Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

1910 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
1911 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
1912 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
1913 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
1914 Llyfni Hughes
1915 Phillip Trigg
1916 James Evans
1917 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
1918 W. T. Hughes
1919
1911 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
1912 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
1913 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
1914 Llyfni Hughes
1915 Phillip Trigg
1916 James Evans
1917 NI CHYNHALIWYD EISTEDDFOD
1918 W. T. Hughes
1919
CEFNDIR
Sefydlwyd eisteddfod gadeiriol capel Anibynnwyr Gosen, Blaenclydach ym 1899, gyda'r bwriad o godi arian at goffrau'r capel. Câi ei chynnal ar ddydd Gwener y Groglith yn flynyddol.
Adeiladwyd y capel ym 1882, a gwelir hen lun o'r adeilad ar y dde. Codwyd festri ym 1892 a chafodd y capel ei ailadeiladu ym 1904. Mae'n ddigon posib mai dyma'r rheswm dros beidio cynnal yr eisteddfod ym 1905 a 1906. Erbyn heddiw, mae'r capel wedi ei droi yn fflatiau preswyl, gyda'r hen festri bellach yn gweithredu fel addoldy. |
Y GERDD
Cafodd cadair 1900 ei chynnig am gerdd o 60 llinell, a nododd R. A. Thomas yn ei feirniadaeth y bu'r cyfyngiad yn faen tramgwydd i'r beirdd:
'Mae y nifer yn ychydig, a'r cyfansoddiadau i raddau yn is-raddol. Hwyrach nad yw y pwyllgor yn rhoi perffaith chwareu teg i'r cystadleuwyr wrth gyfyngu y maes i gylch triugain llinell. Carwn awgrymu y priodoldeb iddynt estyn y terfynau i ddau can' llinell. Pe gwneid hyny, credaf y ceid gwell cynyrchion. O leiaf gellid, yn rhesymol, ddisgwyl gwell.'
Cystadleuaeth wan oedd hon yn ôl y beirniad, a gwobrwyo'r gorau o gerddi sâl yw'r argraff a geir o'r feirniadaeth. Dyfynnir yr hyn a ddywedodd am yr enillydd isod.
O'R FEIRNIADAETH
'Mae genyf agos gymaint i'w ddweyd yn erbyn y bryddest hon ag odid un yn y gystadleuaeth; ond y mae genyf, yn wyneb hyny, fwy i'w ddweyd yn ei ffafr nag sydd o blaid yr un arall. Ond paham, tybed, y myn awdwr mor feddylgar dirdynu iaith, sillgolli ar ol cydseiniaid, a gwneyd ei hun yn ddeddf tra mae arall ddeddf yn bod? Wedi cael cwyno yn herwydd y pethau hyn, nid wyf yn petruso canmol cryn lawer ar y darn fel cyfansoddiad meddylgar a thestynol [...]'
Gellir darllen beirniadaeth Athron ar yr holl ymgeiswyr yn llawn yn y Rhondda Leader yma.

Cynigiwyd cadair 1901 am gerdd o 60 llinell ar y testun 'Marwolaeth y Dydd'.
O'R FEIRNIADAETH
'Mab y Wawr. - Llinellau gwychion, mor naturiol ag anian ei hun; ac yn llawn o dlysni barddonol.'
Roedd Nathan Wyn yn gosod wyth o feirdd ar frig y gystadleuaeth, sef y rhai yn dwyn y ffugenwau Bugail, Mab y Dydd, Didymus, Isbosheth, Llais Newydd-deb, Adlef, Mab y Wawr, a Prydydd Blin ar Fin ei Fedd. Roedd yn amlwg mewn cyfyng-gyngor o ran y gorau, ac yn teimlo fod y gystadleuaeth yn un gref drwyddi. Gellir darllen y feirniadaeth gyflawn yn y Rhondda Leader yma.

Cynrychiolid y bardd yn seremoni'r cadeirio gan Mr. Thomas, Maddox St., a chafwyd cyfarchion barddol gan Thomas Davies, D. J. Rhys, E. T. Jenkins a David Jones. Tom Thomas oedd datgeiniad cân y cadeirio, a chafodd y cynrychiolydd ei arwisgo gan Miss L. Jones, Blaenclydach.
1902THOMAS DAVIES
(CENNECH) LLANGENNECH TESTUN YMSON HEROD FFUGENW MISERERE NIFER YN CYSTADLU 26 GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 28 MAWRTH 1902 BEIRNIAD GWILI GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2020 Anhysbys |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH ABRAM JONES, COEDRUFFYDD
Y GERDD
Cynigid cadair 1902 am gerdd fer (60 o linellau) ar y testun 'Ymson Herod'. Roedd hwn yn destun anarferol o fer yn ôl safonau eisteddfodau'r cyfnod, a llwyddwyd i ddenu 26 ymgais. Roedd y beirniad, Gwili, yn barnu bod chwech ymgais yn gwthio i'r blaen, sef eiddo Belsassar, Rhyw Lais o Lys Oer Leision, Macbeth, Aristobolus, Er Mwyn Cydwybod, a Miserere. Ni welai fod rhyw lawer rhwng y ddau ddiwethaf, ond bwriwyd y fantol o blaid Miserere, sef Cennech Davies. Gellir darllen y feirniadaeth, ynghyd â rhai o'r beirniadaethau llenyddol eraill, yn Tarian y Gweithiwr yma.
Cyhoeddwyd cerdd a anfonwyd i'r gystadleuaeth gan Abram Jones, Coedruffydd, yn Baner ac Amserau Cymru ar 9 Awst 1902. Gellir cael mynediad i'w darllen yma.

PEDWAR ENGLYN - JOHN GWRHYD LEWIS
(CYFARCHIAD)
Daw 'Prudd ei Fron' yn llonach - drwy'i godi
I'r gadair yn Nghlydach; Mae ei gân yn amgenach Na'r holl sypyn sy'n y sach. Ow Herod! Di-glod yw dy gledd - ymson Hir amser mewn tristedd Ddylit, rhag i ddialedd Roi d'enaid sur dan dy sedd. |
Nid Ioan gun yn unig - aberthwyd
I borthi'th nwyd ffyrnig; Ein beirdd têr, rhai pêr eu pig, A roed yn bendoredig. Difrodi gawri gwerin - a gloddest Fyn dy gledd durfin; Erchyll flaidd! drwy'th archoll flin Diwedd oes wêl dau ddwsin. |
Y GADAIR
Roedd cadair yr eisteddfod yn rhodd gan Mr Joseph Jones, Gwynfe House, Blaenclydach.

Y BARDD
Bardd-bregethwr poblogaidd oedd Thomas Cennech Davies (1875-1944), a hannai o Langennech yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yn frawd hŷn i'r Aelod Seneddol Rhys John Davies (1877-1954). Cyhoeddwyd cyfrol am ei fywyd a'i waith gan David Thomas, Llangennech, ym 1939. Llun: clawr Cennech gan David Thomas (Abertawe 1939) |
Mae hanes y gadair hon yn un digon trist. Enillodd Thomas Jones (Esyllwg) ei gadair gyntaf yn eisteddfod Blaenclydach, ond nid yw'n gwbl glir a oedd yn bresennol yn y digwyddiad - a gynhaliwyd yng nghapel Gosen - i dderbyn ei wobr. Y bwriad, yn ôl adroddiadau papur newydd ar y pryd, oedd y byddid yn trefnu cwrdd cadeirio i'w longyfarch yn neuadd Capel Bethania, Aberpennar, lle roedd Esyllwg yn aelod.
Ond bu farw Esyllwg cyn y cwrdd hwnnw. Am 12:30 y pnawn ar y 4 Mai 1903, roedd yn gweithio ar wythien yng Nglofa Dyffryn pan cafodd ei ladd mewn cwymp ar wyneb y graig. Ni chafwyd cyfarfod i'w longyfarch felly, a bu ei gymdogaeth yn galaru o'i golli yn hytrach na dathlu ei gamp.
Ond mae'n debyg y cafodd y cyfle i fwynhau cael ei gadair adref yn y tŷ am gyfnod o leiaf. O ddisgrifiad ei gyfaill Ab Hefin o ymweld ag Esyllwg, ddiwrnod cyn ei farwolaeth anhymig, y daw'r dyfyniad hwn:
'Aed i'r parlwr, lle yr oedd y gadair hardd. Ceisiais ganddo ddarllen ei "Adgof" allan o honi. "Na, caf fi eistedd digon ynddi eto." Argyhoeddwyd fi cyn iddo ddarllen ei haner nad oedd Ap Ionawr yn dweyd gormod am y gan.' (Tarian y Gweithiwr, 21.05.1903)

Cynigiwyd cadair Eisteddfod Gadeiriol Gosen, Blaenclydach 1903 am bryddest heb fod dros 120 o linellau ar y testun 'Adgof'. Uchafswm cymharol fer oedd hwn i bryddest yn y cyfnod, a gellir dychmygu fod y gystadleuaeth wedi ei llunio gyda'r bwriad o ddenu cystadleuwyr ifanc a newydd i'r maes. Cafodd 17 o feirdd eu denu i gystadlu, er y bu'n rhaid i beirniad, Ap Ionawr (David Price, Llansamlet), wrthod un cyfansoddiad am iddo gyrraedd wedi'r dyddiad cau.
Ystyriai Ap Ionawr fod cerddi chwech o feirdd yn rhagori ar weddill y gystadleuaeth, sef eiddo'r ffugenwau Nad fi'n Angof, Grongar, Morfydd Wyn, Yn ei Wydd, Hapus Awr, ac Ap Hiraethog. Meddai amdanynt yn ei feirniadaeth, a gyhoeddwyd ym mhapur newydd Tarian y Gweithiwr - 'A dyna chwech o feirdd nad oes angen i Gymru heddyw gywilyddio o'u plegid, o blith eu miloedd beirdd i gyd. Un peth sydd yn ofid calon i mi, sef nas gallaswn eu gwobrwyo bob un.' Ap Hiraethog oedd ffugenw Thomas Jones (Esyllwg), yr enillydd.
O'R FEIRNIADAETH
'... y mae hon yn Bryddest ragorol drwyddi. Nid oes odlau yn ei haddurno ychwaith ond addurnir hi drwyddi a syniadau gwir farddonol. Ymdrinia yr awdwr a'r testyn yn wir ymarferol, eto yn ddwfn-feddylgar, a'r Bryddest hon, o ran ei barddoniaeth naturiol, a'i hysbryd agos, llednais, a thyner, sydd yn gadael yr argraff ddymunol a pharhaol ar fy ysbryd a fy meddwl inau, ac ar gyfrif hyny, a hyny yn unig, yr wyf yn ei chyhoeddi yn oreu, ac yn wir deilwng o'r wobr a'r anrhydedd i gyd, sef eiddo 'Ap Hiraethog'.'

Cyflwynwyd y gadair addurniadol, urddasol i'r eisteddfod gan Mr. Joseph Jones o Flaenclydach. Mae'n bosib mai cadair wedi ei haddasu at yr achlysur oedd hon, gydag ychwanegiad plâc ar ei chefn i nodi hynny. Mae'r gadair bellach ym rhan o gasgliad glofaol Amgueddfa Cymru.

Glowr a bardd o Aberpennar oedd Esyllwg. Enillodd ei unig gadair farddol yn eisteddfod Capel Gosen, Blaenclydach, ym 1903, lai na mis cyn ei farwolaeth mewn damwain yng Nglofa Dyffryn. Yn ogystal a bod yn lowr roedd yn adnabyddus fel athro dosbarthiadau trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Barhad Aberpennar. Ceir carreg goffa iddo ar wal hen Gapel Soar ar stryd fawr Aberpennar. Llun: Amgueddfa Cymru |
Cennech Davies oedd enillydd cadair Blaenclydach unwaith eto ym 1904. Cynrhychiolid y bardd buddugol yn yr eisteddfod hon gan ei chwaer. Canwyd cân y cadeirio gan Mr. Tom Thomas o Thomas Street (!), a noddwr y gadair unwaith eto oedd Mr. Joseph Jones, Gwynfe House, Blaenclydach.
Y BARDD
Bardd-bregethwr poblogaidd oedd Thomas Cennech Davies (1875-1944), a hannai o Langennech yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yn frawd hŷn i'r Aelod Seneddol Rhys John Davies (1877-1954). Cyhoeddwyd cyfrol am ei fywyd a'i waith gan David Thomas, Llangennech, ym 1939. Llun: clawr Cennech gan David Thomas (Abertawe 1939) |
1905-1906
Ymddengys na chynhaliwyd eisteddfod gadeiriol yn Gosen, Blaenclydach ym 1905 a 1906. Mae'r hysbysebion isod, a godwyd o dudalennau'r Rhondda Leader ar 23 Ionawr 1904 a 2 Chwefror 1907 yn cadarnhau hynny, trwy gyfeirio at eisteddfodau 1904 a 1907 fel chweched a seithfed eisteddfodau'r gyfres.
Cafodd Capel Gosen ei ailadeiladu ym 1904, felly mae'n ddigon posib mai dyma yw'r rheswm na chynhaliwyd eisteddfodau ym 1905 a 1906.
Enillodd Michael Thomas, Ynysowen, gadair Gosen am yr eildro ym 1907. Ef oedd enillydd cyntaf y gystadleuaeth, pan sefydlwyd yr eisteddfod ym 1899.
O'R FEIRNIADAETH
'"Un o Lwyth Lefi." - Gan nad i ba lwyth y perthyna, y mae hwn yn fardd gwirioneddol. Cana ar ei destyn o'r dechreu i'r diwedd, a gwel ynddo ryw bethau nad yw ei gydymgeiswyr wedi eu gweled. Er fod amryw o'r pryddestau yn dda, ac yn llawn gwerth y wobr, y mae hon ar gyfrif ei ffyddlondeb i'r testyn, priodoldeb ei chydmariaethau, a'r nerth bywyd sydd yn rhedeg drwyddi, yn rhagori ychydig ar bob un o'r lleill. Am hyny, yr ydym heb yr un betrusder yn dyfarnu y wobr i "Un o Lwyth Lefi".
Gellir darllen beirniadaeth J. Gwrhyd Davies yn llawn yn y Rhondda Leader yma.

Am bryddest ar y testun 'Ac ni allai efe yno wneuthur dim gwyrthiau' y gofynnwyd yng nghystadleuaeth cadair 1908. Roedd y beirniad, J. J. Williams, yn drwm ei lach ar y beirdd wedi iddo fod yn beirniadu'r cystadlaethau llenyddol eraill, gan nodi, 'am wn i, nad oes yma fwy o ryddiaeth noeth nag oedd yn y traethadau [sic], a llai o farddoniaeth. A barnu wrth yr eisteddfod hon, mae Cwm Rhondda yn fil cyfoethocach mewn traethadwyr [sic] nag yw mewn beirdd'.
Mae'n werth dyfynu o rai o'i sylwadau ar y beirdd unigol. Am waith Llef o'r Mur, dywed fod 'pob syniad a gair yn sych a dienaid', ac meddai am gerdd Simon o Cyrene fod yn rhaid 'cael tipyn o ffydd i gredu fod llawer o farddoniaeth yn hon eto'. Hyd yn oed o'r enillydd, nid oedd yn ganmoliaethus iawn (gweler isod).
O'R FEIRNIADAETH
'Siomedig yw'r 30 llinell gyntaf ganddo yntau; ond wedi hyny mae'n deffro at ei waith, yn d'od i gywair ac yn cadw ynddo i'r diwedd. Ceir ganddo lawer penill cryf, a llawer cymhariaeth dlos; a darllenai yn hyfryd ddigon pe trwsid ychydig arni yma a thraw. Nid oes amheuaeth nad efe yw'r goreu'.
Gellir darllen y feirniadaeth gyflawn, a gyhoeddwyd yn y Rhondda Leader, yma.

Hon oedd seithfed cadair Niclas y Glais. Gofynnwyd am gerdd o 120 llinell ar y testun 'Y Tad, daeth yr Awr.' Roedd 14 yn ymgeisio, a cheir beirniadaeth lawn y gystadleuaeth yn y Rhondda Leader yma.
O'R FEIRNIADAETH
'Dyma bryddest y gellid ei barnu yn llym ar gyfrif dibrisdod yr awdwr o'i fesur. Pe bai'r bardd yn darllen rhai o'i linellau gwallus eu corfan, cawsai ddioddef yn dost oddiwrth glefyd y clyw. Y mae ganddo fwy o gyfoeth o eiriau ac o feddyliau newydd na neb yn y gystadleuaeth. Yn hytrach na chanu yn amgylchiadol a hanesyddol, fel y mae y rhan fwyaf o'r cystadleuwyr yn gwneyd, tarawodd ar egwyddor ganolbwyntiol y geiriau, gan weithio allan y syniad o hunan-aberth yn unol â bwriad Duw yn myn'd trwy ei argyfwng ac yn meddu ymwybyddiaeth ddios o'i fuddugoliaeth a'i ogoneddiad [...]'

Ganed y bardd, y deintydd a'r Comiwnydd T. E. Nicholas yn Llanfyrnach ym 1879. Roedd yn fardd poblogaidd, yn ddarlithydd tanbaid ac yn ddiwyro yn ei ddaliadau gwleidyddol. Cyhoeddodd doreth o gyfrolau barddoniaeth, a bu'r rhain yn llwyddiannus dros ben - rhai ohonynt ymysg y cyfrolau o farddoniaeth a werthodd fwyaf yn yr Ugeinfed Ganrif. Un o'i gyfrolau mwyaf adnabyddus yw Sonedau'r Carchar, casgliad o sonedau a ysgrifennodd tra yng Ngharchar Brixton yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu farw yn Aberystwyth ym 1971. Cofnod Niclas y Glais yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c8-NICH-EVA-1879 |
1910-1913
Ni chynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Gosen, Blaenclydach yn ystod y cyfnod hwn.
Mae adroddiad Y Darian ar 15 Ebrill 1915 yn nodi bod pwyllgor yr eisteddfod wedi argraffu'r cyfansoddiadau llenyddol buddugol am y tro cyntaf y flwyddyn honno, gan eu gwerthu mewn llyfryn am dair ceiniog yr un ar y dydd.
Nid oedd bardd y gadair, Phillip Trigg, na chynrychiolydd iddo, yn bresennol i hawlio'r wobr. Dyma'r nodyn a gyhoeddwyd yn Y Darian ar 8 Ebrill dan y pennawd dramatig, 'Bardd ar Goll.':
'Yn Eisteddfod Blaenclydach, ddydd Gwener y Groglith, allan o 30 o ymgeiswyr, dyfarnodd y Beirniad (Ap Hefin) y cyfansoddiad yn dwyn y ffugenw "Gweithiwr" yn oreu; ond nid oedd llef na neb yn ateb, felly cadeiriwyd y llywydd yn ei le. Felly mae'r gadair hardd yn aros am rywun i'w hawlio.'

Yn ôl adroddiad y Rhondda Leader ar 29 Ebrill, roedd hon yn eisteddfod i chwalu pob record, gyda safon y cystadlu ar ei uchaf ers blynyddoedd, a nifer o'r dorf fawr wedi methu â chael mynediad i'r adeilad. 'The Eisteddfod has grown too large for the building', meddai'r gohebydd, 'and a change of place should receive the serious attention of the committee of the future'.
O'R FEIRNIADAETH
'Daw "Eliseus yr Ail", "Emrys" a "Suon y Grug" yn uwch na'r lleill yn y dosbarth blaenaf. Saif "Suon y Grug" ychydig yn nes i'r gamp na'r ddau arall, ond nid oes yr un o'r tri wedi dod i fyny ag "M.B." Llawen genyf felly gyhoeddi "M.B." yn oreu yn y gystadleuaeth, ac yn wir deilwng i eistedd yng Nghadair Eisteddfod Gosen, Blaenclydach, Gwener y Groglith, Ebrill 21ain, 1916'.
Gellir darllen beirniadaeth Pelidros yn llawn yn Y Darian yma.

1917
Ni chynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Gosen, Blaenclydach ym 1917.
Fred Jones, un o 'Fois y Cilie', oedd beirniad y gystadleuaeth hon ym 1918. Roedd wedi ei blesio gan mor wastad oedd safon y gystadleuaeth yn ei farn ef, er nad yw i weld yn cymeradwyo'r defnydd o eiriau dieithr!
O'R FEIRNIADAETH
'Y mae ganddo ddychymyg byw a beiddgar, a gallu llenyddol o radd uchel, er nad yw'n gadael argraff ddymunol yn y byd arnaf i o ddefnyddio geiriau mor ddieithr a prain, achlân [...] Prin y gellir hefyd gyfreithloni dantaith, ac y mae fflam a'n fflamia fel 3ydd person berf yn anghywir; ond ar y cyfan y mae ei iaith yn gref a glân. Wedi darllen y goreuon drosodd lawer gwaith, rhaid boddloni cydwybod drwy roddi'r gadair i Meudwy.'
Gallwch ddarllen y feirniadaeth yn llawn yn Y Darian yma.

CYFEIRIADAU
Cyflwyniad
- 'Gosen Welsh Independent Chapel', coflein.gov.uk, cyrchwyd 09.07.2020
https://www.coflein.gov.uk/cy/site/13965/details/gosen-welsh-independent-chapel-maddox-street-blaenclydach-tonypandy
1899
- 'Gosen, Cwmclydach', Glamorgan Free Press, 08.04.1899
1900
- 'Easter Eisteddfodau', The Rhondda Leader, 21.04.1900; R. A. Thomas (Athron), 'Eisteddfod Gadeiriol Gosen, Blaenclydach', The Rhondda Leader, 21.07.1900
1901
- 'Eisteddfod at Clydach Vale', The Rhondda Leader, 13.04.1901; Jonathan Rees (Nathan Wyn), 'Beirniadaeth y Cyfansoddiadau', The Rhondda Leader, 20.04.1901
1902
- J. Gwrhyd Lewis, 'Pedwar Englyn', The Cambrian, 18.04.1902; 'Eisteddfod at Clydach Vale', Pontypridd Chronicle, 05.04.1902; Abram Jones, 'Ymson Herod', Baner ac Amserau Cymru, 09.08.1902; John Jenkins (Gwili), 'Testyn y Gadair', Tarian y Gweithiwr, 17.04.1902;
1903
- Ceri Thompson, 'Hanes Trist Esyllwg', cyrchwyd 09.07.2020 https://amgueddfa.cymru/erthyglau/2017-03-01/Hanes-Trist-Esyllwg/?_ga=2.107277761.214813641.1594205002-1941697950.1588691911
- David Price (Ap Ionawr), 'Beirniadaeth ar y Cyfansoddiadau', Tarian y Gweithiwr, 30.04.1903; 'Local Success', The Aberdare Leader, 25.04.1903; Ab Hevin, 'Cofion Cyfaill', Tarian y Gweithiwr, 21.05.1903
1904
- Hysbysebion, The Rhondda Leader, 20.02.1904; 'Eisteddfod at Clydach Vale', The Rhondda Leader, 16.04.1904
1907
- 'Eisteddfod at Blaenclydach', The Rhondda Leader, 06.04.1907
1908
- 'Eisteddfod at Blaenclydach', The Rhondda Leader, 25.04.1908
1909
- 'Eisteddfod at Blaenclydach', The Rhondda Leader, 17.04.1909; 'List of Adjudications', The Rhondda Leader, 08.05.1909;
1914
- 'Eisteddfod at Blaenclydach', The Rhondda Leader, 18.04.1914
1915
- 'Eisteddfod Gadeiriol Blaenclydach', Y Darian, 15.04.1915; 'Bardd ar Goll', Y Darian, 08.04.1915
1916
- 'The Gosen Eisteddfod, Blaenclydach', The Rhondda Leader, 29.04.1916; Pelidros, 'Beirniadaethau', Y Darian, 29.06.1916;
1918
- 'Gosen Eisteddfod', The Rhondda Leader, 06.04.1918; Fred Jones, 'Beirniadaethau', Y Darian, 25.04.1918