Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.
1897 | 1898 | 1899 | 1904 | 1906 | 1908 | 1909 | 1910 | 1914 | 1915 | 1916-18 | 1919 | 1932

Cynhelid Eisteddfod Myfyrwyr Bangor ar adeg pan oedd nifer fawr o sefydliadau addysg bellach amrywiol yn gysylltiedig â'r ddinas, gyda myfyrwyr y gwahanol golegau yn cael gyfle i gystadlu yn erbyn ei gilydd. Ymhlith y rhain roedd y Coleg Normal, a hyfforddai athrawon; coleg diwinyddol Bala-Bangor a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru - Prifysgol Bangor erbyn heddiw.
Yn ddiweddarach, peidiodd yr Eisteddfodau Myfyrwyr 'lleol' hyn, ac yn sgil hynny y daeth Eisteddfod Myfyrwyr Cymru, neu'r Eisteddfod Ryng-golegol, yn ddigwyddiad amlycach.

Yn ddi-wahân i bob pwrpas, yr Athro John Morris-Jones - darlithydd ym Mhrifysgol Gogledd Cymru oddi ar 1889, ac Athro'r Gymraeg ers 1895 - oedd yn beirniadu'r gystadleuaeth flynyddol hon yn negawdau cyntaf yr 20G. Yn yr un cyfnod, ef oedd beirniad mwyaf rheolaidd cystadlaethau'r Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac un o'r awdurdodau pennaf ar farddoniaeth a'r gynghanedd.
Llun: John Morris-Jones pan yn fyfyriwr yn Rhydychen, c. 1885 (Casgliad John Thomas, LlGC) Byddai John Morris-Jones yn ddarlithydd ar lawer iawn o'r beirdd ifanc a gystadlai yn Eisteddfod y Myfyrwyr, a gellir dychmygu bod ei ddylanwad a'r awydd i greu argraff arno yn fawr. Aeth nifer fawr o enillwyr y gystadleuaeth hon ymlaen i fod yn brifeirdd cenedlaethol - Silyn Roberts, Cynan, R. Williams Parry a J. Ellis Williams yn eu plith. |
Ffigwr arall sy'n bresenoldeb cyson ac amlwg yn yr un cyfnod yw Llew Tegid (Lewis Davies Jones, 1851-1928). Roedd yn athro ysgol ym Mangor, a bu'n ymwneud â gwaith i godi arian tuag at godi adeiladau newydd i Goleg Prifysgol Bangor. Roedd yn fardd ac yn arweinydd eisteddfodau adnabyddus a enillodd gadeiriau eisteddfodol ei hun.
Y BARDD
Ganed Silyn yn Llanllyfni ym 1871, ac ar ôl bod yn chwarelwr treuliodd gyfnodau o addysg yng Nghlynnog, Bangor a'r Bala. Bu'n weinidog yn Lewisham a Thanygrisiau, Ffestiniog. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1902 am ei bryddest, 'Trystan ac Esyllt'. Roedd yn sosialydd a fu'n aelod Llafur ar y Gyngor Meirionydd, a chyhoeddodd waith yn ymwneud â'r Blaid Lafur a'i hanes. Bu'n ddarlithydd allanol i Goleg Bangor o 1922 ymlaen. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth yn ystod ei oes, Telynegion ar y cyd â W. J. Gruffydd (1902) a Trystan ac Esyllt a Chaniadau eraill (1904). Fe'i cysylltir â'r cyfnod newydd o farddoniaeth delynegol, ramantaidd yn y Gymraeg ar droad y ganrif. Bu farw ym 1930. Cofnod Silyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-ROBE-ROB-1871 |
1898ROBERT ROBERTS
(SILYN) COLEG PRIFYSGOL GOGLEDD CYMRU TESTUN GORSEDD Y BEIRDD FFUGENW TWM SHON CATI NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO BEIRNIAID JOHN MORRIS-JONES LLEW TEGID LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
Enillodd Silyn Roberts y gadair am yr eildro o'r bron yn Eisteddfod Myfyrwyr Bangor 1898.
Am 'Arwrgerdd neu Duchangerdd' heb fod dros 1000 o linellau i 'Orsedd y Beirdd' y gofynnwyd yng nghystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod Myfyrwyr Bangor 1898. Roedd yr eisteddfod yn ysgafn ei naws, ac nid oedd hynny wrth fodd 'Obadiah Davies', ceidwad colofn 'Nodion o Fon ac Arfon' yn Y Cymro ar 28 Ionawr:
Nid wyf yn honi bod yn fardd, ond y mae genyf barch i draddodiadau'r tadau, a chredaf fod hyny'n fwy nas gellir ddweyd am rai sy'n ngiyn a'r Eisteddfod hon.
Testyn y gadair oedd "Arwrgerdd neu duchangerdd heb fod dros fil o linellau i Orsedd y Beirdd." Enillwyd gan Silyn Roberts, ysgrifenydd yr Eisteddfod. A dywedai'r bardd buddugol na wyddai pa un ai arwrgerdd ai duchangerdd oedd ei gyfansoddiad - ei fod yn gadael i'r beirniaid benderfynu. Cadeiriwvd ef mewn hwyl gellweirus gan 26 o feirdd!
Nodai'r un gohebydd am y tri a ymgeisiodd ar ganu gyda'r tannau ei bod 'yn amlwg na wyddent ddim am y gelfyddyd', ac nad oedd 'yn mysg y 26 englyn anfonwyd i law ddigon o ddefnydd i wneud un englyn.' Yn ogystal â beirniadu safon y corau, nododd:
Yn sicr, dylai rhai sy'n proffesu eyfranu addysg i'r myfyrwyr feithrin ynddynt barch ac nid gwawd at yr Eisteddfod —sefydliad sy'n anwyl gan luaws gyfranodd at y Coleg.
Ymddangosodd yr anerchiad hwn gan un o'r '26 o feirdd' yn yr un cofnod, gan gyfeirio at ffugenw'r bardd buddugol:
Bu Twm Shon Cati farw gynt,
Ar ol rhyw lawer iawn o hynt;
Ond heno, yn ei gadair hardd,
Mae Tomos wedi troi yn fardd.
Am 'Arwrgerdd neu Duchangerdd' heb fod dros 1000 o linellau i 'Orsedd y Beirdd' y gofynnwyd yng nghystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod Myfyrwyr Bangor 1898. Roedd yr eisteddfod yn ysgafn ei naws, ac nid oedd hynny wrth fodd 'Obadiah Davies', ceidwad colofn 'Nodion o Fon ac Arfon' yn Y Cymro ar 28 Ionawr:
Nid wyf yn honi bod yn fardd, ond y mae genyf barch i draddodiadau'r tadau, a chredaf fod hyny'n fwy nas gellir ddweyd am rai sy'n ngiyn a'r Eisteddfod hon.
Testyn y gadair oedd "Arwrgerdd neu duchangerdd heb fod dros fil o linellau i Orsedd y Beirdd." Enillwyd gan Silyn Roberts, ysgrifenydd yr Eisteddfod. A dywedai'r bardd buddugol na wyddai pa un ai arwrgerdd ai duchangerdd oedd ei gyfansoddiad - ei fod yn gadael i'r beirniaid benderfynu. Cadeiriwvd ef mewn hwyl gellweirus gan 26 o feirdd!
Nodai'r un gohebydd am y tri a ymgeisiodd ar ganu gyda'r tannau ei bod 'yn amlwg na wyddent ddim am y gelfyddyd', ac nad oedd 'yn mysg y 26 englyn anfonwyd i law ddigon o ddefnydd i wneud un englyn.' Yn ogystal â beirniadu safon y corau, nododd:
Yn sicr, dylai rhai sy'n proffesu eyfranu addysg i'r myfyrwyr feithrin ynddynt barch ac nid gwawd at yr Eisteddfod —sefydliad sy'n anwyl gan luaws gyfranodd at y Coleg.
Ymddangosodd yr anerchiad hwn gan un o'r '26 o feirdd' yn yr un cofnod, gan gyfeirio at ffugenw'r bardd buddugol:
Bu Twm Shon Cati farw gynt,
Ar ol rhyw lawer iawn o hynt;
Ond heno, yn ei gadair hardd,
Mae Tomos wedi troi yn fardd.
Y BARDD
Ganed Silyn yn Llanllyfni ym 1871, ac ar ôl bod yn chwarelwr treuliodd gyfnodau o addysg yng Nghlynnog, Bangor a'r Bala. Bu'n weinidog yn Lewisham a Thanygrisiau, Ffestiniog. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1902 am ei bryddest, 'Trystan ac Esyllt'. Roedd yn sosialydd a fu'n aelod Llafur ar y Gyngor Meirionydd, a chyhoeddodd waith yn ymwneud â'r Blaid Lafur a'i hanes. Bu'n ddarlithydd allanol i Goleg Bangor o 1922 ymlaen. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth yn ystod ei oes, Telynegion ar y cyd â W. J. Gruffydd (1902) a Trystan ac Esyllt a Chaniadau eraill (1904). Fe'i cysylltir â'r cyfnod newydd o farddoniaeth delynegol, ramantaidd yn y Gymraeg ar droad y ganrif. Bu farw ym 1930. Cofnod Silyn yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-ROBE-ROB-1871 |
Hon oedd y drydedd eisteddfod i'w chynnal gan fyfyrwyr dinas Bangor. Ymhlith enillwyr eraill y digwyddiad roedd Silyn ar y delyneg (bardd cadeiriol y flwyddyn flaenorol), Miss Elizabeth Owen am y casgliad o lên gwerin, a J. H. Michael am englyn i'r 'Llyfrgell'. Yn ôl adroddiad Baner ac Amserau Cymru ar 15 Chwefror, Silyn oedd archdderwydd seremoni'r cadeirio.
Enillydd y gadair oedd Hugh Bertrand Pinnock, Sais o Surrey nad oedd wedi bod yn dysgu Cymraeg am ond deunaw mis, ac eto a lwyddodd i gyfansoddi cerdd ar gynghanedd. Fel hyn yr adroddai'r North Wales Express am ei lwyddiant, gan ddyfynnu o'r Star, Llundain:
Mr Hugh Bertrand Pinnock, of Surbiton Hill, Surrey, is one of the very few Englishmen who have attained to bardic honours in the Principality. At a students' eisteddfod at Bangor College Mr Pinnock, who is a graduate at the North Wales University, was awarded the chair for his "cynghanedd" on the "Ffordd Haiarn y Wyddfa" ('The Snowdon Railway'). The successful poet, a young man of twenty-one, defeated several Welsh competitors, although he has only been studying the language for about 18 months. The chair, on which the student was carried round the college according to ancient custom, is of oak, bearing a silver plate with the following inscription: 'Goreu dawn deall. Eisteddfod Myfyrwyr, Bangor, 1899.' 'Glan Tafwys.' The last two words constitute the bardic name of Mr Pinnock, and, when translated, signify the 'Banks of the Thames.'

Ganed Hugh Bertrand Pinnock yn Fawley, Hampshire ym 1876, ac enillodd gadair Eisteddfod Myfyrwyr Bangor 1899, tra'r oedd yn fyfyriwr yno ac yn dysgu Cymraeg. Bu'n gweithio fel ysgolfeistr a bu farw yn Surrey ym 1938.

Menyw o Loegr oedd enillydd cadair Eisteddfod Myfyrwyr Bangor ym 1904, fel y tystia rhan o adroddiad Baner ac Amserau Cymru ar 6 Chwefror:
Cystadleuaeth y gadair, awdl ar 'Y Wawr;' goreu, Miss Phillips, Saesnes, yr hon oedd yn hynod o Iân oddi wrth wallau. Cafodd Miss Phillips ei chadeirio gyda'r seremoni arferol.
Fred Jones oedd yn fuddugol ar yr englyn, ac M. A. Jones a gipiodd wobr y prif draethawd.

ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH TOM DAVIES, LLWYNHENDY
Yn ôl adroddiad y Welsh Coast Pioneer ar 5 Mawrth 1908, T. A. Jones a weinyddai swydd yr archdderwydd ar gyfer y cadeirio. O ran y gwobrau llenyddol eraill, dyfarnodd Llew Tegid ddiffyg teilyngdod ar yr englynion i 'Yr Ymdrechfa Bêl-droed Normalaidd', ac E. S. Hughes o Gerrigydrudion oedd yr enillydd ar y prif draethawd.
Y GERDD
Erbyn cyhoeddi ei gyfrol gyntaf o gerddi, Yr Haf a Cherddi eraill (1924), dim ond pytiau o gerdd y bardd-fyfyriwr a gadwodd Williams Parry yn y casgliad, gan gynnwys y darn bywiog hwn yn darlunio difaterwch Seithenyn, y gwyliwr ar y mur:

ARAITH SEITHENYN - R. WILLIAMS PARRY
(o 'cantre'r gwaelod')
Rhued eigion aflonydd heb lescáu,
Ac ar y dorau cured y Werydd; Ca forfur a'i cyferfydd heb wyro; Na syfl er curo : nid sofl yw'r ceyrydd. Y gadwyn dal gydia'n dýn A diarbed i'w erbyn, A'i main teg yma o'n tu, Ba raid awr o bryderu? Nid ofnaf er gwaethaf gwynt, Er llanw a gorllewin-wynt, Ond uwch hyrddwynt y chwarddaf, Uwch y llanw erch llawenhâf |
Parod y muriau, poered y moroedd
Eu trochion ofer i entrych nefoedd; Digryn a difraw, uwch utgorn dyfroedd, Y trawstiau disigl trwy ystod oesoedd; Ac er anterth corwyntoedd hwy fyddan' Arhosol darian yr isel-diroedd. |
Y BARDD
Ganed y Prifardd R. Williams Parry ym 1884 yn Nhalysarn, Sir Gaernarfon. Roedd ei dad yn hanner brawd i Henry Parry-Williams, sef tad T. H. Parry Williams. Wedi treulio cyfnod fel athro yn ei ddauddegau cynnar, cwblhaodd ei radd ym Mangor yn 1907, ac MA yn yr un brifysgol ym 1912. Bu'n rhan o'r fyddin yn y Rhyfel Byd 1af rhwng 1916 a 1918. Ym 1922, daeth yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mangor lle y bu hyd nes iddo ymddeol ym 1944. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i gerddi, Yr Haf a cherddi eraill (1924) a Cerddi'r Gaeaf (1952). Bu farw ym 1956. Llun: Papur Pawb, 01.10.1910 Cofnod R. Williams Parry yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-PARR-WIL-1884.html |
Cynhaliwyd yr eisteddfod yn Neuadd y Penrhyn, Bangor, ac fel sawl un o enillwyr y gystadleuaeth hon dros y blynyddoedd, bardd a ddeuai maes o law yn Brifardd Cenedlaethol a gipiodd y gadair.
Mae adroddiad Gwalia ar 1 Mawrth 1909 yn nodi mai O. T. Williams a weinyddai swydd yr archdderwydd yn y seremoni, ac mai W. E. Jones oedd yn gyfrifol am ddatgan cân y cadeirio. W. H. Jones oedd yn fuddugol ar y telynegion.

Bardd o Forfa Nefyn yn wreiddiol oedd John Ellis Williams (1872-1930), a bu'n weinidog gyda'r Annibynnwyr ym Mangor. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1916 am ei awdl, 'Ystrad Fflur'. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Caniadau John Ellis Williams, Bangor, yn dilyn ei farwolaeth.

Nid oedd neb yn deilwng o gadair 1910, ac roedd hi'n flwyddyn siomedig yn yr adran lenyddol yn gyffredinol, yn ôl adroddiad Gwalia ar 28 Chwefror:
Yn nghanol gruddfanau o siom, mynegwyd nad oedd neb o'r ymgeiswyr yn deilwng o'r gadair hardd a gynygid am bryddest ar unrhyw destun o hanes Cymru hyd adeg Glyndwr (heb fod dros 200 llinell), ac nid oedd ymgeiswyr mewn llawer o'r cystadleuon yn adran llen.

Enillodd Gwladys A. Jones, Bron Idris, Caernarfon, gadair Eisteddfod Myfyrwyr Bangor am yr eildro ym 1914, a hynny am gerdd yn Saesneg.
1916-1918
Ni chynhaliwyd Eisteddfodau Myfyrwyr Bangor rhwng 1916 a 1918, a hynny oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ar ôl cyfnod hebddi yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Mawr, atgyfodwyd Eisteddfod Myfyrwyr Bangor ym 1919, ond nid oedd neb yn deilwng o'r gadair.
Ymhlith yr enillwyr llenyddol yng nghystadlaethau eraill yr eisteddfod roedd Dilys Thomas, Coleg Bangor a Miss J. Thomas, Abergele (cydradd ar y Soned), a T. Eurig Davies, Coleg Bala-Bangor (Telyneg).

1932O. M. LLOYD
COLEG BALA-BANGOR TESTUN ECO (AWDL) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO BEIRNIAID R. WILLIAMS PARRY Llun: Rhys Morgan Llwyd LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
Roedd 1932 yn flwyddyn lwyddiannus dros ben i O. M. Lloyd yn eisteddfodau'r myfyrwyr, gan iddo hefyd gipio cadair Eisteddfod Myfyrwyr Cymru yng Nghaerdydd dan feirniadaeth Saunders Lewis a John Lloyd Jones, am ei awdl i'r 'Rhufeiniwr'.
Y BARDD
Ganed O M Lloyd ym 1910 ym Mlaenau Ffestiniog. Graddiodd ym 1934 o Goleg Bala-Bangor ac fe'i ordeiniwyd yn weinidog Annibynnol yn Nefyn ym 1937. Roedd yn gyfrannwr cyson i'r Ymryson, ac fe fu'n golofnydd ar dudalen flaen Y Dydd am dros 20 mlynedd, gan fwrw'i farn ar grefydd, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i farddoniaeth a chyfrol o'i ysgrifau. Bu farw ym 1980. Cofnod Wicipedia O M Lloyd: https://cy.wikipedia.org/wiki/O._M._Lloyd |
CYFEIRIADAU
1898
- 'Nodion o Fon ac Arfon' yn Y Cymro, 27.01.1898
1899
- 'Bardic Honours for an Englishman' yn The North Wales Express, 10.02.1899
- 'Eisteddfod y Myfyrwyr' yn Baner ac Amserau Cymru, 15.02.1899
- Cofnodion Ancestry, cyrchwyd 29.10.2020
- Gwefan Surrey in the Great War, cyrchwyd 29.10.2020 https://www.surreyinthegreatwar.org.uk/places/surrey/mole-valley/brockham/
1904
- 'Eisteddfod Flynyddol Coleg y Brifysgol' yn Baner ac Amserau Cymru, 06.02.1904
1906
- 'Eisteddfod y Brifysgol' yn Baner ac Amserau Cymru, 14.02.1906
1907
- 'Eisteddfod y Coleg' yn Y Brython Cymreig, 07.03.1907
1908
- 'Eisteddfod Myfyrwyr Prifysgol Bangor' yn The Welsh Coast Pioneer, 05.03.1908
- Jones, Bedwyr Lewis; Thomas, Gwyn; Dawn Dweud R Williams Parry (Caerdydd 1997), t.36-39
- Parry, Robert Williams, Yr Haf a Cherddi Eraill (Y Bala 1924), t. 32-34
1909
- 'Llwydd Bardd o Nefyn' yn Gwalia, 01.03.1909
1910
- 'Eisteddfod Gadeiriol y Myfyrwyr' yn Gwalia, 28.02.1910
1914
- 'O Dir y Gogledd' yn Y Darian, 19.03.1914
1915
- 'Bardd y Pum Cadair' yn Seren Cymru, 12.03.1915
- 'Birthplace of poet Cynan, Pwllheli' ar wefan History Points, cyrchwyd 29.10.2020 https://historypoints.org/index.php?page=birthplace-of-poet-cynan-pwllheli
1919
- 'Basgedaid o'r Wlad' yn Y Brython, 06.03.1919