Diolch i'r canlynol a fu o gymorth wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Nic Dafis, Pontgarreg; Morgan Owen ac Efa Lois, Caerdydd;
Nic Dafis, Pontgarreg; Morgan Owen ac Efa Lois, Caerdydd;
Cynhelir yr eisteddfod hon yn flynyddol ar ddechrau Mawrth. Cadair er cof am Pat Neill, Gwyddel o Cross Inn ger Ceinewydd a gyflwynir i'r bardd buddugol ers 2013. Bu farw Pat Neill ym mis Gorffennaf 2011, gan adael cronfa o £10,000 i Gymdeithas Ceredigion at y pwrpas hwn. Arferai'r gadair gael ei chyflwyno bob yn ail flwyddyn am farddoniaeth neu ryddiaith, ond bellach mae'n wobr flynyddol.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Cymdeithas Ceredigion a'u heisteddfodau, ymwelwch â'u gwefan - cymdeithasceredigion.tumblr.com/
Mae modd hefyd i chi ddilyn Cymdeithas Ceredigion ar Twitter
Am ragor o wybodaeth ynghylch Cymdeithas Ceredigion a'u heisteddfodau, ymwelwch â'u gwefan - cymdeithasceredigion.tumblr.com/
Mae modd hefyd i chi ddilyn Cymdeithas Ceredigion ar Twitter
2013PHILIPPA GIBSON
PONTGARREG TESTUN FFUGENW DYDDIAD CADEIRIO BEIRNIAD GWNEUTHURWR Y GADAIR RONI ROBERTS, FELINWYNT (gwefan) LLEOLIAD YN 2019 Ym meddiant y bardd Llun: Nic Dafis |
Y GADAIR
Hwn oedd y tro cyntaf i gadair Cymdeithas Ceredigion gael ei chyflwyno fel Tlws Goffa Pat Neill. Yn wahanol i'w chadeiriau diweddarach ar gyfer yr un gystadleuaeth, lluniodd Roni Roberts gadair onnen o faint llawn ar gyfer prifardd 2013.

Y BARDD Mae Philippa Gibson yn byw ym Mhontgarreg. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Tan-y-groes ac yn enillydd cadair Eisteddfod Llanbedr Pont-Steffan yn 2018. Llun: Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan 2018 |
2017PHILIPPA GIBSON
PONTGARREG TESTUN ENCIL / ENCILIO FFUGENW NÔL A MLA'N DYDDIAD CADEIRIO BEIRNIAD CERI WYN JONES GWNEUTHURWR Y GADAIR RONI ROBERTS, FELINWYNT (gwefan) LLEOLIAD YN 2019 Ym meddiant y bardd Llun: Nic Dafis |
Y GADAIR
Turniwyd y gadair gain hon o un darn o goeden Cnau Ffrengig gan y crefftwr, Roni Roberts.
Turniwyd y gadair gain hon o un darn o goeden Cnau Ffrengig gan y crefftwr, Roni Roberts.
Y GERDD
Enillodd Phillipa Gibson gadair 2017 am gywydd i Ŵyl Nôl a Mla'n, gŵyl gerddoriaeth Gymreig a gynhelir yn Llangrannog bob haf. Y ddihangfa a geir trwy fynychu'r ŵyl ac ymgolli ynddi yw'r 'encil' a geir yn y gerdd, sy'n cloi fel hyn:
Ym Mae’r eigion mor agos,
daliwn dir yn hir, hyd nos
a dan nesáu, cadwn sŵn
yma, heno, lle mynnwn
oedi’r haul, rywfaint, dros dro
a chael hud y machludo.
Fe allwch ddarllen y gerdd yn ei chyfanrwydd ar gyfrif tumblr Cymdeithas Ceredigion, fan hyn.
Enillodd Phillipa Gibson gadair 2017 am gywydd i Ŵyl Nôl a Mla'n, gŵyl gerddoriaeth Gymreig a gynhelir yn Llangrannog bob haf. Y ddihangfa a geir trwy fynychu'r ŵyl ac ymgolli ynddi yw'r 'encil' a geir yn y gerdd, sy'n cloi fel hyn:
Ym Mae’r eigion mor agos,
daliwn dir yn hir, hyd nos
a dan nesáu, cadwn sŵn
yma, heno, lle mynnwn
oedi’r haul, rywfaint, dros dro
a chael hud y machludo.
Fe allwch ddarllen y gerdd yn ei chyfanrwydd ar gyfrif tumblr Cymdeithas Ceredigion, fan hyn.
Y BARDD Mae Philippa Gibson yn byw ym Mhontgarreg. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Tan-y-groes ac yn enillydd cadair Eisteddfod Llanbedr Pont-Steffan yn 2018. Llun: Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan 2018 |
2019PHILIPPA GIBSON
PONTGARREG TESTUN GENI FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL £40 DYDDIAD CADEIRIO 2 MAWRTH 2019 BEIRNIAD EURIG SALISBURY GWNEUTHURWR Y GADAIR RONI ROBERTS, FELINWYNT (gwefan) LLEOLIAD YN 2019 Ym meddiant y bardd Lluniau: Nic Dafis |
Y GADAIR
Wrth fynd ati i ddylunio'r gadair fodel hon, cymerodd y dylunydd, Roni Roberts ysbrydoliaeth o seddi canoloesol fel sgiwiau oedd yn aml yn cynnwys storfeydd ar gyfer eitemau amrywiol. Dyma sy'n cyfrif am y ddrôr fechan o dan y sedd.
Wrth fynd ati i ddylunio'r gadair fodel hon, cymerodd y dylunydd, Roni Roberts ysbrydoliaeth o seddi canoloesol fel sgiwiau oedd yn aml yn cynnwys storfeydd ar gyfer eitemau amrywiol. Dyma sy'n cyfrif am y ddrôr fechan o dan y sedd.
Y BARDD Mae Philippa Gibson yn byw ym Mhontgarreg. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Tan-y-groes ac yn enillydd cadair Eisteddfod Llanbedr Pont-Steffan yn 2018. Llun: Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan 2018 |
2020MORGAN OWEN
CAERDYDD TESTUN FFENEST FFUGENW NIFER YN CYSTADLU 8 GWOBR ARIANNOL £50 DYDDIAD CADEIRIO 29 CHWEFROR 2020 BEIRNIAD ANEIRIN KARADOG GWNEUTHURWR Y GADAIR RONI ROBERTS, FELINWYNT (gwefan) LLEOLIAD YN 2020 Ym meddiant y bardd Lluniau: Efa Lois Thomas |
Gellir darllen peth o hanes eisteddfod 2020 ar safle Cymdeithas Ceredigion yma
Y BARDD Daw Morgan Owen (g. 1994) o Ferthyr Tudful yn wreiddiol. Mae'n fardd, yn awdur ac yn ddramodydd. Cyhoeddodd ddwy gasgliad o farddoniaeth hyd yma, sef moroedd/dŵr (2019) a Bedwen ar y lloer (2019). Mae ei waith yn aml yn archwilio lleoliadau daearyddol fel cyfrwng i fynegi profiadau dynol, yn enwedig yng nghyd-destun ei fro enedigol yng Nghymoedd y De. Cofnod Morgan Owen ar Wicipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Morgan_Owen_(bardd_a_llenor) |
2021HUW DYLAN OWEN
TREFORYS TESTUN AROS FFUGENW DERFEL NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 1 MAWRTH 2021 BEIRNIAD TERWYN TOMOS GWNEUTHURWR Y GADAIR RONI ROBERTS, FELINWYNT (gwefan) LLEOLIAD YN 2021 Ym meddiant y bardd Llun: Cymdeithas Ceredigion |
Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, cynhaliwyd eisteddfod Cymdeithas Ceredigion ar-lein yn 2021. Huw Dylan Owen o Dreforys oedd enillydd y gadair. Casgliad o gerddi caeth amrywiol oedd y gwaith buddugol, y gellir ei ddarllen yn ei gyfanrwydd yma.
Ymhlith yr enillwyr llenyddol eraill roedd Tudor Davies, Alberta, Canada (englyn); Nia Llewelyn, Llandysul (englyn ysgafn); Ffion Morgan, Aberteifi (Telyneg a thrydargerdd); a Philippa Gibson, Pontgarreg (Cywydd). Ceir rhestr gyflawn o'r canlyniadau yma.
Gellir gwylio beirniadaethau Terwyn Tomos ar y cystadlaethau llenyddol yn y fideo isod:

Roni Roberts oedd yn gyfrifol am greu cadair goffa Pat Neill ar gyfer 2021 unwaith eto. Y tro hwn, defnyddiodd bren ywen ar gyfer y sedd a chefn y gadair fechan, ac ailbwrpasu pîn o baletau ar gyfer y breichiau.
Gallwch ddarllen blog gan Roni sy'n manylu ar y broses o greu'r gadair, a'r ysbrydoliaeth tu ôl iddi, ar wefan Cymdeithas Ceredigion yma.