Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Hedydd Hughes, Abergwaun;
Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r enillwyr yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

CEFNDIR
Sefydlwyd Eisteddfod Bargoed ym 1905, gyda'r bwriad o godi nawdd tuag at y gwaith o adeiladu Llyfrgell a Neuadd y Gweithwyr ym Margoed. Wedi llwyddiant ysgubol yr eisteddfod gyntaf, daliwyd ati i'w chynnal yn y blynyddoedd dilynol. Fel hyn y mae adroddiad yr Evening Express yn nodi'r digwyddiad yn rhifyn 18 Medi 1905, dan yr is-bennawd trawiadol: 'WORKMEN SHOULDER-TO-SHOULDER'.
To benefit the building funds of the proposed Bargoed and District Workmen's Library and Public-hall, a gigantic and well-organised eisteddfod was held at Bargoed today in a huge marquee upon the site of the proposed buildings. The pit-workers of the entire valley had amalgamated to make the affair a success, and it was pleasing to know that entries and attendance were eminently satisfactory.

Adeilad cyn-Lyfrgell y Gweithwyr y Margoed, a agorwyd ym 1913. Llun: Jaggery ar Geograph
1905
Eisteddfod gerddorol oedd y gyntaf yng nghyfres Bargoed; nid oedd unrhyw gystadlaethau llenyddol ar y rhaglen, yn ol adroddiadau'r cyfnod.
1906
Ni chyflwynwyd cadair yn eisteddfod 1906, ond roedd nifer o gystadlaethau llenyddol gyda Thomas Jeffries (Twynog) yn beirniadu.
1908
Ni chyfeirir at eisteddfod 1908 fel un gadeiriol, ond cynigiwyd gwobrau am bryddest ('Arucheledd') ac awdl ('Y Rhosyn'), a enillwyd gan E. T. Jones, Madog Fechan, a John Jones, Cwmsyflog, yn y drefn honno.
Yng ngholofn 'Nodion o Rhymni' Tarian y Gweithiwr ar 7 Ebrill, mae awdur y golofn yn llongyfarch Richard Ingram gyda'r englyn a ganlyn:
Mae R. Ingram yn llamu – yn wrol
I gadeiriau Cymru;
Ceir y llanc yn cario llu
I'w ogoniant tan ganu.
A chyhoeddwyd englyn cyfarch arall, o waith Glyn Llyfnwy, yng Ngholofn Gymreig y Merthyr Express ar 16 Ebrill. Caledfwlch oedd ffugenw Richard Ingram:
Adfer 'r hen "Galedfwlch" – i'w le addas
Wnawn is cleddyf ddifwlch;
Wedi hirfaith, ddrud arfwlch,
Hwn yw'r bardd sy'n llanw'r bwlch.

Yn wreiddiol, bwriadwyd cynnal yr eisteddfod hon, yr wythfed yn y gyfres, ar ddydd Mawrth y Pasg, 9 Ebrill; ond cafodd ei gohirio i Wyl Banc Awst.
Y GADAIR
Gellir dod o hyd i gadair Bargoed 1913 yn festri Capel Hermon, Abergwaun. Nodir hanes cyflwyno'r gadair i'r capel ar wefan hanes lleol Abergwaun ac Wdig:
Daeth y gadair i Festri Hermon yn Haf 1994. Yr oedd Mair Elvet, merch yng nghyfraith i Gwaunfa wedi ysgrifennu at y Parchg D Carl Williams i ddweud i’w gwr, Elvet Thomas, ddymuno rhoddi’r gadair i Hermon er cof am ei dad. Meddai Mair – “Byddai cael ei gweld yn Hermon yn dod i gof un o feibion disgleiriaf Hermon, ac Abergwaun, a’i fab disglair, Elvet, hefyd.”
Gellir gweld yn y llun isod fod plac ar gefn y gadair yn coffau ei henillydd.

Y BARDD
Ganed Gwaunfa yn ardal Abergwaun ym 1887, lle'i bedyddiwyd yn aelod yng Nghapel Hermon yn gynnar yn ei oes, cyn cael gyrfa ar bapur newydd yng Nghaerdydd. Cyfansoddai farddoniaeth, rhyddiaith ac emynau. Bu farw ym 1942.

CYFEIRIADAU
1905
- 'Eisteddfod at Bargoed' yn The Evening Express, 18.09.1905
- 'Successful Gathering at Bargoed' yn y Weekly Mail, 23.09.1905
1906
- Thomas Jeffries (Twynog) 'Eisteddfod Bargoed, Gorph. 9, 1906' yn Tarian y Gweithiwr, 05.07.1906
1907
- 'Bargoed' yn The Cardiff Times, 10.08.1907
1908
- 'Bargoed Eisteddfod' yn yr Evening Express, 28.07.1908
1909
- 'Chair Eisteddfod' yn The Weekly Mail, 15.05.1909
1910
- 'Bargoed Annual Eisteddfod' yn The Merthyr Express, 02.04.1910
- 'Nodion o Rhymni' yn Tarian y Gweithiwr, 07.04.1910
- 'Y Golofn Gymreig' yn The Merthyr Express, 16.04.1910
1912
- Hysbysebion The Rhondda Leader, 20.01.1912
- Hysbysebion The Rhondda Leader, 27.07.1912
- 'Bargoed Eisteddfod' yn The Rhondda Leader, 03.08.1912
1913
- gohebiaeth bersonol gyda Hedydd Hughes, Abergwaun, 2023
- gwefan Hanes Lleol Abergwaun ac Wdig, cyrchwyd 30.08.2023 www.hanesabergwaun.org.uk/uncategorized/cadeiriau-eisteddfod-chairs
1914
- 'Bargoed Eisteddfod' yn The Pioneer, 06.06.1914