2018JUDITH MUSKER TURNER
FFAIR RHOS TESTUN Y BAE FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 7 GWOBR ARIANNOL £50 DYDDIAD CADEIRIO 28 EBRILL 2018 BEIRNIAID HYWEL GRIFFITHS LLEOLIAD YN 2020 YM MEDDIANT Y BARDD Lluniau: trefeurig.com |
Enillodd Judith Musker Turner ei chadair gyntaf yn eisteddfod Penrhyn-coch 2018 am gerdd rydd er cof am ei hathro soddgrwth, Geraint John o Benrhyn-coch.
Yn ei feirniadaeth, dywedodd y Prifardd Hywel Griffiths mai dyma '[f]ardd sydd yn gwbl sicr o’r hyn y mae am ddweud ac yn hyderus yn ei lais, neu ei llais'. Gallwch ddarllen y feirniadaeth yn ei chyfanrwydd yma.

Y BARDD Mae Judith Musker Turner yn fardd ac arlunydd tecstiliau o Ffair Rhos, Ceredigion, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2019. Mae hi’n perfformio gyda’r grŵp barddol Cywion Cranogwen ac yn nosweithiau Bragdy’r Beirdd. Mae hi wedi cyhoeddi cerddi yn Y Stamp ac yn aelod o dîm Talwrn Y Gwenoliaid. Yn 2019, arddangosodd ei gwaith celf yn rhyngwladol am y tro cyntaf yn Suns Europe, gŵyl ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd yn Udine yn yr Eidal. |