Diolch i'r canlynol a fu o gymorth mewn amryw ffyrdd wrth roi'r cofnodion ar y dudalen hon at ei gilydd:
Dilwyn Lewis Jones, Tal-y-bont; Eurig Salisbury, Aberystwyth; Ifan Prys, Llandwrog;
Mae'r dudalen hon yn y broses o gael ei hadeiladu. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Mae llawer o'r wybodaeth fydd ar y dudalen hon maes o law yn tynnu ar waith ymchwil a wnaed ar gyfer traethawd hir israddedig, Awen Addewid: Golwg ar gystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfodau'r Urdd, 1952-2017, a enillodd Wobr Goffa Gwyn Thomas yn 2019.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.

1950
1951 1952 Neb yn deilwng 1953 Desmond Healy 1954 Dic Jones 1955 Dic Jones [2] 1956 Dic Jones [3] 1957 Dic Jones [4] 1958 T. James Jones (Jim Parc Nest) 1959 Dic Jones [5] |
1960 Dafydd H. Edwards
1961 John Gwilym Jones 1962 Gerallt Lloyd Owen 1963 Donald Evans 1964 Geraint Lloyd Owen 1965 Gerallt Lloyd Owen [2] 1966 Peter Davies 1967 Peter Davies [2] 1968 John Hywyn Edwards 1969 Gerallt Lloyd Owen [3] |
1970 Ieuan Wyn Gruffydd
1971 Arwel John 1972 Arwel John [2] 1973 Islwyn Edwards 1974 Myrddin ap Dafydd 1975 Dilwyn Lewis Jones 1976 Siôn Aled 1977 Esyllt Maelor 1978 Robin Llwyd ab Owain 1979 Peredur Lynch |
1980 Iwan Llwyd
1981 Meirion Morris 1982 Lleucu Morgan 1983 Sioned Lewis Roberts 1984 Neb yn deilwng 1985 D. Meirion Davies 1986 Non Vaughan Evans 1987 Sara Ogwen Williams 1988 Tudur Dylan Jones 1989 Nia Owain Huws |
1990 Meirion W. Jones
1991 Daniel Gwyn Evans 1992 Ceri Wyn Jones 1993 Damian Walford Davies 1994 Mererid Puw Davies 1995 Eifion Morris 1996 Mari George 1997 Nia Môn 1998 Gareth James 1999 Tudur Hallam |
2000 Ifan Prys
2001 Iwan Rhys 2002 Ifan Prys [2] 2003 Ifan Prys [3] 2004 Hywel Griffiths 2005 Aneirin Karadog 2006 Eurig Salisbury 2007 Hywel Griffiths [2] 2008 Iwan Rhys [2] 2009 Neb yn deilwng |
2010 Llŷr Gwyn Lewis
2011 Llŷr Gwyn Lewis [2] 2012 Gruffudd Antur 2013 Grug Muse 2014 Gruffudd Antur [2] 2015 Elis Dafydd 2016 Gwynfor Dafydd 2017 Gwynfor Dafydd [2] 2018 Osian Wyn Owen 2019 Iestyn Tyne |
2020 Osian Wyn Owen* [2]
2021 Kayley Sydenham* / Carwyn Eckley** 2022 Ciarán Eynon 2023 Tegwen Bruce-Deans 2024 Lois Medi Wiliam 2025 2026 2027 2028 2029 |
* Yn ystod y pandemig COVID-19, cynhaliwyd dwy eisteddfod digidol dan y teitl Eisteddfod-T; er na chyflwynwyd cadair yn y gwyliau hyn, cynigid prif wobrau llenyddol am ddarnau byrrach na'r arfer.
** Enillodd Carwyn Eckley gadair yr Urdd yn 2021 am ddod i'r brig yng nghystadleuaeth wreiddiol Eisteddfod yr Urdd Dinbych 2020, a ohiriwyd oherwydd y pandemig COVID-19. Pan gynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd Dinbych yn y pen draw yn 2022, gosodwyd testunau newydd.

Cadeirio John Hywyn yn Eisteddfod yr Urdd, Llanrwst 1968 (Casgliad Geoff Charles, LlGC)
Y GERDD
Testun cyfoes a ysgogodd awdl John Hywyn ym 1968. Lluniodd ei gerdd ar y testun 'Ieuenctid y Dydd' er cof am y plant fu farw yn nhrychineb Aberfan y flwyddyn flaenorol. Ar y cyfan, tuedda awdlau'r Urdd yn y ddegawd hon fod yn perthyn yn agosach i gerddi'r gystadleuaeth yn y pumdegau na'r cerddi penrhydd a'r casgliadau, ac nid yw hon yn eithriad. Serch hyn, mae awdl John Hywyn yn goffad teilwng, ac mae'r un gallu epigramataidd ag a welwyd yn awdl Gerallt Lloyd Owen i'r meddyg ym 1962 ar waith:
Dihareb o bentre bach,
Dyma wewyr byd mwyach.

Y GADAIR
Cadair esmwyth yn null arferol cadeiriau'r Urdd yn y cyfnod oedd hon. Fe'i dinistriwyd mewn tân yng nghartref John Hywyn yn Llandwrog.

Y BARDD
Ganed John Hywyn yn Llandudno, yn fab i Emrys Edwards, enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Maelor 1961. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd ym 1968, a bu'n brifathro ar Ysgol Gynradd Brynaerau am flynyddoedd lawer. Ei wraig oedd yr awdures llyfrau plant, Gwenno Hywyn, a fu farw ym 1991. Roedd yn aelod poblogaidd a llwyddiannus dros ben o dim Ymryson y Beirdd Caernarfon, a enillodd yr ornest ar sawl achlysur. Bu farw yn 2024.
Teyrngedau i John Hywyn, 02.04.2024: www.bbc.co.uk/cymrufyw/68714700

ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH ELISABETH HUGHES JONES [2], GARETH LEWIS [3]
O'R FEIRNIADAETH
'Cystadleuaeth wan a gafwyd eleni. Er i ddeuddeg fentro i'r maes, rhyw dri neu bedwar yn unig a ddangosodd eu bod yn ysgrifenwyr gafaelgar. Mae'n amlwg fod llawer o'r cystadleuwyr wedi llunio'u cynigion ar un gwynt megis, yn ddifeddwl ac yn ddiweld [...] Y gorau o ddigon yw PRYDERI. Dewisodd ysgrifennu ei gerddi ar thema gyffredin - onid orgyffredin - yn y Gymru sydd ohoni, trafod cyni'r genedl a'n gobaith am a ddaw y mae, eithr gwnaeth hynny'n bwyllog-grefftus ac yn weddol ystyrlon [...]' - D.Ll.M, Cyfansoddiadau

Y CERDDI
Mae casgliad Myrddin ap Dafydd a enillodd y Gadair yn Eisteddfod Y Rhyl 1974 yn drwm dan ddylanwad casgliad buddugol Gerallt Lloyd Owen yn Eisteddfod 1969. Ceir darlun o luoedd Llywelyn yn ‘oer dan y meysydd hyn’, ac mae’r gerdd ‘Triniaeth y Tri’ yn ymdebygu yn ei neges i ‘Y Gŵr sydd ar y gorwel’ o gasgliad Gerallt, sydd yn beirniadu’n hallt y driniaeth a gawsai Saunders Lewis gan ei bobl ei hun.
Gellir darllen y cerddi yng nghyfrol Cyfansoddiadau Llenyddol Buddugol Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Y Rhyl 1974.

Mae Myrddin ap Dafydd (1956) yn awdur, yn gyhoeddwr ac yn Archdderwydd Cymru ers 2019. Sefydlodd Wasg Carreg Gwalch ym 1980. Ef oedd y cyntaf i ymgymryd â rôl Bardd Plant Cymru yn 2000, ac enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith (1990, 2002). Daw o Lanrwst yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Llwyndyrus, Llŷn. Cofnod Myrddin ap Dafydd ar Wicipedia: cy.wikipedia.org/wiki/Myrddin_ap_Dafydd Llun: Wikimedia Commons |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH IWAN MORGAN [2], OWAIN EUROS JONES
(paratowyd cynnwys y cofnod hwn fel colofn ar gyfer Steddfota, cylchlythyr Cymdeithas Eisteddfodau Cymru - rhifyn Mai 2022)
Dilwyn Lewis Jones o Dywyn, a oedd ar y pryd yn athro ysgol ym Mangor, oedd enillydd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Llanelli 1975. Ond os ewch chi bori yng nghyfrol y cyfansoddiadau a gyhoeddwyd ar ddiwedd wythnos yr eisteddfod honno, mi welwch mai enw gwahanol sy’n hawlio’r safle uchaf yng nghystadleuaeth y gadair, ac nad y gerdd fuddugol sydd wedi ei chyhoeddi mewn print.
Do; bu ond y dim i’r bardd anghywir gael ei gadeirio ar lwyfan Prifwyl yr Urdd ar y pnawn dydd Iau hwnnw ym mis Mai 1975. Roedd y sawl y cyhoeddwyd ei enw yn y cyfansoddiadau wedi gyrru cerdd i’r gystadleuaeth ar y testun ‘Creithiau’, ond o ganlyniad i gamgymeriad honedig, fe’i diarddelwyd gyda dyddiau yn unig i fynd tan y cadeirio. Roedd y gerdd a gyflwynodd yn waith bardd arall – bardd hŷn a oedd wedi ysgrifennu ar yr un testun rai blynyddoedd ynghynt. Yr honiad oedd fod y bardd ifanc wedi cael benthyg y gerdd honno, er mwyn ei darllen a chael syniad o’r modd yr oedd wedi mynd ati i archwilio’r testun. Yn dilyn ysgrifennu ei gerdd ei hun, roedd wedi dychwelyd i’r coleg a gadael y gwaith gyda’i dad er mwyn iddo’i anfon i gael ei deipio.
Ond wrth gwrs, yn rhagweladwy ddigon o wybod canlyniad y stori anffodus hon, y gerdd anghywir a anfonwyd i’w theipio ac yna at y beirniad, a rhoddwyd y gerdd gywir i’w chadw mewn ffeil yn y tŷ. Pan hysbyswyd yr eisteddfod o’r amryfusedd, cynigiwyd beirniadu’r gerdd gywir yn erbyn y gwaith arall oedd wedi dod i law, ond gwrthodwyd y cynnig hwnnw.
Yn ffodus, roedd y beirniad, Dafydd Rowlands yn barnu fod hon yn gystadleuaeth o safon uchel iawn – yn wir, gosodai o leiaf chwech o’r 28 o ymgeiswyr yn y dosbarth cyntaf a bu’n hir bendroni yn eu cylch cyn dod i benderfyniad. Cafodd Dilwyn Lewis Jones ei hysbysu ar ddydd Mawrth yr eisteddfod ei fod wedi ennill, gan olygu mai ychydig iawn o amser oedd ganddo i baratoi ei hun ar gyfer y cadeirio – a oedd, fel mae’n digwydd, ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 24 oed.
Siom, mae’n siŵr, oedd colli’r cyfle i weld ei waith mewn print yn y cyfansoddiadau ar ddiwedd wythnos yr eisteddfod, ond cyhoeddwyd ei ddilyniant o gerddi yn ei grynswth yn Y Cymro ar 3 Mehefin. Mae’n gasgliad difyr sy’n defnyddio ei brofiadau fel athro yn dod i gysylltiad â phlant o gefndiroedd difreintiedig yn ei ddosbarth - y ‘creithiau’ yn y testun yw’r creithiau meddyliol sy’n effeithio ar fywydau rhai o’r plant hynny.

Yn Eisteddfod 1975 hefyd y cyflwynwyd cadair o wneuthuriad Dafydd T. Lewis gan Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Llanelli. Cadair oedd hon i'w defnyddio ym mhrif seremoniau eraill wythnos Eisteddfod yr Urdd - Y Fedal Lenyddiaeth, Y Goron, ac ati. Mae'r gadair hon bellach yn cael ei chadw yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn.
Lluniau: Casgliad y Werin Cymru |
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH ELAN GRUG MUSE [2], IESTYN TYNE [3]
Y CERDDI
Mae ‘Gwreichion’, a enillodd y Gadair i Elis Dafydd yng Nghaerffili yn cyfeirio’n fynych at y dilyniant o’r un enw a enillodd i Iwan Llwyd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990. Refferendwm oedd man cychwyn y dilyniant hwnnw, a refferendwm oedd man cychwyn y dilyniant newydd hefyd, sef refferendwm annibyniaeth aflwyddiannus yr Alban ym Medi 2014. Plethodd Elis Dafydd, fel y gwnaeth Iwan Llwyd, naratif serch a naratif gwleidyddol yn un i greu dilyniant crwn a chryf. Derbynnir i raddau tua’r diwedd i’r frwydr gael ei cholli, ond eto, nid yw hynny’n golygu mynd yn dawel, a chyfleir y teimlad fod bywyd ar ei fwyaf cyffrous yn llygad ansicrwydd.
O'R FEIRNIADAETH:
'Amod o gariad yw'r gwreichion ac mae'r cariad hwn yn mynd a dod ac yn symbol o obaith a cholli gobaith. Mae gan y bardd glust dda am rythm cerdd rydd ac mae'r dweud yn syml ac yn ddiymdrech.'

Paul Hogg o Craft Wales, Ystrad Mynach oedd dylunydd a gwneuthurwr cadair drawiadol ac anarferol Eisteddfod yr Urdd Caerffili. Defnyddiodd haenau o bren ply bedw a thiwbiau dur gwrthstaen i adeiladu corff y gadair, a chreu cefn y gadair o wydr trwchus, gan ysgythru logo trionglog yr Urdd ynddo. Mae'r gadair hefyd yn cynnwys goleuadau LED sy'n goleuo'r gwydr ar y cefn.

Daw Elis Dafydd o Drefor yn Arfon. Cafodd ei addysg uwchradd ym Mhwllheli cyn dilyn gradd a chyrsiau ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n frawd i'r bardd Guto Dafydd. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch 2015. Cyhoeddodd gyfrol o gerddi, Chwilio am Dân, yn 2016. Cofnod Elis Dafydd ar Wicipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Elis_Dafydd Llun: Urdd Gobaith Cymru |
2016
|
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH SIÔN JENKINS [2], GETHIN WYNN DAVIES [3], MIRIAM ELIN JONES
2017
|
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH CARWYN ECKLEY [2], MATTHEW TUCKER [3]
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH CARWYN ECKLEY [2], LOWRI FFION HAVARD [3]
Cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yn 2018, ac Osian Wyn Owen o'r Felinheli ddaeth i'r brig gyda chyfres o gerddi serch ar y testun 'Bannau'. Gellir darllen y cerddi buddugol yng nghyfrol gyfansoddiadau'r eisteddfod.
Roedd marwolaeth tri milwr ar Fannau Brycheiniog yn ystod Gorffennaf 2013 yn gefnlen i gerdd rydd Lowri Havard a ddaeth yn drydydd. Gellir ei darllen ar wefan cylchgrawn Y Stamp yma. Mae'r awdl a ddaeth yn ail i Carwyn Eckley hefyd yn cyflwyno meysydd ymarfer milwrol Bannau Brycheiniog, wrth i dad a mab o Ystradfellte ddringo i gopa Pen y Fan am chwech y bore.
Enillydd y goron yn yr un eisteddfod oedd Sioned Erin Hughes o Foduan yn Llŷn, a oedd yn absennol o'r seremoni oherwydd gwaeledd. Derbyniwyd y goron ar ei rhan gan yr Athro Gerwyn Williams, ei thiwtor ym Mhrifysgol Bangor.

Dilyniant o 5 cerdd a gafwyd gan Osian Owen i ennill Cadair yr Urdd, gan ddilyn 'bannau' perthynas garwriaethol wrth iddi esgyn a disgyn - o'r cyffyrddiad cyntaf i'r tor-perthynas, yr ymdopi â hynny, a'r cloi trwy ailgynnau'r serch. Dywedodd Gruffudd Antur yn y feirniadaeth lwyfan fod yma 'fardd a lwyddodd i fynegi’i hun, a’n cyffwrdd, yn effeithiol mewn delweddau a chyffelybiaethau.'

Dylunydd a gwneuthurwr y gadair oedd Gwilym Morgan o Bont y Bat. Defnyddiodd ddarn o bren ywen oedd yn fil o flynyddoedd oed er mwyn creu cefn y gadair. Noddwyd y gadair gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC), a bu Gwilym Morgan yn ymgynghori â'r gymdeithas honno ar y dyluniad.
Gellir dysgu mwy am y gadair a'r broses o'i chreu, yn ogystal â choron Eisteddfod Brycheiniog a Maesyfed, ar wefan Urdd Gobaith Cymru yma.

Daw Osian Owen (1997) o'r Felinheli. Graddiodd o Adran Gymraeg Prifysgol Bangor yn 2018 ac mae bellach yn byw yng Nghaernarfon. Ef yw'r cyntaf erioed i ennill y Gadair a'r Goron yn yr un Eisteddfod Ryng-Golegol (2018), ac mae hefyd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd (2018). Bu'n rhan o Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru yn 2018. Mae'n aelod o dîm Y Chwe Mil ar Dalwrn y Beirdd. Cofnod Osian Owen ar Wicipedia: cy.wikipedia.org/wiki/Osian_Owen |
2019
|
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH CARWYN ECKLEY [2], OSIAN OWEN [3], MATTHEW TUCKER
Y CERDDI
Cyfres o sonedau Americanaidd gyda'r Argyfwng Hinsawdd yn gefnlen iddynt yw 'Cywilydd'. Maent hefyd, trwy hynny, yn mynegi cywilydd tuag at nifer o agweddau negyddol ar ddynoliaeth.
Gellir darllen mwy am y cerddi, a gweld fideo o'r bardd yn trafod y cerddi, ar wefan Golwg360 yma: https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/546974-maniffesto-cerddi-buddugol-iestyn-tyne.
Cyhoeddwyd nifer cyfyngedig o bamffledi o'r cerddi ochr yn ochr â gwaith celf gan Gyhoeddiadau'r Stamp. Yn 2020, roedd y pamffled allan o brint; ond roedd modd ei lawrlwytho fel llyfr digidol.
O'R FEIRNIADAETH:
'Bardd hynod hyderus ac aeddfed sydd ag awen annisgwyl. Mewn cerddi medrus mae'n dangos y cyfan mewn lliwiau llachar i ni ond mae hefyd yn dangos y gallai pob dim gael ei droi wyneb i waered drwy'r peth lleiaf oll - dyna yw rhyfeddod bywyd ... mae'r gyfres hon o gerddi'n feistrolgar, yn athronyddol, yn ddiwinyddol, mae'n chwarae gyda'r ymennydd dro ar ôl tro, yn ei ffrwydro hyd yn oed.'

Iolo Puw o'r Parc ger Y Bala oedd yn gyfrifol am ddylunio a saernio Cadair Eisteddfod yr Urdd 2019. Roedd eisoes wedi cydweithio (â John Pugh, Pennal) ar Gadair Eisteddfod yr Urdd Meirionydd 2014.
Defnyddiodd goed derw o wersyll yr Urdd, Glan-llyn i greu corff y gadair. Gwnaethpwyd gorchudd y sedd â brethyn 'Cysgodion y Paith' o wneuthuriad Cefyn Burgess, sy'n tynnu ysbrydoliaeth o gelfyddyd Patagonia ac yn defnyddio gwlân defaid duon a gwynion Cymreig. Gellir darllen rhagor am gefndir y gadair a gwaith y gemydd Iolo Edger, dylunydd Coron Eisteddfod Caerdydd, ar wefan yr Urdd yma.

Ganed Iestyn Tyne ym 1997. Mae'n gyd-sefydlydd a chyd-olygydd cylchgrawn a chyhoeddiadau'r Stamp; mae hefyd yn llenor ac yn gerddor. Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd yn 2016, a'i chadair yn 2019 - sy'n golygu mai ef yw'r cyntaf i fod wedi ennill dwy brif wobr lenyddol yr Urdd. Ef yw curadur y wefan hon, sy'n ymchwilio i hanesion cadeiriau eisteddfodol coll. Yn 2019, fe'i penodwyd yn fardd preswyl cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol. Cofnod Iestyn Tyne ar Wicipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Iestyn_Tyne |
Gohiriwyd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020 am flwyddyn oherwydd yr epidemig coronafeirws (COVID-19). Mwy o fanylion yma.
ERAILL YN Y GYSTADLEUAETH CRISTYN RHYDDERCH DAVIES [2], LOIS CAMPBELL [3]
Yn dilyn gorfod gohirio Eisteddfod yr Urdd Dinbych 2020 yn sgil cyfyngiadau COVID-19, trefnwyd eisteddfod amgen ddigidol ar fyr rybudd. Yn hytrach na choron a chadair i'r prif enillwyr llenyddol, comisiynwyd Tlws y Prifardd a Thlws y Prif Lenor gan y gôf, Ann Catrin Evans. Yn y brif gystadleuaeth farddoniaeth, gofynnwyd am gerdd heb fod dros 70 o linellau ar destun o hunan-ddewisiad.
Osian Owen o'r Felinheli ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth uchaf ei niferoedd ers sefydlu cystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod yr Urdd Machynlleth 1952. Dyma'r eildro iddo ddod yn Brifardd yr Urdd, gan iddo hefyd gipio'r gadair yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018.

Cyhoeddwyd y gerdd fuddugol yng nghylchgrawn Golwg ar 3 Mehefin 2020. Gall tanysgrifwyr ar-lein y cylchgrawn ei darllen yma.
Cerdd am alar yw 'Y Beic', gyda'r bardd yn darlunio perthynas tad a mab trwy fywyd, salwch a marwolaeth. Dywedodd Osian Owen mewn cyfweliad â Golwg (gweler uchod) 'ei fod wedi dewis sgrifennu am golli rhiant am fod cyfaill iddo wedi mynd drwy brofedigaeth lem o’r fath yn ddiweddar. Roedd y ffaith ei fod yntau yr ieuengaf o bump o blant a’i rieni “damaid yn hŷn” na rhieni ei gyfoedion hefyd yn golygu bod “colli rhiant, yn isymwybodol, yn codi yn aml” yn ei waith.'
O'R FEIRNIADAETH
'Safai cerdd 'Clustog' am 'Y Beic' mas o'r darlleniad cyntaf, nid yn unig am ei fod yn destun gwahanol i weddill y cerddi ond hefyd am fod yma lais aeddfed a chrefftus oedd yn canu o'r galon ac yn llwyddo i gyffwrdd â'm calon i.'

Y TLWS
Dyluniwyd tlysau gan y gof, Ann Catrin Evans, ar gyfer enillwyr holl brif seremoniau Eisteddfod T 2020. Gellir gwylio fideo am y broses o'u dylunio a'u creu, a ddarlledwyd ar raglen Heno ar S4C, isod.

Daw Osian Owen (1997) o'r Felinheli. Graddiodd o Adran Gymraeg Prifysgol Bangor yn 2018 ac mae bellach yn byw yng Nghaernarfon. Ef yw'r cyntaf erioed i ennill y Gadair a'r Goron yn yr un Eisteddfod Ryng-Golegol (2018), ac mae hefyd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd (2018). Bu'n rhan o Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru yn 2018. Mae'n aelod o dîm Dwy Ochr i'r Bont ar Dalwrn y Beirdd. Cofnod Osian Owen ar Wicipedia: cy.wikipedia.org/wiki/Osian_Owen |
Ym mis Hydref 2021, rhyddhawyd cyfres o fideos ar-lein gan Eisteddfod yr Urdd, yn gwobrwyo'r gwaith buddugol o gystadlaethau gwreiddiol Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020, a ohiriwyd am ddwy flynedd o ganlyniad i'r pandemig COVID-19. Oherwydd y bwlch mewn amser, gosodwyd testunau newydd ar gyfer Eisteddfod Dinbych, a gynhaliwyd yn 2022, a chynnal prif gystadlaethau ar gyfer 2020-21 i'r gwaith a fu dan glo. Gellir gwylio'r fideo yn datgelu'r enillydd isod:
Y BARDD
Daw Carwyn Eckley o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol, ac mae'n newyddiadurwr yng Nghaerdydd. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Dros yr Aber, a thîm ymryson y Penceirddiaid. Llun: Carwyn Eckley yng nghadair yr Urdd, 2020-21 (Eisteddfod yr Urdd) |