Mae'r hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol

1880
1881 John Davies (Taliesin Hiraethog) 1882 1883 1884 1885 John Thomas Pritchard (Maelorydd) 1886 John Jones (Eos Bradwen) 1887 1888 1889 Richard Roberts Morris |
1890 David Price (Ap Ionawr)
1891 Neb yn deilwng 1892 John Davies (Taliesin Hiraethog) [2] 1893 Thomas Davies (Mafonwy) 1894 T. Davies (Bethel) 1895 Rhys Jones Huws 1896 Robert Owen Hughes (Elfyn) 1897 1898 1899 John Jenkins (Gwili) |
1900 Thomas Jeffreys (Twynog)
1901 D. Williams (Dewi Mai) 1902 William Roberts (Gwilym Ceiriog) 1903 Neb yn deilwng 1904 William Roberts (Gwilym Ceiriog)[2] 1905 Owen Griffith Owen (Alafon) 1906 William Edwards (Gwilym Deudraeth) 1907 G. T. Levi 1908 Neb yn deilwng 1909 Hugh Emyr Davies (Emyr) |
Cadair Corwen 1878 oedd y gyntaf i Berw, Prifardd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain 1887, ei hennill, yn ôl erthygl amdano yn Papur Pawb ar 8 Medi 1894.
Y BARDD
Ganed y Prifardd Robert Arthur Williams ym 1854, ac fe'i magwyd gan ei fodryb ym Mhentre Berw, Môn. Roedd yn offeiriad ac yn fardd. Mae'n bosib mai fel beirniad y gwnaeth ei gyfraniad llenyddol mwyaf sylweddol, gan iddo feirniadu awdlau'r gadair droeon ochr yn ochr â John Morris-Jones ac eraill. Bu farw ym 1926. Llun: Papur Pawb, 8 Medi 1894 Cofnod Berw yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c-WILL-ART-1854.html |
1879
Fel y gwelir o adroddiad y Wrexham Guardian ar 2 Awst 1879, nid oedd Eisteddfod Corwen 1879 yn un gadeiriol. Fodd bynnag, roedd nifer o gystadlaethau llenyddol.
Daeth Richard Evans (Mervinian) o Groesoswallt i'r brig mewn dwy gystadleuaeth englynion ('Y Gwcw' a 'Y Fronfraith), a John Davies (Bardd Glas), Llanuwchllyn, am englyn arall ('Y Gwynt'). Edward Jones (Iorwerth Goes Hir) o Lansantffraid oedd yn fuddugol ar y gân ddisgrifiadol ar y testun 'Y Goedwig yn yr Hydref'.

Fel y gwelir mewn hysbysiad yn Y Genedl Gymreig ar 17 Ebrill 1879, bu peth dryswch yn nhrefniadau pwyllgor Eisteddfod Corwen am y flwyddyn ganlynol gan iddyn nhw a phwyllgor eisteddfod gyfagos Glyndyfrdwy gyhoeddi y byddai eu heisteddfodau ym 1880 yn digwydd ar yr un dyddiad. Symudwyd Eisteddfod Corwen felly o'r 4 Awst i 28 Gorffennaf 1880, ond nid cyn i'r pwyllgor weld eu cyfle i daro ergyd fach:
Ymddangosodd hysbysiad am ein heisteddfod yn y Wrexham Advertiser yn mhell cyn hysbysiad pwyllgor Glyndyfrdwy. Ond gwell i'r ddwy blaid yn ddiau fydd bod ar ddyddiau gwahanol.

Ganed Taliesin Hiraethog ym 1841, yn fab fferm Creigiau'r Bleddau, Hafod Elwy. Bu'n amaethu ar sawl fferm yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn ystod ei oes, a threuliodd gyfnod yn gweithio fel beili yng Ngherrig-y-drudion. Priododd ddwywaith. Bu farw ei wraig gyntaf a'i fab o'r briodas honno, a bu farw ei ferch o'r ail briodas yn ifanc hefyd. Bu hyn yn ergyd drom i ŵr oedd eisoes yn fregus ei iechyd. Bu farw ym 1894. Cofnod Taliesin Hiraethog yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-JOH-1841 |
Yn ôl adroddiad Baner ac Amserau Cymru ar 14 Awst 1886, nid oedd Eos Bradwen yn bresennol i'w gadeirio, ond arweiniwyd ei gynrychiolydd i lwyfan yr eisteddfod gan Caerwyson, Aeronian, Rhuddfryn, Brynmelyn, Eryr Alwen a Dr. Ellis.
Y BARDD
Ganed John Jones ym 1831 yn Nhal-y-llyn, Meirionnydd. Bu ei deulu yn byw hefyd yn Nhregorwyr, Aberystwyth, a Dolgellau, lle cyhoeddodd y bardd a'r cerddor ifanc gasgliad o emyn-donau. Ym 1863, aeth yn arweinydd corawl eglwys gadeiriol Llanelwy. Roedd nifer o'i weithiau yn boblogaidd yn ystod ei oes, ac enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau. Treuliodd ddiwedd ei oes yng Nghaernarfon, lle bu farw ym 1899. Llun: Llyfr Ffoto T Llechid Jones, LlGC Cofnod Eos Bradwen yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://biography.wales/article/s-JONE-JOH-1831 |
Roedd Cadair Eisteddfod Gadeiriol Corwen 1889 yn un o'r eitemau a gymerwyd o dŷ ym Methesda, Arfon mewn achos o ladrad yn Hydref 2012. Gellir darllen adroddiad newyddion o'r adeg ar wefan y BBC yma.
Cynhaliwyd yr ŵyl dros ddeuddydd - dydd Llun a dydd Mawrth y 5/6 Awst 1889. Yn ôl adroddiad Y Dydd ar 9 Awst 1889, Gwilym Ceiriog oedd y buddugwr ar y cywydd a'r englynion.

Ganed Richard Roberts Morris ym Meddgelert ym 1852, a chafodd ei fagu ar aelwyd ei daid nes ei fod yn 13 oed. Daeth yn flaenor yn Rhyd-ddu yn ŵr ifanc, a chafodd ei baratoi at fynd i'r weinidogaeth yng Nghlynnog, Holt, a Choleg y Bala. Bu'n weinidog ym Mlaenau Ffestiniog a Chaernarfon. Roedd yn fardd eisteddfodol llwyddiannus, a daeth yn ail am Goron Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1895. Mae'n fwyaf adnabyddus efallai am yr emynau a gyfansoddodd. Bu farw ym 1935.
Cofnod Richard Roberts Morris yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-MORR-ROB-1852

1890DAVID PRICE (AP IONAWR)
LLANSAMLET TESTUN CRIST YN WYLO UWCHBEN JERUSALEM (PRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 18 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO BEIRNIAID PEDROG CADFAN GWNEUTHURWR J. WILLIAMS, DOLGAU LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Yn ôl adroddiad Baner ac Amserau Cymru ar 9 Awst 1890, cadeiriwyd llywydd yr eisteddfod yn absenoldeb y bardd buddugol. Roedd y gadair, a wnaed gan J. Williams, Dolgau, yn rhoddedig i'r eisteddfod gan Charles Henry Wynn o Ystâd Rhug, Corwen.
1891NEB YN DEILWNG
TESTUN PREN Y BYWYD FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 1 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO BEIRNIAID HWFA MÔN GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Yn ôl adroddiad Y Dydd ar 5 Awst 1892, roedd y seremoni gadeirio yn cynnwys cyfraniadau gan Llifon, Ceulanydd, Dewi Ffraid, Rhyddfryn ac Elis Wyn o Wyrfai.
Y BARDD
Ganed Taliesin Hiraethog ym 1841, yn fab fferm Creigiau'r Bleddau, Hafod Elwy. Bu'n amaethu ar sawl fferm yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn ystod ei oes, a threuliodd gyfnod yn gweithio fel beili yng Ngherrig-y-drudion. Priododd ddwywaith. Bu farw ei wraig gyntaf a'i fab o'r briodas honno, a bu farw ei ferch o'r ail briodas yn ifanc hefyd. Bu hyn yn ergyd drom i ŵr oedd eisoes yn fregus ei iechyd. Bu farw ym 1894. Cofnod Taliesin Hiraethog yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-JOH-1841 |
1893PARCH. THOMAS DAVIES
(MAFONWY) BLAENAFON TESTUN BARDDONIAETH NATUR (AWDL) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 9 GWOBR ARIANNOL £5 DYDDIAD CADEIRIO 7 AWST 1893 BEIRNIAID GWILYM ERYRI TALIESIN HIRAETHOG GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Thomas Mafonwy Davies, Prifardd Coronog yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1897 a 1905, oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Corwen 1893, a gynhaliwyd yn unol â'r arfer ar ddydd Llun Gŵyl Banc Awst.
Y BARDD
Ganed Mafonwy yng Nghwmllynfell ym 1862. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddau achlysur (1897, 1905). Bu farw ym 1931.

Yn yr un eisteddfod, enillodd Brython wobr o 7s 6c. am draethawd ar Taliesin Hiraethog, ffigwr amlwg ym myd eisteddfod Corwen, ac enillydd ei chadair ym 1881 a 1892, a fu farw y flwyddyn flaenorol.
Y BARDD
Ganed Rhys J. Huws ym 1862 ym Mhenegoes ger Machynlleth. Bu'n weinidog yn Abermaw, Bethel (Arfon), Bethesda (Arfon) ac yng Nglanaman. Roedd yn weithgar fel bardd yn y 1890au, a daeth i amlygrwydd trwy ffrwgwd a fu yn y wasg yn sgil ennill Cadair Eisteddfod Meirion, Dolgellau 1894; gelwid ef yn un o arweinwyr y 'Beirdd Newydd' ar ddiwedd yr 19G. Trodd at ysgrifennu rhyddiaith yn hwyrach yn ei oes; ac roedd yn boblogaidd fel arweinydd eisteddfodau. Bu farw yng Nglanaman ym 1917. Cofnod Rhys J. Huws yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUWS-JON-1862 |
1896ROBERT OWEN HUGHES
(ELFYN) BLAENAU FFESTINIOG TESTUN TLODI (AWDL) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 13 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 3 AWST 1896 BEIRNIAID HWFA MÔN ALAFON GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Y SEREMONI
Roedd yr ysgolhaig Celtaidd o'r Almaen, Kuno Meyer (dde), yn llywydd y dydd yn Eisteddfod Gadeiriol Corwen 1896. Roedd ar y pryd yn Athro ym Mhrifysgol Lerpwl, a cheir adroddiad amdano yn Y Llan ar 7 Awst 1896, yn annerch cynulleidfa'r eisteddfod 'mewn Cymraeg pur'. Ef hefyd a gafodd y gwaith o arwisgo Elfyn yng nghadair yr eisteddfod. Roedd toreth o feirdd yn rhan o'r seremoni, a chafwyd anerchiadau barddol gan Rhuddfryn, Llifon, Elwern, Athron, Meurig Cybi, O. Caerwyn Roberts, Gwilym Ceiriog, Dewi Ffraid a Gwilym Deudraeth, ymysg eraill. Llun: Wikimedia Commons |
Y BARDD
Ganed y Prifardd Robert Owen Hughes yn Llanrwst ym 1858. Yn dilyn gadael yr ysgol, bu'n brentis mewn banc cyn cychwyn paratoi i fynd i'r weinidogaeth gyda'r Methodistiaid. Yn lle hynny, treuliodd gyfnod yn gweithio i gyhoeddwr llyfrau yn Llundain. Yn ôl yng Nghymru, ymgartrefodd ym Mlaenau Ffestiniog, a bu'n olygydd nifer o gylchgronnau - Gwalia, Y Rhedegydd, a'r Glorian yn eu plith. Bu am gyfnod hefyd yn llyfrgellydd yn Llan Ffestiniog. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Caniadau Elfyn. By farw ym 1919. Cofnod Elfyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUGH-OWE-1858 |
Arweiniwyd Gwili i'r llwyfan yn ystod y seremoni gan Gwilym Ceiriog a D. Owen.
O'R FEIRNIADAETH
Yn ôl adroddiad Yr Wythnos a'r Eryr, 9 Awst 1899, dywedodd y Parch. Ben Davies yn ei feirniadaeth mai cystadleuaeth 'gymedrol' oedd hon, heb 'gyfansoddiadau eithriadol o dda, nac eithriadol o sal. Gofynnwyd am bryddest ar y testun uchod heb fod dros 400 o linellau. Ymgeisiodd naw bardd, a dyma a ddywedai'r beirniaid am waith y buddugol:
Mae gan Omar, yntau, rywbeth y gellid ei alw yn goegni cystadleuol yn ei gan, a gallasai ei farddoniaeth fod yn gryfach mewn llawer man, ond y mae yn dlws a byw, ac wedi suddo i galon ei destyn. Mae yn gwella wrth fyned yn mlaen. Cynydda mewn nerth a barddoniaeth, ac nid oes amheuaeth yn ein meddwl ar ol darllen y gorenon [sic] amryw weithiau, nad yw Omar yn enill y gamp yn berffaith deg. Efe yw'r goreu, ac yn deilwng o wobr a chadair Corwen am eleni, 1899.

Ganed y Prifardd John Gwili Jenkins ym Mhontarddulais ym 1872. Roedd yn un o ddisgyblion barddol Watcyn Wyn yn yr ardal honno. Roedd yn fardd cynhyrchiol a llwyddiannus mewn eisteddfodau, gan ennill y gadair mewn sawl eisteddfod dalaethol, a Choron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Merthyr Tudful 1901. Graddiodd o Rydychen, a bu'n ddirprwy Athro'r Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd; cyn cael ei benodi'n athro'r Testament Newydd yng Ngholegau'r Bedyddwyr a Phrifysgol Cymru Bangor ym 1923. Daeth yn Archdderwydd Cymru ym 1931. Bu farw ym 1936. Cofnod Gwili yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JENK-GWI-1872 |
Y BARDD
Ganed Twynog yn Sir Gaerfyrddin ym 1844, ac o 1864 bu'n gweithio yn Aberdâr. Ym 1875, symudodd gyda'i deulu i Rymni, lle y bu'n berchenog siop esgidiau. Aeth yn wael ei iechyd ar ddechrau'r 1890au ac ni adferodd yn iawn wedyn; bu'n gaeth i'w dŷ am dros bymtheng mlynedd cyn ei farwolaeth ym 1911. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Tannau Twynog.
Cofnod Twynog yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JEFF-TWY-1844

1901PARCH. D. WILLIAMS
(DEWI MAI) TRE'R DDOL TESTUN DYLANWAD Y GROES (PRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 20 GWOBR ARIANNOL £7 DYDDIAD CADEIRIO BEIRNIAID TAFOLOG GWILI GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Cynhaliwyd Gorsedd dan archdderwyddaeth Llifon ar sgwâr y farchnad, Corwen. Gellir darllen adroddiad cyflawn o holl weithrediadau'r eisteddfod yn Yr Wythnos a'r Eryr, 7 Awst 1901, y gellir ei weld yma.
Roedd hon yn eisteddfod eithriadol o niferus ei chystadleuwyr - cafwyd ugain o bryddestau yn cynnig am y gadair, a dim llai na 74 o englynion ar y testun 'Pwyll'. Dyma'r englyn buddugol, gan 'Ofnus', un na atebodd i'w ffugenw:
Pwyll ydyw'r ganwyll geinwedd - sy'n arwain
Pob synwyrol duedd;
Gwawl i farn ddiogel fedd -
Dyma enaid amynedd.

1902WILLIAM ROBERTS
(GWILYM CEIRIOG) LLANGOLLEN TESTUN Y DDAEAR (AWDL) FFUGENW ATOM NIFER YN CYSTADLU 2 GWOBR ARIANNOL £7 DYDDIAD CADEIRIO 4 AWST 1902 BEIRNIAID PEDROG ALAFON GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2018 AMGUEDDFA CORWEN Llun: Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru |
Y BARDD
Brodor o Ddyffryn Ceiriog oedd Gwilym Ceiriog, ond treuliodd ei oes yn byw yn nhref Llangollen. Bu'n fardd llwyddiannus mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol ar hyd ei oes. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1911 gyda'i awdl i 'Iorwerth y Seithfed'. Llun: Gwilym Ceiriog yng Nghadair Eisteddfod Genedlaethol 1911 |
Un o'r pump a ymgeisiodd oedd dan ystyriaeth ar gyfer y gadair, sef eiddo bardd yn dwyn y ffugenw 'Gobaith'. Dyma a ddywedodd Watcyn Wyn am bryddest 'Gobaith', yn y beirniadaethau a gyhoeddwyd yn Yr Wythnos a'r Eryr (02.09.1903):
Pryddest a chryn feddwl ynddi, ac yn dechreu yn bur obeithiol; ond wrth ddarllen yn mlaen yr ydym yn teimlo ei bod yn fwy o draethawd nag o bryddest. Y mae yn ymdrin ac yn ymdroi, ond heb symud yn mlaen, ac heb ymddyrchafu. Llawer o feddwl, ond ychydig o farddoniaeth. Yr ydym yn siomedig ar y diwedd.
Fel hyn y mae beirniadaeth John T. Job yn dod i gasgliad:
[...] y mae Watcyn Wyn a minnau wedi dod i'r casgliad dibetrus nad oes yn yr oreu, hyd yn nod, deilyngdod digonol fel ag i ni gyhoeddi yr awdwr yn Gadeirfardd Eisteddfod Corwen am 1903. Felly, gyda gofid dwys, y dywedwn mae eiddo y Pwyllgor yw y Gadair a'r wobr am eleni. Cadeirier y Pwyllgor felly.

Enillodd Gwilym Ceiriog gadair Corwen am yr eildro ym 1904, wedi iddo ennill am ei awdl, 'Y Ddaear', yn eisteddfod 1902. Disgrifiwyd y buddugwr fel 'Llangollen's foremost bard' yn adroddiad y Weekly Mail ar 6 Awst 1904.
Cafwyd seremoniau gorseddol yr eisteddfod yn Sgwâr y Farchnad, Corwen, gyda Llifon yn cymryd lle'r archdderwydd, oedd yn absennol.
Cafwyd seremoniau gorseddol yr eisteddfod yn Sgwâr y Farchnad, Corwen, gyda Llifon yn cymryd lle'r archdderwydd, oedd yn absennol.
Y BARDD
Brodor o Ddyffryn Ceiriog oedd Gwilym Ceiriog, ond treuliodd ei oes yn byw yn nhref Llangollen. Bu'n fardd llwyddiannus mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol ar hyd ei oes. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1911 gyda'i awdl i 'Iorwerth y Seithfed'. Llun: Gwilym Ceiriog yng Nghadair Eisteddfod Genedlaethol 1911 |
1905OWEN GRIFFITH OWEN
(ALAFON) LLANDDEINIOLEN TESTUN BRWYDRAU ENAID (PRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 3 GWOBR ARIANNOL £7 DYDDIAD CADEIRIO AWST 1905 BEIRNIAID PEDROG GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Ceir adroddiad ar yr eisteddfod yn Gwalia, 8 Awst 1905, lle nodir mai Miss Katherine Jones oedd datgeiniad Cân y Cadeirio, ac y cafwyd 'cainc felus ar y delyn' yn ystod y seremoni.
Dywedir yn yr adroddiad hwnnw mai £1 oedd gwobr ariannol Alafon i gyd-fynd â'i gadair, ond ceir nodyn ymddiheurgar yn yr un papur ar 22 Awst 1905 yn tynnu sylw at y gwall; 'Saith bunt ddylasai'r swm fod. Bwrier y bai ar Gabriel du y wasg'.
Achoswyd tipyn o stŵr yn yr eisteddfod hon gan 'sudden collapse' Harry Evans, Dowlais, un o'r beirniaid cerddorol. Adroddir yn y Carnarvon & Denbigh Herald ar 11 Awst sut y bu i'r beirniad dderbyn telegram wrth gyrraedd yr eisteddfod, yn ei hysbysu o farwolaeth ei dad yn Ne Cymru. Oedwyd gweithrediadau'r eisteddfod o barch at yr ymadawedig.

Ganed Alafon yn Eifionydd ym 1847, yn fab i dafarnwr. Roedd yn frawd i Llifon, yr arweinydd eisteddfodau poblogaidd. Bu'n byw gyda'i fodryb yn Arfon o pan oedd yn ddeuddeg oed a bu'n gweithio wedyn fel chwarelwr yn Nhalsarn. Rhoddodd ei fryd ar fynd yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a threulio amser yn Ysgol Clynnog, Coleg y Bala a Phrifysgol Caeredin, er iddo fethu a graddio. Cafodd ei ordeinio yn weinidog Ysgoldy, Llanddeiniolen, Arfon ym 1885, ac yno y bu hyd ei farwolaeth ym 1916. Roedd yn olygydd Y Drysorfa ac yn fardd llwyddiannus a phoblogaidd. Cyhoeddodd gyfrol o'i gerddi, Cathlau Bore a Nawn (1912). Llun: Wikimedia Commons Cofnod Alafon yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-OWEN-GRI-1847 |
1906WILLIAM THOMAS EDWARDS (GWILYM DEUDRAETH)
LERPWL TESTUN FY NGWLAD (AWDL) FFUGENW HEDDYCHOL NIFER YN CYSTADLU 4 GWOBR ARIANNOL £7 DYDDIAD CADEIRIO BEIRNIAID PEDROG BETHEL GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Yn ôl adroddiad Y Brython ar 16 Awst 1906, nid oedd y bardd buddugol yn bresennol i'w gadeirio, a chadeiriwyd ei gynrychiolydd, gyda Pedrog yn arwain y seremoni. Roedd peth siom ynghylch hyn, fel y gellir ei ddehongli o sylw brathog y gohebydd mai 'rhyw siglo dol bren ar y goreu ydyw cadeirio cynrychiolydd, gan nad pwy fyddo'.
O'r un adroddiad, ceir fod gorsedd llwyddiannus wedi ei chynnal yng Nghorwen, gyda Llifon yn arwain y gweithrediadau, ynghyd ag areithiau gan Pedrog a Chernyw. Cyfeiriwyd yn ystod y cyfarfod hwn at y bardd Rhuddfryn, un o ffyddloniaid yr eisteddfod, oedd dan gystudd yn ei wely ac yn methu bod yn bresennol, ac at farwolaeth yr Archdderwydd Hwfa Môn, ddiwedd y flwyddyn flaenorol. Llywydd y bore oedd Timothy Davies, a llywydd y prynhawn oedd John Herbert Roberts; y ddau yn Aelodau Seneddol Rhyddfrydol.
Yn yr eisteddfod hon hefyd cyfeiriwyd at ymgais Corwen i sicrhau Eisteddfod Genedlaethol 1908. Cais Llangollen i'w chynnal fyddai'n llwyddiannus yn y pen draw.

Cyhoeddwyd beirniadaeth Pedrog a Bethel ar yr awdlau yn Y Brython ar 23 Awst 1906. Pedair awdl a ddaeth i law'r beirniaid, yn dwyn y ffugenwau 'Cymru Fydd', 'Minmanton', 'Glyndŵr' ac 'Heddychol', yr enillydd.
Nid oedd y beirniaid wedi eu plesio'n fawr â hynny o gynnyrch a anfonwyd i'r gystadleuaeth, ac mae'n debyg y bu testun eang fel 'Fy Ngwlad' yn faen tramgwydd i'r beirdd. Dyma ddyfynu o'u sylwadau ar yr awdl a ddaeth i'r brig:
Wrth ystyried yr awdl hon yn gyffredinol, credwn yn ddiamheuol mai hi yw yr oreu yn y gystadleuaeth. Mae golygiad yr awdwr o'i destyn yn naturiol, a'i weithiad allan yn bur gyson. Er yn amddifad o ddarnau aruchel, y mae ganddo lawer o farddoniaeth dlos a thyner. Brithir yr awdl gan gwpledau tarawgar ac aml ddarlun prydferth, ac y mae nwyfiant awenyddol yn anadlu drwy y rhan fwyaf ohoni [...]
Gellir darllen beirniadaeth Pedrog a Bethel yn ei chyfanrwydd yma.

Ganed Gwilym Deudraeth yng Nghaernarfon ym 1863, a chafodd ei fagu ym Mhenrhyndeudraeth. Deuai o deulu o longwyr ond nid oedd y môr at ei ddant; aeth i weithio fel chwarelwr yn Ffestiniog cyn dod yn weithiwr rheilffordd ac yn y pendraw yn orsaf-feistr Tanybwlch a'r Dduallt. Treuliodd lawer o'i oes yn Lerpwl, a chyhoeddwyd dwy gyfrol o'i waith, Chydig ar Gof a Chadw (1926) a Yr Awen Barod (gol. J. W. Jones, 1943). Bu farw yn Lerpwl ym 1940. Cofnod Gwilym Deudraeth yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-EDWA-THO-1863 |
Y BARDD
Ganed y Prifardd Hugh Emyr Davies, bardd a gweinidog â'r Methodistiaid Calfinaidd ym Mrynllaeth, Abererch ym 1878. Roedd yn fab i'r bardd Hugh Tudwal Davies (Tudwal). Daeth i amlygrwydd fel bardd eisteddfodol yn gynnar iawn, gan ennill dros ugain o gadeiriau. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith; yng Nghaernarfon ym 1906 ('Branwen ferch Llŷr') a Llangollen ym 1908 ('Owain Glyndŵr). Bu farw ym 1950 yn Llandegfan, Môn. Cofnod Hugh Emyr Davies yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-DAVI-EMY-1878.html |
Am yr eildro, Gwilym Deudraeth oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Corwen 1910, wedi iddo ei hennill ym 1906 am ei awdl, 'Fy Ngwlad'.
Y BARDD
Ganed Gwilym Deudraeth yng Nghaernarfon ym 1863, a chafodd ei fagu ym Mhenrhyndeudraeth. Deuai o deulu o longwyr ond nid oedd y môr at ei ddant; aeth i weithio fel chwarelwr yn Ffestiniog cyn dod yn weithiwr rheilffordd ac yn y pendraw yn orsaf-feistr Tanybwlch a'r Dduallt. Treuliodd lawer o'i oes yn Lerpwl, a chyhoeddwyd dwy gyfrol o'i waith, Chydig ar Gof a Chadw (1926) a Yr Awen Barod (gol. J. W. Jones, 1943). Bu farw yn Lerpwl ym 1940. Cofnod Gwilym Deudraeth yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-EDWA-THO-1863 |
1913PARCH. JOHN DYER RICHARDS
TRAWSFYNYDD TESTUN GOBAITH (PRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL £6 DYDDIAD CADEIRIO 4 AWST 1913 BEIRNIAID PEDROG T. H. PARRY-WILLIAMS GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Cynhaliwyd Eisteddfod Corwen 1913 ar Ŵyl y Banc Awst, ac yn ôl adroddiad Y Llan ar 8 Awst, 'ni chlywyd llais corn gwlad eleni am fod gwyr y seindorf wedi colli'r trên'.
Y BARDD
Ganed John Dyer Richards yn Sir Gaerfyrddin ym 1876. Yn dilyn graddio o Goleg Aberhonddu ym 1903, daeth yn weinidog Capel Ebeneser, Trawsfynydd. Bu yn Nhrawsfynydd am 14 mlynedd, gan ddod yn ffrind ac yn fentor i Hedd Wyn, bardd y Gadair Ddu - caiff J. D. Richards ei bortreadu gan Derec Brown yn y ffilm Hedd Wyn. O Trawsfynydd aeth yn weinidog i Fedlinog ac yna i Nanternis, ger Ceinewydd, lle y bu farw ym 1927.
Cofnod J. D. Richards ar WikiTree:
https://www.wikitree.com/wiki/Richards-10936

1914DAVID ELLIS
BAE COLWYN TESTUN Y WAWR (AWDL) FFUGENW MANANAN MCNIEL NIFER YN CYSTADLU 9 GWOBR ARIANNOL £6 DYDDIAD CADEIRIO 3 AWST 1914 BEIRNIAID BERW T. GWYNN JONES GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Yn ôl beirniaid y gystadleuaeth - nad oeddent yn bresennol ar ddydd yr eisteddfod; traddodwyd y feirniadaeth ar eu rhan gan Caerwyn - roedd tair awdl y bu iddynt ystyried eu cadeirio, sef eiddo 'Mananan McNiel' (y buddugol), 'Maen o'r Mur' a 'Bugail y Berwyn.
Y BARDD A GOLLWYD
Er bod adroddiadau Eisteddfod Corwen yn Baner ac Amserau Cymru ar 8 Awst yn cystadlu am eu lle â thoreth o newyddion y rhyfel oedd ar droed, ni lwyddodd ei gysgod i drymhau ysbryd eisteddfod Corwen erbyn Gŵyl Banc Awst 1914, er i rai cannoedd o bobl fethu â chyrraedd yr eisteddfod oherwydd fod y rheilffyrdd yn gwasanaethu'r fyddin. Er hyn, roedd oddeutu tair mil o bobl yn llenwi'r babell erbyn cyfarfod y prynhawn. Ar y diwrnod wedi'r eisteddfod, 4 Awst 1914, cyhoeddwyd y byddai Prydain yn mynd i ryfel ag Ymerodraeth yr Almaen. Ond er nad oedd y gyflafan yn hollbresennol wrth gadeirio'r bardd yng Nghorwen, byddai'r bardd ei hun yn chwarae rhan ynddi, a'i hanes yn dod yn un chwedlonol yng Nghymru.
Enillydd y Gadair oedd David Ellis, gŵr ifanc lleol oedd yn athro ym Mae Colwyn ar y pryd. Roedd wedi graddio yn y Gymraeg o Goleg y Brifysgol Gogledd Cymru y flwyddyn flaenorol. Roedd yn heddychwr o argyhoeddiad, ond ym 1916, byddai'n ymaelodi ag Adran Myfyrwyr Cymru Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin - a neilltuwyd ar gyfer unigolion a ddymunai wasanaethu yn y fyddin ond na theimlent y gallent gario arfau ar sail gydwybodol; y mwyafrif ohonynt yn weinidogion a myfyrwyr diwinyddiaeth. Rhai o aelodau amlwg y corfflu hwn oedd Lewis Valentine a Cynan.
Yn Salonica, Macedonia, y cafodd y criw eu lleoli, gan roi gofal meddygol i filwyr oedd wedi eu hanafu ar faes y gad. Ysgrifennodd y bardd beth o'i farddoniaeth orau yn ystod y cyfnod hwn, ond byddai'n dioddef pyliau dwys o iselder ysbryd a phryderai am gael ei alw i'r rheng flaen i ymladd.
Diflannodd David Ellis o'i babell ar 15 Mehefin 1918, ychydig ddyddiau wedi iddo dderbyn llythyr gan ei gariad yn dod â'u perthynas i ben. Ni lwyddwyd i ddod o hyd iddo nac unrhyw arwydd o'r hyn a ddigwyddodd iddo. Gwrthodai ei dad gredu iddo gyflawni hunanladdiad, ac yn ôl yr hanes, cadwodd ddrws ei gartref, Penyfed, ar agor am weddill ei oes rhag ofn i'w fab ddychwelyd.
Cyhoeddwyd cofiant, Y Bardd a Gollwyd, gan Alan Llwyd ac Elwyn Edwards trwy Gyhoeddiadau Barddas ym 1992.
Daeth gwybodaeth newydd i'r fei yn fwy diweddar, oedd yn bwrw golwg newydd ar amodau ac amgylchiadau diflaniad David Ellis. Gellir darllen mwy o'r hanes ar wefan Golwg360 yma.

1914
Gwefan y Daily Post - 'Incredible story of the historic 'Lost Bard' trophy that's now back in Wales' (23.05.2019), cyrchwyd 29.04.2020 https://www.dailypost.co.uk/news/local-news/lost-bard-trophy-ellis-penyfed-16316741