Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Byron Davies, Berkshire; Beti Wyn James, Caerfyrddin;
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol.

Cynhaliwyd yr eisteddfod hon gan Fethodistiaid Calfinaidd Falmouth Road, Llundain, yn ôl adroddiad yr Aman Valley Chronicle, papur bro mebyd y bardd, ar 18 Rhagfyr 1913. Adrodda'r Goleuad ar 3 Rhagfyr 1913 mai Mr. J Morris o Flaenau Ffestiniog oedd yn fuddugol ar y brif draethawd yn yr un eisteddfod.
Mae'r gadair hon, ynghyd â chadair arall o Eisteddfod Cwm-mawr 1914, wedi ei lleoli yng Nghapel Maenygroes, Sir Gaerfyrddin (llun isod - Cadair Eisteddfod Llundain dan y pulpud, a chadair Cwm-mawr ar ochr dde y llun). Roedd y bardd yn weinidog ar gapel Maenygroes (a chapel cyfagos Nanternis, lle mae cadeiriau eraill o'i eiddo) rhwng 1922 a'i farwolaeth ym 1927.

Y BARDD
Ganed John Dyer Richards yn Sir Gaerfyrddin ym 1876. Yn dilyn graddio o Goleg Aberhonddu ym 1903, daeth yn weinidog Capel Ebeneser, Trawsfynydd. Bu yn Nhrawsfynydd am 14 mlynedd, gan ddod yn ffrind ac yn fentor i Hedd Wyn, bardd y Gadair Ddu - caiff J. D. Richards ei bortreadu gan Derec Brown yn y ffilm Hedd Wyn. O Trawsfynydd aeth yn weinidog i Fedlinog ac yna i Nanternis, ger Ceinewydd, lle y bu farw ym 1927.
Cofnod J. D. Richards ar WikiTree:
https://www.wikitree.com/wiki/Richards-10936
1914
Mae nodyn yn Y Cymro ar 23 Medi 1914 gan yr ysgrifenyddion, John Davies a D. B. Jones, yn hysbysu gohirio Eisteddfod Gadeiriol Llundain 1914, a oedd i'w chynnal ar 19 Tachwedd, 'hyd ddyddiad amhenodol'. Yr un fyddai hanes y mwyafrif o eisteddfodau dros y blynyddoedd oedd i ddod, ond hawdd yw dychmygu y byddai bygythiad y rhyfel yn pwyso'n drymach fyth ar drefnwyr digwyddiad o'r fath ym mhrifddinas yr Ymerodraeth Brydeinig.
1928Lluniau: gwefan arwerthwyr Peter Francis
LLEOLIAD YN 2022 https://www.peterfrancis.co.uk/catalogue/lot/001988ac66d4fd2780c114c0a86ca3c5/634ee3a1a303f30dd2f30db1954ea530/autumn-fine-sale-lot-28/ |