Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.

1896HUMPHREY JONES
(BRYFDIR) BLAENAU FFESTINIOG TESTUN EDMWND PRYS (ARWRGERDD) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO HYDREF 1896 BEIRNIAD GWYNEDD BERW LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Hon oedd y bedwaredd yn y gyfres o eisteddfodau a gynhaliwyd gan eglwyswyr Trawsfynydd, ac mewn cadw â'r arfer gyda chystadleuaeth y gadair yn yr eisteddfod hon, arwrgerdd i un o ffigyrau hanesyddol Cymru oedd y testun. Nodir yn adroddiad Y Llan ar 9 Hydref 1896 sut y bu i Gwilym Alltwen, yr arweinydd, annog y dorf i ganu un o Salmau cân Edmwnd Prys - gwrthrych y gerdd fuddugol - yn ystod seremoni'r cadeirio. 'Y mae yn sicr,' meddai'r gohebydd, 'na chlywyd gwell canu yn y Traws nag a glywyd ar yr achlysur hwn'.
Y BARDD
Ganed Humphrey Jones yng Nghwm Croesor ym 1867. Roedd yn fardd cystadleuol ac yn eisteddfodwr poblogaidd a lwyddodd i ennill ymhell dros hanner cant o gadeiriau. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth - Telynau'r Wawr a Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill. Bu farw ym 1947.
Cofnod Bryfdir yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-JONE-HUM-1867.html

Cafodd y bardd buddugol, Glyn Myfyr o Flaenau Ffestiniog, anerchiadau barddol gan Athron, Dyfnallt, Thomas Lloyd Jones, Myfyr Alwen, W. O. Jones a Bryfdir.
O'R FEIRNIADAETH
Roedd y beirniad, Penfro, yn dra chanmoliaethus o'r pedair pryddest a ddaeth i law, gan ddweud mai 'da fyddai pe bai genym bedair o gadeiriau, gan y gallesid llenwi pob un o honynt heb betrusder.'
Dyma rai o'i sylwadau ar y bryddest fuddugol:
Ceir gan yr awdwr hwn bryddest deilwng iawn yn mhob ystyr - Ilawn o fywyd ac eneiniad, awenol ddyddorol, a nodedig o chwaethus. O'i dechreu i'w diwedd mae yn rymus a swynol, ac ymddengys yr awdwr fel "gwr yn ymlawenhau i redeg gyrfa," ac ar y diwedd mae yn llawn mor fywiog ag ar y dechreu. Nid rhyw fywgraphiad prydyddol ydyw. ond crynhoad byw o feddylddrychau cynhyrfiol a ymddangosant megis yn cyfodi o fedd y gorphenol pell, ac y mae y prydydd nid yn unig wedi eu gwisgo a giau ac a chnawd, ond llwyddodd i anadlu ynddynt anadl y peth byw.
Gellir darllen beirniadaeth Penfro yn llawn fel y cafodd ei chyhoeddi yn Gwalia yma.

Ganed Evan Williams yn Llanfihangel Glyn Myfyr, Sir Ddinbych ym 1866. Ymysg ei waith cyhoeddedig mae tri chasgliad o farddoniaeth, Briallu'r Glyn (1896), Meillion y Glyn, a Rhosynau'r Glyn (1909). Bu farw ym 1937.

Mae'n debygol iawn mai'r un saer fu'n gyfrifol am wneuthuriad cadair Eisteddfod Eglwysig Trawsfynydd 1899 â chadair Eisteddfod y Llungwyn 1897. Gellir cymryd hyn o'r ffont sgwarog a'r cerfiadau sy'n codi uwch cefnau'r ddwy gadair.
YR EISTEDDFOD
Yr oedd yr arweinydd yn cadw y dorf mewn tymherau rhagorol o'r dechreu i'r diwedd, er eu bod oherwydd cyfyngdra yr ystafell fel penwaig yn yr halen, ys dywedir.
(Y Cymro, 05.10.1899)

CYFEIRIADAU
1896
- 'Trawsfynydd' yn Y Llan, 09.10.1896
1897
- 'Trawsfynydd' yn Y Llan, 01.10.1897
1898
- Y Cymro, 29.09.1898
- 'Eisteddfod Gadeiriol Eglwyswyr Trawsfynydd' yn Gwalia, 11.10.1898
1900
- 'Ffestiniog a'r Cylch' yn Gwalia, 09.10.1900
- 'Am Bobl a Phethau' yn Y Negesydd, 12.10.1900