1910NEB YN DEILWNG
TESTUN BWLCH ABERGLASLYN NIFER YN CYSTADLU 2 GWOBR ARIANNOL 1 GINI BEIRNIAD EIFION WYN LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH ROBERT EVANS (CYBI)
'CARDOTA AM GADAIR' - HELYNT EISTEDDFOD CRICIETH 1910
Does dim byd yn gwneud eisteddfod yn fwy diflas na chadair wag. A chadair wag oedd yn Eisteddfod Criccieth 1910, pan farnodd Eifion Wyn nad oedd yr un o'r ddwy ymgais ddaeth i law ar y testun 'Bwlch Aberglaslyn' yn deilwng o'r brif wobr.
Drannoeth yr Eisteddfod derbyniodd Eifion Wyn lythyr gan un oedd wedi cystadlu o dan y ffugenw 'Cidwm.' Cybi, neu Robert Evans oedd 'Cidwm,' ac ef oedd wedi dod agosaf at gipio'r gadair. Ei honiad cyntaf o oedd ei fod wedi cael gwybod o flaen llaw mai ef oedd i ennill y gadair:
'Nid oedd yn loes na siom i mi. Ond mae dyryswch - os nad yn rhywbeth gwaeth - fod yr ysgrifenydd wedi fy hysbysu rai dyddiau cyn yr Wyl mai Cidwm oedd i gael y gadair.'
Ond yn ôl Eifion Wyn, allai hyn ddim bod yn bosib, oherwydd fel pob beirniad parchus yr oedd wedi cadw ei gyfrinach. (Doedd beirdd fel rheol ddim yn gwybod o flaen llaw mai nhw oedd wedi ennill yn y cyfnod - roedd disgwyl iddynt fod yn bresennol.)
'Nis gwn pwy a gyhuddwch o rywbeth gwaeth na dyryswch. Nid wyf fi yn gyfrifol am 'hysbysiadau' yr ysgrifenydd; nid myfi yw ei geidwad. Gwyddwn ers dros bythefnos nad oedd cadeirio i fod, er na fynegais hyny i ungwr byw. Am fanylion pellach (chwedl y rhagleni) ymofyner a'r ysgrifenydd.'
Dyma ddywedodd yr ysgrifennydd, Mr R. P Jones:
'Yr unig beth a ddywedais wrth Cybi oedd a ganlyn: Nad oedd ond dau yn cynnyg am y gadair, ac fod cyfle da iddo i'w hennill gan nad oedd ond dau. Camgymeriad yw dweyd fy mod i wedi ei hysbysu mae efe oedd y buddugol, gan na wyddwn eich dyfarniad hyd nes y daeth i'm llaw brydnawn dydd yr Eisteddfod.'
Camddealltwriaeth syml felly, a dychwelodd Eifion Wyn yr awdl anfuddugol at Cybi gyda hyn:
'Yr wyf yn dychwel eich awdl. Rhwng dau frawd, onid yw amlder ei diffygion yn cyfiawnhau fy nedfryd?'
Halen ar y briw oedd hyn i Cybi efallai, a mynodd ddal ati i fynegi ei anfodlonrwydd gyda'r canlyniad. Roedd yn dal i ddweud ei fod wedi clywed gan yr ysgrifennydd ei fod yn fuddugol, ac yn ychwanegol at hyn, dechreuodd gyhuddo'r beirniad o osod 'safonau' y gystadleuaeth yn rhy uchel:
'Am eich rheswm dros atal y gadair, credaf i chwi roi safon rhy uchel i natur y gystadleuaeth a'r wobr.'
Roedd Eifion Wyn eisioes wedi dweud mai canu awdl oedd maen tramgwydd Cybi - y byddai'n well iddo fod wedi canu pryddest dda yn lle awdl wan, ond credai Cybi mai barnu'n rhy llym yr oedd Eifion Wyn - ar safonau cenedlaethol yn hytrach nac ar safonau Eisteddfod leol. Nid oedd Cybi am roi i fyny yn hawdd ar ei gwest am bedwerydd cadair. (Yr oedd eisioes wedi ennill yn eisteddfodau Rhoshirwaun, Pwllheli a Nefyn y flwyddyn flaenorol).
'Deallaf fod y pwyllgor yn awyddus iawn i ddod i gyd-ddealldwriaeth i ddyfarnu'r gadair i'r 'goreu,' yn wyneb y gall yr atal fod yn aflwydd i ddyfodol yr Eisteddfod; ond nis gellir gwneud hyny mae'n debyg, heb eich adystyriaeth chwi.'
'A fu erioed y fath gardota am gadair?' oedd ymateb y beirniad i ymdrechion Cybi i ddodrefnu ei gartref er gwaethaf y diffyg teilyngdod. Gwadodd ysgrifennydd yr Eisteddfod bod trafodaeth wedi bod, ac yn wir honnodd fod Cybi wedi cysylltu ag o yn gofyn a fyddai'r beirniad yn ailystyried! Ni chafodd gyfle i gysylltu a Eifion Wyn am y mater:
'[...] a da oedd hyny, gan fy mod yn cwbl gredu fod eich dyfarniad yn un teg, ac na wna yr un atal unrhyw ddrwg i'n Heisteddfod.'
Yn y cyfamser, roedd Cybi wedi bod yn brysur yn trefnu i gyhoeddi ei awdl, mewn rhyw fath o brotest bron, a daeth allan ar ffurf llyfryn o 16 tudalen o wasg argraffu Richard Jones, Pwllheli. (Maent yn brin iawn heddiw fel llawer o bamffledi tebyg, yn anffodus) Roedd hi'n troi yn ddipyn o frwydr rhwng y bardd a'r beirniad, a chan bod y rhan fwyaf o'r ymgom yn digwydd yng ngholofnau'r Herald Cymraeg, mawr oedd difyrrwch y darllenwyr.
Yn wahanol i'r disgwyl i awdl anfuddugol, roedd yr adolygiadau o 'Bwlch Aberglaslyn' yn ffafriol iawn. Dyma bytiau o rai ohonynt:
Celt, Llundain:
' [...] mae'r awdl yn un hynod swynol, ac yn fwy darllenadwy nag aml i gyfansoddiad sydd wedi ei ddyrchafu i'r cymylau yn ein Heisteddfodau taleithol.'
Anthropos, yn Y Faner:
'Pan yn myned ar hynt drwy Aberglaslyn, yn nyddiau'r haf, ewch ag awdl "Cybi" yn eich llogell. Eisteddwch ar faen mwsoglyd i'w ddarllen, a chwi a gewch gymhorth i amgyffred mawredd a gogoniant yr olygfa'.
Yr Archdderwydd Dyfed:
'Y mae yn brydferth, yn naturiol, a llawer o addurnedd y "Bwlch" ynddi'
Iolo Caernarfon:
'Cefais lawer o flas wrth ddarllen eich awdl ar Aber Glaslyn. Yn sicr, par hon i mi ddisgwyl pethau gwych oddiwrthych'.
Gyda'r gwynt yma yn llenwi ei hwyliau daliai Cybi i fynnu y dylai fod wedi cael y gadair - a bod beirdd megis Elfed, Berw, a Phedrog wedi ei wobrwyo yn y gorffennol. Atebodd Eifion Wyn yn chwyrn gan ddal ei dir. Dyma rai dyfyniadau o'i lythyrau nesaf:
'Yr ydych y babi llenyddol mwyaf y clywais i am dano. Pe baech wedi cael cyfle i ymgyfathrachu a gwyr galluocach na chwi eich hun buasech yn haws i'ch trin. Dyna'r anfantais o fyw mewn congl, pair i un dybied, fel Ceiliog y bardd o Ffrainc, mai i wrando ar ei gainc efo y cyfyd yr haul!'
'Gwn yn bur dda bellach beth yw ansawdd arferol y cynyrchion mewn Eisteddfodau lleol; a thybed fod profiad ugain mlynedd yn llai o flaen prawf na'ch haeriad penarglwyddiaethol chwi?'
'Os nad oedd genych ymddiried yn fy marn a'm hegwyddor, paham yr anfonasoch gynyrch eich ffwdan i'm llaw?'
'...gwn mai nid dyma'r tro cyntaf i chwi beri cynen. Oni buoch yn ymgecru a Charneddog - gwr nad ydych yn deilwng i ddatod carrai ei esgid? Da chwi, er mwyn eich iechyd eich hun a chymeriadau pobl ereill, ymwadwch a'r Eisteddfod.'
Cyhoeddodd Eifion Wyn yr holl lythyrau uchod yn Yr Herald Cymraeg ar y 3ydd o Fai 1910, a'r wythnos ganlynol roedd Cybi yn ei ol yn ei gyhuddo o'u cyhoeddi heb ei ganiatad a rheiny'n anghywir:
'Cyhoeddwyd hwy heb fy nghydsyniad. Os oedd arno eisieu cyhoeddi'r llythyrau, paham na buasai yn eu cyhoeddi fel yr oeddynt, heb dynu oddiwrthynt na rhoddi atynt, a gadael i'r cyhoedd ddweyd eu barn?'
Rhygnodd y ffrae yn ei blaen heb arwydd o stop. Dechreuodd eraill gymryd ochrau.
Meddai adolygydd yn Y Llan:
'Gwelsom salach awdlau wedi eu cadeirio, a hyny mewn eisteddfodau mwy nag Eisteddfod Criccieth.'
Ac yna R. J. Rowlands yn dod o'r ochr arall yn Papur Pawb ar yr 18fed o Fehefin:
'Heblaw hyn oll mae'r awdwr mor anfedrus yn cyfleu ei syniadau fel nad oes ddichon i neb ddirnad ystyr ei waith. Cymerer yr englyn hwn fel un engraifft:-
I enaid difarddoniaeth, nid edwyn
Ond adwy tramwyaeth;
A Duw mewn ofnadwyaeth
Yn ei gwydd nis deil yn gaeth.'
'Nis gwn i am gerydd digonol i awdwr awdl mor druenus a hon am godi ei lef yn erbyn gwr o safle a barn Eifion Wyn. Un na wyr sut i ysgrifenu iaith ei fam heb lu o wallau yn meiddio ysgrifenu'r fath lythyrau at un sydd wedi cyfoethogi llenyddiaeth farddon ei genedl mor helaeth [...]'
Mae'n wir dweud fod y mwyafrif o'r cyhoedd yn eu llythyrau yn ochri a Chybi, ac yn cytuno ei fod wedi cael rhywfaint o gam o leiaf. Y cyfathrebiad olaf ar y mater, wedi iddo fynd ymlaen am oddeutu tair mis, oedd gan un yn dwyn y ffugenw 'Ewyllysiwr Da', yn Yr Herald Cymraeg ar y 12fed o Orffennaf:
'Gyda'ch caniatad dymunaf roddi gair i'r brodyr sydd wedi gwastraffu amser, ink, a phapur, i groniclo cofiant cadair Eisteddfod Cricieth, 1910. Yr wyf wedi gweled amryw o'r dadleuon hyn bellach; ond y rheol bob amser ydyw syrthio i farn y beirniaid; ac y mae pob pwyllgor yn rhwym wrthi. Os digwydd i ryw anghydwelediad godi cydrhwng y cystadleuwyr a'r beirniaid, wel, gadawer cydrhyngddynt hwy a'u gilydd.'
Gellir gweld rhan o'r awdl 'Bwlch Aberglaslyn' yn Yr Herald Cymraeg, y 6ed o Orffennaf 1915 ar y ddolen isod:
http://newspapers.library.wales/view/3460137/3460140/14/bwlch%20aberglaslyn%20cybi