gweler hefyd: Eisteddfod Gadeiriol Y.M.A. Nefyn (sef. 1909)
Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Alun Cob, Caernarfon;
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

Ymddengys, er mor boblogaidd y bu Eisteddfod Gadeiriol Nefyn ym 1885, mai unwaith yn unig y cynhaliwyd digwyddiad ar y raddfa honno nes sefydlu'r eisteddfod a gynhelid dan nawdd yr Y.M.A., Cymdeithas y Gwyr Ieuanc, o 1909. Fodd bynnag, mae adroddiadau am nifer o gyrddau cystadleuol llai yn yr ardal rhwng yr adegau hynny yn britho tudalennau'r papurau newydd ac yn tystio i weithgarwch diwylliannol lleol.
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH GLAN LLYFNWY [2]
Hon oedd eisteddfod gadeiriol gyntaf tref Nefyn, ac enillwyd y gadair - a gynigiwyd yn benodol i rai nad oeddent hyd yma wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol - gan Berw, ei bumed cadair a'r olaf iddo'i hennill cyn ei urddo yn fardd y Gadair Genedlaethol ym 1887. Roedd anerchiadau barddol gan Twm Gwynedd ac Alltud Eifion yn rhan o'r seremoni.
Eisteddfod o faint oedd hon, a chodwyd pabell i ddal cynulleidfa o dair mil ar gae yng nghanol Nefyn - ger safle hen gapel gwreiddiol yr Annibynnwyr, Soar, a godwyd ym 1828. Codwyd y capel presennol ym 1880.

YR AIL ORAU
Cyhoeddwyd awdl ail orau Glan Llyfnwy o Ddyffryn Nantlle, a gystadlodd dan y ffugenw Maeldaf Wyn, yn rhifyn Gorffennaf 1886 o'r Geninen. Awdl foeswersllyd yw hon, wrth i'r bardd - yn dilyn darlunio'r cartref perffaith a diwair yn ei dyb ef - ymweld gyda sawl aelwyd sydd yn ei olwg yn ddrylliedig gan rymoedd megis medd'dod ac anfoesgarwch. Fodd bynnag, mae'r dweud disgrifiadol, yn enwedig wrth ddisgrifio'r plant ar yr aelwyd, yn fyw a gloyw iawn fel y gwelir o'r detholiad isod.
Bu'n anffodus o gael Berw yn gydymgeisydd iddo, fel y bu drachefn wrth lunio awdl i'r Frenhines Fictoria ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llundain 1887 - daeth yn ail i Berw yn y gystadleuaeth honno hefyd. Bu farw Glan Llyfnwy ym 1891, yn wr cymharol ifanc, ac mae'n deg damcaniaethu - o'i ddawn cynganeddol o leiaf - y gallai fod wedi ennill Cadair Genedlaethol rhyw ddydd pe bai wedi cael rhagor o amser.
Gellir darllen 'Cartref' Glan Llyfnwy yn rhifyn Gorffennaf 1886 Y Geninen, sydd ar gael i'w bori ar-lein yma.

CARTREF (DETHOLIAD) - GLAN LLYFNWY
Dim ni welir dymunolach
Na'r egni byw wna'r hogyn bach, A'i stwr, wrth geisio tori Ar ei hôl [y fam], ei geiriau hi. Ei fethiadau'n foeth ydynt, – Anwyl iawn a doniol ynt. I'w fami, nef yw mwynhau Ei feraf ymdrech forau. Hwyr y dydd, ar air ei dad, Dyry iddo adroddiad; Dyweda, gyda hyder Diniwed fôst, adnod fer; Yna llon swn llawenydd A melus sain moli, sydd; A'r llon dad, yn anad neb, Feddienir gan foddineb. |
Dynesu wedi noswyl – a wna'r tad
Tua'r tŷ, a'i ddisgwyl Y mae'r plant, – neidiant mewn hwyl Fel ŵyn ei ofal anwyl. I'w gwrdd ânt, – rhedant yn rhydd, Yn egnïol, gan awyd Cael ei law a chydgroesawu Eu hanwyl dad yn ol i'w dŷ: Yn olaf daw'r anwylun Lleiaf oll, a'r llaw a fyn; Hwn a gwyn ei dad i'w gôl, A chusana'r bach swynol. Yn nrws y tŷ'n aros y tad – mae'r fam, Mor fyw ei chroesawiad! Ei gwên a rydd ddadganiad – hyfrydlon o hedd ei chalon ar ei ddychweliad. |
Y BARDD
Ganed Berw ym 1854, ac fe'i magwyd gan ei fodryb ym Mhentre Berw, Môn. Roedd yn offeiriad ac yn fardd, ac enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Llundain 1887 am awdl i'r frenhines Fictoria. Mae'n bosib mai fel beirniad y gwnaeth ei gyfraniad llenyddol mwyaf sylweddol, gan iddo feirniadu awdlau'r gadair droeon ochr yn ochr â John Morris-Jones ac eraill. Bu farw ym 1926. Llun: Papur Pawb, 08.09.1894 Cofnod Berw yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c-WILL-ART-1854.html |
CYFEIRIADAU
1885
- 'Eisteddfod Gadeiriol Nefyn' yn Y Genedl Gymreig, 03.06.1885
- 'Nefyn: Yr Eisteddfod Gadeiriol' yn Baner ac Amserau Cymru, 06.06.1885
- portread o Berw yn Papur Pawb, 08.09.1894
- Glan Llyfnwy, 'Cartref' yn Y Geninen, Gorffennaf 1886, tud.193-7
- Cofnod Capel yr Annibynnwyr, Nefyn ar wefan Coflein, cyrchwyd 04.04.2024 coflein.gov.uk/en/site/7066/