Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.

1900 Robert A. Griffith (Elphin)
1901 1902 1903 1904 1905 1906 1907 Henry Lewis (Isgaer) 1908 Humphrey Jones (Bryfdir) 1909 |
CYNYG rhagorol: Mr Solomon Andrews a'i gwnaeth yn Eisteddfod Gadeiriol Gwynedd yn Mhwllheli. Ar yr amod fod Eisteddfod i'w chynal yn y lle yn flynyddol, ei fod ef yn barod i godi adeilad parhaol yno i gynwys 2,000. Derbyniwyd y cynyg gyda brwdfrydedd. Ymgymerodd y Pwyllgor gweithiol â threfnu mesurau i'w hystyried yn mhellach. Nid yw yn debyg y caiff cynyg o'r fath syrthio i'r llawr.
Y BARDD
Ganed y Prifardd Robert Owen Hughes yn Llanrwst ym 1858. Yn dilyn gadael yr ysgol, bu'n brentis mewn banc cyn cychwyn paratoi i fynd i'r weinidogaeth gyda'r Methodistiaid. Yn lle hynny, treuliodd gyfnod yn gweithio i gyhoeddwr llyfrau yn Llundain. Yn ôl yng Nghymru, bu'n olygydd nifer o gylchgronnau - Gwalia, Y Rhedegydd, a'r Glorian yn eu plith. Bu am gyfnod hefyd yn llyfrgellydd yn Llan Ffestiniog. Cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Caniadau Elfyn. By farw ym 1919.
Cofnod Elfyn yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUGH-OWE-1858

Ganed Robert Arthur Griffith yng Nghaernarfon ym 1860. Roedd yn fab i'r bardd John Owen Griffith (Ioan Arfon). Bu'n gweithio fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr yng Ngogledd Cymru, ac yna fel ynad cyflog ym Merthyr Tudful ac Aberdâr. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth a chomedi. Bu farw yng Nghaerdydd ym 1936.
Cofnod Elphin yn y Bywgraffiadur Cymreig:
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GRIF-ART-1860

Y GERDD
Bu farw John Davies (Gwyneddon) yng Nghaernarfon yn Ionawr 1904, ac addas felly oedd i Eisteddfod Gadeiriol Gwynedd, Caernarfon 1907 osod cerdd goffa iddo yn destun y gadair. Roedd yn ffigwr amlwg ym mywyd tref Caernarfon am hanner canrif, a bu'n faer ar y dref am gyfnod. Ef oedd golygydd cyntaf cylchgrawn Y Goleuad, a bu'n gweithio hefyd fel rheolwr banc. O ran ei waith ysgrifennu, mae'n fwyaf adnabyddus fel emynydd. Gellir darllen ei gofnod yn y Bywgraffiadur Cymreig yma. Tystir i'w ddycnwch a'i ofal wrth ei holl waith mewn cwpled fel hon yng ngherdd fuddugol Isgaer: 'Prysurdeb oedd ei hamdden, / Manylder oedd ei nerth'. Llun: Wikimedia Commons |
Cyhoeddwyd pryddest goffa Isgaer i Gwyneddon yn rhifyn Mai 1907 o'r Traethodydd. Pryddest ar ffurf penillion ar fydr ac odl ydyw, a dyfynir y penillion agoriadol isod, lle mae'r bardd yn darlunio afonydd Caernarfon yn galaru ar ôl yr ymadawedig ...
PRYDDEST GOFFA GWYNEDDON
(detholiad)
Wrth fedd y gŵr hawddgaraf,
Myn awen drist ymdroi; A'i dagrau a eneinia'i lwch A'i heddwch digyffroi; Gwyneddon anwyl huna, O! fedd yn hedd dy gol, A sycha'r Fenai cyn bydd trai Ar ddagrau'i wlad o'i ôl. |
Yr helyg sydd yn wylo,
Ar lan y Seiont lwys, Gan blygu i gusanu'r lli, Fel adlun hiraeth dwys, Am un a garai rodio Ffordd hono wrtho'i hun, Fel o dan bwys myfyrdod dwys Ei enaid canaid cun. |
Gellir cael mynediad at y gerdd gyfan yn y Traethodydd ar-lein yma.
O'R FEIRNIADAETH
'Mae y gân hon yn difyru ei darllenydd ac yn ei gario ar edyn teimlad tyner o alar ac edmygedd mewn modd nas gwneir gan yr un o'r pryddestau ereill, er mor rhagorol ydynt. Mae hon yn sicr o fod yn gan fwy byw a gwresog, cref, a nodweddiadol na hwy. Wedi darllen y pryddestau drosodd a throsodd gyda phob gofal, ac wedi ymgynghori a'm cyfaill Alafon, credaf mai gan "Gwyndaf Menai" mae yr offrwm mwyaf cysegredig yn y gystadleuaeth hon i goffadwriaeth y gwr y galarwn mor briodol am dano, a chredaf fod yr awdwr yn deilwng i eistedd yn nghadair yr Eisteddfod'.
(o'r Herald Cymraeg, 2 Ebrill 1907 - gellir gweld y feirniadaeth gyflawn gan Glan Alaw ac Alafon yma)

Bardd, cerddor a libretydd oedd Henry Isgaer Lewis (1852-1922). Roedd yn berchennog siop esgidiau yng Nghaernarfon. Magodd gryn enwogrwydd fel bardd yn ystod ei oes, ac enillodd wobr o $100 am fugeilgerdd yn Eisteddfod Ryngwladol San Francisco 1915. Llun: Weekly Mail, 29.10.1910 |
Y BARDD
Ganed Humphrey Jones yng Nghwm Croesor ym 1867. Roedd yn fardd cystadleuol ac yn eisteddfodwr poblogaidd a lwyddodd i ennill ymhell dros hanner cant o gadeiriau. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth - Telynau'r Wawr a Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill. Bu farw ym 1947.
Cofnod Bryfir yn y Bywgraffiadur Cymreig:
http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-JONE-HUM-1867.html

Am y côr buddugol y cynigiwyd cadair dderw Eisteddfod Gadeiriol Gwynedd unwaith eto ym 1910. Yn fuddugol roedd côr Habergham, a deithiodd yr holl ffordd o Swydd Lancaster i berfformio. Roeddent yn amlwg yn bur adnabyddus fel côr eisteddfodol, gan fod adroddiad Y Brython Cymreig yn nodi ar 31 Mawrth eu bod yn 'hysbys fel enillwyr y gamp flynyddol yn Eisteddfod y Tŵr, New Brighton, etc.'
Roedd tri chôr arall - mwy lleol o'r hanner! - yn ymgiprys am y wobr, sef corau Cilgwyn, Llanberis a Phenmaenmawr. Côr Llanberis oedd yn ail, tan arweiniad Orwig Williams, a oedd yn organydd yng Nghapel Moriah, Caernarfon.

1891
- gol. Robert O. Hughes (Elfyn; Y Bala 1892), Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Dalaethol Gwynedd, Blaenau Ffestiniog, 1891.
1900
- Caernarvon and Denbigh Herald, 09.03.1900
1907
- 'Pryddest Goffa Gwyneddon', Y Traethodydd, Cyf. LXII, t.217-222
- Yr Herald Cymraeg, 02.04.1907
1908
- Yr Herald Cymraeg, 03.03.1908
1910
- Y Brython Cymreig, 31.03.1910