Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r enillwyr yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

1900 John Williams
1901 Humphrey Jones (Bryfdir)
1902 Hugh Davies (Emyr)
1903 James Evans
1904 John Lewis
1905 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
1906 Rhys Rees (Eirwyn)
1907 Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn)
1908
1909
1901 Humphrey Jones (Bryfdir)
1902 Hugh Davies (Emyr)
1903 James Evans
1904 John Lewis
1905 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
1906 Rhys Rees (Eirwyn)
1907 Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn)
1908
1909
Roedd Tudno yn Brifardd Cadeiriol dwbl (1875, 1877) erbyn ennill cadair Eisteddfod Y Bala ym 1884, a chredai llawer na ddylai bellach fod yn ymgiprys am wobrau is na'r genedlaethol. Byddai'n mynd ymlaen i ennill y Gadair Genedlaethol ddwywaith eto, gan osod record sy'n sefyll hyd heddiw (mae'n ei rhannu â Dewi Emrys ers 1948).
Cynhaliwyd yr Eisteddfod mewn sied haearn eang, a ddarparwyd gan y 'Bala Mineral Water Co.' Cafwyd Gorsedd yn yr Eisteddfod hon hefyd, a gynhaliwyd ar ben Tomen y Bala - tomen castell canoloesol a leolir yng nghanol tref Y Bala, ac roedd Archdderwydd Cymru, Clwydfardd, yn bresennol. Cafodd ei gynorthwyo yn seremoni'r Orsedd gan Beuno, Penllyn, a Rowlands.

CYFARCHION
CADFAN:
Ceridwen i'n mab caredig - rôdd harddwch Rôdd urddas arbenig; Uwch dy fraint - mwy iach dy frig Iraidd awdwr urddedig. CERNYW WILLIAMS: Beiblwr yw'r gŵr a gura - ei orchest Iawn gyferchi yma; Mae yn ddyn ar destyn da Heb eilydd yn y Bala. |
RHUDDFRYN:
Etto adnodd y bardd Tudno - welwn Eilwaith yn llawn hawlio Ei arddel yn brif, a'i urddo, Yn rhîn ei hawl - cadeiriwn o. |
Y BARDD
Ganed y Prifardd Thomas Jones (Tudno) yn Llandudno yn 1844. Roedd yn fardd, yn offeiriad ac yn newyddiadurwr. Bu'n gweithio fel golygydd y Llandudno Directory, ac am gyfnod i'r Caernarvon and Denbigh Herald. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, record y mae'n ei rhannu â Dewi Emrys a Dyfed. Bu farw ym 1895, yn 51 oed. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth dan olygyddiaeth David Rowlands (Dewi Môn) wedi ei farwolaeth - Telyn Tudno (1897). Llun: Telyn Tudno Cofnod Tudno yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c3-JONE-TUD-1844.html |
Ymhlith yr enillwyr barddonol eraill roedd Ap Cledwen (Price Davies) am englyn 'Y Llaw', ac i William Roberts, Aberangell yr aeth y wobr o bumswllt am feddargraff i'r bardd Dewi Havhesp (David Roberts, 1831-1884), allan o 29 ymgais. Yn gyd-fuddugol ar y cywyddau ar y testun 'Llyn Tegid' roedd Gwaenfab (Robert Roberts) a [Gwilym] Penllyn (Parch. W. E. Jones).
1900JOHN WILLIAMS
TRAWSFYNYDD TESTUN DOETHINEB FFUGENW ISLYN NIFER YN CYSTADLU 10 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 3 MEHEFIN 1900 BEIRNIAID PEDROG LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
John Williams, gorsaf-feistr Trawsfynydd, oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Gadeiriol Bala 1900, a gynhaliwyd yn Neuadd Buddug. Gan nad oedd yn bresennol ar gyfer y seremoni, fe'i cynrychiolwyd ar y llwyfan gan y Major General Robert Owen Jones o ystâd Bryn Tegid. Cafwyd llu o gyfarchion gan feirdd lleol; chyhoeddwyd rhain yn eu cyfanrwydd yn Yr Wythnos a'r Eryr ar 6 Mehefin 1900, ac fe'u hatgynhyrchir isod.
Ar yr englyn i'r 'Gwlithyn', Gwaenfab (Robert Roberts) o'r Bala gipiodd y wobr oddi ar 24 ymgeisydd. Ceir adroddiad llawn a manwl o holl weithrediadau'r eisteddfod, gan gynnwys anerchiadau barddol amrywiol, yn Yr Wythnos a'r Eryr yma.

RICHARD AB HUGH:
Yn addfwyn daeth i’n gwyddfod – un brofwyd Yn brif-fardd ein ‘Steddfod; Arwr glew, caned hir glod – iddo’n ber Yn ol eangder ei wir deilyngdod. Doethineb a’i thelynau Wefreiddia’i awen gref, Doethineb gyd a’i lampau Fu yn ei arwain ef; Doethineb a’i corona Yn deyrn y beirdd i gyd, A blodau clod ddisgyna Ar “Islyn” – gwyn ei fyd. GWAENFAB Heddwch torf a’i cyhoedda – heddyw’n fardd “Un fil naw cant” yma; O’r deg, ein “Hislyn” wr da, Awr y dethol yw’r “doetha.” GLAN CYMERIG: Golau’r awenau rhinol – ar ei ben Fwynha’r bardd cadeiriol; Yn wir daeth, wedi’r dethol Nos oer iawn i’r naw sy’ ar ol. CELYNFAB: Cyfaill yw’r Islyn, cofier – a’i dalent Yn dilyn ei bleser; A than bwys doethineb bêr, Hwn gydiodd yn y gadair. BARDD GLAS: Islyn, ein pen awenwr – a godwyd I gadair buddugwr; Aeth i dreithi y doethwr, A’i ddawn deg fu iddo’n dwr. |
E. WATKINS:
Doethineb yw’r daith hynod – a rodiaist Fel prydydd o hanfod; Daw iaith glir i godi’th glod, Hyd binacl am dy benod. Yn gryf iawn bydd dy gofeb – yn esgyn Dan gysgod Doethineb; Cei difrwysg mewn cader heb Goeg hanes na gwg wyneb. Y doethaf o’r gymdeithas – a godwyd I gadair camp barddas; Trwy y prawf ti yw’r prif-was O’r deg fu’n rhedeg y ras. CUSI: Er clod yr Eisteddfodau – oes waraidd O seiri fydd eisiau; Yn fuan iawn, i lyfnhau Derwen, i wneyd cadeiriau. Na warafuner funyd – i awen Dryloew pob hawddfyd; Hedd i hyfwyn fardd hefyd Ar ei hardd dderw o hyd. Oni chawn Heddwch o wyneb – golau Teg heulwen uniondeb; Ni thywyna “Doethineb” Yma un awr, er mwyn neb. GWILYM DERFEL: Wel dyma brif arwr y 'Steddfod yn awr, Wedi dyfod i’r llwyfan, o ganol y llawr, Efe yw’r buddugwr, enillodd y clod Ac nid oes byth ddiwedd i’w enw i fod; Yn ngwenau ei wyneb, Canfyddir “Doethineb” Yn chwarau yn nwyfus, a llawn o anwyldeb. Dyma’r bardd yn nhre y Bala, Wedi curo cewri Gwalia; I “Ddoethineb” darfu ganu, Hithau sy’n ei anrhydeddu. MYFYR MACHNO Aur odlau beirdd Ceridwen – yn cyfarch Ein cyfaill yn llawen; Holi am hwn mae’r heulwen I roi ei bri ar ei ben. |
1901HUMPHREY JONES (BRYFDIR)
BLAENAU FFESTINIOG TESTUN SER Y NOS (PRYDDEST) FFUGENW AR Y GORWEL NIFER YN CYSTADLU 16 GWOBR ARIANNOL £2 2s DYDDIAD CADEIRIO 27 MAI 1901 BEIRNIAID BERW LLEOLIAD YN 2020 Ym meddiant teulu'r bardd |
Wedi llwyddiant ysgubol yr eisteddfod ym mlynyddoedd olaf y ganrif flaenorol, roedd Eisteddfod Gadeiriol Y Bala wedi tyfu'n rhy fawr erbyn 1901 i'w chynnal yn ei lleoliad arferol, sef Neuadd Buddug, neu'r 'Victoria Hall'. Nodir yn adroddiad Yr Wythnos a'r Eryr ar 29 Mai 1901 sut y bu i'r eisteddfod y tro hwn gael ei chynnal mewn 'pafilion eang a chyfleus', a hynny trwy garedigrwydd Mr. Parry, Glantegid, a Mr. R. D. Roberts, Corwen. Roedd y gohebydd yn amlwg wedi ei blesio gan y modd yr addurnwyd y pafiliwn:
[...] er mai digon diaddurn yr edrychai y lle ar y cychwyn, erbyn heddyw yr oedd wedi ei addurno mor ardderchog o hardd fel na fuasai raid i'r pwyllgor ofni gwahodd y Brenin yno i gynorthwyo y beirdd i gadeirio'r bardd.
Cadair Eisteddfod Y Bala 1901 oedd y bedwaredd ar hugain i Bryfdir ei hennill. O ran cystadlaethau llenyddol eraill yr eisteddfod, Gwilym Ceiriog oedd yn fuddugol am englyn ar y testun 'Y Myfyriwr', ond nid oedd yr un o'r ddau ymgeisydd ar destun y prif draethawd, 'Enwogion Ymadawedig Penllyn, o 1800 i 1900', dan feirniadaeth O.M. Edwards, yn teilyngu'r wobr. Ceir adroddiad a chanlyniadau'r eisteddfod yn llawn yn Yr Wythnos a'r Eryr yma.
O'R FEIRNIADAETH
Berw, Prifardd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain 1887, oedd yn tafoli'r pryddestau; ac mae'n amlwg o'r feirniadaeth iddo gael ei blesio'n fawr gan y testun a osodwyd a chan ymateb mwyafrif y beirdd i'r testun hwnnw, hefyd:
Y mae yma un-ar-bymtheg o ymgeiswyr, a'r mwyafrif o'r rhai hyny yn feirdd rhagorol.
Y mae 'Hen Gymro' a 'Peredur Ab Efrawg' yn arddangos ychydig wendid. Nid oes ganddynt hwy ond penillion lled gyffredin a di-egni. Nid ymddengys i mi fod 'Hen Gymro' yn arbenig, wedi amcanu barddoni o gwbl, - dim ond mydryddu tipyn. Gresyn fod neb yn meddwl fod gan ychydig benillion diddrwg didda fel y rhai hyn siawns am Gadair Eisteddfod.
Yn y dosbarth canol y mae Un o feibion Gwalia, Ymholydd, Rigel, Awel yr Hwyr. ac Mewn Brys. Cyfansoddiadau pur dda yw y rhai hyn, ac yr wyf yn gresyuu na fuaswn yn alluog i fanylu ychydig arnynt, gan eu bod yn dra theilwng o sylw a beirniadaeth.
Y mae yma gynifer a naw o bryddestau yn dosbarth blaenaf; ac ni phetrusaf ddweyd fod y salaf o honynt vn teilyngu cadair. Y mae hyn yn anrhydedd i'r Eisteddfod, ac yn glod i'r Pwyligor deallus ddewisodd destyn mor ddymunol i ganu arno. Dyma'r enwau sydd wrth y cyfansoddiadau hyn: Amlodd fy nheimlad, Yr Adlais, Tryweryn, Caergwydion. Nos Wyliwr, Gwener, Yn nghol y Nos, Hapus Luddedig, ac Ar y Gorwel.
Does dim dadl nad y ddau olaf a enwyd sydd ar y blaen, ac y mae'r ymdrechfa rhyngddynt yn ddifrifol. Ymdrecbfa rhwng dau gawr ydyw; ac wedi edrych a chraffu arni fel y cyfryw, fy marn gydwybodol i ydyw mai y bardd teilyngaf o Gadair Eisteddfod y Bala ydyw AR Y GORWEL.
Y GADAIR
Noddwyd y gadair gan Richard J. Lloyd Price, sgweier ystâd Rhiwlas a pherchennog tua 64,000 erw o dir yng Ngogledd Cymru ar y pryd. Mae'n fwyaf adnabyddus fel trefnydd y treialon cŵn defaid cyntaf erioed ym Mhrydain.

Ganed Humphrey Jones yng Nghwm Croesor ym 1867. Roedd yn fardd cystadleuol ac yn eisteddfodwr poblogaidd a lwyddodd i ennill ymhell dros hanner cant o gadeiriau. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth - Telynau'r Wawr a Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill. Bu farw ym 1947.
Cofnod Bryfir yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-JONE-HUM-1867.html

1902HUGH EMYR DAVIES (EMYR)
Y BALA TESTUN BORE'R FARN (PRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL 2 gini DYDDIAD CADEIRIO 19 MAI 1902 BEIRNIAID ALAFON LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
Enillodd Hugh Emyr Davies gadair Y Bala ym 1902, tra'r oedd yn fyfyriwr diwinyddol yng ngholeg y dref. Dyfarnwyd Ap Cledwen (Price Davies) a Gwaenfab (Robert Roberts), dau fardd lleol amlwg yng ngweithrediadau'r eisteddfod hon, yn gyd-fuddugol ar yr englyn i 'Ewyllys'. Roedd Gwaenfab hefyd yn fuddugol yn y gystadleuaeth am gân ddisgrifiadol ar y testun 'Y Pysgotwr'.
Y BARDD
Ganed y Prifardd Hugh Emyr Davies, bardd a gweinidog â'r Methodistiaid Calfinaidd ym Mrynllaeth, Abererch ym 1878. Roedd yn fab i'r bardd Hugh Tudwal Davies (Tudwal). Daeth i amlygrwydd fel bardd eisteddfodol yn gynnar iawn, gan ennill dros ugain o gadeiriau. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith; yng Nghaernarfon ym 1906 ('Branwen ferch Llŷr') a Llangollen ym 1908 ('Owain Glyndŵr). Bu farw ym 1950 yn Llandegfan, Môn.
Cofnod Hugh Emyr Davies yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-DAVI-EMY-1878.html

James Evans, myfyriwr diwinyddol yn Athrofa Bala-Bangor ar y pryd, oedd enillydd cadair Eisteddfod Gadeiriol Y Bala, Llungwyn 1903.
Nid oedd y bardd buddugol, John Lewis, yn bresennol yn y seremoni i'w gadeirio. Cafodd ei gynrychioli gan Mr D. O. Jones o Goleg Coffadwriaethol Aberhonddu. Hon oedd yr wythfed yn y gyfres o eisteddfodau cadeiriol a gynhaliwyd yn Y Bala.
1905
Testun y Gadair yn Eisteddfod 1905, a oedd i'w chynnal ar y Llungwyn yn unol â'r arfer, oedd 'Y Mynydd', a chafodd ei hysbysebu yn y papurau newydd yn y misoedd blaenorol. Fodd bynnag, gohiriwyd yr eisteddfod yn y pen draw, a hynny o ganlyniad i'r diwygiad crefyddol oedd yn cydio yn y wlad ar y pryd; defnyddiwyd yr ŵyl i gynnal cyrddau gweddi a phregeth yn hytrach na chwrdd cystadleuol. Mae adroddiad y Cambrian News ar 16 Mehefin 1905 yn adrodd peth o'r hanes:
The Eisteddfod having been postponed this year owing to the revival, the young people of the town took advantage of the opportunity to hold special preaching meetings, and before twelve a.m. the town was crowded with visitors from Rhos, Llangollen, Corwen, Ffestiniog, Dolgelley and the surrounding villages. The first meeting was held at Tegid Chapel at 10.30 a.m. under the presidency of Professor Ellis Edwards. M.A., who delivered a very appropriate address and afterwards the sacrament of the Lord's Supper was partaken of. At 1.30 a huge procession, numbering over 2,000, was formed at the Green, and marched through the streets to Tegid Chapel. Owing to scarcity of accommodation, the building being crowded, an overflow meeting was held at the Congregational Chapel, and addresses delivered at both meetings by the Revs. D. Stanley Jones, Carnarvon; Henry Rees, Pwllheli; and J. J. Roberts, Portmadoc. At 5.30 eloquent sermons were delivered at the Congregational Chapel by the Revs. Professor Ellis Edwards, Bala, and D. Stanley Jones, and at Tegid Chapel by the Revs Henry Rees and J. J. Roberts. A prayer meeting was afterwards held.

Dau o'r pregethwyr ar y Llungwyn yn y Bala ym 1905; yr Athro Ellis Edwards (1844-1915), gweinidog gyda'r Methodistiaid a dirprwy a darpar brifathro Coleg y Bala ar y pryd, cyfoeswr a chyfaill oes i'r nofelydd Daniel Owen; a David Stanley Jones, gweinidog yr Annibynnwyr yn Eglwys Salem, Caernarfon. Roedd rhain yn ffigyrau amlwg yn eu dydd, ac mae pwysigrwydd y Bala fel canolfan grefyddol yn amlwg nid yn unig trwy'r hanesyn hwn o 1905, ond trwy bresenoldeb amlwg myfyrwyr Coleg y Bala yng nghystadlaethau'r eisteddfod.
Lluniau: Casgliadau Hugh Humphreys a John Thomas, LlGC
Cofnod Wicipedia Diwygiad 1904-05: https://cy.wikipedia.org/wiki/Diwygiad_1904%E2%80%931905

Mewn cyfarfod yn Neuadd Buddug ar 12 Ionawr 1906, penderfynwyd y byddid yn bwrw ymlaen i gynnal eisteddfod y Llungwyn y flwyddyn honno, yn dilyn gohirio eisteddfod 1905. Eisteddfod 1906 oedd y nawfed yn y gyfres.
Yr un oedd testun Eisteddfod Gadeiriol y Bala ym 1906 â'r eisteddfod a ohiriwyd ym 1905. Roedd Cybi (Robert Evans) yn gydfuddugol â Chefnbrith yng nghystadleuaeth yr englyn i'r 'Gwladgarwr'.
Ceir disgrifiad byw o seremoni'r cadeirio yn y Cambrian News ar 8 Mehefin:
Seventeen compositions were reviewed on "Y Mynydd," the subject of the chair ode, and the Rev Talwyn Phillips read an abbreviation of Gwylfa's adjudication on the compositions, after which Gwetheyrn [sic] called upon that successful bard to rise and remain where he was till two authorative [sic] bards deputed from the platform would escort him to the coveted chair. A small wiry man was seen standing in the midst of the crowd, and Gwyndaf and Celynfab escorted him to the stage. The bards having formed a half circle, Gwrtheyrn, in stentorian tones, declared Mr Rhys Rees (Eirwyn), Pencader, Carmarthenshire, to be the chaired bard. The bard was invested by Mrs Robin Price, Rhiwlas, and the chairing song was sung by Miss S M Lewis.

Roedd cadeirio'r eisteddfod hon yn neilltuol arwyddocaol am mai ynddi yr enillodd Hedd Wyn ei gadair farddol gyntaf; ddegawd cyn i'w awdl, 'Yr Arwr', ddod i'r brig yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917.
Roedd Hedd Wyn yn ugain oed ar y pryd, a nodir yn adroddiadau'r achlysur ei fod yn gweithio fel saer coed yn Nhrawsfynydd.

Ganed Ellis Humphrey Evans ym 1887 yn fab hynaf i deulu fferm Yr Ysgwrn, Trawsfynydd. Cafodd ei enw barddol, Hedd Wyn gan Bryfdir mewn digwyddiad barddol ar lan Llyn y Morynion. Enillodd bump o gadeiriau lleol cyn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917, wythnosau yn unig wedi ei farwolaeth ar faes y gad yng Nghefn Pilkem, Gwlad Belg. Cyhoeddwyd cyfrol o'i waith, Cerddi'r Bugail, ym 1918. Cofnod Hedd Wyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c-EVAN-HUM-1887.html |
1908-1910
Prin yw'r sôn am eisteddfodau'r Llungwyn yn y Bala ar ôl eisteddfod 1907. Erbyn 1910, mae 'Sylwedydd' yn Yr Wythnos a'r Eryr ar 18 Mai yn cwyno am ddiflaniad eisteddfodau'r Llungwyn yn y Bala, gan gyfeirio at dwf eisteddfod adnabyddus y Llungwyn yn Llanuwchllyn, sy'n parhau yn weithredol hyd heddiw:
Treuliais yn ystod fy oes lawer o wyliau y Llungwyn yn yr hen dref enwog — enwog am ei sasiynau — enwog am ei cholegau a'i hysgolion — enwog am fod a rhan flaenllaw mewn codi llawer o arwyr blaenaf Cymru — enwog hefyd y Llungwyn un adeg ar gyfrif ei heisteddfod. Ond heddyw pa le y mae ? Gall y bardd ddod yma i edrych am ei dad am ddim am wn i, ond rhaid iddo fyn'd i Lanuwchllyn i edrych am yr eisteddfod.
Mae clo llythyr 'Sylwedydd' yn rhoi awgrym i ni am y rheswm dros ddifodiant Eisteddfod Gadeiriol Y Bala, a her i bobl y dref adfer eu heisteddfod:
Dywedir wrthyf nas gellir cael eisteddfod at-dyniadol yn y Bala, heb wario o leiaf ddau gant o bunau, ac anmhosibl bron fydd tynu digon o bobl oddiwrth y Llyn i'r babell i gasglu cymaint a hyny o arian. Gallwn i dybio y buasai yn hawdd i fasnachwyr y dref sicrhau oddeutu can punt i bwyllgor fyddai yn foddlon i roddi llawer o amser i weithio i fyny eisteddfod yn y Bala. Byddai peth fel hyn yn advertisment first class, a phobl eraill yn talu am dano.

CYFEIRIADAU
1884
- 'Bala Eisteddfod' yn y Caernarvon and Denbigh Herald, 09.08.1884
- 'Eisteddfod y Bala' yn Baner ac Amserau Cymru, 09.08.1884
1893
- 'Eisteddfod Gadeiriol Y Bala' yn Y Dydd, 21.07.1893
1899
- Adran hysbysebion Yr Wythnos a'r Eryr, 15.03.1899
1900
- 'Eisteddfod Gadeiriol Y Bala' yn Yr Wythnos a'r Eryr, 06.06.1900
- Pamffled 'Teithiau Penllyn', Cymdeithas Twristiaeth y Bala a Phenllyn, cyrchwyd 04.11.2020 https://www.gobala.org/uploads/documents/Deliverables/English/All-Ability-Trail-Tegid-Trail.pdf
1901
- 'Eisteddfod Gadeiriol Y Bala, Llungwyn 1901' yn Yr Wythnos a'r Eryr, 29.05.1901
- Cofnod Wicipedia Richard John Lloyd Price, cyrchwyd 04.11.2020 https://en.wikipedia.org/wiki/Richard_John_Lloyd_Price#:~:text=Richard%20John%20Lloyd%20Price%20DL,trials%20held%20in%20the%20U.K.
1902
- 'Eisteddfod Gadeiriol Y Bala' yn Baner ac Amserau Cymru, 21.05.1902
1903
- Y Celt, 19.06.1903
1904
- 'Eisteddfod Gadeiriol Y Bala' yn Baner ac Amserau Cymru, 28.05.1904
1905
- Adran hysbysebion Y Cymro, 12.01.1905
- 'Whit Monday' yn The Cambrian News and Welsh Farmers' Gazette, 16.06.1905
1906
- 'Eisteddfod' yn The Cambrian News and Welsh Farmers' Gazette (argraffiad y Gogledd), 19.01.1906
- 'Pencader' yn The Welsh Gazette, 07.06.1906
- 'Bala Eisteddfod' yn The Cambrian News and Welsh Farmers' Gazette (argraffiad y Gogledd), 08.06.1906
- 'Eisteddfod y Bala' yn Baner ac Amserau Cymru, 09.06.1906
1907
- Eisteddfod Gadeiriol Y Bala' yn Y Dydd, 24.05.1907