*Cyfeiria'r dudalen hon at yr eisteddfodau cadeiriol a gynhaliwyd dan nawdd Wesleyaid Bae Colwyn; gweler hefyd eisteddfodau cadeiriol Annibynwyr Bae Colwyn
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r enillwyr yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

Honnai Druisyn yn ei feirniadaeth ar y gystadleuaeth hon fod un o'r ymgeiswyd wedi dwyn 'yn agos i haner' awdl fuddugol gan fardd arall, Henry Gwynedd Hughes o Lanrwst. Heriodd y bardd hwnnw i ddangos ei wyneb ar lwyfan yr eisteddfod ond nid ymddangosodd. Fel nododd gohebydd Y Gwyliedydd, 'pe y buasai wedi gwneyd ei ymddangosiad, prin y buasai yn cael dianc a'i goron yn gyfan'!
Tybed pwy oedd y bardd hwn o lên-leidr? Neu tybed ai Henry Gwynedd ei hun ydoedd, yn clytio hen gerdd at bwrpas newydd, nad oedd yn beth anghyffredin yn yr oes honno?

Y GADAIR
Gwnaeth y gadair, a saerniwyd gan William Williams, Llanerch-y-medd, gryn argraff, ac fe'i canmolwyd i'r cymylau ar dudalennau'r Gwyliedydd. 'Yr oedd y cynllun yn newydd ac yn hollol Gymreig', meddid, 'y gwaith yn lan a threfnus, a'r pris yn rhesymol. Teilynga Mr Williams bob cefnogaeth am fod mor wreiddiol yng nghynlluniau ei gadeiriau eisteddfodol.'

Hon oedd cadair eisteddfodol gyntaf Abon, Cefn-Mawr, a cheir nodyn gan ohebydd Baner ac Amserau Cymru am y dathlu gwresog a fu yn dilyn ei lwyddiant, pan ddychwelodd i'w fro ei hun gyda'r gadair:
Daeth tyrfa o drigolion y Cefn i gyfarfod y bardd ar ei ddychweliad adref, nos Fawrth, a chafodd dderbyniad tywysogaidd iawn.

Unwaith eto, roedd cryn sylw i gadair yr eisteddfod. Mae'r nodyn yng ngholofn leol Baner ac Amserau Cymru yn neilltuo lle i ddisgrifio'r gadair ei hun; dywedir ei bod yn werth degpunt, a bod y geiriau a ganlyn wedi'u hysgythru arni:
Y Ddraig Goch a ddyry gychwyn
Eisteddfod Gadeiriol Wesleyaid Colwyn Bay, 1900.
Mae'n amlwg iddi greu cryn argraff, gan fod disgrifiad manylach ohoni ym mhapur y Llangollen Advertiser ym mis Hydref, gryn amser wedi'r eisteddfod:
Cadair fawr a hardd ydyw y gadair a ennillodd "Abon" yn Eisteddfod Wesleyaid, Colwyn. Y mae ei cherfiadau oll yn chwaithus a chelfydd, ac ar ben blaen ei breichiau y mae cerfwaith o ben a chyrn yn afr.