Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Ceris Gruffudd, Iona Davies
Ceris Gruffudd, Iona Davies
FERNDALE
|
FERNDALE
|
Y BARDD
O ysgrif goffa iddo yn i Cardigan and Tivyside Advertiser, Mehefin 7, 1946:
Ni chwenychodd 'Myfyr' erioed amlygrwydd, un o 'wroniaid y mannau cudd' ydoedd. Yr oedd ganddo ddawn arbennig fel pregethwr, ac yn enwedig fel llenor a bardd. Er iddo ennill tua 90 o gadeiriau, 14 o goronau a nifer o dlysau yn rhai o brif eisteddfodau'r wlad hon ac America yn y blynyddoedd a fu, ei hoffter pennaf yn y blynyddoedd diwethaf oedd cyfansoddi darnau byrrach, yn y mesurau caeth a rhydd, ac ysgrifau ar ôl cyfeillion, y rhai a ddygent ei arddull nodweddiadol ei hun. Hyfryd fydd yr atgofion amdano fel gweinidog ar Eglwysi Aberarth a Thanyfron, ac ar Eglwysi Tabernacl a Waunifor, ei ddiddordeb personol agos ym mhob un o'i aelodau, ei ysbryd addfwyn, ei serchogrwydd a'i sirioldeb a'i wir awydd i wneud daioni yn ei 'ffordd ddirgen ei hun', a difynnu geiriau un o'i aelodau. O'i ddyddiau ysgol yn Cross Inn, Ceinewydd, a Chastellnewydd, a'i ddyddiau Coleg yn Aberystwyth, dangosodd alluoedd meddyliol disglair. Ond ni fynnai amlygrwydd. Er hynny gwynfyd y ffrindiau hynny a ddeuant i gyffyrddiad personol ag ef - iddynt hwy y datguddiai ei ddoniau, ei addfwynder ysbryd a'i swildod hoffus. Nid ai heibio yn ei gar na cherdded heibio ar yr heol heb godi ei law yn ei ffordd ei hun a gwenu'n serchog.