Sefydlwyd Eisteddfod y Ffôr ym 1975. Wedi'r eisteddfod gyntaf honno, yn ôl y sôn, bu i feirniad y llefaru, Mr. H R Jones o Ddolgellau, addunedu na fyddai'n dychwelyd i Eisteddfod y Ffôr byth eto am iddi barhau dan dri y bore. Yn ystod y 1990au, cynhaliwyd yr eisteddfod yn Neuadd Bentref Chwilog wrth i hen Gapel Ebeneser Y Ffôr (MC) gael ei dymchwel. Fe'i cynhelir bellach yn y festri, sy'n dal i sefyll. Ceir ychydig o gefndir yr eisteddfod yn yr erthygl hon ar hen wefan BBC Lleol y Gogledd Orllewin.
Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Eryl Jones, Chwilog;
Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Eryl Jones, Chwilog;
1984HARRI JONES
LLANRUG TESTUN YR ALWAD FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 7 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO BEIRNIAD GERALLT LLOYD OWEN Llun: Eco'r Wyddfa, Mawrth 1984 |
Roedd eisteddfod Y Ffôr 1984 yn un gofiadwy i Harri Jones o Lanrug, gan mai yno yr enillodd ei gadair gyntaf dan feirniadaeth y Prifardd Gerallt Lloyd Owen. Mae'r adroddiad isod ar glawr papur bro Eco'r Wyddfa yn adrodd yr hanes:
Y GADAIR
Hon yw un o gadeiriau enwocaf y saer Eryl Jones o Dy'n Giat, Chwilog. Fe'i gwnaeth o nodau hen organ y capel.
Y BARDD Bardd, darlledwr, newyddiadurwr a beirniad llenyddol yw Karen Owen (ganed 1974), sydd yn byw ac a fagwyd ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle. Cyhoeddodd ei gwaith ar ffurf cyfrolau traddodiadol ond hefyd ar ffurf CDs; y diweddaraf o'r rhain oedd 7 Llais (2018), a oedd yn gerdd hir glywedol yn cyfuno lleisiau rhai o enwogion Cymru a cherddoriaeth rhai o'i chyfansoddwyr mwyaf blaenllaw. Enillodd nifer fawr o gadeiriau lleol a rhanbarthol, a daeth yn agos at gipio prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol. |
Y GADAIR
Ym 1999 am y tro cyntaf, lluniodd y saer Eryl Jones hefyd focs arddangos pren i gydfynd â'r gadair. Parhaodd i wneud hyn yn flynyddol wedi hynny.
Y BARDD
Ganed y Prifardd Hilma Lloyd Edwards ym 1959, ac fe ddaw o Fontnewydd. Cyhoeddodd amryw byd o lyfrau Cymraeg i blant a chyfrol o'i barddoniaeth, Tir Newydd a Cherddi Eraill trwy Wasg y Bwthyn yn 2008. Yn 2008 hefyd, enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch am ei hawdl, 'Tir Newydd'. Hi yw'r ail ferch yn unig i gyflawni'r gamp hon.
Cofnod Hilma Lloyd Edwards ar Wicipedia:
https://cy.wikipedia.org/wiki/Hilma_Lloyd_Edwards

Y SEREMONI
Bu peth sylw i gadeirio'r eisteddfod hon yn y wasg ar y pryd, a hynny oherwydd nad oedd y bardd buddugol, Geraint Roberts; a oedd bryd hynny yn brifathro Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli, yn bresennol i'w seremoni ei hun. Roedd hynny am ei fod ar daith i ymweld â bedd Hedd Wyn yn Ffrainc. Dyma sut yr adroddwyd yr hanes gan ysgrifennydd yr eisteddfod, Eluned Parry, ar wefan BBC Lleol y Gogledd Orllewin ar y pryd:
Cafodd y bardd ei gynrychioli gan ei fab, Llŷr, a hynny am fod y bardd ar bererindod farddonol at fedd Hedd Wyn i Ffrainc.
Pan ganodd Einir y corn gwlad, roedd ffôn symudol Llŷr ymlaen, a'i dad yn sefyll i gael ei gadeirio yr un pryd yn ffrainc gan y Prifardd Tudur Dylan Jones. Roedd y seremoni i gyd yn cael ei throsglwyddo dros y ffôn o'r Ffôr i Ffrainc.
Dywedodd Geraint Lloyd Owen a arweiniai y seremoni fod hyn yn rhywbeth unigryw iawn, Tybed a ddigwyddodd hyn mewn unrhyw eisteddfod o'r blaen? Buasai'n ddiddorol gwybod ym mhle a pha bryd?
Nodwyd yn yr erthygl fod hon yn eisteddfod ragorol am reswm arall, hefyd - derbyniwyd 75 ymgais am gystadleuaeth Tlws yr Ifanc, gyda Llinos Dafydd o Landysul yn fuddugol.
Y GADAIR
Newidiodd Eryl Jones arddull ei gadeiriau erbyn eisteddfod 2004, gan dynnu ei ysbrydoliaeth o'r gadair nyddu Gymreig draddodiadol.
Newidiodd Eryl Jones arddull ei gadeiriau erbyn eisteddfod 2004, gan dynnu ei ysbrydoliaeth o'r gadair nyddu Gymreig draddodiadol.
Enillodd Geraint Roberts ei ail gadair yn olynol yn y Ffôr yn 2005 - a'r tro hwn, roedd yn bresennol i'w derbyn!