Y SEREMONI
The rev. chairman said that he was happy to inform all present that eight compositions were received and it was only necessary to read each of them once to know which was the best. He had to congratulate "Awenydd Cymreig" on being the successful candidate, who proved to be our respected townsman Mr. John Owen Griffith (Ioan Arvon), grocer, High Street, Carnarvon. He was duly installed by the bards in his chair with the usual ceremony of sheathing the sword, and proclaimed with the usual englynion and flourish of trumpets Arvon's Chair Bard.
(o'r Carnarvon and Denbigh Herald, 4 Mawrth 1865)

Y GADAIR
Cadair dderw hardd o waith Morris Williams, gwneuthurwr dodrefn o Ogwen Terrace, Bethesda, a roddwyd yn wobr i'r bardd buddugol. Ei gwerth oedd £2 2s.

Y BARDD Ganed Ioan Arfon yn Waunfawr ym 1828, ac aeth i weithio yn Chwarel Dinorwig yn 12 oed. Dechreuodd ymddiddori mewn llenyddiaeth yn dilyn anogaeth beirdd lleol. Bu'n rhedeg siop groser yng Nghaernarfon, ac roedd yn abenigydd ar ddaeareg. Bu farw ym 1881. Bethesda 1865 Gallwch weld cofnod Ioan Arfon yn y Bywgraffiadur Cymreig yma: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GRIF-OWE-1828 |
Y SEREMONI
Beirniadaeth Nicander ar Awdl y Gadair, sef Oen y Pasg. Ni ddaeth ond tair Awdl i law, sef eiddo "Amos Hebog," "Un hoff o'r testyn," "Benjamin." Y goreu oedd Benjamin, sef J. Gaerwenydd Pritchard, Bethesda. Rhoddodd y beirniaid ganmoliaeth uchel iawn i'r Awdl. Dywed mai ei phrif ragoriaethau oedd "aeddfedrwydd teimlad, ac aeddfedrwydd barn." Aeth Hwfa Mon, a Nicander trwy y seremoni o'i gadeirio yn ol Braint a Defod. Gafaelodd y naill yn un pen i'r cleddyf a'r llall yn y pen arall. Yna dywedodd Nicander
"Cadeiriwyd mewn coed derwen
Y bardd a farnwyd yn ben."
(O Baner ac Amserau Cymru, 7 Mawrth 1866)
Gellir darllen beirniadaeth gyflawn Nicander ar awdlau'r gadair yn Baner ac Amserau Cymru 8 Ebrill 1866, sydd wedi ei atgynhyrchu yma: https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4263299/4263310/44/

Cadair o dderw tywyll yw hon, a'i gwerth ar adeg yr eisteddfod yn 5 gini. Mae'n debygol i'r clustogiad coch ar ei sedd gael ei ychwanegu yn ddiweddarach.

Y BARDD
Brodor o Fôn oedd Gaerwenydd (1837-1898 [61]), ond fe dreuliodd fwyafrif ei oes ym Methesda yn Arfon, lle y bu'n gweithio fel teiliwr. Roedd yn fardd cynhyrchiol a llwyddiannus ac yn arweinydd eisteddfodau poblogaidd.
Gallwch ddarllen cofnod Gaerwenydd ar Wicipedia yma.

Y BARDD Ganed y Prifardd Thomas Jones (Tudno) yn Llandudno yn 1844. Roedd yn fardd, yn offeiriad ac yn newyddiadurwr. Bu'n gweithio fel golygydd y Llandudno Directory, ac am gyfnod i'r Caernarvon and Denbigh Herald. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, record y mae'n ei rhannu â Dewi Emrys a Dyfed. Bu farw ym 1895, yn 51 oed. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth dan olygyddiaeth David Rowlands (Dewi Môn) wedi ei farwolaeth - Telyn Tudno (1897). Cofnod Tudno yn y Bywgraffiadur Cymreig: http://yba.llgc.org.uk/cy/c3-JONE-TUD-1844.html |
Eisteddfod Cymreigyddion Bethesda 1869
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890

- The North Wales Chronicle, 04.03.1865
- The North Wales Chronicle, 09.03.1867
- Y Llan, 14.09.1888
- The North Wales Chronicle, 09.03.1867
- Y Llan, 14.09.1888