Er y bu eisteddfodau yn Llanwrtyd ers o leiaf canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, adfywiwyd yr eisteddfod yn ei ffurf bresennol ym 1951. Fodd bynnag, ni chyflwynwyd cadair i'r bardd buddugol hyd 2000, blwyddyn dathlu'r eisteddfod yn hanner cant oed.
Gwnaed y gadair a ddefnyddir yn y seremoni flynyddol gan Iwan Price, Pant Teg; mab ysgrifennydd yr eisteddfod hyd heddiw, Susan Price. Fe'i cyflwynwyd yn 2000 i nodi'r hanner-canmlwyddiant ac fe'i defnyddiwyd byth oddiar hynny. Mae'r gadair yn cael lle anrhydeddus yng Nghanolfan Dreftadaeth Llanwrtyd weddill y flwyddyn. Rhoddir cadair fechan i'w chadw i'r buddugwr.
Cynhelir yr eisteddfod yn Neuadd Fictoria, Llanwrtyd.

Cyflwynir cadair Llanwrtyd am y gân rydd orau, ac mae hon yn gystadleuaeth anarferol yn y ffaith ei bod yn agored i gyfansoddiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Gallwch ganfod rhagor o hanes yr eisteddfod hon o'i gwefan, eisteddfodllanwrtyd.com.