Y BARDD
Bardd o Sir Aberteifi yw Endaf Griffiths. Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, a chwblhaodd radd MPhil am astudiaeth o waith T. Llew Jones. Mae'n gweithio bellach fel newyddiadurwr. Enillodd gadeiriau Eisteddfodau Llambed ac Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yn 2015.

Y SEREMONI
O ddatganiad yr eisteddfod i'r wasg:
Enillydd y Gadair eleni oedd Terwyn Tomos o Landudoch. Rhoddwyd y gadair fechan gan y Parch. Geoffrey Eynon o waith llaw David Price o Groesgoch. Yn gyfrifol am lywio’r seremoni oedd Hefin Wyn a chyrchwyd y buddugol i’r llwyfan gan Carol Gibby a Julie Thomas i gyfeiliant Hefina ar y piano. Canwyd cân y Cadeirio gan Brenda Williams a chyfarchwyd y bardd gan Y Prifardd Eirwyn George a Dr Delun Gibby. Braf oedd cael croesawu Owen Edwards i’r llwyfan eleni am y tro cyntaf fel Ceidwad y Clêdd.