Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Digwyddiad untro oedd yr eisteddfod hon, a gynhaliwyd fel rhan o ŵyl enfawr Ffair y Byd (y 'Columbian Exposition') a gynhaliwyd yn Chicago, yr UDA, yn 1893 i nodi pedwar-canmlwyddiant Columbus yn 'darganfod' Gogledd America.
Fe'i trefnwyd gan griw bychan o Gymry Chicago oedd am weld cydnabyddiaeth i Gymru ochr yn ochr â'r degau o genhedloedd eraill oedd am ddangos eu grym a'u gwerthoedd ar y llwyfan global hwn, o flaen cynulleidfa o 21 miliwn o bobl a heidiodd i'r Ddinas Wen (a godwyd yn bwrpasol at yr achlysur) ar lannau Llyn Michigan rhwng dechrau Mai a diwedd Hydref 1893.
Ceir astudiaeth fanwl iawn o gyd-destun, llwyddiannau a chymlethdodau Eisteddfod Ffair y Byd yng nghyfrol Hywel Teifi Edwards, Eisteddfod Ffair y Byd Chicago 1893 (Gomer 1990).

1893EVAN REES
(DYFED) CAERDYDD TESTUN IESU O NAZARETH (AWDL) FFUGENW LAZARUS NIFER YN CYSTADLU 5 GWOBR ARIANNOL $500 DYDDIAD CADEIRIO BEIRNIAID HWFA MON DAFYDD MORGANNWG G. H. HUMPHREY ARCHDDERWYDD HWFA MON DYLUNYDD ISAAC DAVIES Lluniau: Casgliad y Werin LLEOLIAD YN 2022 Casgliadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH TUDNO [2]
Y BARDD
Un o Sir Benfro oedd Dyfed (1850-1923) yn wreiddiol, ond fe'i magwyd yn Aberdâr. Roedd yn un o feirdd eisteddfodol mwyaf llwyddiannus diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith (1881, 1884, 1889, 1901), record y mae'n ei rhannu â Dewi Emrys a Tudno. Ef hefyd oedd Prifardd y Gadair yn Eisteddfod Ffair y Byd, Chicago 1893. Wrth ei waith, roedd yn lowr am flynyddoedd lawer cyn mynd i'r weinidogaeth. O 1905 hyd ei farwolaeth ym 1923, ef oedd Archdderwydd Cymru. Cofnod Dyfed yn Y Bywgraffiadur Cymreig: bywgraffiadur.cymru/article/c-REES-EVA-1850 Llun: Gwaith Barddonol Dyfed, 1907 |
CYFEIRIADAU
- Cadair Eisteddfod Ffair y Byd yng nghasgliadau ar-lein Amgueddfa Genedlaethol Cymru, cyrchwyd 17.02.2023 museum.wales/collections/online/object/7bdc4ff4-f9c6-37a8-aa10-38dfc4e3777e/Chair/?field0=string&value0=eisteddfod%20chair&field1=with_images&value1=1&index=8