Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

*Yn anffodus iawn ac yn ôl confensiwn yr oes, felly y nodir enw'r enillydd yn adroddiadau'r cyfnod. Mawr obeithir y gallwn ddysgu gwir enw'r bardd er mwyn gallu unioni'r cam yma.
CEFNDIR
Roedd Eisteddfod Eglwyswyr Penmachno yn bodoli am tua saith mlynedd cyn iddi ddod yn Eisteddfod Gadeiriol ym 1913. Ac er na chyflwynwyd cadair am bryddest yn y blynyddoedd hynny, roedd mynd ar gystadlaethau llenyddol eraill, fel y traethawd.
Cynhelid yr eisteddfod yn flynyddol o gwmpas dydd Gŵyl Dewi, er nad ar 1 Mawrth bob tro. Daethpwyd ymhen amser i'w hadnabod fel Eisteddfod Gŵyl Dewi Penmachno, yn hytrach nac Eisteddfod yr Eglwyswyr.
Nid hon oedd yr unig eisteddfod ym Mhenmachno ar ddechrau'r ugeinfed ganrif; cynhelid eisteddfod gadeiriol ym mlynyddoedd cynharaf y 1900au ar ddydd Nadolig. Dilynwch y ddolen isod i ddysgu mwy.
Gweler hefyd: Eisteddfod Gadeiriol Penmachno

1913MRS. ALBERT JONES*
BETWS Y COED TESTUN SUDDIAD Y TITANIC (PRYDDEST) FFUGENW VESPER NIFER YN CYSTADLU 5 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 1 MAWRTH 1913 BEIRNIAD GWILYM BERW LLEOLIAD YN 2023 Anhysbys *Yn anffodus iawn ac yn ôl confensiwn yr oes, felly y nodir enw'r enillydd yn adroddiadau'r cyfnod. Mawr obeithir y gallwn ddysgu gwir enw'r bardd er mwyn gallu unioni'r cam yma. |
Yn yr eisteddfod hon, yr wythfed yn y gyfres, cyflwynwyd am y tro cyntaf gadair dderw i'r pryddestwr gorau. Roedd yn amlwg yn ddigwyddiad blynyddol oedd ar dwf, gan ei bod yn y flwyddyn honno hefyd wedi gorfod symud o adeilad yr Ysgol Genedlaethol i'r Neuadd Gyhoeddus. Arweiniwyd seremoni'r cadeirio yn Eisteddfod Eglwyswyr Penmachno 1913 gan Perthog, y bardd lleol. Traddodwyd llongyfarchion i'r bardd buddugol gan Glan Machno, Owain Machno, Parch. R. M. Jones, D. Pryce Davies, Dewi Machno, Perthog ac eraill.
Dyfynir yn hwyliog o gyfarchiad D. Pryce Davies yn adroddiad Y Llan (07.03.1913). Mae'r gohebydd yn cofio dwy linell gyntaf ei englyn (digynghanedd, sylwer):
Awenol ferch o'r Bettws gododd – ar bedwar
O Gewri Machno, rhagorodd:
Dywed wedyn y 'boddwyd y rhan olaf o'r englyn ynghanol dyfnder y rhialtwch, ond credwn iddo ddweyd rywbeth yn debyg i
'Wylo'r wyf dros y rhai gollodd'.
Mae rhai o sylwadau'r adroddiad yn ymylu ar fod yn sarhaus mewn gwirionedd, er yn ganmoliaethus ar yr wyneb, tuag at y ferch hon a gamodd i fyd oedd ar y pryd wedi'i ddominyddu gan ddynion. 'Pa bryd', meddai gohebydd Y Llan, 'yr enillodd merch Gadair Eisteddfodol o'r blaen? Dyna gwestiwn dyddorol i'r beirdd.' Mae'n ychwanegu'n sbeitlyd braidd: 'Yn wir, ymddengys fod y Suffragetes yma o ddifrif!'
Daw'n amlwg fod y gohebydd yn dysgu mwy am yr enillydd erbyn gorffen sgwennu ei ddarn i'r papur, oherwydd fe geir y paragraff hwn fel math o addendum i'r adroddiad:
Bydd yn ddyddorol gan lawer glywed fod Mrs. Albert Jones, a enillodd y gadair, yn dyfod o linach Gymreig er iddi gael ei geni yn Wiltshire. Yr oedd ei thaid (o ochr ei mam) yn gefnder i'r enwog Gwilym Hiraethog. Dyma yr ail waith i Mrs. Albert Jones enill y gadair, er mai dyma'r tro cyntaf iddi gael ei chadeirio ei hunan, na gweled neb arall yn cael ei gadeirio.

Y GADAIR
Gwneuthurwr y gadair oedd John Richards, Cae Llwyd Bach, Penmachno. Nodir mewn adroddiad yn Y Llan wythnos a hanner cyn yr eisteddfod fod y gadair wedi ei gosod yn ffenestr Swyddfa Bost y pentref, a'i bod 'yn destyn edmygedd llaweroedd'.

Y BARDD
Ganed Isnant yn Nant Isaf (tarddle ei enw barddol), Bwlch Nant-yr-heyrn, Llanrwst, ym 1866. Bu ei deulu yn yr ardal ers rhai cenedlaethau ond roedd ei hen daid yn weithiwr plwm a ymfudodd o Swydd Gaerhirfryn yng nghanol yr 18G, gyda gwreiddiau'r teulu yng Nghernyw cyn hynny. Bu Isnant yn gweithio yn y gwaith plwm lleol, mewn chwarel ym Mlaenau Ffestiniog ac yna am 15 mlynedd ar stad Gwydir. Roedd yn gystadleuydd brwd a llwyddiannus mewn eisteddfodau ac yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Annibynnwyr yn ogystal. Bu farw ym 1969, yn 102 oed.
Cofnod Isnant yn y Bywgraffiadur Cymreig:
bywgraffiadur.cymru/article/c4-HARK-EDW-1866

Bardd ifanc lleol oedd enillydd cadair Eglwyswyr Penmachno ym 1915, a thystia adroddiad Y Llan (5 Mawrth 1915) ei fod yn enillydd poblogaidd hefyd, gan ddisgrifio'r 'llefau o gymeradwyaeth' wrth i'r gynulleidfa weld 'ffurf eiddil y bardd ieuanc' yn 'araf godi'.
Elfyn, y bardd cadeiriol o Flaenau Ffestiniog, oedd arweinydd y seremoni, ac mae'r adroddiad yn nodi er gwaethaf cysgod y Rhyfel mawr, yr 'unai rhai canoedd i ateb 'Heddwch' nes yr oedd yr adeilad yn diasbedain' pan ddadweiniwyd y cledd yn ystod y ddefod.
Bu nifer o feirdd yn cyfarch yr enillydd yn ystod y seremoni, a dyfynwyd yr un (gwallus!) isod gan un yn dwyn yr enw 'Y Bardd Newydd':
Estyn dy hun i eistedd – mewn cadair
Deilwng o'th ddaen a'th fonedd;
Yf yn hon hufen dy 'Hedd,'
A neidia i anrhydedd!
Llwyddodd Perthog i ennill cystadleuaeth yr englyn hefyd. Y testun oedd 'Y Drafel', a dyma'i ymgais fuddugol:
Un gulfain, hynod gelfydd – i ollwng
Cyllell arni beunydd,
Yw Trafel y chwarelydd;
A chain raen ar lechen rydd.

ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH ELLIS HUMPHREY EVANS (HEDD WYN)
Cyflwynwyd cadair Penmachno 1916 am bryddest heb fod dros 150 o linellau ar y testun 'Crist ar Binacl y Deml'. John D. Davies oedd yr enillydd, a hon oedd ei gadair eisteddfodol gyntaf. Yn frodor o ardal Rhosllanerchrugog, oedd ar y pryd yn olygydd gyda'r Rhedegydd, papur newydd Blaenau Ffestiniog gyda chylchrediad yn Sir Feirionydd a Sir Gaernarfon.
Bu i bwyllgor yr eisteddfod hysbysu yn y papurau yn ystod Chwefror 1916 y byddent yn cadw'r hawl i roi'r gadair i awdur y bryddest ail orau yn y gystadleuaeth, pe methai'r enillydd fod yn bresennol yn y seremoni. Mae'n arferol erbyn heddiw i feirdd yrru eu henwau mewn amlen dan sel i ysgrifenyddion eisteddfodau, ond nid oedd hynny'n gyffredin ar y pryd, felly mae'n ddiddorol gweld yr anogaeth hon yn yr hysbysiad, fel ymgais i wella presenoldeb cadeirfeirdd:
Os bydd unrhyw ymgeisydd yn dymuno anfon ei enw dan sel i'r ysgrifenydd neu i mi, gofelir am roddi hysbysrwydd iddo os bydd Berw yn dyfarnu mai efe bia'r Gadair. Bydd hyn, efallai, o ryw gymorth i ymgeiswyr o bellder ffordd.
Anfonwyd 10 pryddest i'r gystadleuaeth, ond 7 yn unig a ystyriwyd gan i dri bardd yrru eu gwaith at y beirniad, Berw, yn rhy hwyr. Roedd Hedd Wyn yn un o'r saith dan ystyriaeth; y tro olaf, hyd y gwyddys, iddo gynnig am gadair mewn eisteddfod leol. Roedd erbyn hynny wedi rhoi ei fryd ar gystadlu am Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol, a byddai'n dod yn ail yn Aberystwyth yn hwyrach yr un flwyddyn. Cynhwysir 'Crist ar Binacl y Deml' Hedd Wyn yn Cerddi'r Bugail, y gyfrol o'i waith a gyhoeddwyd wedi'i farwolaeth gynamserol yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gellir darllen y bryddest honno mewn fersiwn ddigidol o Cerddi'r Bugail a gyhoeddwyd ar-lein yma.

Cynigiwyd y gadair hon am bryddest Gymraeg neu Saesneg heb fod dros 150 llinell; ymgeisiodd 15 ond diarddelwyd 3 am i'w cerddi gyrraedd yn rhy hwyr. Arweiniwyd seremoni'r cadeirio gan Bryfdir a chafwyd cyfarchion i'r enillydd gan y Parch. B. Jones, O. Morgan Jones, Owain Machno ac eraill.
Er i'r bardd buddugol, y Parch. W. H. Williams, ymweld a'r eisteddfod yn ystod y pnawn yng nghwmni cyfaill iddo, nid oedd son amdano erbyn seremoni'r cadeirio ac anrhydeddwyd cynrychiolydd yn ei le! Y cynrychiolydd hwnnw oedd y Parch. R. M. Jones, ficer Betws y Coed; arweiniwyd y seremoni gan Bryfdir a chafwyd anerchiadau barddol ganddo ef, Owain Machno, Pwel, Heulog a Dewi Machno.
1919JOHN THOMAS (PERTHOG)
PENMACHNO TESTUN DEWRION ZEEBRUGGE (PRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 1 MAWRTH 1919 BEIRNIAD BRYFDIR LLEOLIAD YN 2023 Anhysbys |
Nid oedd Perthog yn bresennol i'w gadeirio ym Mhenmachno, ac urddwyd Dewi Ogwen fel cynrychiolydd iddo.
Y GADAIR
Daeth y gadair hon i'r golwg mewn arwerthiant gan gwmni Halls yn yr Amwythig yn 2011, a chafodd ei phrynu gan gymuned leol Penmachno am £620, dros ddwywaith yr amcan-bris o £250 a osodwyd. Cafodd gartref yn Eglwys Unedig Penmachno, ar safle'r hen gapel Salem yn y pentref. Dyfynnir isod ddisgrifiad o'r gadair o gatalog yr arwerthiant:
An oak Eisteddfod chair, dated 1926 to the front seat rail, the top rail carved `Eisteddfod Cwyl [sic] Dewi Penmachno`, above a single panel back carved with twin leaks under a presentation plaque engraved `Enillwyd Gan Idris AP Harri Or Plwyf Hwn`, the arched top rail over down-swept open arms above a plank seat on square tapering front legs, 58cm wide, 125.5cm high, 53cm deep.
Awgrym y testun ar y plac yw bod y gadair hon wedi ei chyflwyno i sefydliad neu adeilad yn flaenorol, ac mae tystiolaeth Hedd Bleddyn, mab Idris Harri a bardd eisteddfodol llwyddiannus yn ei hawl ei hun, yn cefnogi hynny. Dywedodd wrth ohebydd y Daily Post adeg dychwelyd y gadair i Benmachno, y bu i Idris ap Harri benderfynu ym 1960 i gyflwyno 30 o'i gadeiriau (enillodd 36 rhwng 1921 a 1955) i neuaddau pentref, ysgolion, eglwysi a chapeli yn ardal Tywyn.

CYFEIRIADAU
1913
- 'Penmachno' yn Y Llan, 21.02.1913
- 'Eisteddfod Gadeiriol Eglwyswyr Penmachno' yn Y Llan, 07.03.1913
1914
- 'Eisteddfod Gadeiriol Eglwyswyr Penmachno' yn Y Llan, 20.03.1914
1915
- 'Eisteddfod Gadeiriol Eglwyswyr Penmachno' yn Y Llan, 05.03.1915
1916
- Adran Hysbysebion Y Llan, 07.01.1916
- B. Jones, Penmachno, 'Eisteddfod Eglwyswyr Penmachno' yn Y Llan, 18.02.1916
- 'Eisteddfod Gadeiriol Penmachno' yn Y Llan, 03.03.1916
- 'Ei Gadair Gyntaf' yn Baner ac Amserau Cymru, 25.03.1916
- Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn), 'Crist ar Binacl y Deml' yn Cerddi'r Bugail, cyrchwyd ar-lein 05.09.2023
freepages.rootsweb.com/~alwyn/books/Cerddibugail/crist_ar_binacl.shtml
1917
- 'Eisteddfod Eglwyswyr Machno' yn Y Llan, 02.03.1917
- 'Harlech', yn adran 'Newyddion Lleol' Y Genedl, 06.03.1917
1918
- Adran Hysbysebion Y Llan, 15.02.1918
- 'Eisteddfod Gadeiriol Penmachno' yn Y Llan, 08.03.1918
1919
- 'Eisteddfod Gadeiriol Eglwyswyr Penmachno' yn Y Llan, 14.03.1919
1926
- 'Lot 271, An Oak Eisteddfod Chair' ar wefan The Saleroom, cyrchwyd 05.09.2023 www.the-saleroom.com/en-gb/auction-catalogues/halls-fine-art-auctioneers/catalogue-id-2835984/lot-10981154
- Hywel Trewyn, 'Bardic Chair returns to Penmachno' ar wefan y Daily Post, 05.05.2011, cyrchwyd 05.09.2023 www.dailypost.co.uk/news/local-news/bardic-chair-returns-to-penmachno-2697218