*Noder mai Commins Coch (Powys) sydd dan sylw yma, ac nid Comins Coch (Ceredigion)
Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
John Lloyd; Beti Owen, Llanbrynmair;
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r enillwyr yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

Bu cryn gyffro a checru pan enillwyd cadair Eisteddfod Cyfeiliog 1901 gan Abraham (Abram) Thomas, llanc 19 oed cymharol anhysbys ar y pryd. Ni chredai lawer y gallai fod wedi cyflawni'r fath gamp, ac mewn cyfarfod o bwyllgor yr eisteddfod ar y nos Sadwrn wedi'r cadeirio, penderfynwyd y byddid yn gyrru tri aelod o'r pwyllgor - Eos Maldwyn, Robert John Parry a W. Edwin Davies - i gartref Abram er mwyn ei annog i sefyll prawf mewn ymgais i dawelu'r amheuon ynghylch awduraeth y bryddest ar 'Bugail Tecoa'.
Sefyll ei dir wnaeth Abram pan aeth y tri draw i geisio dwyn perswad arno, gan ymateb: 'Na wnaf byth, nid oes dim yn amodau rhaglen eich Eisteddfod yn gofyn dim o'r fath'. Dyfynnir ymateb brathog y pwyllgor yn Y Negesydd:
Cofiwch ein bod wedi gwneyd yr hyn sydd yn ein gallu er mwyn i chwi gael mantais i ddangos i'r wlad eich gallu, a thrwy hyny, hawlio pob anrhydedd a berthynai i Gadair Eisteddfod Cyfeiliog, gan nad ydych yn foddlawn i'r hyn a geisir, nid oes gan y pwyllgor ddim i'w wneyd ond gadael i chwi gymeryd y canlyniadau.'
GOHEBIAETH TUDALENNAU'R NEGESYDD
Ar 14 Mehefin, ychydig dros bythefnos wedi'r eisteddfod, y dechreuodd y llythyru blin, a hynny trwy law Coryn y Ffridd, un o gyfranwyr mwyaf rheolaidd y ffrae dros yr wythnosau dilynol. Gorddramatig a choeglyd yw cywair y Coryn, wrth iddo ymateb i adroddiad Ap Cyfeiliog ar yr eisteddfod yn Negesydd yr wythnos flaenorol. Dywed y sawl y tu ol i'r ffugenw iddo fod yn aros ym mhellafion bro'r eisteddfod ond y 'daeth y newydd gydag adenydd y wawr i'r lle anghysbell hwn boredranoeth [sic] yr Eisteddfod mai llanc ieuanc o Lanbrynmair gadeiriwyd yn yr wyl fawreddog am y am y [sic] bryddest oreu, mewn cystadleuaeth ragorol'. Awgryma ei fod yntau'n fardd, yn adnabod beirdd yr ardal, ac iddo benderfynu 'ar unwaith fyned ar bererindod i ran isaf y plwyf er cael gweled y blaned newydd ddisglaer hon, ymddangosodd mor sydyn yn ffurfafen barddoniaeth ein gwlad.' Mae'n amlwg i'r awdur cudd fynd i hwyliau wrth ysgrifennu. Dyma ddyfynnu'n helaethach wedyn, wrth iddo deithio i lawr o'r bryniau:
Cychwynais yn ysgafn fy nghamrau, a llawen fy nghalon, a dychmygwn fod yr hen fryniau yma yn dawnsio dan fy nhraed mewn llawenydd, a disgwyliwn bob cam glywed swn bloeddiadau am fuddugoliaeth yn rhwygo yr awyr, a phob genau yn canu clodydd yr arwr hwn. Ond wedi disgyn o gartref yr awelon a chael fy hun ar y gwastadedd trymllyd, 'Ow', fy siomedigaeth, yn lle cân, clywais wylofain, yn lle llawenydd, dadleu ac ymgecru, yn lle gwenau ar bob gwyneb [sic], gwelwn siomedigaeth, ac amheuaeth, yn agraffedig ar bob gwedd. Ac wedi ymofyn a rhai o'm cyfeillion am yr achos o'r prudd-der a'r tristwch cyffredinol oedd yn gordoi yr ardal, cefais ar ddeall mai 'helynt y Gadair' ydoedd pob sgwrs, yn ddirgel ac ar g'oedd, ac na fynai yr ardalwyr gysyllru enw y llanc a'r Gadair o gwbl.
Aiff y Coryn yn ei flaen i nodi ei fod yn nabod Abram yn iawn - 'o'i febyd', yn wir - ac yn erfyn arno i argyhoeddi'r byd o'i allu fel bardd, 'o'ch didwylledd fel ymgeisydd, ac o'ch hawl i'r Gadair, fel y gal y wlad gyd-lawenhau a chwi'. Awgryma wrth gloi ei lythyr tanllyd na fydd dim iddo hyd hynny ond coed y Gadair, heb yr un anrhydedd yn gysylltiedig a hi.

Y BARDD
Crydd a bardd o Lanbrynmair oedd Abraham (Abram) Thomas (ganed c.1882). Daeth yn aelod o'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ond canfuwyd pan ymunodd fod ei iechyd yn wael a'i fod wedi cychwyn dioddef o'r diciáu. Bu farw ym Medi 1916 yn Ysbyty Casnewydd, ble'i anfonwyd o'r gwersyll hyfforddi yng Nghroesoswallt i adfer. Roedd yn 34 oed.

Cynrychiolydd i Wnion a gadeiriwyd, a derbyniodd gyfarchion - 'tywalltwyd phiolau o englynion ar ei ben', fel y mynegir hynny yn adroddiad Y Genedl - gan feirdd lleol megis Llew Tegid, Eos Maldwyn, Afonog, Demetrius ac eraill.
Y GADAIR
Cadair dderw gymharol syml yw cadair Eisteddfod Cyfeiliog 1915, gyda thelyn o fewn arfbais yn dominyddu'r cefn ynghyd â'r nod cyfrin a manylion yr eisteddfod. Gellir ei gweld bellach yn Senedd-dy Owain Glyndŵr ym Machynlleth.

Ganed Evan Evans (Wnion) yn Nolgellau ym 1851, ac yn hwyrach yn ei oes cymerodd ei enw barddol gan yr afon a lifai trwy dref ei enedigaeth. Cafodd addysg yng ngholeg diwinyddol Y Bala ac erbyn adeg y Diwygiad ar droad yr ugeinfed ganrif, roedd yn weinidog ar bedwar capel yn y Canolbarth, gan gynnwys Capel-y-Graig ym Machynlleth, lle'r ymgartrefodd. Treuliodd weddill ei oes yn y dref, a bu farw yno ym 1931, yn 80 oed.

CYFEIRIADAU
1901
- 'Eisteddfod at Commins Coch' o'r Welsh Gazette and West Wales Advertiser, 30.05.1901
- Coryn y Ffridd, 'Eisteddfod Gadeiriol Cyfeiliog' yn adran ohebiaethau Y Negesydd, 14.06.1901
- 'Eisteddfod Gadeiriol Cyfeiliog' yn Y Negesydd, 05.07.1901
1915
- Adran newyddion Yr Adsain, 01.06.1915
- 'Eisteddfod Gadeiriol Cyfeiliog' yn Y Genedl, 01.06.1915