Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Mei Mac, Clynnog Fawr;
Mae'r hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.

1910 Owen Henry Owen (Glan Coron)
1911
1912
1913 Mrs. Wynne Thomas (?)
1914 Llewelyn Bowyer
1915 Ni chynigiwyd cadair
1916
1917
1918
1919
1911
1912
1913 Mrs. Wynne Thomas (?)
1914 Llewelyn Bowyer
1915 Ni chynigiwyd cadair
1916
1917
1918
1919
John Williams, gorsaf-feistr Trawsfynydd, oedd yn fuddugol ar destun y gadair yn Eisteddfod Trelawnyd 1899.
1901HUGH EDWARDS (HUWCO PENMAEN)
Y RHYL TESTUN GOLUD Y CENEDLOEDD A DDAW ATAT TI FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 9 GWOBR ARIANNOL £1 1s DYDDIAD CADEIRIO 5 AWST 1901 BEIRNIAD PEDROG LLEOLIAD YN 2021 Anhysbys |
1902OWEN [?] ROBERTS (CAERWYN)
LERPWL TESTUN Y NATURIAETHWR FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 4 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 4 AWST 1904 BEIRNIAD ELFYN LLEOLIAD YN 2021 Anhysbys |
1903T. JONES PARRY
CWM-Y-GLO TESTUN CYFFYRDDIAD CRIST FFUGENW GLASLWYN NIFER YN CYSTADLU 4 GWOBR ARIANNOL £1 10s. DYDDIAD CADEIRIO 3 AWST 1903 BEIRNIAD PEDROG LLEOLIAD YN 2021 Anhysbys |
Nid oedd T. Jones Parry yn bresennol i'w gadeirio yn Eisteddfod Trelawnyd 1903, ac yn ol adroddiad y Welsh Coast Pioneer, cadeiriwyd cadeirydd yr eisteddfod, J. Meredith - un o Drelawnyd yn wreiddiol a oedd newydd ddychwelyd ar ol cyfnod yn America - yn ei le.
Yn ei feirniadaeth, barnai Pedrog fod dau o'r pedwar ymgeisydd, sef Glaslwyn ac Amethyst yn rhagori ar y lleill, ond nad oedd yr un ohonynt yn codi i dir arbennig o uchel, er iddo farnu fod teilyngdod yn y gystadleuaeth.

1904J. CLEMENT
SGIWEN TESTUN HEB DDUW, HEB DDIM, DUW A DIGON (PRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 1 AWST 1904 BEIRNIAD LLEW TEGID LLEOLIAD YN 2021 Anhysbys |
Y BARDD
Ganed John Dyer Richards yn Sir Gaerfyrddin ym 1876. Yn dilyn graddio o Goleg Aberhonddu ym 1903, daeth yn weinidog Capel Ebeneser, Trawsfynydd. Bu yn Nhrawsfynydd am 14 mlynedd, gan ddod yn ffrind ac yn fentor i Hedd Wyn, bardd y Gadair Ddu - caiff J. D. Richards ei bortreadu gan Derec Brown yn y ffilm Hedd Wyn. O Trawsfynydd aeth yn weinidog i Fedlinog ac yna i Nanternis, ger Ceinewydd, lle y bu farw ym 1927.
Cofnod J. D. Richards ar WikiTree:
https://www.wikitree.com/wiki/Richards-10936

1906HUGH EDWARDS (HUWCO PENMAEN)
Y RHYL TESTUN Y DIWEDDAR BARCH. ROWLAND WILLIAMS (HWFA MON) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 6 AWST 1906 BEIRNIAD LLEOLIAD YN 2021 Anhysbys |
Enillodd Huwco Penmaen gadair arall yn Eisteddfod Trelawnyd (ef oedd enillydd cadair 1901 yn ogystal); y tro hwn am bryddest goffa i Hwfa Môn, un o bileri sefydliad yr eisteddfod ar ddiwedd yr 19G, a fu farw yn Nhachwedd y flwyddyn flaenorol. Gwasanaethodd fel Archdderwydd am ddeng mlynedd rhwng 1895 a diwedd ei oes, ac roedd yn brifardd cadeiriol (1862, 1873, 1878) a choronog (1867) yr Eisteddfod Genedlaethol.
Er mai un o Fôn ydoedd yn wreiddiol, fel yr awgryma'i enw barddol, teithiodd gryn dipyn i wasanaethu fel gweinidog mewn amrywiol fannau, a threuliodd ddiwedd ei oes yn y Rhyl; roedd pryddest goffa iddo felly yn destun amlwg a phriodol i eisteddfod leol yn yr ardal honno. Llun: Hwfa Môn tua'r flwyddyn 1875, o gasgliad John Thomas, LlGC |
John M. Pritchard, Clwtybont, Cwm-y-glo oedd yn fuddugol ar destun y gadair yn Eisteddfod Trelawnyd 1907. Nid oedd yn bresennol yn yr eisteddfod, na chynrychiolydd iddo chwaith, a chyhoeddwyd ei enw yn y papurau newyddion rai dyddiau wedi'r eisteddfod.
1908HUGH HUGHES (RHUDDLAD)
LLANRHYDDLAD TESTUN A BLAGURYN A DYF O'I WRAIDD EF (PRYDDEST) FFUGENW MIN Y WAWR NIFER YN CYSTADLU 6 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 3 AWST 1908 BEIRNIAD BERW LLEOLIAD YN 2021 Anhysbys |
'A blaguryn a dyf o'i wraidd ef' oedd testun y bryddest yn Eisteddfod Trelawnyd 1908; a Hugh Hughes (Rhuddlad) a enillodd y gadair allan o chwech ymgeisydd.
Y GERDD
Yn ei feirniadaeth, dywedodd Berw am y bryddest fuddugol fod ynddi 'fwy o dreiddgarwch a beiddgarwch crebwyll synhwyrol ac awenyddol nag yn yr un o'r lleill'.
Gellir darllen y feirniadaeth yn llawn yn Y Brython Cymreig, 20.08.1908: https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3694865/3694868
Ceir isod ddetholiad o'r bryddest a ddyfynwyd yn y feirniadaeth.

A BLAGURYN A DYF O'I WRAIDD EF (DETHOLIAD) - RHUDDLAD
Esgyn wna'r Blagur Iawnol
Fry, i orsedd pob dylanwad ;- Dan ei gysgod y dylifa 'R byd i adrodd melus brofiad. Ynddo ef y canol bwyntia Hedd feddyliau'r Cyngor borau; Melus ffrwythau'r Addewidion Geir yn aeddfed ar ei gangau. Tyf yn iraidd, fyth yn wyrddlas, Erys yn ddi-dranc Flaguryn, - Ni ddaw hydref byth i'w hanes, Nac un ddeilen grin yn disgyn. Tesni haf, - sancteiddrwydd nefol Fyth ddadblyga ei ogoniant, - Ceidw'n ieuanc dragwyddoldeb, Lleinw'r nefoedd ag addurniant. |
Saint yr hollfyd, yn fyrddiynau,
Rhwng ei gangau fyth ymlonnant,- Gan linynu eu haur delynau, Megis adar haf y canant. Ni fydd yno yr un delyn Yn grogedig wrth ei gangau, Ac ni chlywir neb yn adrodd Salmau Babel y gofidiau. |
Yn wahanol i'r arfer, cynigiwyd cadair Trelawnyd 1909 yn wobr i arweinydd y cor buddugol yng nghystadleuaeth y corau meibion. Er i chwe chor roi eu henwau ymlaen i gystadlu, dim ond dau a gymerodd ran yn y pendraw, sef corau Ffynnongroyw (dan arweiniad Mr. J. Spencer) a Phenmaenmawr (dan arweiniad Mr. H. Christmas Jones). Yn ol adroddiad Baner ac Amserau Cymru, roedd diddordeb neilltuol yn y gystadleuaeth hon am fod y ddau gor wedi trechu ei gilydd mewn eisteddfodau blaenorol, a hynny am ganu yr un darn.
Ffynnongroyw oedd yn fuddugol, a chafodd yr arweinydd, Mr. J. Spencer, ei gario yn ei gadair o babell yr eisteddfod i'r pentref cyfagos 'gyda mawr hwyl'.
Ffynnongroyw oedd yn fuddugol, a chafodd yr arweinydd, Mr. J. Spencer, ei gario yn ei gadair o babell yr eisteddfod i'r pentref cyfagos 'gyda mawr hwyl'.
1910OWEN HENRY OWEN (GLAN CORON)
FFYNNONGROYW TESTUN WELE, CLYWSOM AM DANI YN EPHRATAH (PRYDDEST) FFUGENW BUGAIL PRYDERUS NIFER YN CYSTADLU 7 GWOBR ARIANNOL 1 gini. DYDDIAD CADEIRIO 1 AWST 1910 BEIRNIAD RHYS JONES HUWS LLEOLIAD YN 2021 Anhysbys |
Ym 1910 symudodd yr eisteddfod o'i phabell i'r neuadd bentref newydd, a adeiladwyd fel rhodd i'r ardal gan M. A. Ralli, o ystád leol Mia Hall, oedd yn gefnogwr brwd i'r eisteddfod ac yn llywydd y dydd ar sawl achlysur dros y blynyddoedd. Tynnwyd y llun isod ar ddiwrnod yr eisteddfod, ac fe'i cyhoeddwyd ym mhapur newydd y Prestatyn Weeky yr wythnos ganlynol. Mab Mr. Ralli sydd yn y car modur ar ochr dde'r llun.
Aethpwyd yn ol i'r arfer o gyflwyno'r gadair i'r pryddestwr buddugol ym 1910, yn dilyn cyflwyno'r gadair ym 1909 i arweinydd y cor meibion buddugol. Cor Ffynnongroyw enillodd y gadair ym 1909, ac fe gawsant goron ym 1910! Ond i Ffynnongroyw yr aeth y gadair yr un fath, ac i Owen Henry Owen (Glan Coron), oedd yn fuddugol o saith ymgeisydd.
Roedd tri o'r saith yn agos at y gadair, ac ystyriai Rhys J. Huws y byddai'r un yn dwyn y ffugenw 'Gwyl Awen o Gilead' wedi ei hennill pe byddai wedi cynnal safon rhan olaf ei bryddest trwy gydol ei waith. Roedd pryddest 'Bugail Pryderus', meddai, yn wastatach ei safon drwyddi.
Arweiniwyd y seremoni gan y beirniad, a chafwyd anerchiadau barddol gan Ap Elwy, J. M. Edwards, a Threbor Môn.

1914LLEWELYN BOWYER
ALLTWEN, ABERTAWE TESTUN A HWY A RANASANT EI DDILLAD EF (PRYDDEST) FFUGENW VIA DOLOROCO NIFER YN CYSTADLU 10 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 3 AWST 1914 BEIRNIAD LLEW TEGID LLEOLIAD YN 2021 Anhysbys |
Llewelyn Bowyer, gweinidog capel Tanygraig yn Alltwen, Abertawe, oedd bardd y gadair yn Nhrelawnyd ym 1914.
Cyfarchwyd y bardd buddugol yn seremoni gadeirio Eisteddfod Trelawnyd 1914 gan Llew
Tegid (y beirniad), Mr. Jones Hughes, Mr. H. O. Parry, Parch. S. Thomas, Mr John Roberts (Gwaenysgor), Trebor Mon a'r Parch. S. Aurelius Jones.

1915
Eisteddfod gerddorol yn unig a gynhlaiwyd yn Nhrelawnyd ar gyfer y flwyddyn 1915. Gydag amryw byd o eisteddfodau wedi eu gohirio o achos y rhyfel, mae'n dipyn o syndod iddynt lwyddo i gynnal cyfarfod o gwbl. Penderfynwyd y byddai elw'r digwyddiad yn mynd tuag at Gronfa'r Milwyr Cymreig, ac mae'n debygol y byddai hynny wedi sicrhau cynulleidfa fawr a chefnogol.
Yn Awst 1917 bu farw M. A. Ralli, perchennog Mia Hall ac un o brif noddwyr a chefnogwyr Eisteddfod Trelawnyd. O dras Groegaidd, bu'n gweithio fel conswl i Wlad Groeg yn ninas Lerpwl cyn pryn eiddo yn ardal Trelawnyd ar ei ymddeoliad. Ef a gyflwynodd y neuadd lle cynhelid yr eisteddfod i gymuned Trelawnyd, a hynny er cof am ei wraig.
1899
- 'Eisteddfod Gadeiriol Newmarket' yn Baner ac Amserau Cymru, 12.08.1899
- 'Eisteddfod Gadeiriol Newmarket' yn Y Genedl Gymreig, 15.08.1899
1900
- 'Coedpoeth, a'r Cylchoedd' yn Baner ac Amserau Cymru, 25.08.1900
1901
- 'Eisteddfod Gadeiriol Newmarket' yn Baner ac Amserau Cymru, 17.08.1901
1902
- 'Eisteddfod Gadeiriol Newmarket' yn Baner ac Amserau Cymru, 09.08.1902
1903
- 'Newmarket Eisteddfod' yn The Welsh Coast Pioneer, 07.08.1903
- 'Eisteddfod Gadeiriol Newmarket' yn Baner ac Amserau Cymru, 15.08.1903
1904
- 'Eisteddfod Gadeiriol Newmarket' yn Baner ac Amserau Cymru, 06.08.1904
- 'Buddugwyr Eisteddfod Newmarket' yn Y Cymro, 11.08.1904
1905
- 'Eisteddfod Gadeiriol Newmarket' yn Banger ac Amserau Cymru, 09.08.1905
1906
- 'Eisteddfod Newmarket' yn Y Cymro, 09.08.1906
1907
- 'Newmarket' yn Baner ac Amserau Cymru, 14.08.1907
1908
- 'Eisteddfod Gadeiriol Newmarket' yn Baner ac Amserau Cymru, 12.08.1908
- 'Cadair Newmarket 1908' yn Y Brython Cymreig, 20.08.1908
1909
- 'Eisteddfod Gadeiriol Newmarket' yn Baner ac Amserau Cymru, 07.09.1909
1910
- 'Y Gadair' yn Baner ac Amserau Cymru, 06.08.1910
- 'Village Hall, Newmarket' yn y Prestatyn Weekly, 13.08.1910
1913
- 'Barddones Gadeiriol' yn Yr Udgorn, 06.08.1913
1914
- 'Eisteddfod Gadeiriol Newmarket' yn Baner ac Amserau Cymru, 08.08.1914
1915
- 'Eisteddfod Gerddorol Newmarket' yn Baner ac Amserau Cymru, 07.08.1915
1917
- 'Personau a Phethau' yn Yr Herald Cymraeg, 21.08.1917