Mae'r hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.

1880
1881 1882 1883 1884 1885 William Evans (Artro) 1886 1887 1888 Robert Owen Hughes (Elfyn) 1889 Hugh Parry (Cefni) |
1890 Eliseus Williams (Eifion Wyn)
1891 Edward Lloyd (Tegfelyn) 1892 Hugh Davies (Tudwal) 1893 J. E. Jones 1894 Ni fu cystadlu 1895 1896 Gruffydd T. Evans (Beren) 1897 L. D. Jones (Ap Seriel) 1898 Côr Pendref, Bangor 1899 |
Sefydlwyd Eisteddfod Llangefni fel eisteddfod gadeiriol ym 1885, yn dilyn rhodd o gadair o'i waith ei hun gan J. Owen, Tŷ Moel. Fel hyn yr adroddwyd am yr achlysur yn Seren Cymru ar 15 Ionawr 1886:
Er ys rhai blynyddoedd cynnelir eisteddfod gan y gwahanol enwadau yn eu tro bob Nadolig yn y lle uchod [Llangefni]. Eleni, y Bedyddwyr oedd i ofalu am dani, a da genym ddweyd iddynt wneyd hyny yn deilwng; a thrwy garedigrwydd un o aelodau y pwyllgor, Mr J. Owen, Tymoel, yn cyflwyno cadair hardd o'i wneuthuriad ei hun, gallwyd ei galw am y tro cyntaf yn eisteddfod gadeiriol.
Ar y dechrau, byddai'r eisteddfod yn cael ei chynnal dros y Nadolig, gyda chyngerdd gyda'r hwyr ar 25 Rhagfyr, a'r eisteddfod gystadleuol ar Ddydd San Steffan. Fodd bynnag, yn dilyn eisteddfod sâl iawn ym 1891 o ganlyniad i'r oerfel, cafodd yr eisteddfod ei symud i benwythnos y Pasg, ac ym Mawrth neu Ebrill y'i cynhelid o 1892 ymlaen.
Byddai'r gwaith o drefnu Eisteddfod Gadeiriol Llangefni yn cael ei basio o flwyddyn i flwyddyn rhwng enwadau'r dref. Dyma sydd i gyfrif am yr amrywiaeth o destunau a welwch wrth bori'r cofnodion isod - cynigir y gadair weithiau am awdl, a thro arall am bryddest; ac weithiau i arweinydd y côr buddugol (fel yn eisteddfod 1898, a gynhaliwyd dan nawdd y Wesleyaid, oedd yn eisteddfod gerddorol a chelfyddydol yn unig).
Bydd Llangefni hefyd yn gwesteio Eisteddfod Gadeiriol Môn, un o eisteddfodau hynaf Cymru, yn achlysurol.

Uchod: Neuadd Drefol Llangefni, lle cynhaliwyd yr eisteddfod gadeiriol gyntaf ym 1885. Llun Alan Fryer trwy drwydded Creative Commons.
1885WILLIAM EVANS (ARTRO)
DOLGELLAU TESTUN DEDWYDDWCH (AWDL-BRYDDEST) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 26 RHAGFYR 1885 BEIRNIAID CEFNI GWNEUTHURWR MR J. OWEN, TŶ MOEL LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS (gwerthwyd o Terrier Antiques, Cleckheaton, Swydd Efrog) (hefyd o Beresford Antigues, East Riding) Lluniau: Antiques Atlas / SellingAntiques |
Cynhaliwyd yr eisteddfod dan nawdd Bedyddwyr Llangefni. Nid oedd y bardd buddugol, Artro, yn bresennol i'w gadeirio, a chynrychiolid ef yn y seremoni gan William Thomas, Swyddfa'r Post, Llangefni.
Cynhaliwyd eisteddfod 1889 dan nawdd Wesleyaid y dref. Cynrychiolid y bardd yn y seremoni, yn ôl yr adroddiad yn Y Genedl Gymreig ar 2 Ionawr 1889, gan un 'Mr. Jones, Coleg y Brifysgol, Bangor'. Hon oedd pumed cadair eisteddfodol Elfyn.
Yn cyfarch y bardd o'r llwyfan yn ystod y seremoni roedd R. Môn Williams, Marian Môn, Menai Francis, Llwydiarth Môn, Gaianydd, Llew Arfon a Hywel Cefni.

Y BARDD
Ganed y Prifardd Robert Owen Hughes yn Llanrwst ym 1858. Yn dilyn gadael yr ysgol, bu'n brentis mewn banc cyn cychwyn paratoi i fynd i'r weinidogaeth gyda'r Methodistiaid. Yn lle hynny, treuliodd gyfnod yn gweithio i gyhoeddwr llyfrau yn Llundain. Yn ôl yng Nghymru, ymgartrefodd ym Mlaenau Ffestiniog, a bu'n olygydd nifer o gylchgronnau - Gwalia, Y Rhedegydd, a'r Glorian yn eu plith. Bu am gyfnod hefyd yn llyfrgellydd yn Llan Ffestiniog. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Caniadau Elfyn. By farw ym 1919. Cofnod Elfyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUGH-OWE-1858 |
Arweinydd seremoni gadeirio'r eisteddfod hon oedd Dewi Glan Ffrydlas, a chafwyd cyfarchion gan Marian Môn, Cymro Cybi, Syntax Môn, Gaianydd a Thalyddon.
O'R FEIRNIADAETH
Dyma a ddywedai'r beirniaid am yr awdl fuddugol:
'Mewn manylrwydd llenyddol, nid yw yr awdl hon y peth y buasem yn caru iddi fod. Nid yw yr arddull yn ddigon clir a chaboledig. Ceir math o doriadau ar y brawddegiad sydd yn tueddu i dori ar rediad y ganiadaeth. Mae ei geiryddiaeth, er hyny, yn profi fod Iolo yn Gymreigydd trwyadl, ac mae ei chynghaneddion a'i meddyliau yn profi ei fod yn fardd gwych. Credwn mai efe gyfranododd ddyfnaf a helaethaf o ysbryd ei destyn, ac fod mwy o wir fywyd yn ei waith. Mae pwysau o feddylgarwch a barddoniaeth yn yr awdl hon, a rhagora mewn eangder yn gystal a dyfnder. Mae yn ffyddlon i'r testyn yn mhob rhan, ac mae yn gwellhau wrth ei hail a'i thrydydd ddarllen. Yr ydym yn cydfarnu mai Iolo yw y goreu ...'
Ceir y feirniadaeth yn llawn yn Y Genedl Gymreig (15.01.1890) yma

Ganed Cefni ym 1826 ym mhleyf Cerrig Ceinwen, Môn. Roedd yn fardd, yn llenor ac yn ddiwinydd, a bu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr mewn amryw i ardal ar hyd a lled Cymru. Ymfudodd i Ogledd America ym 1870 a threuliodd fwyafrif gweddill ei oes yno. Dychwelodd i Gymru am y tro olaf ym 1895, pryd y bu farw yn Llangefni.
Cofnod Cefni yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PARR-HUG-1826

Methodistiaid Calfinaidd y dref oedd yn gyfrifol am drefnu Eisteddfod Gadeiriol Llangefni ym 1890. Hysbysebid hon fel eisteddfod dalaethol mewn sawl man, felly mae'n bosib mai un o Eisteddfodau Môn ydoedd - ond gan iddi gael ei chynnal ar yr un dyddiad ag eisteddfod arferol Llangefni, fe'i cynhwysir ar y dudalen hon.
Eifion Wyn oedd bardd y gadair, a disgrifiwyd y modd syml y cafodd ei gadeirio ar lwyfan yr ŵyl yn Baner ac Amserau Cymru ar 3 Ionawr 1891 - 'Dygwyd y seremoni yn mlaen mewn dull hollol syml, ond newydd, trwy i'r bardd cadeiriol eistedd yn ei gadair, ac i Miss Jennie Evans ddatganu, mewn llais hyglyw a soniarus, 'O Fryniau Caersalem,' &c.' Mae adroddiad Y Genedl Gymreig ar 31 Rhagfyr 1890 hefyd yn nodi'r ffaith y bu i'r bardd gael ei arwisgo yn ei gadair gan 'Miss Dora Gray, yr hon sydd ei hunan yn farddones o fri ac wedi enill cadair yn Eisteddfod Manchester'.
Awgrym yr adroddiad uchod yw fod Eifion Wyn yn bresennol yn Llangefni i dderbyn ei gadair a chael ei 'arwisgo' ar y llwyfan. Fodd bynnag, fe noda mab y bardd, Peredur Wyn Williams, yn ei gofiant i'w dad, na fu Eifion Wyn ar gyfyl yr un eisteddfod erioed i gael ei gadeirio - 'Roedd yn rhy swil i fynd ei hun', meddai, 'a chanddo wrthwynebiad i'r rhwysg a'r seremoni a berthynai i ddefod y cadeirio. Mae'n bosib felly mai cynrychiolydd oedd yn bresennol ar ran Eifion Wyn.
Noda PWW mewn man arall mai'r gerdd hon i H. M. Stanley oedd yr awdl gyntaf i Eifion Wyn ei chyfansoddi i gystadleuaeth.

Ganed Eifion Wyn ym Mhorthmadog ym 1867, ac yn ardal y dref honno y bu'n byw a gweithio ar hyd ei oes. Bu'n fardd cystadleuol llwyddiannus (ef sy'n dal y record am ennill cystadleuaeth yr englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol y mwyaf o weithiau, a bu ond y dim iddo gipio'r Gadair ym 1901, pryd y credai llawer iddo gael cam). Daeth yn enwog am ei delynegion, a'i gyfrol hynod boblogaidd, Telynegion Maes a Môr. Derbyniodd radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ym 1919. Bu farw ym 1926, a'i gladdu ym mynwent Chwilog. Cofnod Eifion Wyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-WILL-ELI-1867 |
1891PARCH. EDWARD LLOYD (TEGFELYN)
TREMADOG TESTUN I'R DUW NID ADWAENIR (AWDL) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 3 GWOBR ARIANNOL 2 gini DYDDIAD CADEIRIO 26 RHAGFYR 1891 BEIRNIAID HWFA MÔN GWNEUTHURWR Y GADAIR O. JONES, LLANGEFNI LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Roedd yr eisteddfod yng ngofal yr Annibynwyr ym 1891.
Roedd teilyngdod yng nghystadleuaeth 1891, ond nid aed trwy'r ddefod o gadeirio. Oherwydd 'gerwinder yr hin a bychander y cynulliad mewn canlyniad' (Y Cymro, 31.12.1891), eisteddfod denau oedd hon, a rhoddwyd nifer o'r digwyddiadau heibio, gan gynnwys, mae'n debyg, y cadeirio - nid oedd y bardd buddugol yn bresennol, p'un bynnag. Am yr ail flwyddyn yn olynol, aeth cadair Llangefni i fardd o ardal Porthmadog.

ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH J. E. JONES, LLANGEFNI [2]
Tudwal Davies oedd bardd cadeiriol Llangefni ym 1892, ond cynrhychiolid ef yn y seremoni gan ei frawd. Roedd yr eisteddfod hon hefyd yn newid byd wrth mai yn Ebrill y'i cynhaliwyd yn hytrach nac adeg y Nadolig - prin bedwar mis ar ôl eisteddfod 1891, mewn gwirionedd. Mae'n bosib fod hyn o ganlyniad i effaith y tywydd garw ar yr eisteddfod flaenorol (gweler uchod).
Hysbyseb ar gyfer yr eisteddfod o'r Cymro, 14 Ionawr 1892. Ni cheir atgynhyrchiad o hysbysebion fel hwn yng nghofnod pob eisteddfod ar y wefan hon, ond mae cynnwys rhai ohonynt yn rhoi mewnwelediad diddorol i'r cyfnod. Sylwer fod mynd mawr, a gwobrau hael, ar gystadlaethau'r corau a'r seindyrf.
Y BARDD Ganed Hugh Tudwal Davies yng Nghlynnog yn Arfon; bu'n byw ar fferm yr Orsedd Fawr, Llangybi, tra'n ŵr ifanc; cyn ymgartrefu ar fferm Bryn-Llaeth, Abererch. Yno y bu cyn rhedeg fferm deuluol ei wraig, Gellidara ym Mhenrhos, tua diwedd ei oes. Roedd yn dad i'r Prifardd Hugh Emyr Davies (Emyr), ac yn fardd galluog ei hun. Llun: Papur Pawb, 18.05.1895 Cofnod Hugh Tudwal Davies yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-TUD-1847 |
Wesleyaid y dref oedd trefnwyr Eisteddfod Gadeiriol Llangefni 1893. Un yn unig a gystadlodd ar destun y gadair, a barnwyd ei gerdd yn deilwng ohoni. J. E. Jones, y buddugwr, ddaeth yn ail i Tudwal Davies y flwyddyn flaenorol.
Cynhaliwyd eisteddfod 1894 dan ofal y Bedyddwyr. Ni ddenwyd yr un ymgais ar destun y gadair, wedi i'r gystadleuaeth ddenu un cystadleuydd yn unig ym 1893. Fodd bynnag, cyhoeddwyd rhai o weithiau buddugol eraill yr adran lenyddol yn Baner ac Amserau Cymru ar 7 Ebrill 1894.
Yn fuddugol am gyfansoddi beddargraff i 'Master W. Rice Williams', roedd un nad atebodd i'w ffugenw, Dafydd ap Edmwnt:
Bachgen Iesu fu hyd fedd - bur rodiodd
Ar hyd llwybrau rhinwedd;
Deg Willie! wedi gwaeledd
alwyd i hoff wlad o hedd.
David Thomas (Llwydiarth Môn) ddaeth i'r brig ar y gwawdodyn hir i'r fronfraith:
Gwefr cyfaredd, hyawdledd odlig,
Ddyru bronfraith oddiar y brenfrig,
Un â'i nodau yn eneiniedig;
A swyn paradwys - hoes puredig,
Hardd edu pencerdd y wig - cyfunol
o fawredd hudol greddf urddedig.
Llwydiarth Môn oedd yn fuddugol hefyd ar yr hir-a-thoddaid, y tro hwn am feddargraff i 'Mr. T. Gray, Llangefni'. Un arall na atebodd i'w ffugenw, Dafydd ap Tudur, oedd awdur yr englyn gorau i 'Christmas Evans'.

Cynhaliwyd yr eisteddfod ym 1896 gan Annibynwyr Llangefni. Cynrychiolid y bardd yn ei seremoni gadeirio gan y Parch. W. E. Williams, Penymynydd, yn ôl adroddiad Baner ac Amserau Cymru (15.04.1896), a chafwyd anerchiadau barddol gan Monwyllt, E. O. Jones, Ben. Thomas, Deiniol Fychan a Glyn Myfyr.
Angen gwirio: Nodir enw cywir Beren fel 'T. E. Griffith' yn yr adroddiad a grybwyllir uchod, felly mae peth amwysedd ynghylch yr enillydd ar hyn o bryd.

Ganed Beren yn Neuadd Bodgadle, Rhydyclafdy ym 1853. Bu'n byw mewn sawl cartref yn ardal Rhydyclafdy yn ystod ei fagwraeth, a threulio gweddill ei oes yn y cyffiniau hefyd. Roedd yn gyfaill i gymeriadau megis Myrddin Fardd, yn aelod gweithgar ar bwyllgorau lleol, ac yn flaenor gyda'r Methodistiaid. Dywed Myrddin fardd am ei waith barddonol yn Hanes Enwogion Sir Gaernarfon, ei fod 'yn fwy o brydydd nag o fardd – yn rhagori mwy mewn mydrau rhydd nag yn llyffethair y gynghanedd'. Bu farw ym 1914 a'i gladdu ym mynwent Llanfihangel Bachellaeth.
Am ragor o hanes Beren, gweler wefan Cyngor Tref Pwllheli.

Roedd yr eisteddfod yng ngofal Wesleyaid Llangefni ym 1898, a chyflwynwyd y gadair a'r wobr ariannol i arweinydd y côr buddugol ar y prif ddatganiad corawl. Yn ôl adroddiad Y Genedl Gymreig ar 27 Rhagfyr, bu dau gôr yn ymgiprys am y wobr - Pendref a Llanerchymedd - gyda Phendref yn mynd â hi.
Cynhaliwyd eisteddfod 1900 dan nawdd Anibynnwyr Llangefni. Un yn dwyn y ffugenw 'Ap Derlwyn' oedd y buddugol ar destun y gadair, ond ni atebodd i'w enw pan cafodd ei alw o lwyfan yr eisteddfod, wedi i R. Môn Williams draddodi'r feirniadaeth ar ran Elfed a Rhys J. Huws.
Roedd Eisteddfod Llangefni 1901 yng ngofal y Bedyddwyr.
1901
'Llangefni: Chair Eisteddfod' yn The North Wales Express, 12.04.1901