Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Gwyn Parry Williams, Chwilog; Hilma Lloyd Edwards, Bontnewydd;
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

1960
1961 1962 Henry Hughes 1963 1964 1965 1966 1967 1968 1969 |
1970
1971 1972 1973 1974 1975 1976 Dewi Jones 1977 1978 Eirlys Williams 1979 Dewi Jones |
1980 T. Gwynn Jones
1981 R. O. Williams 1982 1983 Robat Powell 1984 Islwyn Williams 1985 1986 1987 1988 Alwyn Thomas 1989 Dafydd Evan Morris |
1990
1991 1992 R. O. Williams 1993 1994 Rheinallt Griffith 1995 1996 Dafydd Guto Ifan 1997 Hilma Lloyd Edwards 1998 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD 1999 Hilma Lloyd Edwards [2] |
2000 Hilma Lloyd Edwards [3]
2001 2002 Wyn Roberts 2003 Menna Medi 2004 Karen Owen 2005 Llinos Dafydd 2006 Guto Dafydd 2007 T. Graham Williams (Cefnfab) 2008 Gareth Williams (Gareth Neigwl) 2009 Annes Glynn |
2010 Brian Wyn Ifans
2011 Robin Hughes 2012 Peter James 2013 Richard Morris Jones 2014 Guto Dafydd 2015 Tudur Puw 2016 Iestyn Tyne 2017 Robin Hughes [2] 2018 Richard Llwyd Jones 2019 Ffion Gwen Williams |
2020 Grug Muse
2021 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
2022 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
2023 Ffion Gwen Williams [2]
2024 Abner Eifion Hughes
2021 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
2022 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
2023 Ffion Gwen Williams [2]
2024 Abner Eifion Hughes
Y BARDD
Cyn-lyfrgellydd o Dremadog yn wreiddiol yw Dafydd Guto Ifan, ac mae bellach yn byw yn Llanrug, Arfon. Enillodd ddegau lawer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol.

Ganed Hilma Lloyd Edwards ym 1959, ac fe ddaw o Fontnewydd. Cyhoeddodd amryw byd o lyfrau Cymraeg i blant a chyfrol o'i barddoniaeth, Tir Newydd a Cherddi Eraill trwy Wasg y Bwthyn yn 2008. Enillodd oddeutu hanner cant o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol rhwng canol y 1980au a chanol y 2000au, cyn cipio Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008 am ei hawdl, 'Tir Newydd'. Mae'n un o ddwy fenyw yn unig i gyflawni'r gamp hon.
Cofnod Hilma Lloyd Edwards ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/Hilma_Lloyd_Edwards

1998
Ni chynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Chwilog ym 1998.

Yr eisteddfodwr adnabyddus, Cefnfab, oedd bardd y gadair yn Eisteddfod Chwilog 2007. Ymhlith yr enillwyr llenyddol eraill roedd R. J. Rowlands, Y Bala (Englyn); Dona Baines, Y Bala (Englyn Ysgafn); a Tegwyn Jones, Llangwm (Cân Ddigrif).
Y BARDD
Ganed Thomas Graham Williams ym 1936 yng Nghefn Bryn Brain. Cafodd ei enw barddol o enw'r pentref. Gweithiodd fel glowr cyn cael addysg bellach yn hwyrach yn ei oes, a graddio o'r Brifysgol agored. Roedd yn gystadleuydd llwyddiannus mewn eisteddfodau lleol ar hyd a lled y wlad; ac yn adnabyddus am ei berfformiadau adrodd yn ogystal â'i gamp o ennill dros 80 o gadeiriau barddol. Roedd yn perfformio sioe un-dyn ar hanes Dylan Thomas ac yn dysgu Cymraeg i oedolion. Bu farw yn Ionawr 2020, yn 86 oed.
Bywgraffiad Cefnfab ar ei wefan bersonol:
http://www.cefnfab.co.uk/biog.htm

Hon oedd cadair farddol gyntaf Gareth Neigwl o Fotwnnog. Fe'i henillodd am gyfres o gerddi caeth ar y testun 'Cysur', a dyma'r eildro yn unig iddo gystadlu am brif wobr mewn eisteddfod. Wrth drafod ei fuddugoliaeth mewn eitem ym mhapur bro Llanw Llŷn, a gyhoeddwyd ar wefan BBC Lleol y Gogledd Orllewin, roedd Gareth Neigwl yn awyddus i dalu teyrnged i feirdd a fu'n ddylanwad arno wrth fireinio'i grefft:
Mae dau berson yr hoffwn dalu teyrnged iddyn nhw, sef Dic Goodman, a'm ysbrydolodd ac a ddysgodd i mi gynganeddu pan o'n i'n 30 oed. Yr ail ydi Twm Morus, sy'n dal i gynnal nosweithiau cynganeddu yn Nhafarn y Plu, Llanystumdwy, ers pum mlynedd bellach. Dyna lle bydda i'n mynd ac mae'r ddisgyblaeth o orfod gwneud rhywbeth ar gyfer y noson yn fy ngorfodi i ymarfer y grefft.
Yng nghystadlaethau eraill yr adran farddoniaeth, daeth llwyddiant i ran G. Owen, Caeathro (Englyn, Englyn Ysgafn); Olwen Canter, Wrecsam (Telyneg); a Menna Medi, Groeslon (Cân Ddigrif).

Y GADAIR
Llew Jones, Rhosfawr, oedd yn gyfrifol am ddylunio a chreu y gadair fach.

Bardd o Bên Llŷn yw Gareth Neigwl. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Tir Mawr ac yn gyfrifol am golofn farddol papur bro Llanw Llŷn.

Robin Hughes, Llanfyllin, yn wreiddiol o Bwllheli, oedd enillydd y gadair yn Eisteddfod Chwilog 2011. Ymhlith enillwyr eraill yr adran farddoniaeth roedd R. J. H. Griffiths (Machraeth), Bodffordd (Englyn); Curig Pritchard, Groeslon (Englyn Ysgafn); a John Meurig Edwards, Aberhonddu (Telyneg, Cân Ddigrif).
Y BARDD
Daw Robin Hughes, Llanfyllin, o Bwllheli yn wreiddiol. Enillodd doreth o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol. Mae'n gyn-athro daearyddiaeth, a bu'n golygu papur bro Yr Ysgub am dros 30 mlynedd.

Enillodd y Canon Peter James, Llithfaen, ei gadair gyntaf yn Eisteddfod Chwilog 2012. Yng nghystadlaethau eraill yr adran farddoniaeth roedd llwyddiant i Dewi ap Rhobert, Talwrn (Englyn); D. Emrys Williams, Llangernyw (Englyn ysgafn); Rheinallt Griffith, Rhydymain (Telyneg); a John Meurig Edwards, Aberhonddu (Cân Ddigrif).
Iestyn Tyne oedd enillydd y gadair yn Eisteddfod Chwilog 2016. Roedd ar y pryd yn 18 oed ac yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Enillydd Tlws yr Ifanc yn yr un eisteddfod oedd Gruffydd Rhys Davies, Chwilog. Yn y cystadlaethau barddonol eraill roedd Iestyn Tyne hefyd yn fuddugol ar y delyneg, a chafwyd llwyddiant hefyd i R. D. Owen, Llanfairtalhaiarn (Englyn, Cân Ddigrif) a John Ffrancon Griffith, Abergele (Englyn Ysgafn).

Y CERDDI
Dilyniant o bum cerdd yw 'Cymodi', sy'n agor ym Mharis ar noson ymosodiadau terfysgol 2015, mewn cyngerdd gan fand roc. Mae'r dilyniant yn ymdrin ag ymateb y byd i'r digwyddiad yma, ac yn cwestiynu a oes cymodi wedi bod yn y pen draw.
Isod, gallwch ddarllen y soned sy'n cloi'r dilyniant, ymateb i farwolaeth Alan Kurdi, ffoadur dwy oed o Syria a foddwyd wrth geisio croesi Mor y Canoldir ym mis Medi 2015. Mae'r casgliad cyfan ar gael i'w lawrlwytho fel PDF o dan y gerdd. Cyhoeddwyd y dilyniant yn wreiddiol ar flog Tumblr Iestyn Tyne.

CYMODI? - IESTYN TYNe
Yn fwndel bach fe ddaethost ‘nôl i'r lan;
i'th orffwys olaf ar y graean llaith –
Mor frau, a'r môr yn llarpio'r breichiau gwan
sy'n llonydd yn y dŵr – yn wyn, heb graith
yn dyst i'th derfyn ddidrugaredd di;
Dy freuddwyd olaf nawr dan glo yng nghell
y dwfr; yn gaeth yng ngharchar oer y lli,
a'th wyneb gwag yn gwylio'r gorwel pell –
y linell las fu'n destun hiraeth hud
i ti, o straeon gwych dy Dad – fan draw
roedd croeso, cyfarch – gwên a gwres y byd
yn aros i dy warchod di rhag braw;
A sylwaist dwyll y geiriau melys hyn
wrth suddo'n swp o dan yr ewyn gwyn?

Cliciwch ar y botwm i lawrlwytho PDF o 'Cymodi', dilyniant y gadair yn Eisteddfod Gadeiriol Chwilog 2015.
|
|
Y BARDD
Ganed Iestyn Tyne ym 1997. Mae'n gyd-sefydlydd a chyd-olygydd cylchgrawn a chyhoeddiadau'r Stamp; mae hefyd yn llenor ac yn gerddor. Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd yn 2016, a'i chadair yn 2019 - sy'n golygu mai ef yw'r cyntaf i fod wedi ennill dwy brif wobr lenyddol yr Urdd. Ef yw curadur y wefan hon, sy'n ymchwilio i hanesion cadeiriau eisteddfodol coll. Yn 2019, fe'i penodwyd yn fardd preswyl cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol. Llun: gyda chadair Chwilog 2016 (Cambrian News) |
Enillodd Robin Hughes gadair Eisteddfod Chwilog am yr eildro yn 2017; ef hefyd oedd bardd cadeiriol 2011. Aeth Tlws yr Ifanc i Luned Hughes o Lanarmon, disgybl yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli.
Llun: Robin Hughes a'i gadair o wneuthuriad John Tollitt (Cambrian News)
Llun: Robin Hughes a'i gadair o wneuthuriad John Tollitt (Cambrian News)
Y BARDD
Daw Robin Hughes, Llanfyllin, o Bwllheli yn wreiddiol. Enillodd doreth o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol. Mae'n gyn-athro daearyddiaeth, a bu'n golygu papur bro Yr Ysgub am dros 30 mlynedd.
Daw Robin Hughes, Llanfyllin, o Bwllheli yn wreiddiol. Enillodd doreth o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol. Mae'n gyn-athro daearyddiaeth, a bu'n golygu papur bro Yr Ysgub am dros 30 mlynedd.
Richard Llwyd Jones, enillydd cyson mewn eisteddfodau lleol, aeth a'r gadair yn Eisteddfod Chwilog 2018. Cipiwyd Tlws yr Ifanc gan Beca Evans o Gwm Pennant, myfyriwr yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli. Daeth rhagor o lwyddiant i Richard Llwyd Jones yn yr adran farddoniaeth gan mai ef oedd enillydd cystadleuaeth yr englyn; y buddugwyr eraill oedd R. D. Owen, Llanfairtalhaiarn (Englyn Ysgafn, Cân Ddigrif); a Gaenor Mai Jones, Pentre'r Eglwys (Telyneg).
Y GADAIR
Fel yr arfer ers sawl blwyddyn, John Tollitt, ymgymerwr angladdau o Chwilog, oedd yn gyfrifol am saernio'r gadair fechan a'i chyflwyno'n rhodd i'r pwyllgor.
Llun: John Tollitt yn cyflwyno cadair 2018 i Gwyn Parry Williams, ysgrifennydd yr eisteddfod (Cambrian News)

Bardd o Fethel yw Richard Llwyd Jones. Mae'n enillydd cyson mewn eisteddfodau lleol ledled y wlad, ac yn aelod o dim Llanrug ar gyfres Talwrn y Beirdd.

Hon oedd pumed cadair farddol Ffion Gwen Williams o Lanefydd. Yn yr un eisteddfod, daeth Cai Fon Williams o Fangor i'r brig yng nghystadleuaeth Tlws yr Ifanc.
Y BARDD
Daw Ffion Gwen Williams o Lanefydd ac mae'n dysgu Drama a'r Gymraeg yn Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn.

ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH GWENALLT LLWYD IFAN [2], HEDD BLEDDYN [3]
Hon oedd un o'r eisteddfodau prin iawn y llwyddwyd eu cynnal ar ddechrau 2020, cyn i effeithiau'r pandemig COVID-19 orfodi cyfnodau clo o ganol mis Mawrth ymlaen, a gohirio llawer o ddigwyddiadau cyn hynny. Roedd hon yn gystadleuaeth anghyffredin o safonol, yn ol pob tebyg, gyda chwech o'r 13 ymgeisydd yn teilyngu'r gadair. Yn anarferol iawn, cyhoeddwyd enwau'r sawl oedd yn ail a thrydydd yn y gystadleuaeth o'r llwyfan yn ystod y seremoni.
Grug Muse o Garmel, Arfon oedd enillydd y gadair. Roedd hi ar y pryd yn fyfyriwr doethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Ela Pari, Aberdaron, myfyriwr yng Ngholeg Meirion Dwyfor Pwllheli, oedd enillydd Tlws yr Ifanc. Fel arall yn yr adran farddoniaeth, cafwyd llwyddiant i Abner Eifion Hughes, Llangybi (Englyn); Arwel Emlyn Jones, Rhuthun (Englyn Ysgafn); John Meurig Edwards, Aberhonddu (Telyneg); ac R. D. Owen, Llanfairtalhaiarn (Cân Ddigrif).

Dilyniant o dair cerdd dros gyfnod un noson mewn ty yn Aberystwyth yw'r gwaith buddugol - 'Unarddeg yr hwyr, trwy ffenest gilagored', 'Ganol nos', a 'Ben bore'. Nododd y bardd ar ei chyfrif instagram fod y gerdd gyntaf yn ymgais ar ffurf y terza rima, ac mai sestina yw'r ail. Mae llefarydd dienw'r cerddi yn clywed pob smic yn y noson fwyn, y peiriant sychu sydd yn 'rhywle'n gwneud swn tagu', golau stafell folchi yn cael ei ddiffodd, a 'boilar ty drws nesa yn ochneidio'. Yng nghanol y nos, mae'n deffro gan ddychryn y gath, ac yn crwydro'r ty llonydd - 'ty sy'n cysgu, yn welw yng ngolau'r os a'i grwndi'. Yn y gerdd olaf, gynnil, ceir y llefarydd yn deffro 'mewn gwely gwag', ac awgrym at golled wrth iddynt ddwyn i gof rywun arall 'yn llwytho dy dri siwgr / i dy goffi du'. Ceir allwedd i haenau'r gerdd yn y llinell sy'n dweud i rhywun ddweud unwaith 'fod tystio'n fath o gariad', a gwelir mai gweithred o gariad yw'r holl graffu a gwrando allan am y manion lleiaf yn y ty gwag.
A dwi'n deffro heddiw
a diflannu mewn i'r bore
fel stem o big y tegell.
Cyhoeddwyd y cerddi buddugol gan y bardd ar ei chyfrif Instagram.

Crefftwr y gadair, yn ol yr arfer, oedd John Tollit, Chwilog.
Llun: Gwyn Parry Williams a Delyth Wyn Davies (Ysgrifennydd a Chadeirydd Pwyllgor yr Eisteddfod) gyda'r gadair o flaen Neuadd Goffa Chwilog (Dewi Wyn, Cambrian News)

Mae Grug Muse (1993) yn fardd, yn olygydd, yn berfformiwr ac ymchwilydd o Ddyffryn Nantlle. Astudiodd Wleidyddiaeth yn Nottingham a'r Weriniaeth Tsiec, a dilyn cwrs ôl-radd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n un o sylfaenwyr cylchgrawn creadigol Y Stamp. Cyhoeddodd gyfrol o gerddi, Ar Ddisberod (2017), a phamffled, Llanw + Gorwel (2019). Enillodd ei hail gyfrol, merch y llyn (2021), gategori barddoniaeth gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2022.

2021-22
Ni chynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Chwilog yn 2021 a 2022 oherwydd cyfyngiadau'r pandemig COVID-19.
Ffion Gwen Williams, athrawes Gymraeg yn Ysgol Glan Clwyd, Dinbych, oedd enillydd cadair Chwilog yn 2023, a hynny am yr eildro gan iddi ennill yr un gystadleuaeth yn 2019.
Gruffud ab Owain o'r Bala oedd enillydd Tlws yr Ifanc allan o 24 ymgeisydd; ef enillodd Dlws yr Ifanc yn Eisteddfod Caerdydd ar yr un diwrnod hefyd, ond dewisodd fod yn bresennol yn Chwilog! Yn y cystadlaethau barddonol eraill daeth llwyddiant i Richard Lloyd Jones, Bethel (Englyn); Alan Iwi, Didcot (Englyn Ysgafn); Aled Evans, Trisant (Telyneg); a Megan Richards, Aberaeron (Cân Ddigrif).
Llun: Ffion Gwen Williams gyda'i chadair ac arweinydd y seremoni, Alun Jones
Gruffud ab Owain o'r Bala oedd enillydd Tlws yr Ifanc allan o 24 ymgeisydd; ef enillodd Dlws yr Ifanc yn Eisteddfod Caerdydd ar yr un diwrnod hefyd, ond dewisodd fod yn bresennol yn Chwilog! Yn y cystadlaethau barddonol eraill daeth llwyddiant i Richard Lloyd Jones, Bethel (Englyn); Alan Iwi, Didcot (Englyn Ysgafn); Aled Evans, Trisant (Telyneg); a Megan Richards, Aberaeron (Cân Ddigrif).
Llun: Ffion Gwen Williams gyda'i chadair ac arweinydd y seremoni, Alun Jones
Y BARDD
Daw Ffion Gwen Williams o Lanefydd ac mae'n dysgu Drama a'r Gymraeg yn Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn.
Daw Ffion Gwen Williams o Lanefydd ac mae'n dysgu Drama a'r Gymraeg yn Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn.
CYFEIRIADAU
1997
- gohebiaeth e-bost gyda Hilma Lloyd Edwards, Bontnewydd (04.06.2019)
1998
- gohebiaeth e-bost gyda Gwyn Parry Williams, Chwilog (21.08.2017)
1999

2007
- 'Eisteddfod Gadeiriol Chwilog results' o'r Daily Post, 24.01.2007, cyrchwyd ar-lein 14.02.2023 www.thefreelibrary.com/WALES%3a+Eisteddfod+Gadeiriol+Chwilog+results.-a0158190538
2008
- 'Eisteddfod Gadeiriol Chwilog' ar wefan y Daily Post, 21.01.2008, cyrchwyd 14.02.2023 www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/eisteddfod-gadeiriol-chwilog-2850272
- 'Y gadair gyntaf i Gareth' ar wefan BBC Lleol y Gogledd Orllewin, 02.2008, cyrchwyd 14.02.2023 www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/papurau_bro/llanw_llyn/newyddion/chwefror08.shtml
2000

2010
- 'Canlyniadau Eisteddfod Chwilog 2010' ar wefan Golwg360, 25.01.2010, cyrchwyd 10.02.2023 golwg.360.cymru/archif/21657-canlyniadau-eisteddfod-chwilog-2010
2011
- 'Canlyniadau Eisteddfod Gadeiriol Chwilog 2011' ar wefan Golwg360, 22.01.2011, cyrchwyd 11.02.2023 golwg.360.cymru/celfyddydau/eisteddfodau/3767-canlyniadau-eisteddfod-gadeiriol-chwilog-2011
2012
- 'Canlyniadau Eisteddfod Gadeiriol Chwilog' ar wefan Golwg360, 01.02.2012, cyrchwyd 10.02.2023 golwg.360.cymru/newyddion/cymru/64632-canlyniadau-eisteddfod-gadeiriol-chwilog-21-ionawr-2012
- Eryl Crump, 'Eisteddfod Chwilog 2012 - Results' ar wefan y Daily Post, 25.01.2012, cyrchwyd 11.02.2023 www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/eisteddfod-chwilog-2012-results-2673519
2013

2016
- 'Chwilog' ar wefan y Cambrian News, 17.02.2016, cyrchwyd 10.02.2023 www.cambrian-news.co.uk/news/chwilog-86205
2017
- 'Eisteddfod Gadeiriol Chwilog' ar wefan y Cambrian News, 25.01.2017, cyrchwyd 10.02.2023 www.cambrian-news.co.uk/news/eisteddfod-gadeiriol-chwilog-92147
2018
- 'Cadair yr Eisteddfod wedi'i chyflwyno' ar wefan y Cambrian News, 10.01.2018, cyrchwyd 10.02.2023 www.cambrian-news.co.uk/news/cadair-yr-eisteddfod-wedii-chyflwyno-97697
- 'Community News: Chwilog' ar wefan y Cambrian News, 31.01.2018, cyrchwyd 10.02.2023 www.cambrian-news.co.uk/news/community-news-chwilog-98075
2019
- 'Eisteddfod yn denu cystadleuwyr o bell ac agos' ar wefan y Cambrian News, 25.01.2019, cyrchwyd 10.02.2023 www.cambrian-news.co.uk/news/eisteddfod-yn-denu-cystadleuwyr-o-bell-ac-agos-104025
2020
- Canlyniadau Eisteddfod Gadeiriol Chwilog 2020 ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, cyrchwyd 10.02.2023 smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2020/01/Canlyniadau-Eisteddfod-Chwilog-2020.pdf
- Diweddariadau byw ar Twitter gan Sian Eleri Roberts [@siantirdu] gyda'r hashnod #steddfodchwilog, 18.01.2020, cyrchwyd 10.02.23
- 'Yr Oriau Man', cerddi buddugol Eisteddfod Chwilog ar gyfrif instagram @grugmuse, 25.01.2020, cyrchwyd 10.02.2023
2021-22
- 'Canslo Eisteddfod gyntaf 2021' ar wefan Golwg360, 03.08.2020, cyrchwyd 10.02.2023 golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2007053-canslo-eisteddfod-gyntaf-2021
2023
- Canlyniad Eisteddfod Gadeiriol Chwilog 2023 ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, cyrchwyd 10.02.23 steddfota.cymru/wp/wp-content/uploads/2023/01/Canlyniadau-Eisteddfod-Chwilog-2023.pdf
2024
- Canlyniadau Eisteddfod Gadeiriol Chwilog 2024 ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, cyrchwyd 25.02.2024 https://steddfota.cymru/wp/wp-content/uploads/2024/01/Adroddiad-a-Chanlyniadau-Eisteddfod-Chwilog-2024.pdf