Mae'r hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.
1977 | 1994 | 2019 | 2020

Cynhelir eisteddfod gadeiriol flynyddol Llandderfel ar ddydd Gwener y Groglith. Cyhoeddir y cyfansoddiadau llenyddol buddugol yn Llên y Llannau, cyfrol gyfansoddiadau eisteddfodau Llandderfel, Llanuwchllyn, Llanfachreth a Llangwm.
Y GERDD
Cerdd yn y wers rydd gynganeddol enillodd gadair Eisteddfod Llandderfel i Tony Elliot ym 1977. Mae'r gerdd yn ymateb i'w brofiad o ymweld â Chilmeri, fel y mae'n ei nodi yn ei ragymadrodd iddi:
Ar ôl treulio awr yng Nghilmeri. Y lleisiau yn y gerdd yw lleisiau'r coed, y dail, y gwynt, a'r afon; hefyd y "Lleisiau" oedd yn llenwi fy meddwl wrth sefyll ar lan Irfon, sef lleisiau Llywelyn a'i filwyr; lleisiau'r Saeson; a sŵn y brwydro.
Gellir darllen y gerdd fuddugol yng nghyfrol Llên y Llannau 1977, a olygwyd gan y Parchedig W. J. Edwards.

Cofnododd Cefnfab, y bardd buddugol, rhywfaint o hanes y cadeiriol yn Llandderfel ar gyfer gwefan BBC Lleol yn 2004:
Mae gen i atgofion melys o'r amser pan enillais gadair Eisteddfod Llandderfel, neu yn hytrach Priodas y Pasg. Ie, dyna sut yr wyf i yn dal i nodi'r diwrnod hwnnw ar brynhawn Gwener y Groglith yn 1994. Hon oedd fy nghadair gyntaf i mi ei hennill yng ngogledd Cymru.
Felly, fel bardd a'i ddychymyg yn effro, 'roeddwn yn teimlo bod elfennau'r nefoedd am ddathlu'r achlysur byth cofiadwy, trwy adael cenllysg i ddisgyn fel reis ar fy mhen wrth i mi gyrraedd y pentref. Dyna'r rheswm i mi alw'r eisteddfod yn Briodas y Pasg.
Cefais wefr arall hefyd yn ystod y cadeirio. Wedi i'r seremoni orffen methais ddeall paham nad oedd neb wedi rhoi cadair i mi. Cyn hyn cadair fach a welais yn cael ei chyflwyno i'r bardd buddugol. Hwn oedd y tro cyntaf i mi ennill un fawr, ac nid oeddwn wedi sylweddoli fy mod eisoes yn eistedd yn fy ngwobr.
Gellir darllen yr erthygl yn llawn yma.

Y BARDD
Ganed Thomas Graham Williams ym 1936 yng Nghefn Bryn Brain. Cafodd ei enw barddol o enw'r pentref. Gweithiodd fel glowr cyn cael addysg bellach yn hwyrach yn ei oes, a graddio o'r Brifysgol agored. Roedd yn gystadleuydd llwyddiannus mewn eisteddfodau lleol ar hyd a lled y wlad; ac yn adnabyddus am ei berfformiadau adrodd yn ogystal â'i gamp o ennill dros 80 o gadeiriau barddol. Roedd yn perfformio sioe un-dyn ar hanes Dylan Thomas ac yn dysgu Cymraeg i oedolion. Bu farw yn Ionawr 2020, yn 86 oed. Llun: Cefnfab gyda chadair a enillodd yn Eisteddfod Tregaron 2005 (cefnfab.co.uk) Bywgraffiad Cefnfab ar ei wefan bersonol: http://www.cefnfab.co.uk/biog.htm |
Dyma hanes seremoni'r cadeirio o Adroddiad Eisteddfod Llandderfel 2019, y gellir ei ddarllen yn ei gyfanrwydd ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yma:
Cadeirwyd y bardd buddugol, Menna Medi dan lywyddiaeth Ian Lloyd Hughes gyda Gwen Edwards yn traddodi'r feirniadaeth. Cyrchwyd y bardd i'r llwyfan gan Sian, Henblas ac Emma, Cae Pant. Cafwyd cyfarchion barddonol gan y Prifardd Elwyn Edwards a Beryl Griffiths gyda John Ifor Griffiths yn canu Cân Y Cadeirio yn wefreiddiol.

2020
Fel mwyafrif eisteddfodau'r flwyddyn, ni chynhaliwyd eisteddfod gadeiriol y Groglith yn Llandderfel yn 2020 oherwydd yr argyfwng COVID-19.
1994
'Cenllysg a Chadair' ar wefan BBC Lleol Gogledd Orllewin Cymru. Cyrchwyd 06.05.20
https://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/safle/eisteddfodau/pages/cefnfab.shtml
2019
Adroddiad Eisteddfod Gadeiriol Llandderfel 2019, ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Cyrchwyd 06.05.20 http://smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2019/05/Canlyniadau-LLANDDERFEL-2019.pdf