Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.

1890 Owen Williams (Gaianydd)
1891 Thomas D. Jones (Dewi Glan Teifi) 1892 1893 1894 1895 1896 1897 1898 1899 |
1900
1901 1902 1903 1904 1905 1906 1907 1908 1909 |
Cynigiwyd y gadair am awdl neu bryddest heb fod dros 200 llinell. Yn bresennol yn seremoni'r cadeirio roedd Llwydiarth Môn a Deiniol, y beirniaid; Marian Môn; a H. Thomas, a weithredai fel ceidwad y cledd.
Y GADAIR
Cadair dderw hardd oedd cadair eisteddfod Pentraeth 1890, yn ôl adroddiad Baner ac Amserau Cymru, o waith William Williams, Cefnhir, Pentraeth.

Y BARDD
Ganed Gaianydd ym 1865 yn Llangwyllog, Môn, a bu'n gweithio ar fferm ym more ei oes nes iddo gael damwain pan oedd yn ddeg oed, a effeithiodd arno am weddill ei oes. Cafodd addysg yn Llanerchymedd, Caergybi a Bangor, cyn cael ei ordeinio'n weinidog ym 1897, a gwasanaethu eglwysi Rowen a Thyn-y-groes yn sir Conwy. Bu yno hyd ei farwolaeth ym 1928. Roedd yn hanesydd ac yn llenor gweithgar, a chyhoeddodd sawl cyfrol yn ogystal a chyfrannu at gylchgronau a phapurau newyddion.
Cofnod Gaianydd yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-WILL-OWE-1865

Arweinydd seremoni'r cadeirio yn eisteddfod gadeiriol Pentraeth 1891 gan Llwyfo Môn, gyda chymorth Llwydiarth Môn, Glan Wylfa, Beuno Jones a Deiniol Jones, un o'r beirniaid. Ceir nodyn yn adroddiad Baner ac Amserau Cymru ynghylch rhai o'r beirdd eraill y disgwylid eu presenoldeb yn ystod y seremoni:
Meddiannwyd Marian Môn, ac eraill, gan yswildod, neu rywbeth, rhag dyfod ar y llwyfan. Go ryfedd, onid ê?

Disgrifiwyd y gadair yn Baner ac Amserau Cymru fel 'cadair farddol ysblenydd, gyda plât [sic] goreuredig arni, yn dynodi yr adeg a'r amgylchiad'.

1890
- 'Eisteddfod Gadeiriol Pentraeth' yn Y Genedl Gymreig, 12.03.1890
- 'Eisteddfod Gadeiriol Pentraeth' yn Baner ac Amserau Cymru, 12.03.1890
1891
- 'Pentraeth', yn Y Genedl Gymreig, 04.03.1891
- 'Eisteddfod Gadeiriol Pentraeth, Mon' yn Baner ac Amserau Cymru, 11.03.1891
1913
- Gwybodaeth yn arddangosfa Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Castell Caernarfon; casglwyd 26.10.2021