Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Aled Lewis Evans, Neil Wyn Jones
Aled Lewis Evans, Neil Wyn Jones
YNG NGEIRIAU'R BARDD
Cefais y fraint o ennill y Gadair hardd hon - cadair gyntaf y Saer Neil Wyn Jones, pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn adeilad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Lerpwl gyferbyn â Chadeirlan Gatholig Lerpwl. Roeddwn yn cystadlu llawer iawn mewn eisteddfodau wrth ddechrau ysgrifennu, ac yn parchu barn y beirniad Y Parch Eirian Davies. Roedd Eirian Davies mor gefnogol i feirdd newydd yn ei golofn yn “Y Faner” ar y pryd.
Rwy’n cofio fy mod i yno efo fy Mam a fy Nhad yn y gynulleidfa a chofiaf seremoni urddasol dan arweiniad D Ben Rees. Roeddwn i wrth fy modd fod Gwyneth Mendus, un o’r bobl a edrychai ar ein holau amser cinio yn Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam, hefyd yn y gynulleidfa gan fod ei merch Morfa yn byw yn Lerpwl. Cyfarfyddais efo nifer o Gymry Lerpwl y diwrnod hwnnw, a byddwn yn mynd yn ôl atynt yn bur aml yn rhinwedd fy swydd efo rhaglenni Cymraeg radio masnachol Sain y Gororau rhwng 1983 ac 1994. Roedd yr Eisteddfod yn achlysur llawen iawn, a'r neuadd yn un mawr yn fy nghof. Roedd y dilyniant o gerddi buddugol am y Ffin. Fe’u cyhoeddwyd wedyn yn fy nghasgliad cyntaf i Barddas dan olygyddiaeth Alan Llwyd - Tonnau ym 1989.
Roedd Eisteddfod Lerpwl yn ei bri yn yr wythdegau, ac fe gofiaf flynyddoedd yn ddiweddarach gael cyd-feirniadu yn yr Eisteddfod efo Peryn Clement Evans a oedd o Lerpwl. Erbyn hynny roedd y digwyddiad yn ysgoldy capel Heathfield Road, safle Canolfan y Cymry heddiw. Doeddwn i ddim yn nabod Neil Wyn Jones ar y pryd, nac yn deall mai dysgwr y Gymraeg ydoedd. Flynyddoedd wedyn roedd Neil wedi meistroli'r Gymraeg mor arbennig fel ei fod yn diwtor, ac roedd yn ysgrifennu yn dda mewn grŵp Ysgrifennu Cymraeg y cefais y cyfle i’w ddatblygu gan Eirian Conlon yn yr Wyddgrug. Digwyddais sôn rywdro am ennill cadair Lerpwl, ac fe ddywedodd Neil - “Efallai mai fi a’i gwnaeth”. Dywedais 1985, ac roedd o yn tybio mai hon oedd ei gadair gyntaf, ac fe’i noddwyd gan ei deulu yng Nghilgwri. Gofynnodd i mi wirio os oedd sticer efo’i enw arno o dan y gadair. Ac er gwaethaf yr holl flynyddoedd ers 1985, gwir y gair - enw Neil o dan fy nghadair. Mae hyn yn gwneud y gadair hon yn hyd yn oed yn fwy arbennig i mi rŵan, gan ein bod yn gyd-diwtoriaid ac yn gyfeillion yn y Gogledd ddwyrain.
Mae’r Gadair yn fy ystafell ffrynt yn Wrecsam, ac yn cael ei pharchu yn fawr, ond hefyd yn cael ei defnyddio. Dyma luniau ohoni rŵan.
1986 |
Cadair Glannau Merswy oedd cadair rhif 37 i Selwyn Iolen, a ddeuai ymhen amser yn Brifardd Coronog Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy 1989, ac yn Archdderwydd Cymru rhwng 2005 a 2008.
Y CERDDI
Roedd y casgliad o bedair-ar-ddeg o gerddi a enillodd y gadair hon iddo yn ailwampiad ar bryddest a anfonodd i gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl ym 1985. Defnyddiodd ei destun, 'Glannau', yn addas iawn, i drafod perthynas Gogledd Cymru â Lerpwl.
Ceir detholiad o'r casgliad yn rhifyn Mai 1986 Eco'r Wyddfa. Dilynwch y ddolen hon a throwch at dudalen 15.
Roedd y casgliad o bedair-ar-ddeg o gerddi a enillodd y gadair hon iddo yn ailwampiad ar bryddest a anfonodd i gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl ym 1985. Defnyddiodd ei destun, 'Glannau', yn addas iawn, i drafod perthynas Gogledd Cymru â Lerpwl.
Ceir detholiad o'r casgliad yn rhifyn Mai 1986 Eco'r Wyddfa. Dilynwch y ddolen hon a throwch at dudalen 15.
Y GADAIR
Noda'r adroddiad yn Eco'r Wyddfa fod y gadair wedi ei saernio o goed o Lŷn, gwerth tua £250.
Noda'r adroddiad yn Eco'r Wyddfa fod y gadair wedi ei saernio o goed o Lŷn, gwerth tua £250.
Y BARDD
Ganed y Prifardd Selwyn Iolen ym 1928 ym Methel, Arfon; a bu'n byw yn agos at fan ei eni ar hyd ei oes. Roedd yn eisteddfodwr brwd - fel beirniad a chystadleuwr - ac enillodd doreth o wobrau llenyddol mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol cyn ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy ym 1989 am ddilyniant o gerddi ar y testun 'Arwyr'. Daeth yn archdderwydd yn 2005 a dal y swydd honno tan 2008, er iddo arwain seremoniau 2009 hefyd, oherwydd gwaeledd ei olynydd - Dic Jones. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau o ddarnau adrodd i blant yn ogystal â cherddi i oedolion. Bu farw yn 2011. Gallwch ddarllen cofnod Selwyn Griffith ar Wicipedia yma. |