Mae hon yn dudalen fyw, ac felly yn cael ei hadeiladu a'i diweddaru o hyd. Ymddiheurwn felly am unrhyw gofnodion anghyflawn. Os am ychwanegu at y wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch.
Gallwch sgrolio drwy'r dudalen i ddarllen hanes y gystadleuaeth yn gronolegol ar ei hyd, neu gallwch glicio ar unrhyw flwyddyn o'r rhestr isod er mwyn mynd at y cofnod unigol. Bydd clicio ar enwau'r beirdd yn mynd â chi at eu bywgraffiadau.
Cyfeiriadau

1918WILLIAM RICHARDS (ALFA)
LLANSAMLET TESTUN EVAN S. JONES, OVERMAN SGUBORWEN (PRYDDEST GOFFA) FFUGENW NIFER YN CYSTADLU GWOBR ARIANNOL DYDDIAD CADEIRIO 22 MEHEFIN 1918 BEIRNIAID GWNEUTHURWR LLEOLIAD YN 2021 Gwerthir y gadair hon mewn arwerthiant gan Rogers Jones, Caerdydd, 24.07.21 - y manylion yma |
Roedd cadair Siloh Aberdâr 1918, a gynigid am bryddest goffa heb fod dros 150 llinell i Evan S. Jones, goruchwyliwr yng nglofa Ysguborwen, yn rhodd gan David Alfred Thomas, Arglwydd Rhondda. Roedd yn ddiwydiannwr amlwg a chyfoethog yn ne Cymru yn y cyfnod, ac yn wreiddiol o Ysguborwen.
Nid oedd hon yn eisteddfod gadeiriol yn flynyddol, felly mae'n amlwg fod yr achlysur a'r testun penodol yma wedi ysgogi creu cystadleuaeth untro.

Y BARDD
Ganed William Alfa Richards ym 1875. Roedd yn eisteddfodwr pybyr ac yn enillydd nifer helaeth o gadeiriau ar hyd a lled y wlad. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i gerddi, Blodau'r Groes (1907) a Clychau'r Wawr (1910). Ei waith mwyaf poblogaidd a chofiadwy yw'r emyn i blant, 'Rwy'n canu fel cana'r aderyn'. Bu farw ym 1931.

CYFEIRIADAU
1918
- 'Eisteddfod Cadair Siloh, Aberdar' yn Y Darian, 02.05.1918
- Tudalen David Alfred Thomas ar Wicipedia, cyrchwyd 25.06.2021 https://cy.wikipedia.org/wiki/David_Alfred_Thomas