Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.

Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol y Plant Manceinion am y tro cyntaf - a'r unig dro, o bosib - yn Ebrill 1883, yn y Neuadd Goffadwriaethol yn Sgwar Albert. Roedd yn eisteddfod lwyddiannus dros ben i blant y Parch. Thomas Gray; ei fab, D. Gray, oedd llywydd yr eisteddfod - a'i ferch oedd enillydd y gadair. Mae'n ddifyr nodi o adroddiadau papur newydd y cyfnod cymaint o'r plant a adnabyddid yn ol enwau eu rhieni, yn enwedig os oedd y rhieni hynny yn bobl o statws yn y gymuned.
Llun: Y Neuadd Goffadwriaethol, Sgwar Albert (Wikimedia Commons) |
Tri a fentrodd ymgiprys am y wobr yn y gystadleuaeth newydd hon, ac o'r tri nodai'r beirniad, Idrys, nad oedd dau o'r rheiny yn deall 'yn ail i ddim am nac acen nac odl'.
O ddeall mai merch ifanc oedd yn fuddugol, roedd amryw un o swyddogion yr eisteddfod yn barnu mai doethach fyddai i'w brawd ei chynrychioli ar lwyfan yr eisteddfod; agwedd sy'n ymddangos yn gwbl hurt yn ol safonau heddiw ond a fyddai, ysywaeth, yn gyffredin iawn ar y pryd.
Fodd bynnag, gwrthwynebodd y gynulleidfa'n chwyrn i'r syniad hwnnw, a chafodd Dora Gray ei chyrchu i'r llwyfan gan yr osgordd a'i chadeirio, 'yn nghanol sain udgorn ac englynu'.

Y GADAIR
Mae'r gadair bellach yn rhan o gasgliadau Storiel ym Mangor. Cadair o faint plentyn ydyw, gyda dyluniad syml sy'n cynnwys cenhinen a phlu Tywysog Cymru ar y cefn, a manylion yr eisteddfod ar blac metel.

Y BARDD
Enillodd Dora Gray gadair eisteddfod y plant ym Manceinion ym 1883. Roedd yn gerddor medrus ac adroddir iddi ennill medal efydd yr Academi Gerdd Frenhinol ym 1889.

1883
- 'Eisteddfod Gadeiriol y Plant' yn Baner ac Amserau Cymru, 11.04.1883