Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Aled Hughes, Llanbedrog; Ffion Eluned Owen; Illtud Daniel, Aberystwyth; Gwyn Jones, Oriel Plas Glyn y Weddw; Gruffudd Antur, Llanuwchllyn; Medi Wyn Michael, Pwllheli; Arianwen James, Pwllheli; Mici Plwm, Pwllheli; Andrew Jones, Felindre

1910 John Richard Williams (Tryfanwy)
1911 1912 D. G. Roberts 1913 Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn) 1914 Griffith John Williams 1915 1916 1917 1918 1919 |
Hon oedd yr eisteddfod gyntaf a gynhaliwyd yn neuadd newydd y dref (Neuadd Dwyfor, erbyn hyn), a oedd yn dal cynulleidfa o dair mil o bobl ar y pryd. Yn ôl yr adroddiadau, roedd y neuadd honno yn gwbl orlawn ar gyfer cyfarfod yr hwyr.
Y SEREMONI
A carved oak chair, valued at £4 4s, and £2 2s was offered for the best ode on "Unseen Battles." Eight competed. A large number of bards ascended the platform to take part in the chairing ceremony, which was superintended by Alltud Eivion and Dyfrig. The adjudication was read by Arifog and when it transpired that the winner was Mr H. Jones (Bryfdir), Blaenau Ffestiniog, who has already won twenty-five chairs, hearty cheers were given again and again. He was led to the platform by Gwynfor and Cybi and duly invested by Mrs Lloyd Edwards, Broom Hall. Bardic addresses were delivered by Alltud Eivion. Heilig, Cybi, Iseifion, Deinol Fychan, Gwynfur, Cenin, Bryneglwys, Celynydd and Tom Lloyd, whilst the chairing song was given by Miss Mary Hughes, R.C.M.
(The Cambrian News and Meirionethshire Standard, 08.08.1902)
Y BARDD
Ganed Humphrey Jones yng Nghwm Croesor ym 1867. Roedd yn fardd cystadleuol ac eisteddfodwr poblogaidd a lwyddodd i ennill ymhell dros hanner cant o gadeiriau. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth - Telynau'r Wawr a Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill. Bu farw ym 1947.
Cofnod Bryfir yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-JONE-HUM-1867.html

Mae'n debyg y bu rhywfaint o ddrama yn yr eisteddfod hon. Roedd y beirniad, Llifon, am gadeirio'r bardd a ddygai'r ffugenw 'Pren Gwyn', ond yn ôl pob tebyg roedd y 'Pren Gwyn' wedi torri rheol a bu'n rhaid rhoi'r gadair i'r ail orau yn ei le. Trosedd y 'Pren Gwyn'? Cyfansoddi pryddest ac iddi 304 o linellau - 300 oedd terfyn y gystadleuaeth!
Yn fuan wedyn, ymddangosodd y pwt yma ar dudalennau Baner ac Amserau Cymru:
Sibrydir y ceir drama ddyddorol rhwng Dewi a Bryfdir ynghylch cadair Pwllheli. Y mae Bryfdir yn dyweyd mai efe oedd y goreu, ond fod yr ail-oreu wedi ei chael am fod ei gyfansoddiad ef 'bedair llinell dros y rhif pennodol;' tra y dywed Dewi i gynnygion rhyfedd gael eu gwneyd gan Bryfdir am gael 'yr anrhydedd' o gael ei gadeirio yn ei le! Rhai hynod yw y beirdd am groesi cleddyfau pan ddechreuant. Cawn glywed rhagor am hyn etto, a hyny yn fuan.
Bryfdir, sef enillydd y flwyddyn flaenorol oedd 'Pren Gwyn', mae'n debyg. Ni ddarganfuwyd unrhyw dystiolaeth bellach o'r ffrae - hyd yma!
Y BARDD Ganed David John Roberts ym 1883 yn Nhalweunydd, Blaenau Ffestiniog. Roedd yn delynor, yn newyddiadurwr, yn gerdd-dantiwr a chasglwr caneuon gwerin. Roedd yn rhan allweddol o sefydlu Cymdeithas Cerdd Dant Cymru. Bu farw ym 1956. Cofnod Dewi Mai yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/en/s2-ROBE-JOH-1883.html |
Y SEREMONI
Chair ode, "Ymdaith y Ddynoliaeth," nine entries, 1, H. Emir [sic] Davies, Brynllaeth, Pwllheli, who was chaired with great pomp, Mr. Rhys J. Huws being assisted in the ceremony by several local bards. The chairing song, "Gwlad y Delyn," was sung by Miss Gertrude Parry, of the London Concerts, who was specially engaged.
(The Cambrian News and Meirionethshire Standard, 05.08.1904)
Y BARDD
Ganed y Prifardd Hugh Emyr Davies, bardd a gweinidog â'r Methodistiaid Calfinaidd ym Mrynllaeth Abererch ym 1878. Daeth i amlygrwydd fel bardd eisteddfodol yn gynnar iawn, gan ennill dros ugain o gadeiriau. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith; yng Nghaernarfon ym 1906 ('Branwen ferch Llŷr') a Llangollen ym 1908 ('Owain Glyndŵr). Bu farw ym 1950 yn Llandegfan, Môn. Cofnod Hugh Emyr Davies yn y Bywgraffiadur Cymraeg: http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-DAVI-EMY-1878.html |
1905
ELISEUS WILLIAMS
(EIFION WYN) TESTUN Y LLANW (PRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 9 GWOBR ARIANNOL £2 DYDDIAD CADEIRIO 26 RHAGFYR 1905 BEIRNIAD PEDROG LLEOLIAD YN 2018 ANHYSBYS |
Yn ystod seremoni'r cadeirio, yn ol adroddiad yr Herald Cymraeg, derbyniodd Eifion Wyn gyfarchion gan Pedrog (y beirniad), Heilig, Brothen, Iseifion, Cybi (enillydd y gystadleuaeth ym 1909), Edeyrnfab, Tref-fardd, G. P. J., ac Arifog.
Nodyn: Sylwer fod enw Eifion Wyn mewn coch yn y cofnod uchod ac yn y rhestr o enillwyr ar frig y dudalen. Mae hyn am fod peth amheuaeth i'w ddatrys cyn cadarnhau ei bod yn ffaith iddo ennill y gadair hon. Y prif reswm dros amau tystiolaeth adroddiadau ym mhapurau newydd y cyfnod yw honiad Peredur Wyn Williams, mab EW, yn ei gofiant i'w dad, na chystadlodd mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol wedi 1896, pan enillodd ei seithfed cadair yn Eisteddfod Powys, Croesoswallt - 'er mwyn rhoi cyfle i feirdd ieuainc eraill i ennill llawryfon.'
Os y bu i Eifion Wyn benderfynu hynny ym 1896, byddai'n rhaid iddo fod wedi newid ei feddwl yn llwyr erbyn 1905, a hynny wedi iddo roi ei fryd ar gystadlu am y gadair genedlaethol ar droad y ganrif. Yn ogystal a hynny, nid yw Peredur Wyn Williams yn crybwyll Eisteddfod Y.M.A. Pwllheli 1905 yn unman.
Aiff y cofiannydd yn ei flaen i nodi ffaith ddifyr arall am yrfa eisteddfodol, a phersonoliaeth, Eifion Wyn:
'Er iddo ennill saith gadair, y ffaith hynod yw na chafodd erioed ei gadeirio. Bu rhyw amheuaeth a fu ym Mhwllheli yn cyrchu ei gadair gyntaf, ond methais gael unrhyw gadarnhad o hyn, a chredaf ei bod yn ddiogel dweud mai cynrychiolydd a fu yno, fel yn yr eisteddfodau eraill, yn derbyn y gadair yn ei le. 'Roedd yn rhy swil i fynd ei hun, a chanddo wrthwynebiad i'r rhwysg a'r seremoni a berthynai i ddefod y cadeirio.' (t.31)
Noda PWW mewn man arall mai cadair eisteddfod a gynhaliwyd ym Mhwllheli yn Hydref 1886 oedd y gadair gyntaf honno a enillodd Eifion Wyn; yn ddifyr iawn, mae hefyd yn nodi mai am gyfres o delynegion ar destun 'Y Llanw' yr enillodd y gadair honno - sef union destun cadair Pwllheli 1905 y mae amheuaeth yn ei chylch yn y fan hon; cyd-ddigwyddiad rhyfedd, neu ddryswch. Roedd y bardd yn 19 oed ar y pryd.

Ganed Eifion Wyn ym Mhorthmadog ym 1867, ac yn ardal y dref honno y bu'n byw a gweithio ar hyd ei oes. Bu'n fardd cystadleuol llwyddiannus (ef sy'n dal y record am ennill cystadleuaeth yr englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol y mwyaf o weithiau, a bu ond y dim iddo gipio'r Gadair ym 1901, pryd y credai llawer iddo gael cam). Daeth yn enwog am ei delynegion, a'i gyfrol hynod boblogaidd, Telynegion Maes a Môr. Derbyniodd radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ym 1919. Bu farw ym 1926, a'i gladdu ym mynwent Chwilog. Llun: Telynegion Maes a Môr Cofnod Eifion Wyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-WILL-ELI-1867 |
Y SEREMONI
The next item was the chairing of the successful bard. The subject of the ode was "Y Gwynt." The prize was a carved oak chair. Eleven compositions were received, and the one sent by "Pryderus" was awarded the prize. It was announced that Llannorfab, Ystradfellte, South Wales, was the successful bard, and in his absence Arifog (the secretary), as his proxy, was duly chaired, the chairing song being rendered by Llinos yr Eifl.
(The North Wales Express, 09.08.1907)
Ceir beirniadaeth hallt ar yr un seremoni yn Y Brython Cymreig yr un wythnos:
Yn awr deuwyd at seremoni y cadeirio. Galwyd enwau llu o feirdd gan Job, ond ychydig a ufuddhaodd i'r alwad, a phrin yr oedd anerchiadau rhai o'r ychydig hynny yn profi eu hawl i'w galw'n feirdd. "Gwynt" oedd y testyn, a gresyn na chawsai y brawd oedd yn ceisio canu y Corn Gwlad dipyn ohono yn ei frest. Safai y gystadleuaeth rhwng "Carreg yr Imbill" a "Phryderus," a'r goreu o'r ddau oedd "Pryderus," sef Llanorfab, Ystradfellte, Aberdâr. Yn ei absenoldeb cadeiriwyd yr ysgrifennydd yn ei le. Dygwyd y seremoni i ben drwy i Linos yr Eifl ganu cân y cadeirio yn hynod swynol. Tipyn o gywilydd oedd gennym o'r cadeirio. Os na ellir myned drwy'r gwaith gydag urddas, onid gwell fyddai peidio ei gyflawni o gwbl, yn enwedig pan fyddo'r bardd cadeiriol yn absennol?

Y BARDD Ganed Thomas Jones yn 1868 ym mhlwyf Llannor, ger Pwllheli. Symudodd i Ystradfellte ym 1891, a phriodi yno. Enillodd ei gadair gyntaf yn Eisteddfod Pontsenni ym 1903, ac enillodd Gadair Eisteddfod Lerpwl ym 1909. Fel bardd, y mesurau caeth oedd yn mynd â'i fryd fwyaf. Bu'n gweithio ar ffermydd ac i gwmni dŵr, yn ogystal a gweithio ar ei dyddyn ei hun - Castell Mellte. |
Y SEREMONI
Chair ode, "Cynhauaf," 18 competitors, 1, R. R. Thomas; Amlwch. The chaired bard was invested by Mrs Goddard and the chairing song rendered by Mr McLeod.
(The Cambrian News and Meirionethshire Standard, 09.08.1908)
Y BARDD Ganed R. R. Thomas yn Amlwch oddeutu'r flwyddyn 1886. Erbyn ennill cadair Pwllheli roedd yn 22 oed ac yn cludo llythyrau fel gwaith. Roedd eisoes wedi enill cadair Cefnywaen, Arfon, yn Nhachwedd 1907, a llu o wobrau llai am delynegion ac ati. 'Yr elfen delynegol sydd gryfaf a mwyaf nodweddiadol o'i Awen; a phrofodd droion ei fedr yn yr arddull swynol hon.' - Caerwyn Llun: Y Brython Cymreig, 13.08.1908 |
1909
|
Y SEREMONI
Yr oedd triarddeg wedi cyfansoddi ar destyn y gadair, "Cymylau." Darllenwyd beirniadaeth Berw gan lywydd y pwyllgor, Mr John O. Jones (Arifog). Llanwyd y llwyfan gan y beirdd a'r llenorion, ac arweiniwyd defod y cadeirio gan Tudwal. Wedi cyhoeddi Pererin (2) yn fuddugol, cafwyd mai Mr R. Evans (Cybi) ydoedd, ac aeth Brothen a Glyn Llyfnwy i'w gyrchu i'r llwyfan. Cyflwynwyd y wobr iddo gan Mrs Gwyneth Vaughan, a chanwyd can y cadeirio gan Miss Maggie Jones, Police Station, Pwllheli.
(Gwalia, 09.08.1909)
Y BARDD Ganed Robert Evans yn Llangybi ym 1871, ac yno y bu'n byw gydol ei oes. Roedd yn fardd, yn sgrifennwr ac yn llyfrwerthwr. Roedd yn dra cynhyrchiol. Meddai Colin Gresham amdano yn y Bywgraffiadur Cymreig - 'nid oes mynwent yn Eifionydd nad oes yno englyn neu doddaid o'i waith'. Cyhoeddodd bron i ddeg ar hugain o gyfrolau o bob math. Bu farw ym 1956, yn 84 oed. Cofnod Cybi yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-EVAN-ROB-1871.html Gweler hefyd ar y wefan hon: Eisteddfod y Rhos, Rhoshirwaun 1909 Eisteddfod Y.M.A. Nefyn, 1909 |
ANERCHIAD BARDDONOL
Cadeiriad "Idris Wawdrydd" ar ddydd di-haul, am awdl Y Lloer yn Eisteddfod Pwllheli
Lleuad lawn, danllyd lonydd - heddyw rwydd
Guddia'r haul â ch'wilydd,
A daeth yn gwestiwn y dydd -
'Pwy megis Idris Wawdrydd'?
Aed o'i fawl dihefelydd - 'Steddfod Awst
I wyddfod dydd newydd
Camp i un pen o'r awen rydd
Fedru 'sodro' f'Idris Wawdrydd.
- AP LLEYN
(Y Brython Cymreig, 18.08.1910)

Y FEIRNIADAETH
Pigion o feirniadaeth Pedrog ar bryddestau'r gadair, a ymddangosodd yn Yr Herald Cymraeg ar 09.08.1910:
Mae'n eglur fod y beirdd yn hoff o'r Lloer, ac yn mysg y deunaw hyn mae rhai "lloerigion" gogoneddus. Anfynych y ceir gwell cystadleuaeth am y gadair neu'r goron genedlaethol na'r un yma ar y "Lloer." Mae rhai o'r cyfansoddiadau yn gampus. Maent yn amrywio, er hyny, nid yn unig yn ngraddau teilyngdod, eithr hefyd mewn nodwedd farddonol.
Aden Lesg. - Na, nid mor lesg ei "Aden" yw y bardd hwn, er ei fod weithiau yn hedeg yn is nag y dylasai.
Am y buddugol, meddai hyn:
Idris Wawdrydd. - A dyma'r olaf y sylwir arno. Gwelsom cyn ei gyrhaedd ef gyfansoddiadau rhagorol, a chyda hyfrydwch y buaswn yn dyfarnu amryw ohonynt yn deilwng o'r gadair. Ond mae Idris Wawdrydd yn sefyll ar eu ffordd yn y gystadlaeuaeth hon. Nid gormod yw dyweyd fod ei waith yn orchestol, - o ran iaith, arddull, syniadaeth, a phob peth hanfodol i gyfansoddiad barddonol ar y Lloer. Telynegol yw nodwedd ei gerdd, a gellid cyfrif ei gwahanol rannau yn gyfres o delynegion; ond mae yr oll yn nghyd yn gwneyd "lleuad lawn" - mor lawn ag y gallesid disgwyl o fewn y terfynau gosodedig. Pe darllenid y gerdd hon ar ganol dydd, teimlem y nos yn dod drosom yn y fan, a chaem ein hunain yn dilyn y bardd hyd unigeddau tir a mor, gyda'u golygfeydd amrywiol, a bedydd y Lloer arnom ym mhob man. Dechreua fel hyn:
"Dringo'r Gader wnes ryw noswaith,
A gwrando prydydd yn ei afiaeth:
"Di, wen-lloer, benrhiain yr wybren,
Tyr'd allan o'th deyrnllys gwyn,
A thaen dy esmwythwisg orwen
Fel pali dros fro a bryn;
Tydi sydd yn troi'r ogofau
Yn blasau o'r harddaf liw,
Ac yn galw'r Tylwythion i'r cylchau
I chwareu ar ffridd ac ar riw."
Yr wyf yn teimlo cryn gyfrifoldeb yn ngwyneb y cynnyrchion ardderchog a ymddiredwyd i'm barn yn y gystadleuaeth hon, ond yr wyf yn gwbl argyhoeddedig fy mod yn gwneyd yr unig beth cyfiawn drwy ddyfarnu'r gadair a'r wobr i awdwr y gerdd odidog hon. Nid oes le i amheuaeth nad Idris Wawdrydd yw y goreu.
Y BARDD Ganed John Richard Williams yn Rhostryfan ym 1867. Bu farw ei rieni ag yntau'n ifanc, ac fe'i magwyd gan ei fodryb ym Mhorthmadog. Roedd yn ddall ac yn fyddar ers yn blentyn, ond llwyddodd i gael gafael ar hanfodion y grefft o farddoni yr un fath, a bu'n bur lwyddiannus mewn eisteddfodau. Bu'n ddibynnol am gyfnodau maith ar ofal ei gyfaill, y bardd Eifion Wyn. Bu farw ym 1924. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i farddoniaeth - Lloffion yr Amddifad (1892) ac Ar Fin y Traeth (1910). Cofnod Tryfanwy yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/en/s-WILL-RIC-1867.html |
Ymddangosodd y gadair hon ar-lein mewn arwerthiant yng Ngwlad yr Haf ym mis Mehefin 2018. Wedi ymgyrch dros y cyfryngau cymdeithasol, a arweiniwyd gan y cyflwynydd Radio, Aled Hughes, llwyddwyd i brynu'r gadair â chyfraniadau'r cyhoedd, gan sicrhau ei bod yn dychwelyd yn ei hôl i ardal Pwllheli, gan gael cartref yn Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog.
Y SEREMONI
CADEIRIO'R BARDD. - Darllenodd y Parch Rhys J. Huws ei feirniadaeth ar y tri-ar-ddeg ymgeisydd fu yn canu ar y testyn "Ser y nos," am y gadair. Rhoddodd uchel ganmoliaeth i'r gystadleuaeth. Dywedai fod naw o'r ymgeiswyr yn gwir deilyngu y gadair, ac o berthynas i'r bryddest fuddugol, sef eiddo "Min Dyfrdwy," dywedai ei fod yn sicr nad oedd yna haner dwsin o M.A.'s yng Nghymru allasai gynyrchu darn mor glasurol. Wedi ymffurfio'n gylch, a chanu y Corn Gwlad yn unol a defod y beirdd, gorchmynwyd i'r concwerwr sefyll ar ei draed. Safodd y bardd D. G. Roberts, Pencae, Rhiwabon, i fyny yn nghanol cymeradwyaeth fyddarol, ac aeth y Parch D. J. Jones, B.A. a Mr Samuel Williams i'w arwain i'r llwyfan. Wedi i'r beirdd draddodi eu hanerchiadau, ac i Mrs Cowen, yr awdures Seisnig enwog a adnabyddir wrth yr enw Helen Gingold, gyflwyno y wobr i'r bardd, canodd Miss Gwenonwy Griffith, Nefyn, gân y cadeirio yn hynod effeithiol. Cymerwyd rhan yn y cadeirio gan Arifog; Mrs Cowen; Mrs Thomas, Mynytho; Megan Lleyn; Parch D. J. Jones, B.A. Mr Samuel Williams; Iseifion; Mr Mawddach Jones; Brothen; Homo; Cybi; Tom Lloyd; R. G. Thomas ac Albert Jones.
(Yr Udgorn)

ANERCHIAD
I fardd cadeiriol Eisteddfod Y.M.A., Pwllheli, Awst 4ydd
Tre' a gwlad a ront wir glodydd - i hwn
Hynoda'r Canolddydd; -
Wele y pen bardd ysblenydd:
Curodd y deg - cariodd y dydd.
- GORONWY WYN
I fardd cadeiriol Eisteddfod Y.M.A., Pwllheli, Awst 4ydd
Tre' a gwlad a ront wir glodydd - i hwn
Hynoda'r Canolddydd; -
Wele y pen bardd ysblenydd:
Curodd y deg - cariodd y dydd.
- GORONWY WYN
Y SEREMONI
CADEIRIO'R BARDD. - Arweiniwyd y seremoni gan Arifog. Darllenodd Mr. Williams-Parry (Llion) feirniadaeth Alafon ar y 11 ymgeisydd fu yn canu ar y testyn "Canol-ddydd" am y gadair. Canmolodd yn fawr y gystadleuaeth, a dyfarnodd eiddo "Mog-en-nwr" yn oreu. Wedi ymffurfio'n gylch, a chanu y Corn Gwlad yn unol a defod y beirdd, gorchymynwyd i'r concwerwr sefyll ar ei draed. Safodd y bardd Ellis H. Evans (Hedd Wynn), Trawsfynydd, i fyny yn nghanol cymeradwyaeth fyddarol, ac aeth Mr Tom Lloyd a Brothen i'w arwain i'r llwyfan. Wedi i'r beirdd draddodi eu hanerchiadau, ac i'r Maer gyflwyno y wobr i'r bardd, canodd Miss Myfanwy Evans, South Beach, gân y cadeirio yn hynod o effeithiol. Cymerwyd rhan yn y cadeirio gan Arifog, Mr Samuel Williams, Iseifion, Mr Tom Lloyd, Celyn, Homo, Megan Lleyn, Mrs Thomas, Mynytho; Trefardd, Ioan Berwyn, Goronwy Wyn a Brothen.
(Yr Udgorn - 06.08.1913)

Y BARDD Ganwyd y Prifardd Ellis Humphrey Evans ym 1887 yn fab hynaf i deulu fferm Yr Ysgwrn, Trawsfynydd. Cafodd ei enw barddol, Hedd Wyn gan Bryfdir mewn digwyddiad barddol ar lan Llyn y Morynion. Enillodd bump o gadeiriau lleol cyn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917, wythnosau yn unig wedi ei farwolaeth ar faes y gad yng Nghefn Pilkem, Gwlad Belg. Cyhoeddwyd cyfrol o'i waith, Cerddi'r Bugail, ym 1918. Cofnod Ellis Humphrey Evans yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c-EVAN-HUM-1887.html |
Y SEREMONI
Er mai ychydig fisoedd a fu ohoni erbyn yr eisteddfod hon, roedd hi'n amlwg fod cysgod y rhyfel yn drwm ar ddigwyddiadau dydd Llun y 3ydd o Awst 1914. Roedd y gynulleidfa yn fychan a'r seremoni, rhywsut, yn ddi-fflach:
Yr oedd 14 oed [sic] wedi ymgeisio am y gadair ar y testyn "Nos". Dywedodd Pedrog fod rhai o'r cystadleuwyr yn haeddianol o gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Canasai rhai mewn awdl, ereill mewn pryddest. Y buddugol oedd Mr. Griffith J. Williams B.A. cadeiriol yn cael ei gadeirio ac ar ol i'r cleddyf gael ei weinio yng nghanol banllef o "Heddwch" llefodd Pedrog "O na wrandawai Ewrop ar y llef. Anerchwyd y prif fardd gan amryw o feirdd a barddonesau. Canodd Miss Hughes M. Jones, gân y cadeirio.
Braidd yn aneffeithiol oedd y seremoni, ac ychydig o bobl oedd yn bresenol. Arwisgodd Mrs. Robyns Owen y Bardd buddugol.
(Y Genedl, 11.08.1914)
Y FEIRNIADAETH
Pigion o sylwadau Pedrog ar y bryddest fuddugol a gyhoeddwyd yn yr Herald Cymraeg ar y 1af o Fedi:
Cyfunir yma lenor medrus a bardd awenyddol. Brawddega mor gryno a grymus nes y teimlir peroriaeth hyd yn oed yn y mesur diodl. Mae'r gerdd hon yn gynnyrch crebwyll cryf a diwylliedig.
... rhaid darllen y gwaith i gyd, a hynny'n feddylgar a manwl, gan graffu ar ei awgrymiadau cyrhaedd-bell, cyn y gellir canfod ei feddwl a'i geinder, a theimlo'i rym. Credaf, yn sicr, a hynny wedi ymdrechu'n gydwybodol i ddeall yr holl gyfansoddiadau hyn, mai yr un a hawlia'r gadair yn deg yw eiddo Cleon, ac iddo ef y dyfernir hi.
Y BARDD
Ganed Griffith John Williams yng Nghellan ger Llanbedr Pont Steffan ym 1892. Roedd yn un o brif ysgolheigion hanner cyntaf yr Ugeinfed Ganrif, ac ef oedd cofiannydd Iolo Morgannwg. Roedd yn un o sylfaenwyr y cyfnodolyn Llên Cymru. Pan enillodd gadair Pwllheli, yr oedd newydd raddio o Goleg y Brifysgol, Aberystwyth. Byddai'n parhau i farddoni yn ystod y ddegawd - yn wir, roedd yn prysur wneud enw iddo'i hun erbyn 1920 - ond yn rhoi i fyny arni i bob pwrpas yn dilyn ei benodiad fel darlithydd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd ym 1921. Bu farw ym 1963. Cofnod G. J. Williams yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/en/s2-WILL-JOH-1892.html |
Eisteddfod Pwllheli 1914, hyd y gwelaf fi, oedd y ddiwethaf yn y gyfres hon o eisteddfodau dan nawdd Cymdeithas y Gwŷr Ieuainc. Fel sawl eisteddfod arall, fe beidiodd â bod yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Mawr. Serch hynny, fe fyddai eisteddfodau eraill yn ailgodi ym Mhwllheli yn ystod y 1920au.
1905
- 'Pedwaredd Eisteddfod Gadeiriol Y.M.A. Pwllheli' yn adran hysbysebion Gwalia, 31.10.1905
- 'Eisteddfod Gadeiriol Pwllheli' yn Yr Herald Cymraeg, 19.12.1905
- 'Eisteddfod Gadeiriol Pwllheli' yn Yr Herald Cymraeg, 02.01.1906
- Peredur Wyn Williams, Eifion Wyn (Llandysul 1980), tud. 31