Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Cai Phillips, Blaenycoed;
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.

1890 Griffith Griffiths (Pennar)
1891 1892 David Jones (Glan Tecwyn) 1893 Robert John Davies (Barlwydon) 1894 Henry Gwynedd Hughes 1895 David Jones (Glan Tecwyn) 1896 Robert Owen Hughes (Elfyn) 1897 Robert Owen Hughes (Elfyn) 1898 William Williams (Crwys) 1899 Humphrey Jones (Bryfdir) |
Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol gyntaf Abermaw ar ddydd Gŵyl Dewi 1888. Fel hyn yr adroddwyd ar yr eisteddfod gyntaf honno yn Y Dydd:
Cynaliwyd yr uchod [Eisteddfod Gadeiriol Abermaw] ar Ddydd Gwyl Dewi. Gan mai hon oedd yr un Gadeiriol gyntaf i'w chynal yma, teimlid cryn tipyn o bryder o barth i'w llwyddiant. Erbyn hyn y mae yn dda genym hysbysu ei bod wedi troi allan yn llwyddianus ym mhob ystyr, a diau fod hyn i'w briodoli i ymdrechion diflino y pwyllgor, yn enwedig yr ysgrifenydd, Mr Adams.
Roedd gan yr eisteddfod bryd hynny ei gorsedd ei hun, a chrybwyllir urddo 'amryw feirdd ac ofyddion' mewn adroddiadau papur newydd.

1888HOWELL ELVET LEWIS (ELFED)
HULL TESTUN FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 34 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 1 MAWRTH 1888 BEIRNIAID TAFOLOG GWNEUTHURWR Lluniau'r gadair: Cai Phillips, Blaenycoed LLEOLIAD YN 2021 Y GANGELL, BLAENYCOED |
Elfed oedd y cyntaf i ennill cadair yn Eisteddfod newydd Abermaw, a hynny yn yr un flwyddyn ag y byddai'n cipio ei goron genedlaethol gyntaf yn Wrecsam; yr eisteddfod genedlaethol honno a elwid yn 'Eisteddfod Elfed', gan iddo ennill cystadlaethau'r rhieingerdd a'r traethawd yn yr un brifwyl.
Roedd Glan Wnion, y bardd o Ddolgellau, yn un o'r rhai a gyflwynodd gyfarchion i'r bardd buddugol yn ystod seremoni'r cadeirio.
Roedd Glan Wnion, y bardd o Ddolgellau, yn un o'r rhai a gyflwynodd gyfarchion i'r bardd buddugol yn ystod seremoni'r cadeirio.
DAU ENGLYN - GLAN WNION
Ha! Geinwych wr digynen, - a hudol
Ydyw'r prif-fardd trylen; I'n synu, mor gu yw gwên Ei loew, hudol awen. |
Y gwir fardd geir mor harddwych, a godwn
I gadair dlos geinwych; Yma yn awr yn gawr gwych, - Hwn gurodd gerddi gorwych. |
Y GADAIR
Cadair blaen gyda phlác (gweler y llun ar y chwith) i ddynodi dyddiad a lleoliad yr eisteddfod yw cadair Abermaw 1888. Erbyn heddiw, fe'i cedwir yn Y Gangell, bwthyn genedigol Elfed. Mae'r adeilad yn cynnwys arddangosfa fechan sy'n adrodd hanes bywyd Elfed, a hon yw'r unig gadair eisteddfodol o'i eiddo sy'n rhan o'r arddangosfa. Bu farw Elfed ym 1953, a phrynwyd y bwthyn ym 1957 gyda'r bwriad o greu cofeb i'w fywyd. Agorodd y bwthyn i'r cyhoedd ym 1964. Gellir darllen rhagor o hanes a manylion Y Gangell (a Rhydfelen, y ty cysylltiedig) ar wefan British Listed Buildings yma: https://britishlistedbuildings.co.uk/300023990-rhydfelen-and-y-gangell-cynwyl-elfed |
Y BARDD
Ganed Elfed yn Sir Gaerfyrddin ym 1860. Roedd yn weinidog ac yn fardd a enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a'i Chadair unwaith. Gwasanaethodd fel Archdderwydd Cymru rhwng 1924 a 1928. Awdurodd gyfrolau ar waith Ann Griffiths, Morgan Rhys a Cheiriog. Treuliodd fwyafrif ei yrfa fel gweinidog yn Lloegr, nes ei ymddeoliad ym 1940. Bu farw ym 1953. Cofnod Elfed yn Y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-LEWI-ELV-1860 |
1889DAVID ADAMS (HAWEN)
BETHESDA TESTUN GORTHRWM (PRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 9 GWOBR ARIANNOL £3 3s DYDDIAD CADEIRIO 1 MAWRTH 1901 BEIRNIAID TAFOLOG GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Y diwinydd, Hawen, oedd bardd buddugol Eisteddfod 1889. Fe'i anerchwyd o'r llwyfan gan Ioan Glan Menai, J. Howells, Gwilym Ardudwy, Glan Wnion, Ieuan Ionawr, Ap Hefin, Talfardd, Gweryddon, Dewi Arlais, Idris, Iolo Ardudwy a Geufronydd.
Y BARDD
Ganed David Adams yn Nhal-y-bont, Ceredigion ym 1845. Roedd yn weinidog ac yn ddiwinydd amlwg a chwyldroadol. Treuliodd gyfnodau o'i oes ym Methesda a Lerpwl. Bu farw ym 1922.
Cofnod Hawen yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-ADAM-DAV-1845

1890GRIFFITH GRIFFITHS (PENNAR)
PENTRE ESTYLL, ABERTAWE TESTUN ABERTH (PRYDDEST) FFUGENW CREDADYN NIFER YN CYSTADLU 11 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 1 MAWRTH 1890 BEIRNIAID HAWEN GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Bardd buddugol y flwyddyn flaenorol, Hawen, oedd yn beirniadu'r gystadleuaeth ym 1890. Cadeiriwyd cynrychiolydd Pennar yn ei absenoldeb, a chafodd ei annerch gan Gwilym Ardudwy, Wnion Evans, Corwen, Geufronnydd, Dewi Arlais, Moelwyn, Ioan Glan Menai (sef arweinydd y seremoni) ac eraill.
Cynhaliwyd gorsedd ar brynhawn yr eisteddfod, pryd y cyhoeddwyd, ymysg yr anerchiadau, brif destunau barddoniaeth eisteddfodau cadeiriol Meirion a Chorwen ar gyfer y flwyddyn ganlynol, yn ogystal â datgan y byddai eisteddfod gadeiriol yn Abermaw unwaith eto ar Ddydd Gwyl Dewi 1891.

Ymddangosodd y gerdd hon o gyfarchiad i Penar gan Perllannog yn Tarian y Gweithiwr ym mis Hydref 1890.
BUDDUGOLIAETH PENAR - PERLLANNOG
Yn Abermaw, llwydd groesawodd - Penar,
Am gamp iawn ymdrechodd; Ar dir mawrhad yr ymrodd, - a buan Hyd risiau y gân i dre' esgynodd. Hwre Penar! Pwy yw hwnw - â'n uwch Na'i awen wir hoew? Haul athrylith er elw Gynes deg naws ei dw'. Ie, pwy drwy'r gân a draidd Heibio'i awen gerubaidd? I byrth 'Aberth' ei wybod - ehedodd Ar aden myfyrdod; Ac heulwen deg wele'n dod, - heulwen a fywha ei yrfa wrth ei gyfarfod. |
Difyr o hyd i'w fawrhau,
Cwyd arwr y cadeiriau, Dan addurn doniau heddyw, Rhosyn Ior i Sion yw; Ac haul i wyl Gwalia Wen Yn deall enaid awen. Anian wefrawl a weina ei hyfryd Rinwedd i awyr ei awen ddiwyd; Mewn symledd, mawredd a wna gymeryd Yn iaith oes draul barddoniaeth sieryd; Arddun farw! ei wynfyd - wisg fel Eden, A nef ei awen yw uniawn fywyd. |
Y GERDD
O'R FEIRNIADAETH
Wrth grynhoi ei sylwadau ar ddiwedd ei feirniadaeth (sydd i'w gweld yn gyflawn mewn dau ran yn Y Genedl Gymreig, 30.04 ac 07.05.1890), cymharodd Hawen eiddo 'Credadyn' i'w gydymgeiswyr. Ymddengys mai cystadleuaeth agos oedd hon, gyda sawl pryddest yn agos at y wobr.
... cawn "Credadyn" yn olrhain y testyn i'w wahanol gyfeiriadau gyda mwy o fanylder. Y mae yn deall cymmesuredd y gwahanol ranau yn well na hwy. Y mae yn fwy o artist llenyddol. Y mae y farddoniaeth, o ran ei hansawdd, yn rhagori ar eiddo "Addolwr," ac yn llawn cystal ag eiddo "Hyderus". Mae yn llai honiadol nag eiddo "Cohath," ac yn llai chwyddedig ac yn fwy syml, ac yn hollol rydd oddi wrth y ffug arucheledd sydd yn andwyo y cyfansoddiad hwnw ... Rhagora yn ei ddull o ymdrin â'r testyn, ac ar y cyfan yn ansawdd y farddoniaeth ...
Cyhoeddwyd 'Aberth' fel llyfryn gan yr awdur, ac fe'i argraffwyd yn swyddfa'r Cyfaill yn Llanelli.

Ganed Pennar yn Aberdâr ym 1860. Ar ôl dechrau ei yrfa fel glowr yn gynnar, dechreuodd bregethu ym 1881. Cafodd addysg yn Nhrecynon cyn cael ei ordeinio ym 1884. Roedd yn eisteddfodwr brwd, ac ef oedd yn gyfrifol am lunio cofiant Watcyn Wyn. Bu farw ym 1918. Llun: Wikimedia Commons Cofnod Pennar yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GRIF-PEN-1860 |
1892DAVID JONES (GLAN TECWYN)
PENRHYNDEUDRAETH TESTUN UNDEB (AWDL) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 5 GWOBR ARIANNOL £5 DYDDIAD CADEIRIO 18 EBRILL 1892 BEIRNIAID GWYNEDD ELLIS WYN HWFA MÔN GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Symudwyd yr eisteddfod, yr arferid ei chynnal ar ddydd Gŵyl Dewi, i ddydd Llun y Pasg erbyn 1892. Am awdl y cynigiwyd y gadair y flwyddyn honno, ac aeth y wobr i Glan Tecwyn, bardd o Benrhyndeudraeth.
Y GADAIR
John Williams, saer o Ddolgellau, oedd gwneuthurwr cadair eisteddfod Abermaw 1892.
John Williams, saer o Ddolgellau, oedd gwneuthurwr cadair eisteddfod Abermaw 1892.
Am awdl y cynigiwyd y gadair yn Abermaw eto ym 1893; Barlwydon, bardd o Flaenau Ffestiniog na chafodd fawr ddim addysg nes ei fod yn ddeunaw oed, oedd yn fuddugol allan o bedwar.
Y BARDD
Ganed Barlwydon yn Llidiardau ym 1853 ond fe'i magwyd am fwyafrif ei blentyndod yn Nhanygrisiau, Ffestiniog. Roedd mewn gwaith yn blentyn ifanc, ac ni chafodd addysg nes ei fod yn nesáu at ugain oed, pryd y cafodd rai misoedd o gyrsiau yn Nhywyn a Holt, cyn symud i weithio ym Manceinion. Dychwelodd i Ffestiniog lle bu'n gweithio fel chwarelwr a chyfrifydd, cyn cael ei ethol yn oruchwylydd cynorthwyol plwyf Ffestiniog ym 1884. Roedd yn eisteddfodwr pybyr a llwyddiannus. Bu farw ym 1930. Llun: Papur Pawb, 23.12.1899 |
Hon oedd yr eildro i Glan Tecwyn, Penrhyndeudraeth, enill cadair eisteddfod Abermaw, ar ôl ei chipio ym 1892. Cystadleuaeth denau ydoedd - dim ond dwy awdl a dderbyniwyd ar y testun 'Castell Harlech'.
Y CADEIRIAD YN EISTEDDFOD ABERMAW - IEUAN IONAWR
Yn wron Glan y Werydd - ni godwn
I'w Gadair dra chelfydd, O urddas Awdl y bardd sydd Yn frenin i Feirionydd. |
Cawr ydyw ab Ceridwen - a drechodd,
A'i dra uchel awen, Ddoniau beirdd, mae heddyw'n ben Dewr breiniol ar dŵr Bronwen. |
Elfyn, enillydd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898, oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Abermaw 1896. Yn yr un eisteddfod, daeth yn gydradd gyntaf am bryddest ar y testun 'Tragwyddoldeb' gyda'r Parch. Rhys J. Huws, Abermaw.
Yn y ffotograff anhysbys hwn, gwelir Elfyn yn eistedd yng nghadair Eisteddfod Genedlaethol 1898. Un o'r cadeiriau a enillodd yn Abermaw sydd ar y dde iddo yn y llun, ond nid oes modd dweud pa un. Mae ei dyluniad yn ymdebygu'n agos i'r gadair o Eisteddfod Abermaw 1901 y mae lluniau diweddar ohoni'n bodoli, ac felly mae'n debyg mai gwaith yr un gwneuthurwr ydyw.
Y BARDD
Ganed Robert Owen Hughes yn Llanrwst ym 1858. Yn dilyn gadael yr ysgol, bu'n brentis mewn banc cyn cychwyn paratoi i fynd i'r weinidogaeth gyda'r Methodistiaid. Yn lle hynny, treuliodd gyfnod yn gweithio i gyhoeddwr llyfrau yn Llundain. Yn ôl yng Nghymru, ymgartrefodd ym Mlaenau Ffestiniog, a bu'n olygydd nifer o gylchgronnau - Gwalia, Y Rhedegydd, a'r Glorian yn eu plith. Bu am gyfnod hefyd yn llyfrgellydd yn Llan Ffestiniog. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Caniadau Elfyn. By farw ym 1919. Cofnod Elfyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUGH-OWE-1858 |
Elfyn, y bardd o Flaenau Ffestiniog, oedd enillydd cadair Abermaw am yr eildro yn olynol ym 1897. Arweiniwyd seremoni'r cadeirio gan Gwynedd, a chafodd y bardd buddugol ei gyfarch gan Glan Menai, Gwilym Ardudwy, Athron, Glan Cledwen, Ieuan Goch ac eraill.
Roedd pryderon mai hon fyddai'r olaf yn y gyfres o eisteddfodau cadeiriol yn Abermaw, 'oherwydd digwyddiadau diweddar ynglyn ag etholiad y Cyngor Dinesig', yn ôl adroddiad Y Goleuad ar 28 Ebrill. Cyfeirir yma at etholiad O. W. Morris, W. Owen a J. Adams i gyngor dinesig Abermaw ar ddydd Sadwrn 3 Ebrill; etholiad fyrlymus yn ôl pob tebyg, pryd y bu i 'lawer o bethau anheilwng gael eu dweyd am y naill a'r llall', fel y dywed adroddiad Y Dydd ar 9 Ebrill.
Roedd pryderon mai hon fyddai'r olaf yn y gyfres o eisteddfodau cadeiriol yn Abermaw, 'oherwydd digwyddiadau diweddar ynglyn ag etholiad y Cyngor Dinesig', yn ôl adroddiad Y Goleuad ar 28 Ebrill. Cyfeirir yma at etholiad O. W. Morris, W. Owen a J. Adams i gyngor dinesig Abermaw ar ddydd Sadwrn 3 Ebrill; etholiad fyrlymus yn ôl pob tebyg, pryd y bu i 'lawer o bethau anheilwng gael eu dweyd am y naill a'r llall', fel y dywed adroddiad Y Dydd ar 9 Ebrill.
Yn y ffotograff anhysbys hwn, gwelir Elfyn yn eistedd yng nghadair Eisteddfod Genedlaethol 1898. Un o'r cadeiriau a enillodd yn Abermaw sydd ar y dde iddo yn y llun, ond nid oes modd dweud pa un. Mae ei dyluniad yn ymdebygu'n agos i'r gadair o Eisteddfod Abermaw 1901 y mae lluniau diweddar ohoni'n bodoli, ac felly mae'n debyg mai gwaith yr un gwneuthurwr ydyw.
Y BARDD
Ganed Robert Owen Hughes yn Llanrwst ym 1858. Yn dilyn gadael yr ysgol, bu'n brentis mewn banc cyn cychwyn paratoi i fynd i'r weinidogaeth gyda'r Methodistiaid. Yn lle hynny, treuliodd gyfnod yn gweithio i gyhoeddwr llyfrau yn Llundain. Yn ôl yng Nghymru, ymgartrefodd ym Mlaenau Ffestiniog, a bu'n olygydd nifer o gylchgronnau - Gwalia, Y Rhedegydd, a'r Glorian yn eu plith. Bu am gyfnod hefyd yn llyfrgellydd yn Llan Ffestiniog. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Caniadau Elfyn. By farw ym 1919. Cofnod Elfyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUGH-OWE-1858 |
Un arall o brifeirdd eisteddfodau cenedlaethol y dyfodol oedd enillydd y gadair yn Eisteddfod Abermaw 1898; roedd y Parch. Crwys Williams ar y pryd yn 23 oed ac newydd ei ordeinio yn weinidog Rehoboth, Brynmawr, Aberhonddu. Nid oedd yn bresennol yn Abermaw i gael ei gadeirio.
Y BARDD
Ganed Crwys ym 1875 yng Nghraig-cefn-parc. Roedd yn bregethwr ac yn fardd eisteddfodol amlwg. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith; ym 1910 ('Ednyfed Fychan'), ym 1911 ('Gwerin Cymru') ac ym 1919 ('Morgan Llwyd o Wynedd'). Fodd bynnag, fe'i cofir am ei delynegion adnabyddus yn fwy na'i bryddestau eisteddfodol - cerddi fel 'Dysgub y Dail' a'r 'Border Bach'. Bu farw ym 1968. Cofnod Crwys yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-WILL-WIL-1875 |
Cyhoeddwyd o lwyfan Eisteddfod Abermaw yn ystod seremoni'r cadeirio mai hon oedd yr ugeinfed gadair i Bryfir ei hennill.
Derbyniwyd pedair pryddest i'r gystadleuaeth. Roedd Llew Meirion, Gwilym Ardudwy ac Eos Tecwyn ymhlith y beirdd oedd yn rhan o'r seremoni.
Derbyniwyd pedair pryddest i'r gystadleuaeth. Roedd Llew Meirion, Gwilym Ardudwy ac Eos Tecwyn ymhlith y beirdd oedd yn rhan o'r seremoni.
Y GERDD
Gwrthrych y testun oedd William Ewart Gladstone, gwleidydd Rhyddfrydol a wasanaethodd fel prif weinidog Prydain am bedwar tymor rhwng 1868 a 1894, record sy'n sefyll hyd heddiw. Ef hefyd yw'r person hynaf i fod yn brif weinidog; roedd yn 84 oed ar ddiwedd ei bedwaredd tymor ym 1894. Roedd gwraig Gladstone, Catherine, yn ferch i Syr Stephen Glynne o Gastell Penarlâg, Sir y Fflint. Yng Nghastell Penarlâg y bu Gladstone yn byw am fwyafrif ei oes; treuliodd ei flynyddoedd olaf yno a bu farw yno ym 1898. Gyda'r cysylltiad cryf â Chymru, hawdd yw gweld pan y dewisiwyd ei enw yn destun ar gynifer o gystadlaethau yn eisteddfodau'r flwyddyn ddilynol. Llun: Samuel Alexander Walker, Llundain 1892 Cofnod Wicipedia W. E. Gladstone: https://cy.wikipedia.org/wiki/William_Ewart_Gladstonecy.wikipedia.org/wiki/William_Ewart_Gladstone |
Y BARDD
Ganed Humphrey Jones yng Nghwm Croesor ym 1867. Roedd yn fardd cystadleuol ac yn eisteddfodwr poblogaidd a lwyddodd i ennill ymhell dros hanner cant o gadeiriau. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth - Telynau'r Wawr a Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill. Bu farw ym 1947.
Cofnod Bryfdir yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-JONE-HUM-1867.html

1900J. H. WILLIAMS
TRAWSFYNYDD TESTUN UNIGRWYDD FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 4 GWOBR ARIANNOL £3 3s DYDDIAD CADEIRIO 16 EBRILL 1900 BEIRNIAID CADVAN GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
1901R. THOMAS (ATHRON)
CAERNARFON TESTUN YR EFENGYL FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 5 GWOBR ARIANNOL £2 2s DYDDIAD CADEIRIO 8 EBRILL 1901 BEIRNIAID GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS (gwerthwyd yn 2015 o Anthemion Auctions, Caerdydd) Lluniau: Gwefan The Saleroom |
1902EVAN EVANS (WNION)
MACHYNLLETH TESTUN AMYNEDD FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 15 GWOBR ARIANNOL £3 3s DYDDIAD CADEIRIO 31 MAWRTH 1902 BEIRNIAID CADVAN GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH DANIEL OWEN (AP RHYDDERCH)
Y Parch. Evan Wnion Evans, gweinidog gyda'r Annibynnwyr ym Machynlleth, oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Abermaw 1902. Roedd 15 yn ymgeisio, y nifer uchaf ers rhai blynyddoedd.
Y Parch. Evan Wnion Evans, gweinidog gyda'r Annibynnwyr ym Machynlleth, oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Abermaw 1902. Roedd 15 yn ymgeisio, y nifer uchaf ers rhai blynyddoedd.
Bu peth helynt ynglŷn â dyfarniad Cadvan yn yr eisteddfod hon. Y cyhuddiad yn ei erbyn oedd ei fod wedi ymyrryd â'r canlyniad trwy ychwanegu pryddest o'i eiddo ei hun neu eiddo cyfaill iddo at y pedair pryddest ar ddeg a ddaeth i law trwy'r ysgrifennydd, a dyfarnu honno'n fuddugol. Daeth hyn i glyw rhai o'r beirdd aflwyddiannus fu'n ymgiprys am y wobr, gan gynnwys Daniel Owen (Ap Rhydderch), Caerdydd, ac un a'i gelwai ei hun yn 'Carwr eglurhad' ar dudalennau Tarian y Gweithiwr. Bu gohebydd arall, dan y ffugenw 'B. B. D.', hefyd yn eirioli ar ran ffrind iddo oedd o fewn y gystadleuaeth.
Hysbysai rhaglen yr Eisteddfod mai trwy law'r ysgrifennydd y dylid cyflwyno'r pryddestau, a hynny erbyn dyddiad penodol; fel y pwysleisiodd 'Carwr Eglurhad' yn ei lythyr ar 4 Medi 1902, 'un o amcanion gyru y cyfansoddiadau i’r ysgrifenydd yn nghyntaf, yw cadw’r beirniad mewn anwybodaeth o ba le y deuant. Os gwel beirniad “post mark” cyfarwydd iddo, y mae hyny, yn ol tystiolaeth beirniad yn ddiweddar wrthyf, yn anfantais iddo i’w barnu, gan y bydd yn credu y gwyr pwy yw’r awdwr.'
Dywedodd Ap Rhydderch yn ei lythyr yntau ar 18 Medi iddo glywed gan ysgrifennydd yr eisteddfod 'mai 14eg o bryddestau dderbyniwyd yn rheolaidd i’r gystadleuaeth; a phan ddarfu iddo eu trosglwyddo i’r beirniad, i hwnw ddweyd e [sic] fod yntau wedi derbyn UN bryddest hefyd, ac iddo ddylanwadu ar yr ysgrifennydd i’w derbyn i’r gystadleuaeth, er nad oedd gan y naill na’r llall o honynt hawl i wneyd hyn.' Mae'r sefyllfa yn mynd yn fwy ffarsaidd pan noda Ap Rhydderch fod Cadvan wedi llwyddo i anfon yr holl bryddestau yn ôl i'r ysgrifennydd ar wahân i'r buddugol ' 'methodd ddangos un, er gwasgu arno wneyd; ond, wrth gwrs, cafwyd y 14eg rheolaidd oddiwrtho yn ddidrafferth.' Mae min ar gyhuddiad y bardd anwobrwyedig: 'dichon fod bai ar y pwyllgor [am] ofyn am y bryddest cyn ei fod wedi cael amser i'w cynhyrchu; dylasent ystyried fod eisiau cryn amser at beth o'r fath'.
Nid yw'n eglur hyd yma beth fu union ganlyniad y ffrwgwd eisteddfodol hon, gan na fu ymateb gan Cadvan ar dudalennau'r Darian. Ac er gwaetha'r cyfan, Cadvan a wahoddwyd drachefn i feirniadu'r farddoniaeth yn eisteddfod 1903.

1903W. GLYN WILLIAMS
LLANYSTUMDWY TESTUN Y GWYNFYDAU FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 13 EBRILL 1903 BEIRNIAID CADVAN GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Nid oedd y Parch. W. Glyn Williams yn bresennol yn yr eisteddfod i gael ei gadeirio, a chadeiriwyd ei gynrychiolydd, J. Adams, Abermaw, yn ei le. Cafwyd anerchiadau barddol gan Llew Meirion, Glan Wnion ac eraill.
1904-1906
Ni chynhaliwyd eisteddfod gadeiriol yn Abermaw am rai blynyddoedd ar ôl 1903. Ni wyddys y rheswm am hynny, ond roedd gwaith ar droed i ailgodi'r eisteddfodau erbyn 1906, pryd y cynhaliwyd eisteddfod tua adeg y Nadolig, ond heb fod yn gadeiriol. Erbyn 1907, roedd cystadleuaeth y gadair yn ei hôl ar ei newydd wedd.
1907WILLIAM LEWIS (GWILYM ARDUDWY)
DYFFRYN TESTUN ABERMAW I DDOLGELLAU (PRYDDEST DDISGRIFIADOL) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 18 RHAGFYR 1907 BEIRNIAID RHYS J. HUWS GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Cynigiwyd cadair 1907, yr eisteddfod gadeiriol gyntaf yn y gyfres newydd a gynhelid yn ystod mis Rhagfyr, i feirdd nad oeddent wedi ennill cadair cyn hynny. Gwilym Ardudwy o Ddyffryn oedd yr enillydd, un a fu'n bresenoldeb cyson yn seremoniau'r gorffennol i gyfarch y bardd buddugol.
1908DAVID OWEN
DINBYCH TESTUN CANTRE'R GWAELOD FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 6 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 16 RHAGFYR 1908 BEIRNIAID DYFED GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
1909W. H. OWEN (AP HUWCO)
BAE CEMAES, MÔN TESTUN A'R NOS HONO FFUGENW Y DALEN GRIN NIFER YN CYSTADLU 10 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 15 RHAGFYR 1909 BEIRNIAID CADVAN GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Nid oedd enillydd y gadair yn Eisteddfod Abermaw 1909 yn bresennol i gael ei gadeirio, ac fe'i cynrychiolwyd yn y seremoni gan Hugh Evans.
1910ROBERT EVANS (CYBI)
LLANGYBI TESTUN CARIAD BRAWDOL (PRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 7 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 14 RHAGFYR 1910 BEIRNIAID ALAFON LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Hon oedd y bumed cadair i Cybi ei hennill. Gwnaethpwyd y gadair gan Hugh Davies, saer o Ddolgellau.
Y BARDD
Ganed Cybi yn Llangybi ym 1871, ac yno y bu'n byw gydol ei oes. Roedd yn fardd, yn sgrifennwr ac yn llyfrwerthwr. Roedd yn dra cynhyrchiol. Meddai Colin Gresham amdano yn y Bywgraffiadur Cymreig - 'nid oes mynwent yn Eifionydd nad oes yno englyn neu doddaid o'i waith'. Cyhoeddodd bron i ddeg ar hugain o gyfrolau o bob math. Bu farw ym 1956, yn 84 oed.
Cofnod Cybi yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-EVAN-ROB-1871.html

CYFEIRIADAU
1888
- 'Eisteddfod Abermaw' yn Y Genedl Gymreig, 07.03.1888
- 'Eisteddfod Gadeiriol Abermaw' yn Y Dydd,
- Glan Wnion, 'Dau Englyn' yn Y Dydd, 23.03.1888
- 'Rhydfelen and Y Gangell' ar wefan British Listed Buildings, cyrchwyd 27.08.2021 https://britishlistedbuildings.co.uk/300023990-rhydfelen-and-y-gangell-cynwyl-elfed#.YSjrho5KhPY
1890
- 'Eisteddfod Gadeiriol Abermaw' yn Y Dydd, 07.03.1890
- Beirniadaeth Hawen yn Y Genedl Gymreig, 30.04.1890, 07.05.1890
- 'Buddugoliaeth Penar' yn Tarian y Gweithiwr, 16.10.1890
- gwefan archifau LlGC, cyrchwyd 31.03.2021 https://darganfod.llyfrgell.cymru/primo-explore/fulldisplay/44NLW_ALMA21857695480002419/44WHELF_NLW_NUI
1892
- 'Dolgellau' yn Baner ac Amserau Cymru, 20.04.1892
- 'Eisteddfod Gadeiriol Abermaw' yn Y Dydd, 22.04.1892
1893
- 'Eisteddfod Gadeiriol Abermaw' yn Y Genedl Gymreig, 04.04.1893
- 'Eisteddfod Gadeiriol Abermaw' yn Y Dydd, 07.04.1893
1894
- 'Abermaw' yn Y Dydd, 30.03.1894
1895
- 'Eisteddfod Gadeiriol Yr Abermaw' yn Y Genedl Gymreig, 16.04.1895
- 'Eisteddfod Gadeiriol Abermaw' yn Y Dydd, 19.04.1895
- Ieuan Ionawr, 'Y Cadeiriad yn Eisteddfod Abermaw', yn Y Dydd, 19.04.1895
1896
- 'Abermaw' yn Y Dydd, 10.04.1896
1897
- 'Abermaw' yn Y Dydd, 09.04.1897
- 'Eisteddfod Abermaw' yn Y Dydd, 23.04.1897
- 'Eisteddfod Gadeiriol Abermaw' yn Gwalia, 27.04.1897
- 'Newyddion Cymreig' yn Y Goleuad, 28.04.1897
1898
- 'Eisteddfod Abermaw' yn Y Negesydd, 15.04.1898
- 'Newyddion Cymreig' yn Y Dydd, 15.04.1898
- Cofnod Crwys yn y Bywgraffiadur Cymreig, cyrchwyd 01.04.2021, https://biography.wales/article/s2-WILL-WIL-1875
- 'Llwyddiant Eisteddfodol' yn Y Tyst, 27.04.1898
1899
- 'Eisteddfod Gadeiriol Abermaw Llun y Pasg' yn Y Genedl Gymreig, 04.04.1899
- 'Eisteddfod Yr Abermaw' yn Y Dydd, 07.04.1899
- Cofnod Wikipedia William Ewart Gladstone, cyrchwyd 01.04.2021, https://en.wikipedia.org/wiki/William_Ewart_Gladstone
1900
- 'Eisteddfod Gadeiriol Abermaw' yn Y Genedl Gymreig, 17.04.1900
1901
- 'Eisteddfod Gadeiriol Yr Abermaw' yn Y Dydd, 12.04.1901
1902
- 'Eisteddfod Abermaw' yn Baner ac Amserau Cymru, 02.04.1902
- 'Eisteddfod Abermaw' yn Y Dydd, 04.04.1902
- 'Carwr Eglurhad', 'Gair at B. B. D. yn Tarian y Gweithiwr, 04.09.1902
- B. B. D., 'Gair at Cadfan' yn Tarian y Gweithiwr, 11.09.1902
- Ap Rhydderch yn Tarian y Gweithiwr, 18.09.1902
1903
- 'Eisteddfod Yr Abermaw' yn Y Dydd, 17.04.1903
- 'Eisteddfod Abermaw' yn Baner ac Amserau Cymru, 22.04.1903
1907
- 'Eisteddfod Gadeiriol Abermaw' yn Yr Herald Cymraeg, 24.12.1907
- 'Eisteddfod Gadeiriol Abermaw' yn Baner ac Amserau Cymru, 25.12.1907
1908
- 'Eisteddfod Abermaw' yn Yr Herald Cymraeg, 12.12.1908
1909
- 'Eisteddfod Yr Abermaw' yn Y Dydd, 17.12.1909
- 'Eisteddfod Gadeiriol Abermaw' yn Yr Herald Cymraeg, 21.12.1909
1910
- 'Eisteddfod Yr Abermaw' yn Y Dydd, 16.12.1910