Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.
1882 | 1895 | 1896 | 1897 | 1898 | 1901 | 1902 | 1903 | 1904 | 1907

Cyfeirir yn gyntaf at Eisteddfod Gadeiriol Trawsfynydd ym 1882; datblygiad ar gyfarfod llenyddol cystadleuol a fu'n weithredol yn yr ardal ers ugain mlynedd cyn hynny. Ceir y dyfyniad isod yn adroddiad Y Dydd ar 16 Mehefin 1882:
O fod yn gyfarfod llenyddol llwyddianus dros ugain mlynedd, daeth yr uchelwyl yma eleni yn Eisteddfod Gadeiriol hynod lwyddianus a phoblogaidd.
Ar y Sulgwyn y cynhelid hi yn wreiddiol, cyn dod yn Eisteddfod Gadeiriol y Llungwyn, Trawsfynydd; ac wedi hynny, am fod cymaint o ddigwyddiadau eraill yn dueddol o gael eu trefnu ar y Llungwyn, yn Eisteddfod Gadeiriol Trawsfynydd ar droad yr 20fed Ganrif, pryd y symudwyd dyddiad arferol yr eisteddfod i ddiwedd Mehefin.

Hon oedd y gyntaf yn y gyfres hon o eisteddfodau i gynnig cadair am farddoniaeth. Gweinyddai'r Parch W. Jones fel archdderwydd yn seremoni'r cadeirio. Nid oedd y bardd buddugol, Glan Padarn, yn bresennol i'w gadeirio, a chadeiriwyd cynrychiolydd yn ei le, sef W. W. Owen, ysgrifennydd yr eisteddfod.
Y BARDD
Ganed Glan Padarn ym 1848. Roedd yn fardd gwlad ac yn fedrus wrth gyfansoddi caneuon a'u gosod ar gerddoriaeth. Ysgrifenodd lawer o farwnadau, a chyhoeddwyd cyfrol o'i waith, Odlau Padarn, ym 1878. Bu farw ym 1888.

Un o Aberllefenni oedd Hugh Jones, bardd cadeiriol Eisteddfod Trawsfynydd ym 1895, yn wreiddiol; roedd ar adeg yr eisteddfod yn fyfyriwr diwinyddol yng Ngholeg Y Bala.
Enillydd y gadair am bryddest ar y testun 'Hirddydd Haf' oedd Hugh Lloyd (Dyfrdwy), llyfrgellydd o Flaenau Ffestiniog.
Ysgrifennodd gohebydd yn 'Y Llan a'r Dywysogaeth' (18 Mehefin 1897) rywfaint o hanes yr eisteddfod:
‘Cafwyd eisteddfod ragorol ymhob ystyr eleni, er fod llawer yn ofni mai teneu fyddai y cynulliadau, yn enwedig yn y prydnawn, oherwydd fod yr Odyddion wedi gohirio eu gorymdaith flynyddol o’r Llungwyn – yr adeg arferol – hyd y 26ain cyfisol. Ond er fod canoedd wedi myned i ffwrdd gyda’r trên rhad, eto cafwyd cynulliad da. Yn y prydnawn, llywyddwyd gan Mr W. W. Owen (C.P.), Ysgol Frytanaidd, gan yr hwn y caed araeth dra phriodol a dyddorol. Arweiniwyd yn fedrus a doniol neillduol gan Llifon. A chlorianwyd y cerddorion yn alluog a manwl – a’r hyn sydd fwy hynod byth – yn dra boddhaol, gan Mr D. Pryse-Jones, G. & L., Niwbwrch, Môn.’
Dyma oedd ganddo i'w ddweud am y seremoni ei hun:
‘Beirniadaeth y Bryddest, ‘Hirddydd Haf’ – Hugh Lloyd (Dyfrdwy), Blaenau Ffestiniog. Cadeiriwyd ef gyda rhwysg ac urddas neillduol yn ol Braint a Defawd Beirdd Ynys Prydain, gan Llifon a llu o feirdd awengar, a chyhoeddwyd ‘Dyfrdwy’ yn fardd cadeiriol Eisteddfod Llungwyn, Trawsfynydd, 1897...Arwisgwyd y bardd cadeiriol ac arweinydd y cor buddugol gan Miss Pugh, Bryngwyn.’
Mae'n debyg mai yn yr ysgoldy y cynhaliwyd yr eisteddfod - un anghyfforddus ac anaddas at hynny! Erbyn heddiw cynhelir eisteddfod Trawsfynydd yn y Neuadd Goffa, ac mae'n bosib y bu'r eisteddfod hon yn sbardun bach i arwain at ymgyrch i sefydlu'r neuadd honno:
‘Bu yr Eisteddfod eleni yn foddion i roddi pwys neillduol ar yr hyn sydd wedi ei deimlo yn ddwys er’s blynyddau gan garedigion cynydd a diwygian yn y plwyf hwn, sef gwir angen am ystafell gyhoeddus o faintioli priodol i gynal cyfarfodydd o’r fath ynddi. Hyd nes y dygir hyn oddiamgylch, ofer ydyw disgwyl am i unrhyw Eisteddfod yn Nhrawsfynydd fod yr hyn ddylai. Y mae yn gam moesol â’r cerddorion a’r oll o’r cystadleuwyr i’w gosod yn y fath le anghyfleus ac anghysurus ag unrhyw un o’r ysgoldai sydd yma. Y mae pob cynulliad cyhoeddus mawr yn colli ei nod a’i amcan oherwydd nad oes yma ystafell addas i’w gynal. Y peth sydd angenrheidiol er sicrhau un ydyw ysbryd anturiaethus yn y trigolion. Pwy a gymer y cam cyntaf gyda’r symudiad gwir angenrheidiol hwn?’
Cafodd testun y gadair yn eisteddfod y flwyddyn flaenorol ei droi ar ei ben erbyn 1898; yn hytrach na chynnig y wobr am bryddest i 'Hirddydd Haf', heriwyd y beirdd i gyfansoddi ar y testun 'Hirnos Gauaf' y tro hwn.
Datganwyd cyfarchion i'r bardd gan Llifon, Athron, Dyfnallt ac eraill.
Datganwyd cyfarchion i'r bardd gan Llifon, Athron, Dyfnallt ac eraill.
Y BARDD
Ganed Griffith Davies ar dyddyn Llwynpiod, Llanuwchllyn, ym 1868; ac yn ffermio yn y cyffiniau y treuliodd fwyafrif ei oes hir. Roedd yn eisteddfodwr brwd a dderbyniwyd i'r Orsedd ym 1911. Cyhoeddwyd cyfrol o'i waith, Awen Gwyndaf Llanuwchllyn, ym 1966; bedair blynedd wedi ei farwolaeth ym 1962.
Cofnod Gwyndaf Llanuwchllyn yn Y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-DAVI-GRI-1868

1901PARCH. R. H. WATKINS
BRYN-CRUG, TYWYN TESTUN FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO BEIRNIAID RHYS J. HUWS LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
Dewi Machno oedd yn fuddugol ar yr englyn a'r toddaid yn yr eisteddfod hon.
Bwriedid cynnal yr eisteddfod hon ar y Llungwyn, yn ôl yr arfer, ond mae'n debyg i'r pwyllgor benderfynu newid y dyddiad o ganlyniad i ddigwyddiadau eraill cyfagos ar y dyddiad hwnnw 'a filwriant yn erbyn cael cynnulliadau lliosog yn yr ŵyl', yng ngeiriau gohebydd Baner ac Amserau Cymru.
Dyfrdwy o Flaenau Ffestiniog oedd bardd y gadair unwaith eto yn yr eisteddfod hon, ar ôl ei hennill ym 1897 hefyd. Yn ei gyfarch yn y seremoni roedd Dyfnallt (y beirniad, a'r darpar brifardd ac archdderwydd), Glanedog, Caerwyson, Gwyddno, a J. H. Williams. Cafwyd cân y cadeirio gan LlewelynDavies, Bae Colwyn.

Roedd Gwilym Rees, bardd y gadair, ar y pryd yn weinidog gyda'r Annibynnwyr yng nghapel Jerusalem, Blaenau Ffestiniog.
Am yr englyn i'r 'Pysgotwr', rhannwyd y wobr gyntaf yn gyfartal rhwng Dewi Mai o Feirion a Lewis Jones, Trawsfynydd.
Am yr englyn i'r 'Pysgotwr', rhannwyd y wobr gyntaf yn gyfartal rhwng Dewi Mai o Feirion a Lewis Jones, Trawsfynydd.
Gwelir o'r hysbyseb hon, a gyhoeddwyd yn y Cambrian News ar 29 Ebrill 1904, y cynigiwyd coron a chadair yn Eisteddfod Trawsfynydd 1904. Y tro hwn, roedd y gadair yn gyflwynedig i arweinydd y côr cymysg buddugol, gydag awdur y bryddest orau yn derbyn coron.
Enillydd y goron oedd T. Llyfni Davies, gweinidog yn Y Cendl, Gwent. |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH R. T. WILLIAMS, BLAENAU FFESTINIOG [2]
Yn rhan o seremoni'r cadeirio yn yr eisteddfod hon roedd Llifon, Dewi Mai o Feirion, Marianog, Ellis Evans (tybed ai Hedd Wyn yw'r Ellis Evans y cyfeirir ato yma? - gwirio) a W. J. Edwards - 'yr oll yn cyfarch gyda llinellau barddonol' yn ôl adroddiad Y Rhedegydd ar 6 Gorffennaf 1907.
1882
- 'Trawsfynydd' yn Y Dydd, 16.06.1882
- gwefan ArchivesHub, cyrchwyd 12.11.2020 https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/c35e36ad-873f-3a2e-997b-7b393a85d117
1896
- 'Trawsfynydd' yn Y Llan, 05.06.1896
1898
- 'Blaenau Ffestiniog a'r Amgylchoedd' yn Gwalia, 07.06.1898
1901
- 'Eisteddfod Gadeiriol Trawsfynydd' yn Baner ac Amserau Cymru, 08.06.1901
1902
- 'Eisteddfod Gadeiriol Trawsfynydd' yn Baner ac Amserau Cymru, 02.07.1902
1903
- 'Eisteddfod Gadeiriol Trawsfynydd' yn Gwalia, 30.06.1903
1904
- Adran hysbysebion The Cambrian News and Welsh Farmers' Gazette, 29.04.1904
- 'Trawsfynydd Crown and Chair Eisteddfod', The Welsh Coast Pioneer, 01.07.1904
1907
- 'Eisteddfod Gadeiriol Trawsfynydd' yn Y Rhedegydd, 06.07.1907