Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid;
Mae'r hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.
1969 | 1971 | 2007 | 2011 | 2012 | 2013 | 2014 | 2015 | 2019 | 2020

Y CERDDI
Am '[dd]ilyniant o Gerddi Cynganeddol, yn cynnwys rhai mesurau traddodiadol a rhai penrhydd' y gofynnwyd yng nghystadleuaeth 1969. Mae dilyniant buddugol y Parchedig John Roberts yn amrywio o gywydd mawl i'r haul i gadwyn o englynion i 'ferch i sipsi', ac yn grwydro o Borth y Dryw ym Môn i Ben y Pas.
Ar ôl treulio mwyafrif ei ddilyniant yn moli'r awyr agored yn Eryri a Môn, mae ei gerdd olaf, 'Gwae'r Awyr Agored', yn gerdd fwy rhybuddiol ei thôn, ac yn cyfeirio at effaith datblygiad materol dyn ar y 'mud eangderau'. Ceir rhagolwg tywyll o effaith datblygiadau pŵer niwclear (roedd pwerdy Trawsfynydd wedi agor ym 1965):
Maen gwenwyn strontiwm yn drwm ar drumiau,
A glŷn ei gancr wrth drigolion gwyw:
Ein gwlad yn gur ac yn glwy dan gerydd,
Ond ni leisiwn gri am dosturi Duw.
Gellir darllen y gerdd yn ei chyfanrwydd yn O Fedel Pantyfedwen (1969), cyfansoddiadau llenyddol buddugol Eisteddfod Pontrhydfendigaid.
CYFANSODDIADAU ERAILL
Bryn Martin Davies (Prifardd Coronog 1970 a 1971) enillodd y goron yn Eisteddfod Pantyfedwen 1969, a hynny am bryddest ar y testun 'Toriad Gwawr', a gyfansoddwyd ganddo er cof am Gwenallt. B. T. Hopkins, un o feirdd y Mynydd Bach, oedd yn fuddugol ar yr englyn er cof am Wil Ifan. Dyma'r englyn:
O ddaear iraidd Hawen, - hwn a ddaeth
Gyda'i ddawn yn llawen,
I lenwi llestri ein llên
 newydd win ei awen.

Y BARDD
Pregethwr, emynydd a bardd, yn wreiddiol o Lanfachreth ym Môn, oedd John Roberts (1910-1984). Bu'n weinidog ym Mhorthmadog, y Bala, a Chaernarfon, gan dreulio blynyddoedd olaf ei oes yn y dref honno. Roedd yn bregethwr adnabyddus a phoblogaidd, a daeth yn adnabyddus hefyd fel bardd, gan gyhoeddi cyfrol o'i gerddi, Cloch y Bwi (1958).
Cofnod John Roberts yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c6-ROBE-JOH-1910

Roedd Alan Llwyd, neu Alan Lloyd Roberts fel y rhoddir ei enw yng nghyfrol gyfansoddiadau'r eisteddfod, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor ar y pryd, ac ef hefyd oedd enillydd y goron yn yr un eisteddfod, am ddilyniant o ddeg o gerddi rhydd gwreiddiol heb eu cyhoeddi.
Y GERDD
Awdl er cof am dri ymgyrchydd cenedlaetholgar amlwg a fu farw o fewn blwyddyn i'w gilydd ym 1970 - D. J. Williams, J. R. Jones a J. E. Jones - yw'r gerdd fuddugol. Bu farw David John Williams ar 4 Ionawr, ar ôl bod yn areithio yng Nghapel Rhydcymerau; John Edward Jones ar 30 Mai mewn damwain car, tra'n ymgyrchu yn Etholiad Cyffredinol 1970; a John Robert Jones ar 3 Mehefin. Bu'n etholiad cythryblus ar sawl cyfrif i bleidleiswyr Plaid Cymru - nid yn unig trwy iddynt golli rhai o'u hoelion wyth yn ystod y flwyddyn, ond am i'r Ceidwadwyr (dan arweiniad Edward Heath) gipio mwyafrif annisgwyl trwy Brydain, ac i Gwynfor Evans golli unig sedd y Blaid yng Nghaerfyrddin, bedair blynedd ar ôl ei fuddugoliaeth hanesyddol ym 1966.
Golwg go ddu ar bethau sydd wrth i Alan Llwyd agor ei awdl, felly, gyda'r bardd yn gweld Gaeaf yn ymestyn dros a thrwy Gymru gyfan:
Mae naws y gaeaf ym môn ysgawen
a dur ei wewyr yng ngwaed yr ywen,
dyry'i grafiad ar grofen a gyrr gledd
ei daer ewinedd i ddefnder onnen.
Rhennir y gerdd yn bedwar caniad, gyda'r bardd yn talu teyrnged i'r 'drindod' a fu farw; yn cyfeirio at allu garddwriaethol J. E. Jones, at nawdd J. R. Jones i'w wlad trwy ddysg ac athroniaeth, at D.J., yr areithiwr tanbaid.
Yn y caniad olaf, mae'r bardd yn llwyddo i weld heibio'r trallod a'r galar, ac yn gweld nerth a thyfiant newydd a ddaw yn sgil y rheibio; y gobaith sy'n waddol i'r tri ohonynt:
Heddiw mae'u cyffro brwd megis gobaith
a thyrr o gaddug, ar lethrau'u, goddaith,
Eu rhodd yw nodded i'r iaith, heb helynt
ubain y rhynwynt uwch bannau'r heniaith.
Gellir darllen y gerdd yn ei chyfanrwydd yn O Fedel Pantyfedwen (1971), cyfansoddiadau llenyddol buddugol Eisteddfod Pontrhydfendigaid.

Ganed Alan Llwyd yn Nolgellau ym 1948. Ef yw un o awduron a beirdd mwyaf cynhyrchiol Cymru dros yr hanner canrif diwethaf. Mae'n un o sylfaenwyr cylchgrawn a chyhoeddiadau Barddas, ac enillodd goron a chadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr un eisteddfod ddwywaith (y dwbl-dwbl) ym 1973 a 1976. Roedd yn gyfrifol am sgriptio'r ffil Hedd Wyn, a enwebwyd i dderbyn Oscar. Cofnod Alan Llwyd ar Wicipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Alan_Llwyd |
Y BARDD
Ganed Dai Rees Davies ym 1942. Wrth ei waith, roedd yn yrrwr tanceri olew, ac roedd yn fardd a thalyrnwr poblogaidd a llwyddiannus, yn adnabyddus yn enwedig am ei gerddi ysgafn a ffraeth. Roedd yn byw yn Rhydlewis ac yn aelod o dîm Talwrn Ffostrasol. Bu farw yn 2019.

2019NEB YN DEILWNG
TESTUN FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO BEIRNIAID CERI WYN JONES GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
2020
Cafodd Eisteddfod Pontrhydfendigaid, fel mwyafrif eisteddfodau 2020, ei gohirio am flwyddyn o ganlyniad i'r argyfwng COVID-19.