Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.
1869 | 1870 | 1871 | 1872 | 1873 | 1874 |

Roedd Eisteddfodau Lerpwl a Phenbedw, yn gyfres o gyrddau cystadleuol a gynhaliwyd dan nawdd cyfrinfa Gordovic y Seiri Rhyddion, Penbedw.
Y BARDD
Ganed Tafolog ym 1830 yn ardal Mallwyd, ond symudodd ei deulu yn fuan wedi ei enedigaeth i Gwm Tafolog, Cemais, y man a roddodd iddo ei enw barddol. Er na chafodd lawer o addysg gynnar, ysgrifennodd doreth o farddoniaeth yn ystod ei oes, a bu'n bur lwyddiannus mewn eisteddfodau. Bu farw ym 1904. Llun: Hugh Humphreys, Caernarfon (1817-1896), LlGC Cofnod Tafolog yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-RIC-1830 |
Y BARDD
Ganed Richard Foulkes Edwards (Rhisiart Ddu o Wynedd) ym 1836 yn ardal Bodfari. Roedd yn fardd cynhyrchiol o oedran cynnar, a chyhoeddodd gyfrol, Y Blaenffrwyth, ym 1858. Cafodd gryn lwyddiant mewn eisteddfodau, gan gynnwys enill Cadair Genedlaethol Llandudno 1864, a bu'n gweithio fel ysgrifennydd i Thomas Gee yn Ninbych am gyfnod. Astudiodd i fynd i'r weinidogaeth yng Ngholeg y Bala, ond ni dderbyniodd yr alwad a ddaeth i'w ran. Ym 1867, ymunodd â'i rieni yn yr UDA, a bu farw yn Wisconsin ym 1870.
Cofnod Rhisiart Ddu yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-EDWA-FOU-1836

Ganed Iolo Trefaldwyn ger Llanfyllin, Sir Drefaldwyn. Prin fu ei addysg gynnar, gan iddo ddychwelyd i weithio ar y fferm deuluol, cyn mynd yn chwarelwr ac yna'n fwyngloddiwr. Ymgartrefodd yn Wrecsam ar ôl cyfnod fel gwerthwr glo yn Lerpwl, gan weithio fel gwerthwr llyfrau i gwmni cyhoeddi o'r Alban. Roedd yn gystadleuydd mynych, yn ogystal â bod yn feirniad mewn eisteddfodau lleol. Cyhoeddodd un gyfrol o farddoniaeth, Caneuon Iolo Trefaldwyn. Bu farw ym 1887. Llun: Casgliad John Thomas, LlGC Cofnod Iolo Trefaldwyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-EDW-1819 |
Y BARDD
Ganed Dafydd Morgannwg ym Merthyr Tudful ym 1832, ac mae'n fwyaf enwog am ei gyfrol ddylanwadol ar y gynghanedd, Yr Ysgol Farddol (1869); yn ogystal â Hanes Morgannwg (1874) ac Yr Ysgol Gymreig, cyfrol ar ramadeg. Bu'n gweithio mewn cysylltiad â'r diwydiant glo trwy gydol ei yrfa, ond roedd hefyd yn fardd eisteddfodol llwyddiannus, yn olygydd colofn Gymraeg y Cardiff Times, ac yn llywydd cyntaf Cymmrodorion Caerdydd. Bu farw ym 1905. Cofnod Dafydd Morgannwg yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JONE-WAT-1832 |
1873JOHN CADVAN DAVIES
(CADVAN) BRYMBO TESTUN ISMAEL (PRYDDEST) FFUGENW SEIRIOL WYN NIFER YN CYSTADLU 6 GWOBR ARIANNOL £10 DYDDIAD CADEIRIO BEIRNIAID NICANDER ISLWYN LLEOLIAD YN 2020 ANHYSBYS |
Cynhaliwyd Eisteddfod y Gordofigion 1873 mewn lleoliad newydd, sef y Royal Amphitheatre (lleoliad y Court Royal heddiw, yn dilyn dinistrio'r adeilad gwreiddiol mewn tân ym 1938). Roedd yr adeilad hwn yn gallu dal hyd at 4000 o bobl, ac roedd yn le cyfleus i gynnal eisteddfod oedd wedi tyfu'n rhy fawr i'w hen gartref yn y Concert Hall, a ddaliai dorf o oddeutu 2000.
Ceir canlyniadau'r adran lenyddol, ynghyd ag adroddiad yr eisteddfod a'i chyfansoddiadau buddugol, yng nghyfrol y Cyfansoddiadau Barddonol Buddugol (Lerpwl 1875). Mae'r gyfrol honno ar gael i'w darllen ar lein yma.

Y GERDD
Gofynnwyd am awdl neu bryddest ar y testun 'Ismael', a rhanodd Cadvan ei bryddest hir yn bum caniad. Pryddest ddiwinyddol ydyw, yn adrodd hanes Ismael (Ishmael), mab hynaf Abraham. Yn y detholiad isod, a godwyd o'r caniad cyntaf, gwelwn Ishmael a'i fam, Hagar, ar ffo yn yr anialwch.
ISMAEL (DETHOLIAD) - CADVAN
Edrychwn acw, wele'r fam a'r bachgen
Yn crwydro dan gawodau tân yr heulwen;
Prysurant rhagddynt, tra mae'r chwys yn ffrydiau
A'r deigr yn ymgymysgu ar eu gruddiau;
O'u hol mae cartref - cartref gwir gysurus,
O'u blaen mae diwrnod brwd a thaith flinderus;
Gadawsant gartref clyd, byth i ddychwelyd;
Mae'r Aipht yn mhell, a rhwystrau'r daith yn enbyd;
Dechreuant deimlo'n awr fod saethau llymion
Anobaith, fel pe'n hongian rhwng eu dwyfron;
Disgyna'r gwres yn gawod am eu penau,
A chwyd y gwres yn ol o dan eu gwadnau;
A dawnsia'r gwres o'u cylch gel pe b'ai'r hinon
Mor frwd nes llosgi edyn yr awelon!
Ar ysgwydd wan y fam gorphwysai 'sgrepan,
Ac ar ysgwyddau'r llanc 'roedd croen yn hongian,
A'i ffurf yn dweyd o draw mai costrel ydoedd,
Ond er eu galar, costrel wag o ddyfroedd!
Dyddringai'r haul yn uwch i fron y nefoedd,
Gan arllwys ei belydrau tân nes ydoedd
Swn tonau'r gwres yn tori yn yr awel,
Fel si bruddglwyfus dros dros yr anial isel;
Ai'r haul yn mlaen - äi gwres yn gryfach, gryfach;
Aent hwythau'n mlaen, ond aent yn wanach, wanach;
Blinai eu llygaid fel heb nerth i weled,
Glynai'u tafodau gan mor fawr eu syched!
Nes yn y diwedd, wedi llwyr ddiffygio,
Wrth ochr ei fam, mae'r bachgen wedi syrthio!

O'R FEIRNIADAETH
Roedd y beirniaid, Nicander ac Islwyn, yn dra chanmoliaethus o'r chwe cherdd a ddaeth i law yn y gystadlaeuaeth, yn enwedig pryddestau Edwal a Paran. Fodd bynnag, gwaith Seiriol Wyn oedd flaenaf ganddynt, ac roedd eu clod yn fawr, fel y gwelir o'r dyfyniad isod.
Hon yw'r Bryddest oreu o ran cynllun a chwaeth; hon yw y fwyaf awenyddol a tharawiadol. Ac y mae hon, o ran ei godidowgrwydd barddonol, yn cwbl deilyngu Cadair y Gordofigion. Mae hi yn un o'n Pryddestau goreu.

Ganed John Cadvan Davies yn Llangadfan, Sir Drefaldwyn, ym 1846. Roedd yn weinidog gyda'r Wesleyaid ac yn fardd ac eisteddfodwr amlwg a llwyddiannus am flynyddoedd lawer. Tynnodd sawl helynt i'w ben pan na fu'n llwyddiannus mewn eisteddfodau - yn fwyaf enwog ynghylch pryddest Cadair Eisteddfod Meirion 1894. Cyhoeddodd bedair cyfrol o farddoniaeth yn ystod ei oes, ac fe'i urddwyd yn Archdderwydd Cymru ym 1923. Dim ond am un eisteddfod y bu yn y swydd honno, gan y bu farw yn Hydref 1923. Llun: Casgliad John Thomas, LlGC Cofnod Cadvan yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-CAD-1846 |
Gwilym Glanffrwd, oedd ar y pryd yn astudio ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg St. Aidan's, Penbedw, oedd bardd y gadair yn Eisteddfod y Gordofigion 1874.
Cynigiwyd gwobr o ddwy gini am gywydd marwnad i Nicander (Morris Williams, 1809-1874), un o feirniaid cadair Lerpwl y flwyddyn flaenorol, a fu farw fis Ionawr. Ieuan Ionawr, bardd o Ddolgellau, oedd yr enillydd. Cynhwysir detholiad o'r cywydd buddugol isod, lle mae'r bardd yn cyfeirio at nifer o'r mannau lle bu Nicander yn gwasanaethu'r Eglwys yng Nghymru ar hyd ei oes.
Ceir canlyniadau'r adran lenyddol, ynghyd ag adroddiad yr eisteddfod a'i chyfansoddiadau buddugol, yng nghyfrol y Cyfansoddiadau Barddonol Buddugol (Lerpwl 1875). Mae'r gyfrol honno ar gael i'w darllen ar lein yma.
Cynigiwyd gwobr o ddwy gini am gywydd marwnad i Nicander (Morris Williams, 1809-1874), un o feirniaid cadair Lerpwl y flwyddyn flaenorol, a fu farw fis Ionawr. Ieuan Ionawr, bardd o Ddolgellau, oedd yr enillydd. Cynhwysir detholiad o'r cywydd buddugol isod, lle mae'r bardd yn cyfeirio at nifer o'r mannau lle bu Nicander yn gwasanaethu'r Eglwys yng Nghymru ar hyd ei oes.
Ceir canlyniadau'r adran lenyddol, ynghyd ag adroddiad yr eisteddfod a'i chyfansoddiadau buddugol, yng nghyfrol y Cyfansoddiadau Barddonol Buddugol (Lerpwl 1875). Mae'r gyfrol honno ar gael i'w darllen ar lein yma.
CYWYDD MARWNAD NICANDER (DETHOLIAD) - IEUAN IONAWR
Daeth y chwa ar ymdaith chwyrn,
Ysgydwodd Ynys y Cedyrn; Marw NICANDER, mirain Awenydd ac ieithydd cain - Gwr o ddysg, roddai i'w iaith Anwylaf ei fanylwaith, Oedd newydd wanai awen, A saeth braw i Walia wen; Eistedd wnai'r beirdd yn astud, A'u hawen fêl hi âi'n fud. |
Y gwr myg a garem a
Fu'n golofn ei gu Walia; Glwys-gymrawd a dysgawdwr Y caed ef, ddihoced wr. Ac i Wyndud, Nicander Oedd ddyn oes a lwyddai Ner; Yn Eifionydd ni fynai Aros yn ol, prisio wnai Ysgol addysg i lwyddiant, O radd saer âi i urdd sant; O ddinodedd y neidiai Y gwr dewr yn gurad âi; Ac o oriel y curad, Ger Bangor, y llenor llad Aeth i Amlwch, a themlodd Yn Llanrhuddlad fad o'i fodd; Llwybrai i aur gafell bri Llên, o gaban Llangybi. |
Y GERDD
Pryddest mewn saith caniad neu 'bennod' yw 'Bethlehem' Gwilym Glanffrwd, sy'n myfyrio dros sawl agwedd ar arwyddocad y lle hwnnw yn y ffydd Gristnogol. Daw'r canu i'w anterth yn y chweched caniad, lle darlunir y golygfa o gylch y preseb. Ceir detholiad o rai penillion o'r adran honno isod.

BETHLEHEM (DETHOLIAD) - gwilym glanffrwd
Diwedd taith y Seren ddysglaer
Ddaeth, a'r doethion ar ei hol I addoli'r Iesu hawddgar, A'i fawrygu yn eu col; Ie, diwedd taith y Seren Oedd y preseb - cilio wnaeth; Canys yno Huan llawen I oleuo'r byd a ddaeth. Uwch y preseb y machludodd, Wedi rhoi goleuni cun, At y man yr ymddangosodd Duw ei hun yn natur dyn; Yno 'roedd pelydrau dwyfol Yn guddiedig yn y cnawd; Yno 'roedd yr Ior tragwyddol Wedi d'od i'r dyn yn frawd. |
Hunai dynion ar welyau -
Dyn gai glustog esmwyth, wen; Ond y Duw-ddyn heb glustogau Ar y preseb r'odd ei ben; Cuddiai sidan y colledig, Yn y llety'n wych ei drem; Ond y Ceidwad bendigedig Dan lwydni Preseb Bethlehem. |
O'R FEIRNIADAETH
Daeth 12 o gerddi i law'r beirniaid, Dewi Wyn o Essyllt a Gwilym Hiraethog, a'u gosodai yn dri dosbarth, gyda phump o ymgeiswyr yn cyrraedd y dosbarth cyntaf. Yn ei ragymadrodd i'r beirniadaethau, roedd Dewi Wyn yn pwysleisio godidogrwydd y testun 'Bethlehem', a'r cyfrifoldeb o ymgymryd â thestun mor arwyddocaol. Roedd y beirniaid yn amlwg wedi eu plesio yn fawr gan yr ymateb a fu:
Mewn cysylltiad â thestyn fel hwn, lle y mae rhyfeddodau a hynodion pob hanes wedi cyrraedd eu climax a'u heithafnod; a thestyn hefyd ag sydd mor gyfoethog mewn associations o'r mwyaf addurnol, cysegredig ac anwyl i bob calon a meddwl Cristionogol; gallesid yn naturiol ddisgwyl cystadleuaeth luosog ac egniol, a dysplead helaethwych o alluoedd uwchaf yr Awen Gymreig: ac yn wir, yn hyn yma ni chawsom ein siomi.
Dyma a ddywedwyd am y bryddest fuddugol, gwaith Gwilym Glanffrwd dan y ffugenw Micah:
Pryddest ragorol ydyw hon, yn llawn o'r farddoniaeth fwyaf felus, swynol a gwynfydig; nid yw yr awdwr mewn un man yn ein blino â meithder, a cheidw mewn cymdeithas agos a diymbaid â'i destyn o linell gychwynol ei bryddest hyd ei llinell orphenol. Y mae hyfrydlonedd, nefoleiddiwch, seiriander ac anwyldeb ei thôn, ei hysbryd, a'i phathos, yn ngyda'r enthusiasm pur, tawel, sobr ac ymlyngar, sydd yn treiddio trwy bob llinell ohoni yn gwneuthur iddi ffordd i'r galon yn ddiwrthwynebiad. Cwyd yr awdwr ein personoliaeth yn gyfan uwchlaw y ddaear, a throsglwydda ni i "Diroedd Hud" ar unwaith. Nid oes ynom y petrusder lleiaf wrth gyhoeddi y bryddest hon yn oraf, a'i bod yn wir deilwng o anrhydedd Cadair y Gordofigion am y flwyddyn 1874.

Ganed Gwilym Glanffrwd yn Ynysybwl ym 1843. Dechreuodd ei yrfa fel glowr, ond yn fuan iawn agorodd ysgol yn Ynysybwl, cyn derbyn swydd athro yn Llwynpia. Aeth i bregethu wedyn gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a chael ei ordeinio yn weinidog yn dilyn cyfnodau yng ngholegau Penbedw a Rhydychen. Roedd yn eisteddfodwr brwd a llwyddiannus. Bu farw yn dilyn trawiad ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Aberhonddu 1890. Cofnod Gwilym Glanffrwd ar wefan Cynon Culture: http://cynonculture.co.uk/wordpress/llanwynno/gwilym-thomas-glanffrwd-1843-1890/ |
1873
- Y Gordofigion: sef, Cyfansoddiadau Barddonol Buddugol Eisteddfodau Liverpool a Birkenhead, 1873 a 1874 (Lerpwl 1875)
- Tudalen Wikipedia Ishmael, cyrchwyd 14.07.2020 https://en.wikipedia.org/wiki/Ishmael
1874

- E. Morgan Humphreys, 'Ieuan Ionawr' ar wefan FamilySearch, cyrchwyd 15.07.2020 https://www.familysearch.org/service/records/storage/das-mem/patron/v2/TH-904-50925-182-59/dist.txt?ctx=ArtCtxPublic
- 'Gwilym Thomas "Glanffrwd" 1843-1890, gwefan Cynon Culture, cyrchwyd 15.07.2020 http://cynonculture.co.uk/wordpress/llanwynno/gwilym-thomas-glanffrwd-1843-1890/