*Cyfeiria'r dudalen hon at yr eisteddfodau cadeiriol a gynhaliwyd dan nawdd Annibynwyr Bae Colwyn; gweler hefyd eisteddfodau cadeiriol Wesleyaid Bae Colwyn
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r enillwyr yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

1900
1901 John Williams (Islyn) 1902 John Vaughan [2] 1903 1904 H. Parry 1905 1906 William Roberts (Gwilym Ceiriog) 1907 William Pari Huws 1908 Mr. Powell a chôr Dyffryn Nantlle 1909 |
Darlun cerdyn post cynnar o bafiliwn Fictoria ar y pier ym Mae Colwyn (adeiladwyd 1900), lleoliad mawreddog rhai o eisteddfodau cadeiriol y dref, a gynhaliwyd dan nawdd yr Annibynnwyr. Er iddi gael ei chynnal ym mis Hydref ar y cychwyn, cyn dod yn un o eisteddfodau'r Nadolig am gyfnod, ac yna weithiau dros gyfnod y Pasg, fe'i cynhelid yn fwy diweddar, ar gychwyn yr ugeinfed ganrif, ar ddydd Calan.
Difyr yw nodi y cynhelid eisteddfod fawreddog arall ar ddydd Calan yn yr un cyffiniau ac hefyd ar bafiliwn uwch y dŵr, sef Eisteddfod Gadeiriol Llandudno. Mae'r ffaith y bu modd cynnal dwy eisteddfod fawr ar yr un dyddiad yn yr un ardal yn tystio'n amlwg i frwdfrydedd cynulleidfaoedd eisteddfodol y cyfnod.
Er y caiff ei galw yn Eisteddfod Gadeiriol Bae Colwyn at ei gilydd ar y dudalen hon er diben cysondeb; ceir cyfeiriadau ati hefyd fel Eisteddfod Gadeiriol Colwyn, Eisteddfod Gadeiriol Hen Golwyn, ond yn bennaf Eisteddfod Gadeiriol Colwyn Bay, gan arfer yr enw Saesneg ar y lle. Roedd ar adegau hefyd yn Eisteddfod Gadeiriol a Choronog.

Y BARDD
Ganed Eifion Wyn ym Mhorthmadog ym 1867, ac yn ardal y dref honno y bu'n byw a gweithio ar hyd ei oes. Bu'n fardd cystadleuol llwyddiannus (ef sy'n dal y record am ennill cystadleuaeth yr englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol y mwyaf o weithiau, a bu ond y dim iddo gipio'r Gadair ym 1901, pryd y credai llawer iddo gael cam). Daeth yn enwog am ei delynegion, a'i gyfrol hynod boblogaidd, Telynegion Maes a Môr. Derbyniodd radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ym 1919. Bu farw ym 1926, a'i gladdu ym mynwent Chwilog.
Cofnod Eifion Wyn yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-WILL-ELI-1867

Cyfarchiad ysgafn gan 'fardd talcen slip' a gafwyd ar dudalennau Tarian y Gweithiwr wrth ddathlu llwyddiant dwbl i Ap Ionawr yn eisteddfodau'r Nadolig; ennill gwobr yn Llangadog a chadair ym Mae Colwyn:
Halo! Mr Ap,
Yr hen Straight Poke Cap,
Yr wyt yn werth clap
Am roi y fath slap
I lawer hen chap,
Yn 'Steddfod Colwyn Bay;
Brydnawn Boxing Day;
More to follow, I say,
Wel 'nawr, Good-day.
Halo! Mr Ap,
Yr hen Straight Poke Cap,
Yr wyt yn werth clap
Am roi y fath slap
I lawer hen chap,
Yn 'Steddfod Colwyn Bay;
Brydnawn Boxing Day;
More to follow, I say,
Wel 'nawr, Good-day.
1893
Gwelir i Eisteddfod Gadeiriol Bae Colwyn 1892 gael ei chynnal ar Ddydd San Steffan (26 Rhagfyr), ac mai eisteddfod Dydd Calan (1 Ionawr) oedd Eisteddfod Gadeiriol 1894. Mewn difrif felly, nid yw'r diffyg cadair ym 1893 gyfystyr â methu blwyddyn.
Er mai i arweinydd buddugol y gystadleuaeth gorawl yr aeth y gadair dderw yn Eisteddfod Gadeiriol Bae Colwyn 1894, roedd hon hefyd yn eisteddfod goronog. I Mr. T. E. Griffiths o Bwllheli yr aeth y goron aur, a hynny am bryddest ar y testun 'A'r Iesu a safodd yn eu canol'.
Cafwyd newid arall i ddyddiad Eisteddfod Gadeiriol Bae Colwyn ym 1897, y tro hwn i ddydd Llun y Pasg. Enillydd y gadair oedd Glan Machreth o Ffestiniog, a chyfarchwyd y bardd o'r llwyfan gydag englynion gan Bwlchydd, Llifon, Gwyneddawg, Eilir Aled ac eraill.
Ymhlith yr enillwyr llenyddol eraill roedd R. R. Hughes, Machraeth, Ynys Môn (Prif Draethawd); Dewi Mai, Ffestiniog (Englyn - 'Y Pobty'); a Gwyneddawg, un o feirdd lleol Bae Colwyn, oedd enillydd y gystadleuaeth i drosi emyn o'r Saesneg i'r Gymraeg.

Hon oedd chweched cadair eisteddfodol John Williams, gorsaf-feistr Trawsfynydd.
Bwriwyd cysgod dros bopeth yn Eisteddfod Bae Colwyn 1902 gan farwolaeth disymwth Henry Hughes, arweinydd côr Llysfaen, ar y llwyfan yn ystod y gystadleuaeth gorawl. Profiad brawychus oedd hwn i'r côr plant, a gynhwysai ddau o blant Henry Hughes, a rhai o'r aelodau yn y rhes flaen y bu'n rhaid iddynt geisio dal yr arweinydd wrth iddo ddisgyn i'r llawr o'u blaenau. Nodir yn adroddiad Baner ac Amserau Cymru i Hughes gael ei gludo i ystafell gyfagos, ac y bu i'r côr gwblhau canu'r darn prawf ac ennill y gystadleuaeth. Fodd bynnag, daeth y cyhoeddiad yn fuan wedyn fod Hughes wedi marw gan achosi 'tristwch mawr trwy y gynulleidfa'. Gwnaethpwyd apêl yn y fan a'r lle am gyfraniadau ariannol i gynorthwyo gweddw a phedwar plentyn Henry Hughes, a chasglwyd 'swm da' gan yr eisteddfodwyr.
Y BARDD
Brodor o Ddyffryn Ceiriog oedd Gwilym Ceiriog, ond treuliodd ei oes yn byw yn nhref Llangollen. Bu'n fardd llwyddiannus mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol ar hyd ei oes. Pinacl ei yrfa fel bardd oedd ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1911 am awdl i 'Iorwerth y Seithfed'.

1907WILLIAM PARI HUWS
DOLGELLAU TESTUN HEDDIW Y BYDDI GYDA MI YN MHARADWYS FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 1 IONAWR 1907 BEIRNIAID LLEW TEGID GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2023 Anhysbys |
Y BARDD
Ganed William Pari Huws ym Mhenrhyndeudraeth ym 1853, a chafodd ei fagu ym mhentref Dolwyddelan. Bu'n chwarelwr am gyfnod cyn mynd yn ôl at ei addysg yn Llanrwst, yna yng Ngholeg y Bala ac ym Mhrifysgol Yale, Gogledd America. Roedd yn un o arweinwyr amlwg y mudiad dirwestol pan ddaeth yn ôl i Gymru fel gweinidog ym Mlaenau Ffestiniog ac yna Dolgellau. Roedd yn eisteddfodwr llwyddiannus oedd yn fwyaf adnabyddus am ei emynau. Bu farw yn Hen Golwyn ym 1936.
Cofnod William Pari Huws yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUWS-PAR-1853

Penderfynodd y pwyllgor gynnal eisteddfod gerddorol ym 1908, ond parhawyd i gynnig Cadair a Choron; Cadair i arweinydd y côr buddugol yn y brif gystadleuaeth gorawl, a Choron i arweinydd y côr meibion buddugol. Dau gôr oedd yn ymgiprys yng nghystadleuaeth y gadair, gyda Chymdeithas Gorawl Undebol Dyffryn Nantlle yn trechu Cymdeithas Gorawl Colwyn Bay mewn cystadleuaeth dda. Côr Penmachno oedd yr unig gôr meibion presennol, a rhoddwyd y goron iddynt.
CYFEIRIADAU
1891
- 'Eisteddfod Gadeiriol Colwyn Bay' yn Y Cymro, 08.10.1891
1892
- 'Llansamlet' yn Tarian y Gweithiwr, 12.01.1893
1894
- 'Cyfarfodydd y Calan' yn Y Cymro, 04.01.1894
1895
- 'Colwyn Bay' yn Y Genedl Gymreig, 08.01.1895
1897
- 'Cyrddau'r Groglith a'r Pasg' yn Y Cymro, 22.04.1897
1898
- 'Eisteddfod Colwyn Bay' yn Y Genedl Gymreig, 04.01.1898
1899
- 'Eisteddfod Hen Golwyn' yn Y Clorianydd, 12.01.1899
1901
- 'Llwyddiant' yn Y Dydd, 04.01.1901
1902
- 'Eisteddfod Gadeiriol Colwyn Bay' o Baner ac Amserau Cymru, 04.01.1902
1903
- 'Eisteddfod Gadeiriol a Choronog Hen Golwyn' o Baner ac Amserau Cymru, 07.01.1903
1904
- 'Eisteddfod Gadeiriol Colwyn Bay' o Baner ac Amserau Cymru, 06.01.1904
1906
- 'Eisteddfod Colwyn Bay' o Baner ac Amserau Cymru, 06.01.1906
1907
- 'Eisteddfod Gadeiriol a Choronog Colwyn Bay' o Baner ac Amserau Cymru, 09.01.1907
1908
- 'Eisteddfod Colwyn Bay' o Baner ac Amserau Cymru, 08.01.1908
1914
- 'Eisteddfodau'r Calan' yn Y Brython, 08.01.1914