Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Meilyr Hughes, Gwilym Bowen Rhys
Meilyr Hughes, Gwilym Bowen Rhys
CYFARCHIAD
Miloedd sy'n nabod 'Moliant' - ein Teifi,
Tafod aur pob llwyddiant;
Trwy y tir mae'n taro tant,
Deil anadl pob adloniant.
- EISTEDDFODWR (Y Tyst, 27 Mai 1914)
Y BARDD
Cadair Cwm-mawr 1914 oedd pedwaredd cadair ar bymtheg Teifi. Roedd yn byw yn Stryd y Cymmer, Grangetown, ac yn gweithio I gwmni trwsio llongau ym Mhenarth.
Gweler hefyd: Foster Evans, Dylan 2015. Rees Rees 'Teifi': Un o Feirdd y Rhyfel Mawr. Y Garthen Mai 20 , pp. 14-15.
EISTEDDFOD CWM-MAWR
|
O'R FEIRNIADAETH
Dyma fardd yn gwybod beth i wneyd a thestun fel hwn yn well o lawer na'i gydymgeiswyr. Ceir yn ei gerdd fwy o amrywiaeth mesur a syniadau. Newidia ei dant gan symud o un mesur i'r llall yn naturiol a gweddaidd i'r galw. Efe yn unig a ganodd yn destynol drwyddi draw, ac nid oes amheuaeth nad efe yw'r goreu ac yn deilwng o'r gadair. Cadeirier ef.
(Y Darian, 29.05.1919)
Y BARDD
Ganed David Bowen yn Nhreorci ym 1874. Roedd yn frawd hŷn i'r beirdd Ben Bowen a Thomas Orchwy Bowen (sef tad y Prifeirdd Geraint ac Euros Bowen). Bu farw Ben Bowen ym 1903, a Myfyr Hefin a fu'n bennaf cyfrifol am olygu cofiant a chasgliad o'i waith, ac o hynny datblygodd ddiddordeb mewn barddoni ei hun. Roedd yn weinidog â'r Bedyddwyr. Bu farw ym 1955.
Cofnod Myfyr Hefin yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/en/s2-BOWE-DAV-1874.html