Mae'r dudalen hon yn y broses o gael ei hadeiladu. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn.
1985ROBIN O. HUGHES
LLANFYLLIN TESTUN Y PROFFWYD BEIRNIAD SELWYN GRIFFITH (SELWYN IOLEN) Llun: Eco'r Wyddfa, Tachwedd 1985 |
Y 'proffwyd' dan sylw yng ngherdd fuddugol Robin Hughes yn eisteddfod 1985 oedd Martin Luther King.
1986DAFYDD EVAN MORRIS
COLOMENDY, DINBYCH TESTUN LLWYBRAU BEIRNIAD MOSES GLYN JONES Llun: Eco'r Wyddfa, Tachwedd 1986 |
Hon oedd cadair gyntaf Dafydd Evan Morris, a oedd yn dilyn cwrs meddygaeth ym Manceinion ar y pryd.
1987 |
1988
GWENDA ROBERTS
LLANRUG
TESTUN CARIAD CREULON
BEIRNIAD JOHN HYWYN
LLANRUG
TESTUN CARIAD CREULON
BEIRNIAD JOHN HYWYN
Stori fer ar ffurf cyfres o lythyrau caru a enillodd gadair 1988 i Gwenda Roberts. Twyllir y darllenydd i feddwl mai stori garu ddigon cyffredin sydd yma, ond yn raddol y datgelir sefyllfa fwy annifyr, anoddach o'r hanner. Gellir darllen y gwaith buddugol ar dudalen 8 Eco'r Wyddfa yma.
O'R FEIRNIADAETH
Stori ar ffurf cyfres o lythyrau. Bethan yng ngholeg Aber yn ysgrifennu at John. Bethan yn disgwyl plentyn. Yr hen stori meddech chi - ond na. Mae'r stori wedi ei gweu yn gelfydd. Yn ogystal a bod yn stori garu angerddol, mae hefyd yn stori fer. Mae'r paragraff olaf yn arswydo rhywun ... cefais ias annifyr o'i darllen.
Stori ar ffurf cyfres o lythyrau. Bethan yng ngholeg Aber yn ysgrifennu at John. Bethan yn disgwyl plentyn. Yr hen stori meddech chi - ond na. Mae'r stori wedi ei gweu yn gelfydd. Yn ogystal a bod yn stori garu angerddol, mae hefyd yn stori fer. Mae'r paragraff olaf yn arswydo rhywun ... cefais ias annifyr o'i darllen.
1989
DAFYDD WHITESIDE THOMAS
TESTUN COFIO
FFUGENW GWERINWR
BEIRNIAD JOHN HYWYN
TESTUN COFIO
FFUGENW GWERINWR
BEIRNIAD JOHN HYWYN
Enillodd Dafydd Whiteside Thomas y gadair ym 1989 am y gerdd a ddyfarnwyd orau o blith holl eitemau'r adran lenyddol. Roedd ei soned yn fyfyrdod ar dref Caernarfon ar adeg arwisgo'r tywysog Charles, a hynny ugain mlynedd yn union wedi'r digwyddiad hwnnw. Gallwch ddarllen y gerdd fuddugol ar dudalen 10 Eco'r Wyddfa yma.
1990
ROBERT WILLIAMS
LLANRUG
TESTUN HEN DAFARN WLEDIG
FFUGENW MADYN CROES
BEIRNIAD SELWYN GRIFFITH (SELWYN IOLEN)
Llun: Eco'r Wyddfa, Tachwedd 1990
LLANRUG
TESTUN HEN DAFARN WLEDIG
FFUGENW MADYN CROES
BEIRNIAD SELWYN GRIFFITH (SELWYN IOLEN)
Llun: Eco'r Wyddfa, Tachwedd 1990
Am ysgrif yr enillodd Robert Williams gadair 1990, a honno'n ysgrif yn myfyrio ar hanes y 'Bettws Inn' yn ardal Waunfawr. Gellir darllen yr erthygl yn ei chyfanrwydd ar dudalen 21 Eco'r Wyddfa yma.
1991
ROBERT WILLIAMS
LLANRUG
TESTUN LLWYFAN Y DIADELLOEDD
BEIRNIAD ALWYN A JEAN PLEMING
Llun: Eco'r Wyddfa, Tachwedd 1991
LLANRUG
TESTUN LLWYFAN Y DIADELLOEDD
BEIRNIAD ALWYN A JEAN PLEMING
Llun: Eco'r Wyddfa, Tachwedd 1991
Gofynnwyd am erthygl ffeithiol unwaith eto yng nghystadleuaeth 1991 - a'r un oedd y canlyniad hefyd. Roedd eisteddfod 1991 yn ailadroddiad perffaith o eisteddfod 1990, gan i Nia Griffith hefyd gipio tlws y llenor ifanc am yr eildro yn olynol. Roedd yr erthygl fuddugol yn disgrifio sioe 'un dyn a'i gi' yn arddangos llu o wahanol fridiau defaid a welodd yr awdur tra ar daith yn yr Alban. Gellir darllen yr erthygl yn ei chyfanrwydd ar dudalen 12 Eco'r Wyddfa yma.
1992DAFYDD WHITESIDE THOMAS
TESTUN CWLWM BEIRNIAD SELWYN GRIFFITH (SELWYN IOLEN) Llun: Eco'r Wyddfa, Tachwedd 1992 |
'DAWN DEULUOL' oedd pennawd Eco'r Wyddfa wrth adrodd hanes Eisteddfod Gadeiriol Llanrug 1992. Cipiodd Dafydd Whiteside Thomas y gadair (a hynny am y trydydd tro), a chipiodd ei ferch, Catrin, dlws y llenor ifanc yn yr un eisteddfod.
Stori ysbryd ar y testun 'Cwlwm' a gipiodd y gadair. Gallwch ei darllen yn ei chyfanrwydd ar dudalennau 8-9 Eco'r Wyddfa yma.
1993
1994
DAFYDD WHITESIDE THOMAS
TESTUN SWYN Y DYN HYSBYS A'R LLADD Â'R GWENWYN
BEIRNIAD IEUAN WYN
TESTUN SWYN Y DYN HYSBYS A'R LLADD Â'R GWENWYN
BEIRNIAD IEUAN WYN
Enillodd Dafydd Whiteside Thomas ei bedwaredd cadair yn Llanrug am erthygl ar hanes llofruddiaeth Richard Williams o Landdeiniolen ym 1855. Gallwch ddarllen yr erthygl yn ei chyfanrwydd ar dudalennau 4-5 Eco'r Wyddfa yma.
1995
DAFYDD WHITESIDE THOMAS
TESTUN PERTHYN
BEIRNIAD DENNIS DAVIES
TESTUN PERTHYN
BEIRNIAD DENNIS DAVIES
Am stori fer ar y testun 'Perthyn' yr enillodd Dafydd Whiteside Thomas gadair Llanrug am y pumed tro. Gellir ei darllen yn atodiad eisteddfodol Eco'r Wyddfa yma.
O 1996 ymlaen, nid cystadleuaeth agored oedd cadair Llanrug, ond yn hytrach cadair i'r llenor ifanc gorau.
1998 |
Enillodd Iona Williams y gadair ym 1998 am bortread o'i Nain. Gallwch ddarllen y portread yn ei gyfanrwydd yn atodiad eisteddfodol Eco'r Wyddfa yma.
1999 |
Roedd stori fer fuddugol Sian Williams, 'Edwin', yn portreadu diwrnod cyntaf anffodusyn o'r enw Edwin ar ei ddiwrnod cyntaf o brofiad gwaith mewn ysbyty. Gallwch ddarllen y stori yn ei chyfanrwydd yn atodiad eisteddfodol Eco'r Wyddfa yma. Enillwyd Tlws yr Ifanc yn yr un eisteddfod gan y cyflwynydd, Geraint Iwan.
2000
SIAN GREEN
TESTUN Y FFIN
TESTUN Y FFIN
Dewisodd Sian Green ysgrifennu cofnod dyddiadur yr Hen Fileniwm ar drothwy'r Mileniwm Newydd. Gellir darllen y darn yn ei gyfanrwydd ar dudalennau iv-v yn atodiad eisteddfodol Eco'r Wyddfa yma
O 2001 ymlaen, gwahoddwyd pentref cyfagos Cwm-y-glo i ymuno â Llanrug ar gyfer yr eisteddfod hon, ac felly y daeth yn Eisteddfod Pentrefi Llanrug a Chwm-y-glo. Tarian a roddwyd i'r Prif Lenor Uwchradd o hynny ymlaen, yn hytrach na chadair. Mae'r eisteddfod yn parhau ar y ffurf hwn hyd heddiw. Dyma restr o enillwyr y tlysau uwchradd ers hynny:
2003 - Debbie Hughes
2004 - Natalie Elisha
2003 - Debbie Hughes
2004 - Natalie Elisha
Cydnabyddir yn ddiolchgar y ffynonellau a ganlyn a fu o gymorth mawr wrth gasglu'r wybodaeth a geir ar y dudalen hon:
Eco'r Wyddfa
Eco'r Wyddfa