Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Beryl Hughes Griffiths, Llanuwchllyn; Bethan Antur, Llanuwchllyn;
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.

1890 William Roberts (Gwilym Ceiriog)
1891 Neb yn deilwng 1892 Lewis Davies Jones (Llew Tegid) 1893 William Pari Huws 1894 1895 Humphrey Jones (Bryfdir)* 1896 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 1897 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 1898 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 1899 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD |
1900 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
1901 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 1902 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 1903 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 1904 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 1905 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 1906 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 1907 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 1908 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 1909 Ni chyflwynwyd cadair |
* cyflwynwyd coron yn hytrach na chadair i Bryfdir ym 1895
1910 William Evans Jones (Penllyn)
1911 T. E. Nicholas (Niclas y Glais) 1912 Lewis T. Evans 1913 Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn) 1914 John Jones (Geufronnydd) 1915 Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn) 1916 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 1917 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 1918 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 1919 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD |
1920 John Jones, William Jones(Graienyn)*
1921 T. Eirug Davies 1922 1923 Humphrey Jones 1924 J. R. Morris 1925 1926 1927 1928 1929 W. J. Richards (Gwilym Mai) |
* cadeirio dau fardd
1930 Idris ap Harri
1931 1932 1933 D. D. Jones 1934 J. E. Jones 1935 John Jones (Geufronnydd) [2] 1936 1937 1938 Arthur Wyn Jones 1939 T. E. Nicholas (Niclas y Glais) |
1940
1941 1942 John Lewis Jones 1943 1944 D. J. Roberts (Dewi Mai o Feirion) 1945 Trebor Roberts 1946 R. R. Thomas 1947 1948 D. Morgan 1949 E. R. Griffiths |
1950 Eirian Davies
1951 Trefor Edwards 1952 Arthur Williams 1953 Arthur Williams [2] 1954 1955 Robert Eifion Jones 1956 Gerallt Jones 1957 J. Morris Evans 1958 Robert Eifion Jones [2] 1959 Robert Eifion Jones [3] |
1960 Arthur D. Jones
1961 Dafydd Wyn Jones 1962 1963 Griffith Jones 1964 J. H. Roberts (Monallt) 1965 Eirwyn George 1966 Selwyn Griffith (Selwyn Iolen) 1967 Griffith Jones [2] 1968 Morris Jones 1969 Griffith Jones [3] |
1970 John Hywyn
1971 John Hywyn [2] 1972 Islwyn Edwards 1973 Islwyn Edwards [2] 1974 Henry Hughes 1975 R. Medwyn Jones 1976 T. Wilson Evans 1977 Vernon Jones 1978 Gareth Maelor Jones 1979 Gareth Wyn (Gari Wyn) |
1980 Glyndwr Richards
1981 Ifor Owen 1982 Arthur D. Jones [2] 1983 Arthur D. Jones [3] 1984 Tom Prys Jones 1985 Ifor Owen [2] 1986 1987 Arthur D. Jones [4] 1988 Ifor Owen [3] 1989 Arthur D. Jones [5] |
1990 Ifor Davies
1991 Alwyn Thomas 1992 Arthur D. Jones [6] 1993 Ifor Owen [4] 1994 1995 Arthur Thomas 1996 Dylan Edwards 1997 Menna Medi 1998 Haf Llewelyn 1999 Gwenfair D. Jones |
2000 T. Graham Williams (Cefnfab)
2001 Karina Perry 2002 Beryl Hughes Griffiths 2003 R. J. H. Griffiths (Machraeth) 2004 Awel Jones 2005 Eirlys S. Williams 2006 Gwenfair D. Jones [2] 2007 Beryl Hughes Griffiths [2] 2008 Karina Wyn Dafis 2009 Andrea Parry |
2010 Helen Hughes
2011 Gruffudd Antur
2012 Menna Medi [2]
2013 Hedd Pleddyn
2014 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
2015 Arwel Emlyn Jones
2016 Awel Jones [2]
2017
2018
2019 Sian Meinir
2011 Gruffudd Antur
2012 Menna Medi [2]
2013 Hedd Pleddyn
2014 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
2015 Arwel Emlyn Jones
2016 Awel Jones [2]
2017
2018
2019 Sian Meinir
Roedd Sion Puw o Lerpwl yn gymeriad poblogaidd fel gohebydd y Dydd yn ardal Lerpwl, ac am ei ohebu tanbaid ar dudalennau'r papur hwnnw ag un Malachi Morus. Yn eisteddfod y Llungwyn 1889, arweiniwyd y seremoni gan Rhuddfryn, a chafwyd anerchiadau ganddo ef, Edwin Tegid, Marianog, O. E. Owen, Glan Wnion ac Idris.
Cyhoeddwyd cyfarchiad Glan Wnion, Dolgellau, yn Y Dydd ar 21 Mehefin 1889. Dyma hi:
Cyhoeddwyd cyfarchiad Glan Wnion, Dolgellau, yn Y Dydd ar 21 Mehefin 1889. Dyma hi:
Rhown groesaw i fab awen - ragorodd
Ar gewri Ceridwen; Anwylfardd pur ei elfen, A gwron byw geir yn ben. Diameu awenydd mwyn a dymunol, Yw hwn sy'n orlawn o'r ddawn farddonol, Mae'n addas rhoddi un mor urddasol, Mewn hedd i eistedd yn fardd gorchestol Yn y gadair deg hudol, - a dilys yn fyw a erys byth yn anfarwol. |
Y gwron pur a gurodd, - a godwyd
I'r gadair enillodd; I geinwych sedd esgynodd, Aeth i fan sydd wrth ei fodd. |
Dau yn unig a gystadlai ar yr awdl, ac yn ôl adroddiad Baner ac Amserau Cymru (31 Mai 1890), nid oedd yr un ohonynt wedi creu llawer o argraff ar y beirniad, Michael D. Jones, er iddo ddyfarnu'r gadair i Gwilym Ceiriog.
Y BARDD
Brodor o Ddyffryn Ceiriog oedd Gwilym Ceiriog, ond treuliodd ei oes yn byw yn nhref Llangollen. Bu'n fardd llwyddiannus mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol ar hyd ei oes. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1911 gyda'i awdl i 'Iorwerth y Seithfed'. Llun: Gwilym Ceiriog yng Nghadair Eisteddfod Genedlaethol 1911 |
Eisteddfod denau iawn oedd Eisteddfod y Llungwyn 1891 o safbwynt llenyddol, fel yr adroddir yn Baner ac Amserau Cymru, 27 Mai 1891:
Hwfa Môn a fantolai hyny o farddoniaeth a ddaeth i law; gresyn rhywfodd na roddid yspardyn yn llu beirdd Llanuwchllyn a'r plwyfi cylchynol i roddi eu nawdd i'r eisteddfod drwy gystadlu. Un ymgeisiodd ar awdl y gadair, neb ar y fugeilgerdd, a neb yn rhoddi anerchiad barddonol.
Roedd Hwfa Môn o'r farn fod y testun yn un rhagorol, ac ni allai ddeall pam na fuasai mwy o feirdd wedi cystadlu arno. Nid oedd yr un awdl a dderbyniwyd yn deilwng ganddo:
Cyn rhoddi y feirniadaeth cafwyd ychydig gynghorion cyffredinol i'r beirdd. Ni ddaeth ond un awdl i law ar y testyn godidog hwn - pe buasent yn chwilota yr holl ddaear ni allent gael un gwell, meddai y beirniad. Nid oedd yr awdl a dderbyniwyd yn dyfod i fyny â'r safon; felly, attaliwyd y gadair y tro hwn.
Siomwyd y gynulleidfa luosog yn eisteddfod y Llungwyn 1892 gan fethiant y bardd buddugol na chynrychiolydd i ymddangos ar alwad ei enw. Cafodd y bardd hwnnw ei gosbi am ei absenoldeb, fel y mae adroddiad Y Dydd ar 10 Mehefin 1892 yn ei nodi:
Hysbysodd yr arweinydd y byddai yn galw allan yr enw yn nghyfarfod y nos; ond erbyn y nos nid oedd wedi amlygu ei hun. Os bydd i'r buddugol anfon ei enw o hyn i ddydd Sadwrn i'r ysgrifenydd, fe fydd iddo gael y gadair, ond atelir y wobr. Atelir y wobr a'r gadair oddiarno ddydd Sadwrn.
Mynnodd pwyllgor yr eisteddfod ar ben hynny y byddai'n rhaid i'r bardd dalu dirwy o 10 swllt os am hawlio ei gadair. Mae'n amlwg nad oedd hyn wrth fodd y bardd, ac yn Y Celt ar 2 Medi 1892, cyhoeddwyd cywydd o eiddo Llew Tegid yn cwyno am 'Y Gadair Ddegswllt'.
Y GADAIR DDEGSWLLT - LLEW TEGID
Urdd wagsaw cadair ddegswllt,
hefyd sâl Eisteddfod swyllt; Drwg o beth yw y dreth drom - Urddas anharddir erddom; Nid teilwng iawn yw talu Am gain gamp, grym y gân gu; Bardd gwan, hoff ran na phryned Y fwyn gân a fyn y gêd; Os i'r pwrs i wyro pren Yn ddirad, syrth y dderwen Haedd gilwg, bydd y gelyn Gyda hwyl yn gwawdio hyn: Canu corn er dilorni Difai nôd ein defion ni; Masnachu a gwerthu gwên Radol, a sedd Ceridwen: Haeddwn ei chael mewn "HEDDWCH," A barn lan heb arni lwch - Llwch arian, hyll lwch yrwyd, Dry y lân yn gadair lwyd. Nod gwarth a wnaed o'i gwerthu, Dirwy ddwl wna gadair ddu, Esgus anwybodusion -- Wyled sir, wrth glywed sôn - Fod y gŵr - O ffwndwr ffôl Heb synwyr - yn absenol; Da fy mod o'u gofod gas, Gam anian ddigymwynas; Da i fi, nid oes dwy farn O'u nwydau, b'aswn nawdarn; 'E dd'wed y gŵyr yn ddioed, "Gwell" A'u llygaid ar fy llogell; Iuddewon a didduwiaid; Llawn o fâr, ariangar haid! |
Anurddo defion Barddas
A hel cŵyn ar elw cas: Gwael anair i'n gwyl enwog, Mynu'i lladd er mwyn y llog; Cybyddion a'u cwynion caeth, Anaddas i lenyddiaeth; Galw ffug o wyliau ffol Am arian i ymorol; At awch y Sais tewch a sôn, Neu Ellmynod hyll, meinion; Iuddewon, mwynlon, meinlais Yn llamu byd, mewn llom baix, - Hael y rhain, a'u hel yn rhes Wrth swn y gwarthus hanes; Rafflio, twyllo, hynt dyllig Weision dwl, wna Saeson dig; German oer, dioes, myn di Wael wttres at ei Lotri; Hil Iago a'i fall legach Wthia i bawb ei bethau bach; Ond Cymru a dig gamrawd, A dull brwnt a dwylla'i brawd; Blaidd ar dranc, o wanc neu wall A ladd, irad flaidd arall, Neu o hil y bwystfilog; Er eu bar, ni cheir yn bod Egyr ên i rwygo'i ryw Dan heulod ond dynolryw: Ond y rhain, filain faelwyr Gwthia gwanc yn gaeth y gwyr, Rhydu nawdd, a rhoi du nod I wyddfa yr Eisteddfod; Hel gwarth ar yr hen ŵyl gain, A chogio dyn am chweugain; Pa rodres! Pa wrhydri! A pha chwaeth! O, ffei, ffei chwi! |
Y BARDD
Ganed Llew Tegid yn Ffriddgymen yn ardal y Bala ym 1851. Astudiodd i fod yn athro yn y Coleg Normal ym Mangor, ac fe'i penodwyd yn athro Ysgol y Garth, Bangor ym 1875. Wedi dros chwarter canrif yn y gwaith hwn, bu'n ymwneud â gwaith i godi arian tuag at godi adeiladau newydd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu'n cydweithio â John Lloyd Williams ym maes alawon gwerin, ac roedd yn llenor cynhyrchiol ei hun. Fodd bynnag, caiff ei gofio yn bennaf fel arweinydd eisteddfodau - gan arwain o lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn rhwng 1902 a 1925. Bu farw ym 1928. Cofnod Llew Tegid yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JONE-DAV-1851 |
Y BARDD
Ganed William Pari Huws ym Mhenrhyndeudraeth ym 1853, a chafodd ei fagu ym mhentref Dolwyddelan. Bu'n chwarelwr am gyfnod cyn mynd yn ôl at ei addysg yn Llanrwst, yna yng Ngholeg y Bala ac ym Mhrifysgol Yale, Gogledd America. Roedd yn un o arweinwyr amlwg y mudiad dirwestol pan ddaeth yn ôl i Gymru fel gweinidog ym Mlaenau Ffestiniog ac yna Dolgellau. Roedd yn eisteddfodwr llwyddiannus oedd yn fwyaf adnabyddus am ei emynau. Bu farw yn Hen Golwyn ym 1936. Llun: Wikimedia Commons Cofnod William Pari Huws yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUWS-PAR-1853 |
1895
Eisteddfod Goronog oedd eisteddfod Llungwyn Llanuwchllyn 1895. Humphrey Jones (Bryfdir) o Flaenau Ffestiniog oedd yn fuddugol, am bryddest ar y testun 'Jerusalem Nefol'.
Yr ysgolhaig Celtaidd o'r Almaen, Kuno Meyer, oedd llywydd y dydd yn Eisteddfod Goronog Llanuwchllyn. Roedd ar y pryd yn Athro ym Mhrifysgol Lerpwl. Ceir adroddiad amdano yn Y Llan ar 7 Awst 1896, yn annerch cynulleidfa Eisteddfod Gadeiriol Corwen 1896 'mewn Cymraeg pur'. Un arall oedd yn bresennol, ac a draddododd ddarlith o deyrnged i Michael D. Jones, oedd yr aelod seneddol, Tom Ellis (T E Ellis, 1859-1899).
Mewn hysbyseb ar gyfer yr eisteddfod yn Y Dydd ar 24 Mai 1895, nodir y cynigid gwobr ychwanegol am gystadleuaeth tra anarferol - sef y gorau am bobi blawd ceirch ar lwyfan yr eisteddfod. Y wobr? Hanner Pwn o Flawd Peilliad, yn rhoddedig gan J. Wiseman, Caer!

1896-1908
Ni chynhaliwyd eisteddfodau'r Llungwyn yn Llanuwchllyn rhwng 1896 a 1908.
1909
Ym 1909, dechreuwyd ar y gwaith o atgyfodi eisteddfod y Llungwyn yn Llanuwchllyn. Bu'n dawedog ers rhai blynyddoedd, ac er na chafwyd eisteddfod gadeiriol hyd 1910, Cynhaliwyd 'Gŵyl Lenyddol a Cherddorol' ym Mehefin 1909. Yn yr ŵyl honno y cyhoeddwyd y byddai cystadleuaeth y gadair yn dychwelyd y flwyddyn ddilynol, fel y nodir yn adroddiad Yr Wythnos a'r Eryr ar 2 Mehefyn 1909:
Yn ystod cyfarfod yr hwyr hysbyswyd gan yr arweinydd fod "Cadair" yn cael ei chynyg at eisteddfod y Llungwyn nesaf, ac mai y testyn fydd "Michael Daniel Jones." Well done, Llanuwchllyn, am achub y blaen ar bawb i anrhydeddu coffadwr [sic] un o brif genedlgarwyr ei oes. Dysgwyliwn weled prif feirdd Cymru yn dod i'r maes i'r ornest hon, nid yn gymaint er mwyn y wobr, ond er mwyn y gwr a aberthodd gymaint dros ei wlad a'i genedl.
Pedrog fu'n tafoli cynnyrch cystadlaethau llenyddol 1909; gosododd R. E. Jones (Ednant), Dolgellau, yn fuddugol ar yr englyn a'r delyneg, a T. Miles Jones, Corris, ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth y bryddest ar y testun 'Myfi a af o'ch blaen chwi'.

ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH GRIFFITH DAVIES (GWYNDAF) [2]
Nid oedd y bardd buddugol yn bresennol i'w gadeirio, a chynrychiolid ef yn y seremoni gan Hugh T. Richards o Bontypridd.
Glan Cymerig (Owen Lewis) oedd arweinydd y ddefod, ac roedd llu o feirdd yn rhan o'r seremoni, gan gynnwys y Parch T. Talwyn Phillips, Dr Peters, Celynfab, Richard ap Hugh, Evan Evans, Gwyndaf (sef Griffith Davies, a ddaeth yn ail), Edward Edwards, John Pugh, Marianog, Cadwaladr Jones, Robert Morris, Llafar, Gwaenfab, Gwilym Derfel, Ednant, Alaw Cynwyd, a J. H. Williams.
Daeth y bardd buddugol, Penllyn, hefyd yn gydradd gyntaf yng nghystadleuaeth yr englyn i'r 'Llong Awyr', gan rannu'r wobr ag un yn dwyn y ffugenw 'Camhwylus'. David Morris, Cambrian Terrace, ddaeth i'r brig am draethawd ar y testun 'Llynoedd ac Afonydd Llanuwchllyn', dan feirniadaeth y Parch. Ivan T. Davies.
Cyhoeddwyd yr awdl a ddaeth yn ail orau yng nghystadleuaeth y gadair fel pamffled gan ei hawdur yn fuan wedi'r eisteddfod. Cyhoeddwyd dyfyniad byr ohoni yn Baner ac Amserau Cymru, 9 Gorffennaf 1910. Gellir gweld hwnnw yma.

Ganed Penllyn yn Ffridd Gymen ger Y Bala ym 1854. Roedd yn fardd eisteddfodol amlwg ac yn weinidog gyda'r Annibynnwyr. Treuliodd fwyafrif ei yrfa yn gweinidogaethu yn eglwys Ebeneser yn Hen Golwyn, a bu'n olygydd ar Y Caniedydd Cynlleidfaol Newydd a gyhoeddwyd ym 1921. Bu farw ym 1938.

Y BARDD Ganed y bardd, y deintydd a'r Comiwnydd T. E. Nicholas yn Llanfyrnach ym 1879. Roedd yn fardd poblogaidd, yn ddarlithydd tanbaid ac yn ddiwyro yn ei ddaliadau gwleidyddol. Cyhoeddodd doreth o gyfrolau barddoniaeth, a bu'r rhain yn llwyddiannus dros ben - rhai ohonynt ymysg y cyfrolau o farddoniaeth a werthodd fwyaf yn yr Ugeinfed Ganrif. Un o'i gyfrolau mwyaf adnabyddus yw Sonedau'r Carchar, casgliad o sonedau a ysgrifennodd tra yng Ngharchar Brixton yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu farw yn Aberystwyth ym 1971. Llun: Niclas y Glais wrth ei ddesg, yng Nghadair Llanuwchllyn 1911 Cofnod Niclas y Glais yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c8-NICH-EVA-1879 |
1913
Cafodd y gadair hon ei rhestru fel prif atyniad arwerthiant o eitemau Cymreig gan arwerthwyr Rogers Jones ym Mae Colwyn ar 15 Tachwedd 2014. Gwerthodd y gadair am £700. Fel hyn y cafodd ei hysbysebu:
A very fine oak Eisteddfodic chair for Llanuwchllyn, 1914. This was the chair awarded for the main competition subject entitled 'Rhosyn Saron' for poetry. There were nineteen competitors and the winner of the chair was the pen name 'Geufronydd', John Geufronydd Jones. Note - the winner of the Llanuwchllyn Eisteddfod chair the previous year in 1913 and the following year 1915 was, it is believed Hedd Wyn (we are indebted to Mr Merfyn Thomas of the Dolgellau Archives Service for his patient and helpful research).

1916-1919
Ni chynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol y Llungwyn, Llanuwchllyn, rhwng 1916 a 1919.
Siân Meinir, o Ddolgellau yn wreiddiol, oedd enillydd cadair y Llungwyn 2019, oedd yn rhoddedig gan deulu gwesty'r Eryrod, Llanuwchllyn. Cafwyd cyfarchion barddol yn y seremoni gan Beryl H. Griffiths, Alan Jones Evans a Gruffudd Antur. Gwynant Roberts ac Arfon Griffiths oedd yn gyfrifol am Gân y Cadeirio.
Gellir darllen adroddiad yr eisteddfod yn llawn ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yma.
Isod: Cadeirio Siân Meinir yn Llanuwchllyn (Cymdeithas Eisteddfodau Cymru)
Gellir darllen adroddiad yr eisteddfod yn llawn ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yma.
Isod: Cadeirio Siân Meinir yn Llanuwchllyn (Cymdeithas Eisteddfodau Cymru)
Y BARDD
Ganed Siân Meinir yn Swydd Caer a chafodd ei magu yn Nolgellau. Mae'n gantores opera llwyddiannus a fu'n aelod o gorws y Royal Opera House ac Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'n diwtor llais ac yn feirniad eisteddfodau, ac yn fardd sydd wedi profi llwyddiant mewn nifer o eisteddfodau.
Cofnod Siân Meinir ar wefan Opera Cenedlaethol Cymru:
https://wno.org.uk/cy/profile/sian-meinir
2020
Bwriedid cynnal Eisteddfod y Llungwyn, Llanuwchllyn 2020 ar 16 o Fai, gyda'r Prifardd Cyril Jones yn beirniadu'r farddoniaeth. Cynigid y gadair am '[g]yfres o gerddi caeth neu rydd ar y testun ‘Lliwiau’'. Fodd bynnag, cafodd yr eisteddfod, fel mwyafrif eisteddfodau'r flwyddyn, ei gohirio tan 2021 o ganlyniad i'r argyfwng COVID-19.
1889
Y Dydd, 21 Mehefin 1889;
1890
The Llangollen Advertiser, 30 Mai 1890; Baner ac Amserau Cymru, 31 Mai 1890;
1891
Baner ac Amserau Cymru, 27 Mai 1891;
1892
Y Dydd, 10 Mehefin 1892; Y Celt, 2 Medi 1892
1893
Y Tyst, 2 Mehefin 1893; Y Genedl Gymreig, 21 Mawrth 1893.
1895
Y Dydd, 24 Mai 1895; Y Genedl Gymreig, 11 Mehefin 1895; Y Llan, 7 Awst 1896;
1909
Yr Wythnos a'r Eryr, 2 Mehefin 1909;
1910
Yr Wythnos a'r Eryr, 18 Mai 1910; Baner ac Amserau Cymru, 9 Gorffennaf 1910;
1913
Y Dydd, 11 Ebrill 1913;
1914
Y Dydd, 5 Mehefin 1914; Yr Herald Cymraeg, 9 Mehefin 1914;
Gwefan The Saleroom, cyrchwyd 01/05/2020 https://www.rogersjones.co.uk/en/the-welsh-sale/73/2014-11-15/lot/1
1915
Y Brython, 3 Mehefin 1915;
2019
Adroddiad Eisteddfod Gadeiriol y Llungwyn, Llanuwchllyn 2019; cyhoeddwyd ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, cyrchwyd 05.05.20 http://smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2019/06/Adroddiad-Llanuwchllyn-2019.pdf
2020
Rhaglen Eisteddfod Gadeiriol Llanuwchllyn 2020. Cyhoeddwyd ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, cyrchwyd 05.05.20 http://smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2020/02/Rhaglen-Llanuwchllyn-2020.pdf