Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Ann Lewis, Llangybi; Meinir Pierce Jones, Morfa Nefyn;
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.

1900
1901 1902 1903 1904 1905 1906 1907 1908 1909 Robert Evans (Cybi) |
1910 Idwal Jones
1911 1912 1913 E. T. Evans 1914 Albert Evans Jones (Cynan) 1915 Ni chynhaliwyd eisteddfod 1916 1917 1918 1919 |
1909ROBERT EVANS (CYBI)
LLANGYBI TESTUN DAEARGRYN FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 6* GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO TACHWEDD 18, 1909 BEIRNIAD HUMPHREY JONES (BRYFDIR) LLEOLIAD YN 2019 EGLWYS SANT CYBI, LLANGYBI Lluniau: Iestyn Tyne, Casglu'r Cadeiriau Gyda diolch i Ann Lewis, Llangybi *Daeth 7 o bryddestau i law'r beirniad, Bryfdir, ond diarddelwyd cerdd Addolwr am iddo gyrraedd yn hwyr. |
YR EISTEDDFOD
Eisteddfod Nefyn 1909 oedd y gyntaf mewn cyfres a gynhaliwyd yno dan nawdd yr YMA - neu Gymdeithas y Gwŷr Ieuainc. Mae'n bosib mai llwyddiant yr eisteddfod lewyrchus a gynhaliai'r YMA ym Mhwllheli a fu'n sbardun i'r gwaith o sefydlu eisteddfod debyg yn nhref gyfagos Nefyn.
Noda Lledfegyn yn ei golofn yn Y Brython Cymreig yr wythnos wedi'r eisteddfod (25 Tachwedd 1909) y bu'r eisteddfod, yn ôl pob tebyg, yn lwyddiant digymysg. Ar wahân i ganlyniad y gadair, mae'n sôn i Llew Owain (Owain Llewelyn Owain, y llenor, y cerddor a'r newyddiadurwr adnabyddus) gipio nifer o wobrau llenyddol yr eisteddfod, ac i Awen Mona lwyddo ar y chwedl fer. Dywed y bu Neuadd Fadryn yn orlawn, ac bod si ar led y byddai'r eisteddfod yn cael ei symud i babell bwrpasol erbyn y flwyddyn ddilynol.

Y GADAIR
Mewn rhifyn cynharach o'r Brython (4 Tachwedd 1909), mae Lledfegyn yn ei golofn yn disgrifio sut y bu iddo weld Cadair Nefyn wedi ei harddangos yn siop ei gwneuthurwr ym Mhwllheli, ac ambell fardd yn bwrw'i olwg yn orawyddus drosti:
Y mae ar ddangos yn un o ffenestri Pwllheli y gadair a gynhygir yn Eisteddfod agoshaol Nefyn, ac arni lun tri phenogyn - peisarf neu coat-of-arms Nefyn, debygaf. A phwy welais yn blysig-syllu arni ond Cybi, Cenin, Iseifion, Myrddin Fardd, ac Ap Lleyn ...
Mentraf awgrymu mai siop R. Isaac Jones oedd y siop dan sylw, gan fod cadair Nefyn yn ymdebygu'n fawr o ran ei ffurf a'i cherfwaith i gadeiriau a wnaed yno i eisteddfodau YMA Pwllheli. Does dim modd gwybod a welodd Lledfegyn, pwy bynnag oedd hwnnw, yr olygfa uchod, ynteu ai trosiad ydoedd fel cyfrwng i newyddiadurwr rannu enwau'r sawl a fu'n ymgiprys am gadair Nefyn.
Fel y sylwodd ein cyfaill Lledfegyn, y peth mwyaf trawiadol am gadair Nefyn 1909 yw'r tri phenwaig cerfiedig ar ei chefn. Mae'n nodi'n gywir iawn mai dyma arfbais y dref, a hynny oherwydd y diwydiant pysgota penwaig llewyrchus a arferai fod yno. Gellir darllen rhagor o hanes penwaig Nefyn yn yr erthygl ddifyr hon ar rhiw.com. Fel arall, mae hi'n debyg iawn i rai o gadeiriau eisteddfodau Pwllheli yn yr un cyfnod, ac os cywir yw fy awgrym uchod, mae'n debygol iawn iddi gael ei gwneud ar yr un patrwm yn union â chadeiriau'r eisteddfod honno.
Hon oedd y drydedd gadair i Cybi ei hennill. Roedd eisoes wedi ennill Cadair Eisteddfod Y Rhos, Rhoshirwaun yn Chwefror 1909, ac Eisteddfod YMA Pwllheli fis Awst yr un flwyddyn.

Y GERDD
Gellir darllen pryddest fuddugol Eisteddfod Nefyn 1909 yn y gyfrol Gwaith Barddonol Cybi, Cyfrol I. (Pwllheli, 1912) rhwng tudalennau 22 a 29. Rhennir y gerdd yn chwe chaniad:
I. Hafddydd Mwyn
II. Cenad Braw
III. Daeargryn Hanes
IV. Yr "Ofnadwy"
V, "Duw Sydd Noddfa," &c.
VI. "Y mae yn Nuw Ogoniant mwy Ofnadwy," &c.
Y 'Daeargryn' sydd ganddo mewn golwg, yn ddigon rhagweladwy, yw dinistr olaf y Ddaear ar Ddydd y Farn. Mae'r caniadau amrywiol sy'n cynnig gwahanol agweddau ar destun - yn hytrach na chanolbwyntio ar un - yn nodweddiadol o'r canu a oedd yn ffasiynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddiwedd y 19eg Ganrif ac a barhaodd i fod yn ffasiynol ym myd yr eisteddfodau bychain ymhell i ddegawdau cyntaf yr 20fed Ganrif. Dyfynnaf ar hap o'r ail ganiad, lle y cawn y bardd yn disgrifio dyfodiad y daeargryn:
Ddistawrwydd dieithr, llethol; anian syn, -
Ei hanadl ddeil ar draeth yr orddwys ffaith;
Y dwfn ddirgryniad syfrdanol, erch;
Ymwelwa natur; dyn fel corsen gryn;
Anifail wibia; uda'r corgwn gwyllt,
A'r adar gwympant megis Hydref ddail:
Ffynhonau leibir; a'r afonydd têr,
Dan fflengyll arswyd, wylant, frysiant draw ... [ll. 41-48]

Y BARDD
Ganed Robert Evans yn Llangybi ym 1871, ac yno y bu'n byw gydol ei oes. Roedd yn fardd, yn sgrifennwr ac yn llyfrwerthwr. Roedd yn dra cynhyrchiol. Meddai Colin Gresham amdano yn y Bywgraffiadur Cymreig - 'nid oes mynwent yn Eifionydd nad oes yno englyn neu doddaid o'i waith'. Cyhoeddodd bron i ddeg ar hugain o gyfrolau o bob math. Bu farw ym 1956, yn 84 oed. Cofnod Cybi yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-EVAN-ROB-1871.html |
'NEFYNAIDD FONDIGRYBWYLL'
Bu peth digrifwch yn y wasg leol am i destun yr 'araith fyrfyfyr' gael ei ryddhau ddeufis ymlaen llaw. Dyma fel yr ysgrifennodd un â'r ffugenw ysmala os hirwyntog Gwib Ddeufis at Naid Bedwar Munud at olygydd y Brython ar 22 Medi 1910:
Syr. - Ces gopi heddyw o restr testynau Eisteddfod Gwyr Ieuainc Nefyn, sydd i'w cynnal Tach. yr 17eg nesaf; a dyma fel y derllyn testyn 29:
"Araeth fyrfyfyr, 'Llunio'r wadn fel bo'r troed.' Amser 4 munud. Gwobr 5/-."
Eithaf testyn, ac eithaf gwobr, ond dyna sy'n ddoniol ac yn Nefynaidd fondigrybwyll, dywedyd "byrfyfyr" ar destyn wrth ei gyhoeddi ddeufis ymlaen llaw. - Yr eiddoch, tan fyfyrio'm gore gogyfer â'r goron ...
Y BARDD
Ail gadair Idwal Jones o Benygroes oedd cadair Eisteddfod Nefyn 1910. Fel hyn y cawsai ei longyfarch yn y golofn 'O'r Twtil i Foel y Gest' yn y Brython (24 Tachwedd) gan ohebydd dan y ffugenw Syr Ebill:
Unwaith eto, wele'r awenydd ieuanc ffres ei ganu, Idwal Jones o Benygroes, yn ennill ei ail gadair [...] Ieuanc yw'r gwr, a disgwylir pethau mawr yn ei hanes ym myd barddas. Enillodd ei gadair gyntaf ym Mhenygroes, yn Eisteddfod y Temlwyr Da, ar y testyn, "David Lloyd George," o dan y Prif-fardd Pedrog [...] Llongyfarchwn ef yn galonnog am ei wrhydri.

Myfyriwr deunaw oed ym Ngholeg Bangor oedd Cynan pan enillodd gadair Eisteddfod Nefyn. Hon oedd ei bedwaredd cadair, ond ei gyntaf mewn cystadleuaeth agored (Eisteddfod y Plant Pwllheli 1909 a 1910; Eisteddfod y Plant Bethesda 1913). Maes o law fe ddeuai y Brifardd Coronog triphlyg ac yn Brifardd Cadeiriol; ac yn ddiweddarach yn archdderwydd. Mewn pwt yn yr Herald Cymraeg yn yr wythnos yn dilyn ei gamp yn Nefyn, nodwyd mai ei hoff feirdd oedd Dafydd ab Gwilym a Browning. Cofnod Cynan yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-JONE-EVA-1895 |
Erbyn yr adeg y dylid bod wedi cynnal Eisteddfod Nefyn 1915, yr oedd cysgod y Rhyfel Mawr yn hollbresennol. Dyma nodyn a gyhoeddwyd yn yr Udgorn ar 10 Chwefror y flwyddyn honno:
EISTEDDFOD Y GWYR IEUANC - Bu pwyllgor yr uchod yn cyfarfod yr wythnos ddiweddaf i drafod y priodoldeb o gynal Eisteddfod eleni. Y penderfyniad y daethpwyd iddo ydoedd cynal prawf-gyngerdd er mwyn cadw y dyddiad.
Er cadw'r dyddiad ym 1915, ni welais dystiolaeth i hyn ddigwydd yn y blynyddoedd dilynol.