedd yn unig, arhosodd am ddegawdau, hyd 1921. Mae'r gadair bellach wedi cael cartref yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera.
Lleoliad y gadair tan yn ddiweddar oedd Capel Pantteg, Ystalyfera, lle ordeiniwyd Ben Davies yn weinidog fis Chwefror 1891, pan oedd yn 26 oed, yn dilyn pregethu yno droeon ar wahoddiad. Er iddo fwriadu aros ym Mhantteg am ychydig flynyddoedd yn unig, arhosodd am ddegawdau, hyd 1921. Mae'r gadair bellach wedi cael cartref yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera.
Y BARDD
Ganed Ben Davies yng Nghwmllynfell ym 1864. Dechreuodd farddoni yn ifanc iawn, a dechreuodd weithio fel glowr yn 13 oed, cyn mynd i astudio yn ysgol baratoi Llansawel ym 1885 ac yna Coleg y Bala. Bu'n weinidog gyda'r Annibynnwyr ym Mwlchgwyn, Llandegla a Phanteg. Enillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith (1892, 1893, 1894), a'i chadair unwaith (1896). Bu farw ym 1937. Llun: Ben Davies (chwith) gydag Elfed, enillwyr y goron a'r gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1894 (Papur Pawb) Cofnod Ben Davies ar Wicipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Ben_Davies |
1893RICHARD ROBERTS MORRIS
CAERNARFON TESTUN BRWYDR BYWYD (PRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 16 GWOBR ARIANNOL £7 DYDDIAD CADEIRIO 2 IONAWR 1893 BEIRNIAD BEN DAVIES PEDROG LLEOLIAD YN 2024 mewn perchnogaeth breifat, Llanelwy Lluniau: Shan Morris |
Ar ôl ei hennill dair blynedd yn olynol cyn 1893, penodwyd Ben Davies - a oedd bellach hefyd yn fardd coronog Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl 1892 - yn un o feirniaid y gystadleuaeth ym 1893. Wedi iddo fethu â bod yn bresennol yn y dair eisteddfod flaenorol, roedd Ben Davies yn yr Ystafell Gyhoeddus yn Nolgellau ar ddydd Calan 1893 i draddodi ei feirniadaeth ef a Phedrog.
Yn ôl adroddiad Y Dydd ar yr achlysur, barnai'r beirniaid fod rhyw saith neu wyth o'r 16 ymgeisydd yn y dosbarth cyntaf, gyda dau yn gwthio i'r brig. Cadvan (enillydd yr un gystadleuaeth ym 1884) oedd yng ngofal y cadeirio, gydag Amaethon, Wnion, Ben Davies, Caerwyson, Iranfryn, Glan Wnion ac eraill yn rhan o'r seremoni.
Y Parch. R. R. Morris - oedd ar y pryd yn weinidog gyda'r Methodistiaid yn Siloh, Caernarfon - oedd y bardd buddugol. Bu'n ail i Ben Davies yn yr un gystadleuaeth ym 1891 a 1892.

Gwneuthurwr y gadair oedd John Williams o Ddolgellau, ac mae'r dyluniad yn ymdebygu'n union i gadair 1894 a enillwyd gan Rhys Jones Huws. Ni wyddys am hynt y gadair nes y 1970au, pan ddaeth i feddiant myfyrwyr oedd yn helpu i drefnu Eisteddfod Gadeiriol Lerpwl. Bu mewn perchnogaeth breifat yn Llanelwy hyd 2024, pryd y penderfynodd y teulu ei rhoi ar ocsiwn.

Ganed Richard Roberts Morris ym Meddgelert ym 1852, a chafodd ei fagu ar aelwyd ei daid nes ei fod yn 13 oed. Daeth yn flaenor yn Rhyd-ddu yn ŵr ifanc, a chafodd ei baratoi at fynd i'r weinidogaeth yng Nghlynnog, Holt, a Choleg y Bala. Bu'n weinidog ym Mlaenau Ffestiniog a Chaernarfon. Roedd yn fardd eisteddfodol llwyddiannus, a daeth yn ail am Goron Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1895. Mae'n fwyaf adnabyddus efallai am yr emynau a gyfansoddodd. Bu farw ym 1935.
Cofnod Richard Roberts Morris yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-MORR-ROB-1852

1894RHYS JONES HUWS
ABERHOSAN TESTUN DYDD CORONIAD (PRYDDEST) FFUGENW EGWAN AGWEDD NIFER YN CYSTADLU 10 GWOBR ARIANNOL £7 DYDDIAD CADEIRIO 1 IONAWR 1894 BEIRNIAD BEN DAVIES ALAFON Llun: Eryl Roberts LLEOLIAD YN 2022 Llwydiarth Hall, Aberllefenni |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH CADVAN [2]
Ar y cyd ag Alafon, roedd Ben Davies yn ei ôl i feirniadu'r gadair yn Nolgellau ym 1894, fel yn y flwyddyn flaenorol (ar y cyd â Phedrog), ac yn dilyn ei hennill ym 1890, 1891 a 1892. Am nad oedd yn bresennol i gael ei gadeirio, noda adroddiad yn Y Tyst sut y cynhaliwyd noson i gadeirio Rhys J. Huws yn Aberhosan ar nos Fawrth 9 Ionawr 1894. Arweiniwyd y noson gan Penrith Thomas a chafwyd cyfarchion barddol gan lu o feirdd lleol: Wnion, Penrith, Dewi ap Issac, Ogwenydd, Ap Egerton, Crugfardd, Caswallon, Ap Tudor, Mynyddwr, Barddones Dyfi ac Ap Meredydd. Cadvan, a enillodd y gystadleuaeth ym 1884, oedd Gwyddon Ganhebon, awdur y bryddest a ddyfarnwyd yn ail orau.
Bu cryn ddadlau ynghylch dyfarniad y beirniaid yn y gystadleuaeth hon. Mae'r helynt yn y wasg yn cychwyn gyda galwadau gan sawl un am gael gweld beirniadaeth y gystadleuaeth. Rhai fel Gwyndaf Eryri, a hyderai 'y gwelwch eich ffordd yn glir i gyhoeddi y Bryddest glogyrnaidd o ran iaith a mydr a farnwyd yn oreu'; yn amlwg felly roedd amryw yn anfodlon gyda'r ffaith fod y beirniad wedi ceryddu crefft pryddest Rhys Jones Huws, ac wedi bwrw ymlaen i'w gwobrwyo.
Tyndra a gaed felly rhwng crefft a chynnwys, yr hyn a achosodd aml i ddadl eisteddfodol dros y canrifoedd. Cyhoeddwyd y feirniadaeth yn unol a dymuniadau'r rhai a fu'n galw amdani yn y wasg, yn Y Dydd ar 19 Ionawr [gellir ei darllen yn llawn yma]. Gwelir ar unwaith o ddarllen honno y benbleth a wynebai'r beirniaid wrth geisio penderfynu rhwng pryddest Cadvan, a oedd yn 'ein herio i ddweyd dim yn erbyn ei chelfyddyd a'i mydryddiaeth', ond oedd yn 'chwareu gormod ar y wyneb' - hynny yw, cerdd dlos yn eu golwg hwy ond nad oedd yn dweud rhyw lawer - a phryddest Rhys Huws wedyn a oedd yn 'barddoni enaid ei destyn'. Cyfeirent at ei bryddest ef fel 'aur heb ei drin'. Hon, iddyn nhw. oedd 'cyfansoddiad gwerthfawrocaf y gystadleuaeth' er nad oedd yr un sglein gorffenedig arni.
Cyhoeddodd Cadvan ei bryddest fel pamffled trwy argraffdy William Williams yn Nhreffynnon, ac mae ei ragair iddi yn glasur yn genre'r beirdd gafodd gam, gan ddwyn i gof ymateb Dewi Emrys i fuddugoliaeth Prosser Rhys am 'Atgof' yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypwl 1924. Nid yw'n ymatal rhag ymosod yn chwyrn ar ei gyd-ymgeisydd llwyddiannus a'r amgylchiadau a arweiniodd at ei fuddugoliaeth. Mae'n amlwg hefyd ei fod wedi cael ar ddeall pwy oedd Pererin, sef y bardd nesaf ato yn y gystadleuaeth, ac yn defnyddio'r 'cam' a gawsai yntau i ychwanegu at ei ddadl:
Os gwir y sibrwd a glywais pwy yw "Pererin," ofnaf ei fod wedi cael cam dirfawr yn y gystadleuaeth hon. Y mae pob dernyn o'i eiddo a ddarllenais i yn llawer iawn rhy dda i gael eu rhestru yn yr un dosbarth a'r Bryddest Wobrwyedig.

Ymhlith y llinellau mwyaf cofiadwy yn llith Cadvan y mae'r rhai tua'r diwedd ble mae'r awdur yn bwrw'i lid a'i goegni ar yr hyn a gynrychiolai Rhys J. Huws, sef dyfodiad math newydd o farddoniaeth, amhrydferth a disynnwyr yn ei olwg ef:
Wrth y rhai sydd yn dywedyd, ar y naill law, mai peth fel hyn fydd Barddoniaeth (?) Cymru Fydd; ac ar y llaw arall, fod dyddiau Barddoniaeth Gymreig bron wedi eu rhifo; dymunwn sibrwd, os yw un o'r awgrymiadau yna yn gywir, y mae y ddau felly. Os ydyw y dernyn hwn o ---- (ni ddywedaf, barddoniaeth) yn engraifft [sic] o'r hyn a gynigir i ni yn enw barddoniaeth yn yr oes nesaf, nid oes dim sydd sicrach nag y bydd i'r wlad ei chwydu allan o'i genau. Llun: clawr pryddest argraffedig Cadvan o gasgliadau Celtaidd Prifysgol Harvard. Gellir darllen y gyfrol gyfan ar-lein yma. |
Terfyna Cadvan trwy nodi ei fod yn gyrru copi argraffiedig o'i bryddest ef, 'gan obeithio y gwna Mr. Huws yr un modd', at 24 o feirdd - Hwfa Mon, Dyfed, Tudno, Pedrog, Iolo Caernafon, Glanystwyth, Lleurwg, Elis Wyn o Wyrfai, Dewi Ogwen, Druisyn, Hywel Cernyw, Tafolog, Glan Dyfi, Gurnos, Meiriadog, Brynfab, Tegwyn Parry, Dafydd Morganwg, Hawen, Elfed, Ceulanydd, Gwynedd, Watcyn Wyn ac Ioan Glan Menai - gan ddweud y byddai'n ymostwng i'w dyfarniad hwy ar y pryddestau. Ni all atal ei hun rhag rhoi tro pwdlyd arall i'r gyllell wrth iddo ychwanegu - 'Posib fy mod i wedi myned yn ddall, fod y gallu oedd genyf [sic] unwaith wedi fy ngadael' - a chan gyfeirio at feirdd a'i gwobrwyodd yn y gorffennol - 'posibl fod Hiraethog, Islwyn, Nicander a Cheiriog wedi eu twyllo ynof, a'u bod hwythau wedi fy nhwyllo inau [sic] i gredu nad oedd fy marddoniaeth yn rhyw arwynebol iawn.' Nid oedd posib, wrth gwrs, i'r pedwar hynny ateb sylwadau Cadvan mewn unrhyw ffordd gan eu bod eisoes yn eu beddi - Taliesin Hiraethog ers misoedd yn unig.
Y GADAIR
John Williams o Ddolgellau oedd y gwneuthurwr; ac mae'r dyluniad yr un fath yn union a'r gadair a luniodd ar gyfer eisteddfod 1893. Yn 2022, roedd cadair Eisteddfod Meirion 1894 yn Neuadd Llwydiarth, Aberllefenni, sydd bellach yn lety gwyliau. Ni wyddys hyd yma sut y daeth i fod yno, nac a oedd cysylltiad rhwng Rhys J. Huws a'r ty hwnnw.

Ganed Rhys J. Huws ym 1862 ym Mhenegoes ger Machynlleth. Bu'n weinidog yn Abermaw, Bethel (Arfon), Bethesda (Arfon) ac yng Nglanaman. Roedd yn weithgar fel bardd yn y 1890au, a daeth i amlygrwydd trwy ffrwgwd a fu yn y wasg yn sgil ennill Cadair Eisteddfod Meirion, Dolgellau 1894; gelwid ef yn un o arweinwyr y 'Beirdd Newydd' ar ddiwedd yr 19G. Trodd at ysgrifennu rhyddiaith yn hwyrach yn ei oes; ac roedd yn boblogaidd fel arweinydd eisteddfodau. Bu farw yng Nglanaman ym 1917. Llun: Rhys J. Huws, o gasgliad digidol LlGC Cofnod Rhys J. Huws yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUWS-JON-1862 |
|
Rhys J. Huws oedd bardd cadeiriol Eisteddfod Meirion am yr eildro yn olynol ym 1895.
Y BARDD
Ganed Rhys J. Huws ym 1862 ym Mhenegoes ger Machynlleth. Bu'n weinidog yn Abermaw, Bethel (Arfon), Bethesda (Arfon) ac yng Nglanaman. Roedd yn weithgar fel bardd yn y 1890au, a daeth i amlygrwydd trwy ffrwgwd a fu yn y wasg yn sgil ennill Cadair Eisteddfod Meirion, Dolgellau 1894; gelwid ef yn un o arweinwyr y 'Beirdd Newydd' ar ddiwedd yr 19G. Trodd at ysgrifennu rhyddiaith yn hwyrach yn ei oes; ac roedd yn boblogaidd fel arweinydd eisteddfodau. Bu farw yng Nglanaman ym 1917.
Cofnod Rhys J. Huws yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUWS-JON-1862

Am y trydydd tro o'r bron, y Parch. Rhys J. Huws oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Meirion 1896.

1897ROBERT OWEN HUGHES (ELFYN)
FFESTINIOG TESTUN NODDFA (PRYDDEST) FFUGENW TANYGRAIG NIFER YN CYSTADLU 12 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 1 IONAWR 1897 BEIRNIAD RHYS J. HUWS TAFOLOG LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
Ar ôl ennill y gystadleuaeth deirgwaith o'r bron ym 1894, 1895 a 1896, gwahoddwyd y Parch. Rhys J. Huws i feirniadu cystadleuaeth 1897.
Elfyn, a fyddai'n enill y gadair genedlaethol ym Mlaenau Ffestiniog y flwyddyn ganlynol, oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Meirion 1897. Dyma'r eildro iddo enill cadair Meirion, wedi iddo ei chipio dros ddeng mlynedd ynghynt, yn eisteddfod 1886.
Roedd Rhys J. Huws, Graienyn, y Parch. W. Pari Huws, Athron, Trebor, Abon, Cellon, Glan Wnion a Llew Meirion ymhlith y beirdd oedd yn rhan o seremoni'r cadeirio.
Elfyn, a fyddai'n enill y gadair genedlaethol ym Mlaenau Ffestiniog y flwyddyn ganlynol, oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Meirion 1897. Dyma'r eildro iddo enill cadair Meirion, wedi iddo ei chipio dros ddeng mlynedd ynghynt, yn eisteddfod 1886.
Roedd Rhys J. Huws, Graienyn, y Parch. W. Pari Huws, Athron, Trebor, Abon, Cellon, Glan Wnion a Llew Meirion ymhlith y beirdd oedd yn rhan o seremoni'r cadeirio.
Y BARDD
Ganed Robert Owen Hughes yn Llanrwst ym 1858. Yn dilyn gadael yr ysgol, bu'n brentis mewn banc cyn cychwyn paratoi i fynd i'r weinidogaeth gyda'r Methodistiaid. Yn lle hynny, treuliodd gyfnod yn gweithio i gyhoeddwr llyfrau yn Llundain. Yn ôl yng Nghymru, ymgartrefodd ym Mlaenau Ffestiniog, a bu'n olygydd nifer o gylchgronnau - Gwalia, Y Rhedegydd, a'r Glorian yn eu plith. Bu am gyfnod hefyd yn llyfrgellydd yn Llan Ffestiniog. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Caniadau Elfyn. By farw ym 1919. Cofnod Elfyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUGH-OWE-1858 |
Yn ôl beirniaid y gystadleuaeth ym 1898, roedd hyd yn oed y pryddestau salaf o'r naw a gyflwynwyd yn deilwng o'r gadair a'r wobr ariannol. Anerchwyd y bardd buddugol yn y seremoni gan Pedrog, Caerwyson, Athan, W. Pari Huws, Glan Wnion a Graienyn.
Gan nad oedd Gwylfa Roberts yn bresennol i gael ei gadeirio yn eisteddfod Meirion 1899, cadeiriwyd William Pari Huws fel ei gynrychiolydd. Cafodd ei annerch gan Glan Wnion, Dyfnallt, Rhydyddon ac eraill.
Enillodd Gwylfa'r gadair hon ar ganol blwyddyn ryfeddol o lwyddiannus yn ei yrfa eisteddfodol - pryd y cipiodd Goronau Cenedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898 a Chaerdydd 1899.

Ganed R. Gwylfa Roberts ym Mhenmaenmawr ym 1871, a chafodd ei addysg ym Motwnnog ac yng Ngholeg y Bala. Daeth yn weinidog Y Felinheli / Porth Dinorwig ym 1895; daeth yn ddiweddarach yn weinidog y Tabernacl yn Llanelli, lle y bu hyd ei farwolaeth ym 1935. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol am ddwy flynedd yn olynol (1898, 1899), a daeth yn ail amdani ym 1907. Roedd yn Gofiadur Gorsedd y Beirdd ar ddiwedd ei oes, a chyhoeddodd gyfrol o gerddi, Drain Gwynion. Llun: Wikimedia Commons Cofnod Gwylfa Roberts yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-ROBE-RIC-1871 |
Cyflawnodd Dyfnallt gryn gamp trwy ennill tair cadair ar gylch eisteddfodol y Nadolig a'r Calan ym 1899 a 1900; enillodd y brif wobr yn eisteddfodau Penygroes (Arfon), Ffestiniog a Meirion - y bedwaredd, y bumed a'r chweched o'r cadeiriau iddo eu hennill.
Cyhoeddwyd cadwyn o englynion iddo gan 'gyfaill' yn ddienw yn rhifyn 24 Ionawr 1900 o'r Tyst. Maent yn cyfeirio at y gwobrau ariannol y llwyddodd Dyfnallt i'w hennill dros gyfnod y Nadolig hwnnw - £3 a theirswllt ym Mhenygroes, £5 a phumswllt yn Ffestiniog, a seithbunt yn Nolgellau. Dyma nhw'r englynion:

Bu'n o gryf yn Benygroes, - fe ganai
Fyw geinion uchelfoes; Tri gini'n troi i'w geinoes, A gwych sedd yn hedd i'w oes. Y da was ddoi'n dywysog - uwch wed'yn A chadair Ffestiniog; Ar hyn, gyda'r rhan goediog, - wele'n llawn am ei gân uniawn bum' gini enwog. |
Wel, gallodd yn Nolgellau - ddwyn y belt
Ar ddawn beirdd o urddau; Cadair ac un o'r codau - ddygai'r dydd I'n byw awenydd, a saith o bunnau. Bydd Dyfnallt, 'rwy'n dallt, â'i dôn - am gadair Mwy gwed'yn, a choron; Hwyl y sydd i uchel son Am arwr cadair Meirion. |
Yn rhan o seremoni'r cadeirio roedd Llew Meirion, Gwilym Ardudwy, Gwynoro, Cynfal ac eraill.
Y GERDD
Testun gwreiddiol cadair Meirion ar gyfer 1900 oedd 'Uffern'; ond newidiwyd y testun i 'Thomas Edward Ellis' yn dilyn marwolaeth yr Aelod Seneddol ym mis Ebrill 1899, a hynny 'yn ddigon doeth', yn ôl tystiolaeth Y Negesydd ar 21 Ebrill 1899 - 'testyn mwy dymunol i ganu arno ymhob ystyr'. Llun: Tom Ellis gan Moss Williams (1915), Wikimedia Commons Un o Feirionnydd oedd Tom Ellis, ac roedd yn feddyliwr a gwleidydd sosialaidd hynod boblogaidd fu'n rhan flaenllaw o fudiad Cymru Fydd. Roedd yn aelod seneddol dros Feirionydd o 1886 hyd ei farwolaeth yn Cannes, Ffrainc ym 1899. Cofnod T. E. Ellis yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://cy.wikipedia.org/wiki/Thomas_Edward_Ellis |
Er gwaethaf y nodyn yn Y Negesydd, cyhoeddwyd o lwyfan eisteddfod 1900 mai 'Uffern' fyddai testun y bryddest ym 1901.
Y BARDD
Ganed John Dyfnallt Owen ym Morgannwg ym 1873, a chafodd ei fagu gan rieni ei dad. Bu'n lowr am gyfnod byr ar ol gadael yr ysgol cyn derbyn addysg yng Nghaerfyrddin ac yna yng Ngholeg Bala-Bangor. Bu'n weinidog yn Nhrawsfynydd, Deiniolen, Pontypridd ac yna Caerfyrddin. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1907, a daeth yn Archdderwydd Cymru ym 1954, swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth ym 1956. Llun: Wikimedia Commons Cofnod Dyfnallt Owen yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-OWEN-DYF-1873 |
Nid oedd Gwili yn bresennol i gael ei gadeirio yn Eisteddfod Meirion 1901, a chadeiriwyd cynrychiolydd yn ei le - sef R. Gwylfa Roberts, a enillodd gadair Eisteddfod Meirion ei hun ym 1899, ond na lwyddodd i fod yn bresennol bryd hynny.
Tafolog a'r Parch. Evan Davies, Trefriw, oedd yn beirniadu'r gystadleuaeth, ac Evan Davies a draddododd y feirniadaeth ar lwyfan yr eisteddfod. Anerchwyd y cadeirfardd wedyn gan Graienyn, John H. Williams, Glan Wnion, Evan Davies a Bryfdir.

Ganed John Gwili Jenkins ym Mhontarddulais ym 1872. Roedd yn un o ddisgyblion barddol Watcyn Wyn yn yr ardal honno. Roedd yn fardd cynhyrchiol a llwyddiannus mewn eisteddfodau, gan ennill y gadair mewn sawl eisteddfod dalaethol, a Choron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Merthyr Tudful 1901. Graddiodd o Rydychen, a bu'n ddirprwy Athro'r Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd; cyn cael ei benodi'n athro'r Testament Newydd yng Ngholegau'r Bedyddwyr a Phrifysgol Cymru Bangor ym 1923. Daeth yn Archdderwydd Cymru ym 1931. Bu farw ym 1936.
Cofnod Gwili yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JENK-GWI-1872

Hwn oedd yr eildro i Athron Thomas ennill cadair Eisteddfod Meirion, wedi iddo ddod i frig y gystadleuaeth yn eisteddfod 1898.
Cadeiriwyd J. Leigh Taylor yn ei absenoldeb, ac anerchwyd y bardd buddugol gan Simon Jones, Glan Wnion, W. Pari Huws ac Ap Alltud Eifion.
Richard Roberts Morris, a enillodd y gystadleuaeth ym 1893, oedd yn ail. Dyma o leiaf y trydydd tro iddo ddod yn ail (1891, 1892).

Nid oedd Nantlais yn bresennol ar gyfer y cadeirio yn Nolgellau, ac fe'i cynrychiolwyd gan E. W. Evans. Cafwyd anerchiadau yn ystod y seremoni gan Gwilym Morgan, Atha, Gwilym Derfel, Tom Lloyd, Graienyn, Glan Wnion, Goronwy Fychan a'r Parch. W. Pari Huws (a draddododd ddetholiad o feirniadaeth Elfed).
Hon oedd un o'r ychydig gadeiriau i Nantlais eu hennill fel bardd cystadleuol - achosodd Diwygiad 1904-05 iddo roi heibio ei yrfa eisteddfodol lwyddiannus, er na pheidiodd i farddoni a chyfansoddi emynau. Esboniodd y penderfyniad yn niwedd 1905:
The Rev. Nantlais Williams, Methodist minister, Ammanford, made a public announcement last year that he had resolved not to compete at eisteddfodau any longer. Mr. Williams, who was the winner of the chairs at the Queen's-hall, Meirion, and other places, has now given a public explanation of his decision. He said he had been preaching the doctrine of humiliation, but he felt there was no power behind his utterances, for he himself was guilty of practising the opposite. A young man had come to him and said that he felt justified in patronising sports so long as his minister competed at eisteddfodau, and he (Mr. Williams) was now convinced that competition was not consistent with the great truths embodied in Christian teaching. (Evening Express, 21 Tachwedd 1905)

Ganed William Nantlais Williams ym 1874. Roedd yn fardd ac yn weinidog a chwaraeodd ran flaenllaw yn Niwygiad 1904-1905. Cafodd gryn lwyddiant fel bardd cystadleuol ar droad yr ugeinfed ganrif, ond rhoddodd y gorau i farddoniaeth eisteddfodol ar ôl y Diwygiad. Roedd yn un o ddosbarth o feirdd o ardal Rhydaman a ddaeth i amlygrwydd dan fentoraeth Watcyn Wyn ac eraill. Cyhoeddodd gyfrolau o farddoniaeth ond fe'i cofir yn bennaf am ei waith fel emynydd. Bu farw ym 1959. Llun: Nantlais ym 1904, Wikimedia Commons Cofnod Nantlais yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://biography.wales/article/s2-WILL-NAN-1874 |
1904JOHN OWEN (DYFNALLT)
DEINIOLEN TESTUN GORFOLEDD (PRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 11 GWOBR ARIANNOL £7 DYDDIAD CADEIRIO 1 IONAWR 1904 BEIRNIAD BEN DAVIES LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH E. HERMAS EVANS
Y Parch. W. Pari Huws a gynrychiolai'r bardd buddugol yn y seremoni, gan nad oedd Dyfnallt yn bresennol; ef hefyd a draddododd ddetholiad o feirniadaeth Ben Davies yn ystod y seremoni, ac roedd yn un o'r beirdd a gyflwynodd gyfarchiad i'r buddugwr yn ogystal!
Hwn oedd yr eildro i Dyfnallt, a oedd erbyn hynny yn weinidog Deiniolen, Arfon, ennill cadair Meirion; fe'i cipiodd ym 1900 hefyd.
Y Parch. W. Pari Huws a gynrychiolai'r bardd buddugol yn y seremoni, gan nad oedd Dyfnallt yn bresennol; ef hefyd a draddododd ddetholiad o feirniadaeth Ben Davies yn ystod y seremoni, ac roedd yn un o'r beirdd a gyflwynodd gyfarchiad i'r buddugwr yn ogystal!
Hwn oedd yr eildro i Dyfnallt, a oedd erbyn hynny yn weinidog Deiniolen, Arfon, ennill cadair Meirion; fe'i cipiodd ym 1900 hefyd.
Y BARDD
Ganed John Dyfnallt Owen ym Morgannwg ym 1873, a chafodd ei fagu gan rieni ei dad. Bu'n lowr am gyfnod byr ar ol gadael yr ysgol cyn derbyn addysg yng Nghaerfyrddin ac yna yng Ngholeg Bala-Bangor. Bu'n weinidog yn Nhrawsfynydd, Deiniolen, Pontypridd ac yna Caerfyrddin. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1907, a daeth yn Archdderwydd Cymru ym 1954, swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth ym 1956. Llun: Wikimedia Commons Cofnod Dyfnallt Owen yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-OWEN-DYF-1873 |
Cafwyd cryn siom pan ddaethpwyd at seremoni'r cadeirio yn Eisteddfod Meirion 1905; nid oedd y beirniad, Elfen, wedi llwyddo i fod yn bresennol nac ychwaith i yrru ei feirniadaeth ymlaen at swyddogion yr eisteddfod. Fodd bynnag, derbyniwyd telegram gan Elfed yn ystod y dydd, yn nodi ei fod wedi methu ei gysylltiad trên. Gohiriwyd y cadeirio tan gyfarfod yr hwyr. Fodd bynnag, ni lwyddodd Elfed â chyrraedd yr eisteddfod erbyn cyfarfod yr hwyr, chwaith; derbyniwyd telegram pellach am 5:45 yn nodi ffugenwau'r buddugwyr yn y cystadlaethau llenyddol.
Nodai adroddiad Y Negesydd ar 5 Ionawr fod si ar led mai Bryfdir o Flaenau Ffestiniog oedd y bardd buddugol. Roedd Bryfdir wedi bod yn llwyddiannus yn yr eisteddfod, ond buddugol ar y penillion coffa i Mr. D. H. Jones, Dolgellau, ydoedd, yn hytrach na'r gadair.
Gosodai Elfed y gystadleuaeth rhwng dwy bryddest: eiddo 'Joannes' ac 'Adsain o'r Glyn'; roedd pryddest y cyntaf bron i ddwywaith hyd yr ail, ac er iddo nodi y byddai llai o frychau ac ymadroddion symlach mewn llawer i fan yn ddymunol, 'Joannes' aeth a hi, am ei fod 'gymaint yn ehangach na'r llall' ac yn 'ymdrechu'n ddwysach am gyfrinach y testun'. Dywedodd, fodd bynnag, mai ym mhryddest 'Adsain o'r Glyn' y ceid y darn cryfaf yn y gystadleuaeth - adran dan y teitl 'Y Fynwent Digolofn' - er bod ei ddarnau eraill yn fwy gwasgarog.

Ganed Evan Hermas Evans yng Nghwmbach ger Aberdâr ym 1867. Roedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn ardal Abertawe trwy gydol ei yrfa. Bu farw ym 1938.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, y Parch. Evan Hermas Evans o Gwmbwrla oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Meirion.
Nid oedd Hermas yn bresennol i gael ei gadeirio, a chadeiriwyd ei gynrychiolydd, Tom Parry, yn ei le. Adroddodd y bardd lleol, Glan Wnion, englynion i'w longyfarch.
Nid oedd Hermas yn bresennol i gael ei gadeirio, a chadeiriwyd ei gynrychiolydd, Tom Parry, yn ei le. Adroddodd y bardd lleol, Glan Wnion, englynion i'w longyfarch.
Y BARDD
Ganed Evan Hermas Evans yng Nghwmbach ger Aberdâr ym 1867. Roedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn ardal Abertawe trwy gydol ei yrfa. Bu farw ym 1938.
Ganed Evan Hermas Evans yng Nghwmbach ger Aberdâr ym 1867. Roedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn ardal Abertawe trwy gydol ei yrfa. Bu farw ym 1938.
1907JOHN JENKINS (GWILI)
RHYDAMAN TESTUN MAIR, MAM YR IESU (PRYDDEST) FFUGENW Y BRAWD LLWYD NIFER YN CYSTADLU 15 GWOBR ARIANNOL £5 DYDDIAD CADEIRIO 1 IONAWR 1907 BEIRNIAD RHYS J. HUWS LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH PARCH. ISFRYN WILLIAMS, RHOSLLANERCHRUGOG [2]
Enillodd Gwili ei ail gadair yn eisteddfod Meirion ym 1907. Ar ôl ei lwyddiant yn eisteddfod 1901, roedd wedi ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr un flwyddyn, ond mae'n amlwg iddo barhau i gystadlu'n frwd yn yr eisteddfodau is-genedlaethol, fel y dengys y fuddugoliaeth hon chwe mlynedd yn ddiweddarach. Nid oedd yn bresennol yn yr eisteddfod, a chadeiriwyd cynrychiolydd yn ei le.
Noda adroddiad Y Goleuad y teimlid mwy na'r arfer o ddiddordeb yn seremoni'r cadeirio, a hynny, o bosib, am fod y beirniad yn bresennol am y tro cyntaf ers tro. Gwelai'r Parch. Rhys J. Huws fod wyth pryddest yn uwch na'r gweddill o ran teilyngdod, ond bod dwy bryddest yn gwthio ymhellach i'r blaen - sef eiddo'r 'Brawd Llwyd' a'r 'Disgybl Anwyl' (Isfryn Williams). Hwyrach mai'r ffaith mai un oedd eisoes yn fardd coronog Cenedlaethol oedd y buddugwr sydd i gyfrif am sylwadau tra-chanmoliaethus y beirniad, a ddywedodd mai pryddest Gwili ('Y Brawd Llwyd') oedd y gorau o blith holl bryddestau cadeiriol Eisteddfod Meirion. Tynnodd sylw hefyd at ei newydd-deb a'i gwreiddioldeb.
Enillodd Gwili ei ail gadair yn eisteddfod Meirion ym 1907. Ar ôl ei lwyddiant yn eisteddfod 1901, roedd wedi ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr un flwyddyn, ond mae'n amlwg iddo barhau i gystadlu'n frwd yn yr eisteddfodau is-genedlaethol, fel y dengys y fuddugoliaeth hon chwe mlynedd yn ddiweddarach. Nid oedd yn bresennol yn yr eisteddfod, a chadeiriwyd cynrychiolydd yn ei le.
Noda adroddiad Y Goleuad y teimlid mwy na'r arfer o ddiddordeb yn seremoni'r cadeirio, a hynny, o bosib, am fod y beirniad yn bresennol am y tro cyntaf ers tro. Gwelai'r Parch. Rhys J. Huws fod wyth pryddest yn uwch na'r gweddill o ran teilyngdod, ond bod dwy bryddest yn gwthio ymhellach i'r blaen - sef eiddo'r 'Brawd Llwyd' a'r 'Disgybl Anwyl' (Isfryn Williams). Hwyrach mai'r ffaith mai un oedd eisoes yn fardd coronog Cenedlaethol oedd y buddugwr sydd i gyfrif am sylwadau tra-chanmoliaethus y beirniad, a ddywedodd mai pryddest Gwili ('Y Brawd Llwyd') oedd y gorau o blith holl bryddestau cadeiriol Eisteddfod Meirion. Tynnodd sylw hefyd at ei newydd-deb a'i gwreiddioldeb.
Y BARDD
Ganed John Gwili Jenkins ym Mhontarddulais ym 1872. Roedd yn un o ddisgyblion barddol Watcyn Wyn yn yr ardal honno. Roedd yn fardd cynhyrchiol a llwyddiannus mewn eisteddfodau, gan ennill y gadair mewn sawl eisteddfod dalaethol, a Choron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Merthyr Tudful 1901. Graddiodd o Rydychen, a bu'n ddirprwy Athro'r Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd; cyn cael ei benodi'n athro'r Testament Newydd yng Ngholegau'r Bedyddwyr a Phrifysgol Cymru Bangor ym 1923. Daeth yn Archdderwydd Cymru ym 1931. Bu farw ym 1936.
Cofnod Gwili yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JENK-GWI-1872
Ganed John Gwili Jenkins ym Mhontarddulais ym 1872. Roedd yn un o ddisgyblion barddol Watcyn Wyn yn yr ardal honno. Roedd yn fardd cynhyrchiol a llwyddiannus mewn eisteddfodau, gan ennill y gadair mewn sawl eisteddfod dalaethol, a Choron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Merthyr Tudful 1901. Graddiodd o Rydychen, a bu'n ddirprwy Athro'r Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd; cyn cael ei benodi'n athro'r Testament Newydd yng Ngholegau'r Bedyddwyr a Phrifysgol Cymru Bangor ym 1923. Daeth yn Archdderwydd Cymru ym 1931. Bu farw ym 1936.
Cofnod Gwili yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JENK-GWI-1872
1908WILLIAM RICHARDS (ALFA)
LLANSAMLET TESTUN MYNYDD DUW (PRYDDEST) FFUGENW AP HIRAETH NIFER YN CYSTADLU 12 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 1 IONAWR 1908 BEIRNIAD LLEOLIAD YN 2021 Gwerthwyd mewn arwerthiant gan gwmni Rogers Jones, Caerdydd, 24.07.21 - y manylion yma |
Hon oedd y chweched cadair ar hugain i Alfa ei hennill mewn eisteddfodau; a chyflwynwyd englyn iddo gan Gwili (ei ragflaenydd fel cadeirfardd Meirion) mewn cyfarfod ym Mhontardawe lle'r oedd yn cadeirio, rai wythnosau wedi'r gamp:
Alfa sydd yn ei elfen - coed arwr
Yw'n cadeirydd trylen;
Derw'n bardd a'i dyry'n ben
Cadeirydd y coed derwen.
Alfa sydd yn ei elfen - coed arwr
Yw'n cadeirydd trylen;
Derw'n bardd a'i dyry'n ben
Cadeirydd y coed derwen.
Y BARDD
Ganed William Richards ym 1875. Roedd yn eisteddfodwr pybyr ac yn enillydd nifer helaeth o gadeiriau ar hyd a lled y wlad. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i gerddi, Blodau'r Groes (1907) a Clychau'r Wawr (1910). Ei waith mwyaf poblogaidd a chofiadwy yw'r emyn i blant, 'Rwy'n canu fel cana'r aderyn'. Bu farw ym 1931.

Un o Ddolgellau yn wreiddiol oedd Artro, bardd y gadair yn Eisteddfod Meirion 1909. Ef hefyd oedd yn fuddugol ar yr englyn yn yr un eisteddfod, ar y testun 'Clod':
Nod rhai balch, a wyngalchir, - ydyw
A'u caledwaith geisir;
I olud gwell - clod y Gwir -
Y rhai uniawn arweinir.
Difyr yw nodi mai am awdl y cynigiwyd y gadair - y tro cyntaf ers eisteddfod 1889, pryd enillwyd y gystadleuaeth gan Taliesin Hiraethog am ei awdl, 'Rhyfeloedd y Groes'.

Hon oedd un o'r cadeiriau olaf a saerniwyd gan Owen Tudor, y gwneuthurwr dodrefn adnabyddus o Ddolgellau. Mae cadair Eisteddfod Meirion 1909 ar y chwith i'r llun isod, a dynnwyd ychydig fisoedd cyn marwolaeth y saer ym mis Mawrth 1909.

Yn yr un flwyddyn ag y byddai'n ennill ei goron genedlaethol gyntaf o dair, Crwys ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod Meirion 1910.
Nid oedd Crwys yn bresennol i gael ei gadeirio, a chadeiriwyd y Parch. W. Pari Huws yn ei le. Y Parch. Richard Morris a draddododd y feirniadaeth ar ran Alafon, ar y deunaw o gystadleuwyr - y nifer uchaf i fentro i'r gystadleuaeth ers blynyddoedd. Dim ond un awdl ddaeth i law, gyda'r gweddill yn bryddestau. Roedd saith bardd yn nosbarth cyntaf Alafon, gyda thri ar y blaen wedyn, ac eiddo 'Y Disgybl Anwyl' yn gwthio i'r brig.

Ganed Crwys ym 1875 yng Nghraig-cefn-parc. Roedd yn bregethwr ac yn fardd eisteddfodol amlwg. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith; ym 1910 ('Ednyfed Fychan'), ym 1911 ('Gwerin Cymru') ac ym 1919 ('Morgan Llwyd o Wynedd'). Fodd bynnag, fe'i cofir am ei delynegion adnabyddus yn fwy na'i bryddestau eisteddfodol - cerddi fel 'Dysgub y Dail' a'r 'Border Bach'. Bu farw ym 1968. Cofnod Crwys yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-WILL-WIL-1875 |
Un a fyddai'n mynd ymlaen ymhen blynyddoedd i ennill y goron genedlaethol oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Meirion 1913. Nid oedd Gwilym Myrddin o'r Betws, Sir Gaerfyrddin, yn bresennol yn yr eisteddfod, ac fe'i cynrychiolwyd yn y seremoni gan John Griffith.
Roedd 13 o feirdd wedi cyflwyno pryddestau i'r 'Gorwel', a rhoddai Gwili chwech yn y dosbarth cyntaf, gyda thair ar y brig - eiddo 'Dan Leni'r Hwyr', 'Grug y Mynydd' a 'Mab y Bryniau' (sef yr enillydd).
Anerchwyd y bardd buddugol o'r llwyfan gan Mordaf, y Parch. G. A. Edwards, Dr. G. Prys Williams, John Edwards a Gwili, y beirniad.

Ganed Gwilym Myrddin yn Sir Gaerfyrddin ym 1863, yn fab fferm. Prin fu ei addysg ffurfiol, a bu'n gweithio fel beili ar fferm, ac yna fel gofalwr lampau mewn glofa. Roedd yn eisteddfodwr brwd a llwyddiannus, gan gyrraedd pinacl ei yrfa pan enillodd Goron Eisteddfod Gadeiriol Llanelli 1930 am bryddest i Ben Bowen. Bu farw ym 1946, a chyhoeddwyd casgliad o'i gerddi, Cerddi Gwilym Myrddin, ym 1948.
Cofnod Gwilym Myrddin yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c2-JONE-WIL-1863

Hon oedd y ddeugeinfed eisteddfod yng nghyfres Eisteddfodau Meirion, a gynhaliwyd yn ddi-fwlch ers 1875 (bu'n eisteddfod gadeiriol ers 1883). Prin y gwyddai'r pwysigion a ymgasglodd i ddathlu hynny mewn gwledd yng ngwesty'r Llong, Dolgellau ar nos Galan 1913, mai eisteddfod 1914 fyddai'r olaf am gyfnod hefyd.
Drannoeth yn yr eisteddfod, y Parch. Evan Roberts, gweinidog gyda'r Wesleyaid yng Nghaersws, a enillodd y gadair dan feirniadaeth Pedrog.
Roedd y beirniad a'r bardd buddugol yn bresennol yn yr eisteddfod, a chyfarchwyd Evan Roberts yn y seremoni gan Glan Wnion, Pedrog, W. Pari Huws, W. E. Jones, John Edwards ac eraill.

1915-1919
Cyhoeddwyd o lwyfan Eisteddfod 1914 mai arwrgerdd i Lywelyn Fawr fyddai testun y gadair ar gyfer 1915.
Fodd bynnag, â'r Rhyfel Mawr erbyn hynny wedi cychwyn, penderfynwyd mewn cyfarfod ar nos Wener 21 Awst, y byddid yn gohirio Eisteddfod Meirion ar gyfer 1915. Daethpwyd i'r un canlyniad ar gyfer eisteddfod 1916, pryd y canodd Robert James (Trebor Aled) fel hyn ar dudalennau Y Dydd:
Ai marw Eisteddfod Meirion - tybed?
Ateba y beirddion;
Hen wyl wiw bur i'n bron - yn ddihedd
Yw rhoi ei mawredd ar frodir meirwon.
Cynhaliwyd cyngherddau nos Galan yn ôl yr arfer yn ystod y rhyfel, ond gyda chynulleidfaoedd bychain. Aeth yr eisteddfod i drafferthion ariannol yn ystod yr un cyfnod, a phoenid am ei dyfodol.
Nid fu cwrdd cystadleuol llawn wedyn dan faner Eisteddfod Gadeiriol Meirion hyd ddydd Calan 1920.

CYFEIRIADAU
- gwefan ArchivesHub, cyrchwyd 13.11.2020 https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/74ed8528-a797-30a1-b54a-6528e588a2d9
1883
- 'Dolgelley' yn The Llangollen Advertiser, 08.12.1882
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Y Dydd, 05.01.1883
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Y Gwyliedydd, 10.01.1883
- Ieuan Ionawr, englynion 'Cadeiriad yr Awenydd' yn Y Dydd, 12.01.1883
- Gwilym Dyfi, englynion 'Sibrwd yr Awen' yn Y Dydd, 12.01.1883
- Ellis Lloyd, englynion 'Cadair Eisteddfod Meirion' yn Y Dydd, 12.01.1883
- Owen Tudor, 'Cadair Eisteddfod Meirion' yn Y Dydd, 02.02.1883
- Berw, 'Ieremiah' yn Y Geninen, Cyf. II rhif. 3 - Gorffennaf 1884, tud. 209-213 [49-53]
1884
- 'Testun y Gadair' yn Y Dydd, 04.01.1884
- 'Eisteddfod Meirion, Calan, 1884' yn Y Celt, 11.01.1884
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion, Calan, 1884' yn Y Dydd, 11.01.1884
- 'Barddoniaeth' yn Y Genedl Gymreig, 27.02.1884
- 'Englynion' yn Y Gwyliedydd, 13.08.1884
1885
- 'Cathl fy Awen' yn Y Dydd, 05.12.1884
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion, 1885', yn Y Dydd, 09.01.1885
- 'Cadair wag Eisteddfod Meirion, 1885' yn Y Dydd, 20.03.1885
1886
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion, Calan, 1886' yn Y Dydd, 08.01.1886
1887
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion, Calan, 1887' yn Y Dydd, 07.01.1887
- Ieuan Ionawr, 'Cadeiriad Prif-Fardd Eisteddfod Meirion, 1887' yn Y Dydd, 14.01.1887
- 'Llenyddol a Cherddorol' yn Y Drych, 27.01.1887
1888
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion, Calan, 1888' yn Baner ac Amserau Cymru, 07.01.1888
1889
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion, Calan, 1889' yn Y Dydd, 04.01.1889
1890
- 'Eisteddfod Meirion' yn Y Dydd, 27.12.1889
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion, Calan 1890' yn Y Dydd, 03.01.1890
- Iolo Caernarfon a Gwilym Eryri, 'Cyflafan Bethlehem' yn Y Dydd, 10.01.1890
- Glan Wnion, 'Llinellau' yn Y Dydd, 17.01.1890
1891
- 'Eisteddfod Meirion' yn The Llangollen Advertiser, 09.01.1891
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion, 1891' yn The North Wales Chronicle, 10.01.1891
- T. D. Jones, 'Eisteddfod Meirion' yn Y Cymro, 15.01.1891
- - 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Baner ac Amserau Cymru, 11.01.1893
1892
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Y Genedl Gymreig, 06.01.1892
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Baner ac Amserau Cymru, 11.01.1893
- 'History of Pantteg Chapel, Ystalyfera' ar wefan Ystalyfera History and Heritage, cyrchwyd 02.04.2024 www.ystalyfera-history.co.uk/history-pantteg-chapel.html
1893
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Y Cymro, 05.01.1893
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion Calan, 1893' yn Y Dydd, 06.01.1893

- Morris, Richard Roberts yn Y Bywgraffiadur Cymreig, cyrchwyd 18.03.2021 https://bywgraffiadur.cymru/article/c-MORR-ROB-1852
1894
- Ben Davies 'Beirniadaeth Pryddest y Gadair, "Dydd Coroniad"' yn Y Dydd, 19.01.1894
- 'Cadeirio Bardd' yn Y Tyst, 19.01.1894
- 'Cyfansoddiadau Newyddion' yn Y Drych, 23.05.1895
- Cadvan, Pryddest Dydd Coroniad: Testyn y Gadair yn Eisteddfod Gadeiriol Meirion, Dolgellau, Calan Ionor 1894 (Treffynnon 1894); cyrchwyd ar-lein 25.03.2024 babel.hathitrust.org/cgi/pt?id=hvd.hxddc1&seq=1
1895
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Y Genedl Gymreig, 08.01.1895
- 'At Olygydd "Y Dydd"' yn Y Dydd, 25.01.1895
1896
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Baner ac Amserau Cymru, 08.01.1896
1897
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Y Dydd, 08.01.1897
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Y Negesydd, 08.01.1897
- 'Eisteddfod Meirion' yn Y Llan, 08.01.1897
1898
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion, Calan, 1898', yn Y Genedl Gymreig, 04.01.1898
- 'Eisteddfod Meirion' yn Y Llan, 07.01.1898
1899
- 'Eisteddfod Meirion' yn Yr Wythnos a'r Eryr, 04.01.1899
- Cofnod Richard Roberts (Gwylfa) yn y Bywgraffiadur Cymreig, cyrchwyd 24.03.2021 https://bywgraffiadur.cymru/article/c-ROBE-RIC-1871
1900
- 'Amrywiol' yn Y Negesydd, 21.04.1899
- Cofnod Wicipedia T. E. Ellis, cyrchwyd 24.03.2021 https://cy.wikipedia.org/wiki/Thomas_Edward_Ellis
- 'Meirion Chair Eisteddfod' yn y Meirioneth County Times, 04.01.1900
- 'Eisteddfod Meirion' yn Gwalia, 09.01.1900
- 'Trawsfynydd' yn Y Tyst, 24.01.1900
1901
- 'Eisteddfod Meirion' yn Yr Wythnos a'r Eryr, 02.01.1901
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion, Calan, 1901' yn Baner ac Amserau Cymru, 05.01.1901
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Yr Herald Cymraeg, 08.01.1901
1902
- 'Eisteddfod Meirion' yn Y Negesydd, 09.01.1902
- Rhestr archifau LlGC, cyrchwyd 26.03.2021 https://archifau.llyfrgell.cymru/index.php/pryddest-paradwys-ail-yn-eisteddfod-meirion
1903
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn y Cambrian News (Gogledd), 02.01.1903
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Y Dydd, 02.01.1903
1904
- 'Eisteddfod Meirion, Calan, 1904' yn Y Goleuad, 08.01.1904
- 'Hermas yn ymyl Cadair Meirion' yn Seren Cymru, 18.03.1904
- 'Eisteddfod Renounced' yn yr Evening Express, 21.11.1905
1905
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Y Negesydd, 05.01.1905
- 'Dolgelley Chair Eisteddfod' yn y Llangollen Advertiser, 06.01.1905
- 'Beirniadaethau Barddonol Eisteddfod Meirion' yn Y Dydd, 06.01.1905
- 'Cadeirfardd arall' yn Seren Cymru, 13.01.1905
1906
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Baner ac Amserau Cymru, 03.01.1906
- 'Meirion Eisteddfod' yn y West Wales Advertiser, 04.01.1906
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Y Dydd, 05.01.1906
1907
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Baner ac Amserau Cymru, 09.01.1907
- 'Eisteddfod Meirion' yn Y Goleuad, 09.01.1907
- 'Isfryn' yn Y Brython Cymreig, 24.01.1907
1908
- 'Eisteddfod Meirion' yn Y Tyst, 08.01.1908
- 'Eisteddfod Meirion, Calan, 1908', yn The Aberystwyth Observer, 09.01.1908
1909
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Y Negesydd, 07.01.1909
1910
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Y Goleuad, 05.01.1910
1911
- Adran hysbysebion Y Dydd, 23.09.1910
- Adran hysbysebion Yr Herald Cymraeg, 29.11.1910
1913
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion, Dydd Calan, 1913' yn Y Goleuad, 08.01.1913
1914
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Y Goleuad, 07.01.1914
- 'Eisteddfodau'r Calan' yn Y Brython, 08.01.1914
- 'Meirion Chair Eisteddfod' yn The Cambrian News, 09.01.1914
1915-1919
- 'Eisteddfod Gadeiriol Meirion' yn Y Goleuad, 07.01.1914
- 'Eisteddfod Meirion' yn Yr Adsain, 25.08.1914
- 'Eisteddfod Meirion' yn Y Dydd, 01.10.1915
1920
- Adran hysbysebion Y Cymro, 19.11.1919